RHAN 3Gofynion cyffredinol ar ddarparwyr gwasanaethau
Gofynion mewn perthynas â’r unigolyn cyfrifol pan fo’r darparwr gwasanaeth yn unigolynI110
1
Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo’r darparwr gwasanaeth yn unigolyn.
2
Os yw’r rheoliad hwn yn gymwys, rhaid i’r unigolyn ymgymryd â hyfforddiant priodol er mwyn cyflawni ei ddyletswyddau’n briodol fel yr unigolyn cyfrifol.
3
Yn ystod unrhyw adeg pan fo’r unigolyn yn absennol, rhaid iddo sicrhau bod trefniadau yn eu lle ar gyfer—
a
rheoli’r gwasanaeth yn effeithiol,
b
goruchwylio’r gwasanaeth yn effeithiol,
c
cydymffurfedd y gwasanaeth â gofynion y rheoliadau yn Rhannau 3 i 15, a
d
monitro, adolygu a gwella ansawdd y gofal a’r cymorth a ddarperir gan y gwasanaeth.
4
Os nad yw’r unigolyn yn gallu cyflawni ei ddyletswyddau fel unigolyn cyfrifol a hynny am gyfnod o fwy nag 28 o ddiwrnodau, rhaid iddo—
a
hysbysu’r rheoleiddiwr gwasanaethau, a
b
rhoi gwybod i’r rheoleiddiwr gwasanaethau am y trefniadau interim.