RHAN 6Gofynion ar ddarparwyr gwasanaethau o ran yr wybodaeth sydd i gael ei darparu i unigolion wrth gychwyn y ddarpariaeth o ofal a chymorth
Gwybodaeth am y gwasanaethI119
1
Rhaid i’r darparwr gwasanaeth lunio canllaw ysgrifenedig ar y gwasanaeth.
2
Rhaid i’r canllaw—
a
cael ei ddyddio, ei adolygu o leiaf bob blwyddyn a’i ddiweddaru yn ôl yr angen,
b
bod mewn iaith, arddull, cyflwyniad a fformat priodol, gan roi sylw i’r datganiad o ddiben ar gyfer y gwasanaeth,
c
cael ei roi i bob unigolyn sy’n cael gofal a chymorth,
d
yn achos plentyn sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol, gael ei roi i’r awdurdod lleoli, ac
e
cael ei wneud ar gael i eraill ar gais, oni bai nad yw hyn yn briodol neu y byddai’n anghyson â llesiant unigolyn.
3
Rhaid i’r canllaw gynnwys yr wybodaeth a ganlyn—
a
gwybodaeth am sut i godi pryder neu wneud cwyn;
b
gwybodaeth am argaeledd gwasanaethau eirioli.
4
Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod pob unigolyn yn cael unrhyw gymorth sy’n angenrheidiol i’w alluogi i ddeall yr wybodaeth a gynhwysir yn y canllaw.
Cytundeb gwasanaethI220
1
Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau y rhoddir i bob unigolyn gopi wedi ei lofnodi o unrhyw gytundeb sy’n ymwneud â—
a
y gofal a’r cymorth a ddarperir i’r unigolyn;
b
unrhyw wasanaethau eraill a ddarperir i’r unigolyn.
2
Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod unigolion yn cael unrhyw gymorth sy’n angenrheidiol i’w galluogi i ddeall yr wybodaeth a gynhwysir mewn unrhyw gytundeb o’r fath.