RHAN 8Gofynion ar ddarparwyr gwasanaethau - diogelu

Diogelu - gofyniad cyffredinolI126

Rhaid i’r darparwr gwasanaeth ddarparu’r gwasanaeth mewn ffordd sy’n sicrhau bod unigolion yn ddiogel ac yn cael eu hamddiffyn rhag camdriniaeth, esgeulustod a thriniaeth amhriodol.

Annotations:
Commencement Information
I1

Rhl. 26 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

Polisïau a gweithdrefnau diogeluI227

1

Rhaid i’r darparwr gwasanaeth gael polisïau a gweithdrefnau yn eu lle—

a

ar gyfer atal camdriniaeth, esgeulustod a thriniaeth amhriodol, a

b

ar gyfer ymateb i unrhyw honiad neu dystiolaeth o gamdriniaeth, esgeulustod neu driniaeth amhriodol.

2

Yn y rheoliad hwn, cyfeirir at bolisïau a gweithdrefnau o’r fath fel polisïau a gweithdrefnau diogelu.

3

Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod ei bolisïau a’i weithdrefnau diogelu yn cael eu gweithredu’n effeithiol.

4

Yn benodol, pan fo honiad neu dystiolaeth o gamdriniaeth, esgeulustod neu driniaeth amhriodol, rhaid i’r darparwr gwasanaeth—

a

gweithredu yn unol â’i bolisïau a’i weithdrefnau diogelu,

b

cymryd camau gweithredu ar unwaith i sicrhau diogelwch pob unigolyn y darperir gofal a chymorth iddo,

c

gwneud atgyfeiriadau priodol at asiantaethau eraill, a

d

cadw cofnod o unrhyw dystiolaeth neu sylwedd unrhyw honiad, unrhyw gamau gweithredu a gymerir ac unrhyw atgyfeiriadau a wneir.

5

Pan fo’r gwasanaeth yn cynnwys darparu llety i blant, rhaid i’r darparwr gwasanaeth gael y polisïau a’r gweithdrefnau a ganlyn yn eu lle—

a

polisi ar atal bwlio;

b

gweithdrefnau ar gyfer ymdrin â honiad o fwlio;

c

y weithdrefn sydd i gael ei dilyn pan fo unrhyw blentyn y darperir llety iddo yn absennol heb ganiatâd.

Annotations:
Commencement Information
I2

Rhl. 27 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

Cefnogi unigolion i reoli eu harianI328

1

Rhaid i’r darparwr gwasanaeth gael polisi a gweithdrefnau yn eu lle ynghylch cefnogi unigolion i reoli eu harian a rhaid iddo sicrhau y darperir y gwasanaeth yn unol â’r polisi hwnnw a’r gweithdrefnau hynny.

2

Rhaid i’r polisi a’r gweithdrefnau y mae’n ofynnol gan y rheoliad hwn iddynt fod yn eu lle nodi’r camau sydd i gael eu cymryd i alluogi a chefnogi pobl i reoli eu harian eu hunain ac i amddiffyn unigolion rhag camdriniaeth ariannol.

3

Pan fo arian unigolyn yn cael ei ddal gan y darparwr gwasanaeth at unrhyw ddiben (ac eithrio arian a ddelir at ddiben talu ffioedd sy’n daladwy gan yr unigolyn yn unol ag unrhyw gytundeb â’r darparwr gwasanaeth), rhaid i’r polisi a’r gweithdrefnau sy’n ofynnol gan y rheoliad hwn ddarparu—

a

bod yr arian yn cael ei ddal mewn cyfrif yn enw’r unigolyn neu mewn cyfrif sy’n golygu bod modd gwahaniaethu’n glir rhwng arian pob unigolyn;

b

nad yw unrhyw gyfrif o’r fath yn cael ei ddefnyddio mewn cysylltiad â rheoli’r gwasanaeth.

4

Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau cyn belled ag y bo’n ymarferol nad yw personau sy’n gweithio yn y gwasanaeth yn gweithredu fel asiant i unigolyn.

Annotations:
Commencement Information
I3

Rhl. 28 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

Y defnydd priodol o reolaeth ac ataliaethI429

1

Ni chaniateir darparu gofal a chymorth mewn ffordd sy’n cynnwys gweithredoedd y bwriedir iddynt reoli neu atal unigolyn oni bai bod y gweithredoedd hynny—

a

yn angenrheidiol i atal risg o niwed a berir i’r unigolyn neu i unigolyn arall, a

b

yn ymateb cymesur i risg o’r fath.

2

Ni chaniateir defnyddio rheolaeth neu ataliaeth oni bai ei bod yn cael ei chyflawni gan staff sydd wedi eu hyfforddi yn y dull rheolaeth neu ataliaeth a ddefnyddir.

3

Rhaid i’r darparwr gwasanaeth gael polisi ar ddefnyddio rheolaeth neu ataliaeth a sicrhau bod unrhyw reolaeth neu ataliaeth a ddefnyddir yn cael ei chyflawni yn unol â’r polisi hwn.

4

Rhaid i gofnod o unrhyw ddigwyddiad y defnyddir rheolaeth neu ataliaeth ynddo gael ei wneud o fewn 24 awr.

5

At ddibenion y rheoliad hwn, mae person yn rheoli neu’n atal unigolyn os yw’r person hwnnw—

a

yn defnyddio, neu’n bygwth defnyddio, grym i sicrhau bod gweithred yn cael ei gwneud y mae’r unigolyn yn ei gwrthsefyll, neu

b

yn cyfyngu ar ryddid symud yr unigolyn, pa un a yw’r unigolyn yn gwrthsefyll ai peidio, gan gynnwys defnyddio dulliau corfforol, mecanyddol neu gemegol.

Annotations:
Commencement Information
I4

Rhl. 29 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

Gwaharddiad ar y defnydd o gosb gorfforolI530

1

Rhaid i ddarparwr gwasanaeth sy’n darparu gwasanaeth cartref gofal, gwasanaeth llety diogel neu wasanaeth canolfan breswyl i deuluoedd sicrhau nad yw personau sy’n gweithio yn y gwasanaeth yn defnyddio unrhyw fath o gosb gorfforol ar unrhyw adeg yn erbyn unrhyw blentyn y darperir llety iddo.

2

Rhaid i ddarparwr gwasanaeth sy’n darparu gwasanaeth cymorth cartref sicrhau nad yw personau sy’n gweithio yn y gwasanaeth yn defnyddio unrhyw fath o gosb gorfforol ar unrhyw adeg yn erbyn unrhyw blentyn y darperir gofal a chymorth iddo.

Annotations:
Commencement Information
I5

Rhl. 30 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

Amddifadu o ryddidI631

Ni chaniateir amddifadu unigolyn o’i ryddid at ddiben cael gofal a chymorth heb awdurdod cyfreithlon.

Annotations:
Commencement Information
I6

Rhl. 31 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

Dehongli Rhan 8I732

Yn y Rhan hon—

  • ystyr “camdriniaeth” (“abuse”) yw camdriniaeth gorfforol, rywiol, seicolegol, emosiynol neu ariannol ac, mewn perthynas â phlentyn, unrhyw niwed arall.

  • At ddibenion y diffiniad hwn—

    1. a

      mae “camdriniaeth ariannol” (“financial abuse”) yn cynnwys—

      1. i

        bod arian neu eiddo arall person yn cael ei ddwyn;

      2. ii

        bod person yn cael ei dwyllo;

      3. iii

        bod person yn cael ei roi o dan bwysau mewn perthynas ag arian neu eiddo arall;

      4. iv

        bod arian neu eiddo arall person yn cael ei gamddefnyddio;

    2. b

      mae i “niwed” (“harm”) yr un ystyr ag yn adran 197(1) o Ddeddf 2014;

  • mae i “esgeulustod” (“neglect”) yr un ystyr ag yn adran 197(1) o Ddeddf 2014;

  • mae “triniaeth amhriodol” (“improper treatment”) yn cynnwys gwahaniaethu neu ataliaeth anghyfreithlon, gan gynnwys amddifadu amhriodol o ryddid o dan delerau Deddf Galluedd Meddyliol 200520.