RHAN 3Gofynion cyffredinol ar ddarparwyr gwasanaethau
Gofynion i ddarparu’r gwasanaeth yn unol â pholisïau a gweithdrefnauI112
1
Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod y polisïau a’r gweithdrefnau a ganlyn yn eu lle ar gyfer y gwasanaeth—
Derbyniadau a chychwyn y gwasanaeth (gweler Rhan 5, rheoliad 14)
Diogelu (gweler Rhan 8, rheoliad 27)
Cefnogi unigolion i reoli eu harian (gweler Rhan 8, rheoliad 28)
Defnyddio rheolaeth neu ataliaeth (gweler Rhan 8, rheoliad 29)
Cefnogi a datblygu staff (gweler Rhan 10, rheoliad 36)
Disgyblu staff (gweler Rhan 10, rheoliad 39)
Rheoli heintiau (gweler Rhan 14, rheoliad 56)
Meddyginiaeth (gweler Rhan 14, rheoliad 58)
Cwynion (gweler Rhan 15, rheoliad 64)
Chwythu’r chwiban (gweler Rhan 15, rheoliad 65)
2
Pan fo’r gwasanaeth yn cynnwys darparu llety i blant, rhaid i’r darparwr gwasanaeth gael polisi yn ei le ar atal bwlio, gweithdrefnau ar gyfer ymdrin â honiad o fwlio a gweithdrefn sydd i gael ei dilyn pan fydd unrhyw blentyn y darperir llety iddo yn absennol heb ganiatâd (gweler rheoliad 27(5)).
3
Rhaid i’r darparwr gwasanaeth gael unrhyw bolisïau a gweithdrefnau eraill yn eu lle sy’n rhesymol angenrheidiol i gefnogi nodau ac amcanion y gwasanaeth rheoleiddiedig a nodir yn y datganiad o ddiben.
4
Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod cynnwys y polisïau a’r gweithdrefnau y mae’n ofynnol iddynt fod yn eu lle yn rhinwedd paragraffau (1) i (3)—
a
yn briodol i anghenion yr unigolion y darperir gofal a chymorth ar eu cyfer,
b
yn gyson â’r datganiad o ddiben, ac
c
yn cael eu cadw’n gyfredol.
5
Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod y gwasanaeth wedi ei ddarparu yn unol â’r polisïau a’r gweithdrefnau hynny.