RHAN 4Gofynion ar ddarparwyr gwasanaethau o ran y camau sydd i gael eu cymryd cyn cytuno i ddarparu gofal a chymorth
Addasrwydd y gwasanaethI114
1
Ni chaiff y darparwr gwasanaeth ddarparu gofal a chymorth ar gyfer unigolyn oni bai bod y darparwr gwasanaeth wedi penderfynu bod y gwasanaeth yn addas i ddiwallu anghenion gofal a chymorth yr unigolyn ac i gefnogi’r unigolyn i gyflawni ei ganlyniadau personol.
2
Rhaid i’r darparwr gwasanaeth gael polisi a gweithdrefnau yn eu lle ar dderbyniadau a chychwyn y gwasanaeth.
3
Rhaid i’r penderfyniad o dan baragraff (1) ystyried—
a
cynllun gofal a chymorth yr unigolyn,
b
os nad oes cynllun gofal a chymorth, asesiad y darparwr gwasanaeth o dan baragraff (4),
c
unrhyw asesiadau iechyd neu unrhyw asesiadau perthnasol eraill,
d
safbwyntiau, dymuniadau a theimladau’r unigolyn,
e
unrhyw risgiau i lesiant yr unigolyn,
f
unrhyw risgiau i lesiant unigolion eraill y darperir gofal a chymorth iddynt,
g
unrhyw addasiadau rhesymol y gallai’r darparwr gwasanaeth eu gwneud i alluogi i anghenion gofal a chymorth yr unigolyn gael eu diwallu, a
h
polisi a gweithdrefnau’r darparwr gwasanaeth ar dderbyniadau a chychwyn y gwasanaeth.
4
Mewn achos pan na fo gan yr unigolyn gynllun gofal a chymorth, rhaid i’r darparwr gwasanaeth—
a
asesu anghenion gofal a chymorth yr unigolyn, a
b
nodi ei ganlyniadau personol.
5
Rhaid i’r asesiad sy’n ofynnol gan baragraff (4) gael ei gynnal gan berson sydd—
a
â’r sgiliau, yr wybodaeth a’r cymhwysedd i gynnal yr asesiad, a
b
wedi cael hyfforddiant i gynnal asesiadau.
6
Wrth wneud y penderfyniad ym mharagraff (1), rhaid i’r darparwr gwasanaeth gynnwys yr unigolyn, yr awdurdod lleoli (os yw’n gymwys) ac unrhyw gynrychiolydd. Ond nid yw’n ofynnol i’r darparwr gwasanaeth gynnwys cynrychiolydd—
a
os yw’r unigolyn yn oedolyn neu’n blentyn 16 oed neu drosodd ac nad yw’r unigolyn yn dymuno i’r cynrychiolydd gael ei gynnwys, neu
b
pe byddai cynnwys y cynrychiolydd yn anghyson â llesiant yr unigolyn.