RHAN 3Gofynion cyffredinol ar ddarparwyr gwasanaethau

Gofynion mewn perthynas â chynaliadwyedd ariannol y gwasanaethI111

1

Rhaid i’r darparwr gwasanaeth gymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod y gwasanaeth yn gynaliadwy yn ariannol at ddiben cyflawni’r nodau a’r amcanion a nodir yn y datganiad o ddiben.

2

Rhaid i’r darparwr gwasanaeth gynnal cyfrifon priodol a chyfredol ar gyfer y gwasanaeth.

3

Rhaid i’r darparwr gwasanaeth ddarparu copïau o’r cyfrifon i Weinidogion Cymru o fewn 28 o ddiwrnodau i gael cais i wneud hynny.

4

Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i gyfrifon gael eu hardystio gan gyfrifydd.