RHAN 7Gofynion ar ddarparwyr gwasanaethau o ran safon y gofal a’r cymorth sydd i gael eu darparu
Safonau gofal a chymorth - gofynion cyffredinolI121
1
Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau y darperir gofal a chymorth mewn ffordd sy’n amddiffyn, yn hybu ac yn cynnal diogelwch a llesiant unigolion.
2
Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau y darperir y gofal a’r cymorth i bob unigolyn yn unol â chynllun personol yr unigolyn.
3
Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau y darperir y gofal a’r cymorth mewn ffordd—
a
sy’n cynnal perthnasoedd personol a phroffesiynol da ag unigolion a staff; a
b
sy’n annog ac yn cynorthwyo staff i gynnal perthnasoedd personol a phroffesiynol da ag unigolion.
4
Os nad yw’r darparwr gwasanaeth, o ganlyniad i newid i anghenion asesedig yr unigolyn, yn gallu diwallu’r anghenion hynny mwyach, hyd yn oed ar ôl gwneud unrhyw addasiadau rhesymol, rhaid i’r darparwr roi hysbysiad ysgrifenedig o hyn i’r unigolyn, unrhyw gynrychiolydd, comisiynydd y gwasanaeth a’r awdurdod lleoli ar unwaith.
Parhad gofalI222
Rhaid i’r darparwr gwasanaeth roi trefniadau yn eu lle i sicrhau bod unigolion yn cael parhad gofal sy’n rhesymol i ddiwallu eu hanghenion am ofal a chymorth.
GwybodaethI323
1
Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod gan unigolion yr wybodaeth y mae ei hangen arnynt i wneud neu gymryd rhan mewn asesiadau, cynlluniau a phenderfyniadau o ddydd i ddydd am y ffordd y darperir gofal a chymorth iddynt a sut y maent yn cael eu cefnogi i gyflawni eu canlyniadau personol.
2
Rhaid i’r wybodaeth a ddarperir fod ar gael yn yr iaith, yr arddull, y cyflwyniad a’r fformat priodol, gan roi sylw i—
a
natur y gwasanaeth fel y’i disgrifir yn y datganiad o ddiben;
b
y lefel o ddealltwriaeth yr unigolyn a’i allu i gyfathrebu;
c
yn achos plentyn, oedran y plentyn.
3
Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod yr unigolyn yn cael unrhyw gymorth sy’n angenrheidiol i’w alluogi i ddeall yr wybodaeth a ddarperir.
Iaith a chyfathrebuI424
1
Rhaid i’r darparwr gwasanaeth gymryd camau rhesymol i ddiwallu anghenion iaith unigolion.
2
Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau y darperir mynediad i unrhyw gymhorthion a chyfarpar sy’n angenrheidiol i unigolyn i hwyluso’r ffordd y mae’r unigolyn yn cyfathrebu ag eraill.
Parch a sensitifrwyddI525
1
Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod unigolion yn cael eu trin â pharch a sensitifrwydd.
2
Mae hyn yn cynnwys, ond nid yw’n gyfyngedig i,—
a
parchu preifatrwydd ac urddas yr unigolyn;
b
parchu hawliau’r unigolyn i gyfrinachedd;
c
hybu ymreolaeth ac annibyniaeth yr unigolyn;
d
rhoi sylw i unrhyw nodweddion gwarchodedig perthnasol (fel y’u diffinnir yn adran 4 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010) yr unigolyn.