RHAN 20Gofynion eraill ar unigolion cyfrifol
Cymorth ar gyfer staff sy’n codi pryderonI182
Rhaid i’r unigolyn cyfrifol sicrhau y cydymffurfir â pholisi chwythu chwiban y darparwr a bod y trefniadau i alluogi a chefnogi pobl sy’n gweithio yn y gwasanaeth i godi unrhyw bryderon yn cael eu gweithredu’n effeithiol.
Dyletswydd gonestrwyddI283
Rhaid i’r unigolyn cyfrifol weithredu mewn ffordd agored a thryloyw—
a
ag unigolion sy’n cael gofal a chymorth;
b
ag unrhyw gynrychiolwyr yr unigolion hynny;
c
yn achos plentyn y darperir llety iddo, â’r awdurdod lleoli.
HysbysiadauI384
1
Rhaid i’r unigolyn cyfrifol hysbysu’r rheoleiddiwr gwasanaethau am y digwyddiadau a bennir yn Atodlen 4.
2
Rhaid i’r hysbysiadau sy’n ofynnol gan baragraff (1) gynnwys manylion y digwyddiad.
3
Oni nodir fel arall, rhaid i hysbysiadau gael eu gwneud yn ddi-oed ac yn ysgrifenedig.
4
Rhaid i hysbysiadau gael eu gwneud yn y modd a’r ffurf sy’n ofynnol gan y rheoleiddiwr gwasanaethau.