RHAN 3Gofynion cyffredinol ar ddarparwyr gwasanaethau

Gofynion mewn perthynas â darparu’r gwasanaethI16

Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod y gwasanaeth wedi ei ddarparu â gofal, cymhwysedd a sgìl digonol, gan roi sylw i’r datganiad o ddiben.

Annotations:
Commencement Information
I1

Rhl. 6 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

Gofynion mewn perthynas â’r datganiad o ddibenI27

1

Rhaid i’r darparwr gwasanaeth ddarparu’r gwasanaeth yn unol â’r datganiad o ddiben.

2

Rhaid i’r darparwr gwasanaeth—

a

cadw’r datganiad o ddiben o dan adolygiad, a

b

pan fo’n briodol, ddiwygio’r datganiad o ddiben.

3

Oni bai bod paragraff (4) yn gymwys, rhaid i’r darparwr gwasanaeth hysbysu’r personau a restrir ym mharagraff (6) am unrhyw ddiwygiad sydd i gael ei wneud i’r datganiad o ddiben o leiaf 28 o ddiwrnodau cyn y mae i gymryd effaith.

4

Mae’r paragraff hwn yn gymwys mewn achosion pan fo’n angenrheidiol diwygio’r datganiad o ddiben gydag effaith ar unwaith.

5

Os yw paragraff (4) yn gymwys, rhaid i’r darparwr gwasanaeth, yn ddi-oed, hysbysu’r personau a restrir ym mharagraff (6) am unrhyw ddiwygiad a wneir i’r datganiad o ddiben.

6

Y personau y mae rhaid iddynt gael eu hysbysu am unrhyw ddiwygiad i’r datganiad o ddiben yn unol â pharagraff (3) neu (5) yw—

a

y rheoleiddiwr gwasanaethau,

b

yr unigolion,

c

yr awdurdod lleoli (pan fo’n berthnasol), a

d

unrhyw gynrychiolydd, oni bai nad yw’n briodol gwneud hynny neu y byddai gwneud hynny yn anghyson â llesiant yr unigolyn.

7

Rhaid i’r darparwr gwasanaeth ddarparu’r datganiad o ddiben cyfredol i unrhyw berson ar gais, oni bai nad yw’n briodol gwneud hynny neu y byddai gwneud hynny yn anghyson â llesiant unigolyn.

Annotations:
Commencement Information
I2

Rhl. 7 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

Gofynion mewn perthynas â monitro a gwellaI38

1

Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod trefniadau effeithiol yn eu lle ar gyfer monitro, adolygu a gwella ansawdd y gofal a’r cymorth a ddarperir gan y gwasanaeth.

2

Rhaid i’r trefniadau hynny gynnwys trefniadau ar gyfer ceisio safbwyntiau—

a

unigolion,

b

unrhyw gynrychiolwyr, oni bai nad yw hyn yn briodol neu y byddai’n anghyson â llesiant yr unigolyn,

c

yn achos unigolyn sy’n blentyn y darperir llety iddo fel rhan o wasanaeth cartref gofal, yr awdurdod lleoli,

d

comisiynwyr gwasanaethau, ac

e

staff,

ar ansawdd y gofal a’r cymorth a ddarperir gan y gwasanaeth a sut y gellir gwella hyn.

3

Wrth wneud unrhyw benderfyniadau ar gynlluniau ar gyfer gwella ansawdd y gofal a’r cymorth a ddarperir gan y gwasanaeth, rhaid i’r darparwr gwasanaeth—

a

ystyried safbwyntiau’r personau hynny yr ymgynghorir â hwy yn unol â pharagraff (2), a

b

rhoi sylw i’r adroddiad ar ansawdd gofal a lunnir gan yr unigolyn cyfrifol yn unol â rheoliad 80(4).

Annotations:
Commencement Information
I3

Rhl. 8 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

Gofynion mewn perthynas â’r unigolyn cyfrifolI49

1

Nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys i ddarparwr gwasanaeth sy’n unigolyn.

2

Rhaid i ddarparwr gwasanaeth y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddo sicrhau bod y person sydd wedi ei ddynodi fel yr unigolyn cyfrifol—

a

yn cael cymorth i gyflawni ei ddyletswyddau’n effeithiol, a

b

yn ymgymryd â hyfforddiant priodol.

3

Os bydd gan y darparwr gwasanaeth reswm dros gredu nad yw’r unigolyn cyfrifol wedi cydymffurfio â gofyniad a osodir gan y rheoliadau yn Rhannau 16 i 20, rhaid i’r darparwr—

a

cymryd unrhyw gamau sy’n angenrheidiol i sicrhau y cydymffurfir â’r gofyniad, a

b

hysbysu’r rheoleiddiwr gwasanaethau.

4

Yn ystod unrhyw adeg pan nad yw’r unigolyn cyfrifol yn gallu cyflawni ei ddyletswyddau, rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod trefniadau yn eu lle ar gyfer—

a

rheoli’r gwasanaeth yn effeithiol,

b

goruchwylio’r gwasanaeth yn effeithiol,

c

cydymffurfedd y gwasanaeth â gofynion y rheoliadau yn Rhannau 3 i 15, a

d

monitro, adolygu a gwella ansawdd y gofal a’r cymorth a ddarperir gan y gwasanaeth.

5

Os nad yw’r unigolyn cyfrifol yn gallu cyflawni ei ddyletswyddau a hynny am gyfnod o fwy nag 28 o ddiwrnodau, rhaid i’r darparwr gwasanaeth—

a

hysbysu’r rheoleiddiwr gwasanaethau, a

b

rhoi gwybod i’r rheoleiddiwr gwasanaethau am y trefniadau interim.

Annotations:
Commencement Information
I4

Rhl. 9 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

Gofynion mewn perthynas â’r unigolyn cyfrifol pan fo’r darparwr gwasanaeth yn unigolynI510

1

Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo’r darparwr gwasanaeth yn unigolyn.

2

Os yw’r rheoliad hwn yn gymwys, rhaid i’r unigolyn ymgymryd â hyfforddiant priodol er mwyn cyflawni ei ddyletswyddau’n briodol fel yr unigolyn cyfrifol.

3

Yn ystod unrhyw adeg pan fo’r unigolyn yn absennol, rhaid iddo sicrhau bod trefniadau yn eu lle ar gyfer—

a

rheoli’r gwasanaeth yn effeithiol,

b

goruchwylio’r gwasanaeth yn effeithiol,

c

cydymffurfedd y gwasanaeth â gofynion y rheoliadau yn Rhannau 3 i 15, a

d

monitro, adolygu a gwella ansawdd y gofal a’r cymorth a ddarperir gan y gwasanaeth.

4

Os nad yw’r unigolyn yn gallu cyflawni ei ddyletswyddau fel unigolyn cyfrifol a hynny am gyfnod o fwy nag 28 o ddiwrnodau, rhaid iddo—

a

hysbysu’r rheoleiddiwr gwasanaethau, a

b

rhoi gwybod i’r rheoleiddiwr gwasanaethau am y trefniadau interim.

Annotations:
Commencement Information
I5

Rhl. 10 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

Gofynion mewn perthynas â chynaliadwyedd ariannol y gwasanaethI611

1

Rhaid i’r darparwr gwasanaeth gymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod y gwasanaeth yn gynaliadwy yn ariannol at ddiben cyflawni’r nodau a’r amcanion a nodir yn y datganiad o ddiben.

2

Rhaid i’r darparwr gwasanaeth gynnal cyfrifon priodol a chyfredol ar gyfer y gwasanaeth.

3

Rhaid i’r darparwr gwasanaeth ddarparu copïau o’r cyfrifon i Weinidogion Cymru o fewn 28 o ddiwrnodau i gael cais i wneud hynny.

4

Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i gyfrifon gael eu hardystio gan gyfrifydd.

Annotations:
Commencement Information
I6

Rhl. 11 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

Gofynion i ddarparu’r gwasanaeth yn unol â pholisïau a gweithdrefnauI712

1

Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod y polisïau a’r gweithdrefnau a ganlyn yn eu lle ar gyfer y gwasanaeth—

  • Derbyniadau a chychwyn y gwasanaeth (gweler Rhan 5, rheoliad 14)

  • Diogelu (gweler Rhan 8, rheoliad 27)

  • Cefnogi unigolion i reoli eu harian (gweler Rhan 8, rheoliad 28)

  • Defnyddio rheolaeth neu ataliaeth (gweler Rhan 8, rheoliad 29)

  • Cefnogi a datblygu staff (gweler Rhan 10, rheoliad 36)

  • Disgyblu staff (gweler Rhan 10, rheoliad 39)

  • Rheoli heintiau (gweler Rhan 14, rheoliad 56)

  • Meddyginiaeth (gweler Rhan 14, rheoliad 58)

  • Cwynion (gweler Rhan 15, rheoliad 64)

  • Chwythu’r chwiban (gweler Rhan 15, rheoliad 65)

2

Pan fo’r gwasanaeth yn cynnwys darparu llety i blant, rhaid i’r darparwr gwasanaeth gael polisi yn ei le ar atal bwlio, gweithdrefnau ar gyfer ymdrin â honiad o fwlio a gweithdrefn sydd i gael ei dilyn pan fydd unrhyw blentyn y darperir llety iddo yn absennol heb ganiatâd (gweler rheoliad 27(5)).

3

Rhaid i’r darparwr gwasanaeth gael unrhyw bolisïau a gweithdrefnau eraill yn eu lle sy’n rhesymol angenrheidiol i gefnogi nodau ac amcanion y gwasanaeth rheoleiddiedig a nodir yn y datganiad o ddiben.

4

Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod cynnwys y polisïau a’r gweithdrefnau y mae’n ofynnol iddynt fod yn eu lle yn rhinwedd paragraffau (1) i (3)—

a

yn briodol i anghenion yr unigolion y darperir gofal a chymorth ar eu cyfer,

b

yn gyson â’r datganiad o ddiben, ac

c

yn cael eu cadw’n gyfredol.

5

Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod y gwasanaeth wedi ei ddarparu yn unol â’r polisïau a’r gweithdrefnau hynny.

Annotations:
Commencement Information
I7

Rhl. 12 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

Dyletswydd gonestrwyddI813

Rhaid i’r darparwr gwasanaeth weithredu mewn ffordd agored a thryloyw—

a

ag unigolion sy’n cael gofal a chymorth,

b

ag unrhyw gynrychiolwyr yr unigolion hynny, ac

c

yn achos plentyn y darperir llety iddo, â’r awdurdod lleoli.