RHAN 2Eithriadau
Gwasanaethau cartrefi gofalI12
1
Nid yw’r pethau a ganlyn i gael eu trin fel gwasanaeth cartref gofal, er gwaethaf paragraff 1 o Atodlen 1 i’r Ddeddf (gwasanaethau rheoleiddiedig: diffiniadau, gwasanaethau cartrefi gofal)—
a
y ddarpariaeth o lety, ynghyd â nyrsio neu ofal, i oedolyn—
i
mewn perthynas deuluol neu bersonol, a
ii
ar gyfer dim ystyriaeth fasnachol;
b
y ddarpariaeth o lety, ynghyd â nyrsio neu ofal, i oedolion am gyfnod o lai nag 28 o ddiwrnodau mewn unrhyw gyfnod o 12 mis neu am nifer o gyfnodau sy’n gyfanswm o lai nag 28 o ddiwrnodau mewn unrhyw gyfnod o 12 mis;
c
y ddarpariaeth o lety, ynghyd â nyrsio, pan fo’r llety wedi ei freinio—
i
yng Ngweinidogion Cymru at ddibenion eu swyddogaethau o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006;
ii
mewn ymddiriedolaeth GIG;
iii
mewn Bwrdd Iechyd Lleol.
d
y ddarpariaeth o lety, ynghyd â gofal, pan fo’r llety wedi ei ddarparu—
i
gan sefydliad o fewn y sector addysg bellach; neu
ii
gan brifysgol.
Ond nid yw’r eithriad hwn yn gymwys os yw nifer y personau y darperir y llety hwnnw iddynt yn fwy na degfed ran o nifer y myfyrwyr y mae’n darparu addysg a llety iddynt.
At ddibenion y paragraff hwn, mae i “sector addysg bellach” yr un ystyr â “further education sector” yn adran 91(3) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 199213;
e
y ddarpariaeth o lety, ynghyd â gofal, pan fo’r llety a ddarperir yn gyfystyr â gofal dydd i blant, o fewn ystyr adran 19(3) o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 201014.
Ond nid yw’r eithriad hwn yn gymwys os—
i
mewn unrhyw gyfnod o 12 mis, oes 28 neu ragor o gyfnodau o 24 awr y darperir mwy na 15 awr o ofal dydd ynddynt mewn perthynas ag unrhyw un plentyn (pa un a yw’r plentyn o dan 12 oed ai peidio);
ii
yw’r llety wedi ei ddarparu i blentyn anabl.
f
y ddarpariaeth o lety, ynghyd â gofal, pan fo’r llety wedi ei ddarparu i blant 16 oed a throsodd a dim ond at ddibenion galluogi’r plant i ymgymryd â hyfforddiant neu brentisiaeth.
Ond nid yw’r eithriad hwn yn gymwys os yw’r llety wedi ei ddarparu i blentyn anabl;
g
y ddarpariaeth o lety, ynghyd â gofal, pan fo’r llety wedi ei ddarparu i blant mewn hostel fechnïaeth a gymeradwyir neu hostel brawf a gymeradwyir;
h
y ddarpariaeth o lety, ynghyd â gofal, pan fo’r llety yn sefydliad i droseddwyr ifanc a ddarperir o dan neu yn rhinwedd adran 43(1) o Ddeddf Carchardai 195215;
i
y ddarpariaeth o lety, ynghyd â gofal, pan fo’r llety wedi ei ddarparu i blant oherwydd eu hyglwyfedd neu eu hangen at ddibenion—
i
gwyliau;
ii
gweithgaredd hamdden, adloniant, chwaraeon, diwylliannol neu addysgol;
Ond nid yw’r eithriad hwn yn gymwys—
i
mewn unrhyw achos pan fo’r llety wedi ei ddarparu i blentyn anabl;
ii
os yw’r llety wedi ei ddarparu i unrhyw un plentyn am fwy nag 28 o ddiwrnodau mewn unrhyw gyfnod o 12 mis, os nad yw’r llety ond wedi ei ddarparu i blant dros 16 oed.
2
At ddibenion paragraff (1)(e), (f) ac (i) o’r rheoliad hwn, mae plentyn yn “anabl” os oes gan y plentyn anabledd at ddibenion Deddf Cydraddoldeb 2010.
3
Gweler rheoliad 5 am ystyr perthynas deuluol neu bersonol.
Gwasanaethau cymorth cartrefI23
1
Nid yw’r pethau a ganlyn i gael eu trin fel gwasanaeth cymorth cartref, er gwaethaf paragraff 8 o Atodlen 1 i’r Ddeddf (gwasanaethau rheoleiddiedig: diffiniadau, gwasanaethau cymorth cartref)—
a
y ddarpariaeth o gymorth yn unig;
b
y ddarpariaeth o ofal a chymorth i bedwar neu lai o unigolion ar unrhyw un adeg;
c
y ddarpariaeth o ofal a chymorth ar gyfer oedolyn—
i
mewn perthynas deuluol neu bersonol, a
ii
ar gyfer dim ystyriaeth fasnachol;
d
y ddarpariaeth o ofal a chymorth ar gyfer plentyn gan riant, perthynas neu riant maeth;
e
y ddarpariaeth o ofal a chymorth gan ofalwr pan fo gofal a chymorth o’r fath yn cael ei ddarparu heb ymglymiad ymgymeriad sy’n gweithredu fel asiantaeth gyflogi neu fusnes cyflogi (o fewn yr ystyr a roddir i’r ymadroddion “employment agency” neu “employment business” gan adran 13 o Ddeddf Asiantaethau Cyflogi 197316), a phan fo’r gofalwr yn gweithio’n gyfan gwbl o dan gyfarwyddyd a rheolaeth trydydd parti cysylltiedig;
f
trefniadau ar gyfer cyflenwi gofalwyr i ddarparwr gwasanaeth gan ymgymeriad sy’n gweithredu fel asiantaeth gyflogi neu fusnes cyflogi at ddiben darparu gwasanaeth rheoleiddiedig gan y darparwr gwasanaeth;
g
y ddarpariaeth o ofal a chymorth pan fo’r gofal a’r cymorth wedi eu darparu gan berson sy’n rheoli carchar neu sefydliad carcharu tebyg arall.
2
Ym mharagraff (1)(e) ac (f), ystyr “gofalwr” yw unigolyn sy’n darparu gofal i berson y cyfeirir ato ym mharagraff 8(1) o Atodlen 1 i’r Ddeddf.
3
Ym mharagraff (1)(e), ystyr “trydydd parti cysylltiedig” yw—
a
unigolyn a chanddo gyfrifoldeb rhiant (o fewn ystyr “parental responsibility” yn adran 3 o Ddeddf Plant 198917) ar gyfer plentyn y mae gofal a chymorth i gael eu darparu iddo;
b
unigolyn a chanddo atwrneiaeth neu awdurdod cyfreithlon arall i wneud trefniadau ar ran yr unigolyn y mae gofal a chymorth i gael eu darparu iddo;
c
grŵp o unigolion a grybwyllir naill ai yn is-baragraff (a) neu yn is-baragraff (b) sy’n gwneud trefniadau ar ran dim mwy na phedwar unigolyn a enwir y mae gofal a chymorth i gael eu darparu iddynt;
d
ymddiriedolaeth a sefydlir at ddiben darparu gwasanaethu i ddiwallu anghenion gofal a chymorth unigolyn a enwir.
4
Gweler rheoliad 5 am ystyr perthynas deuluol neu bersonol.
Gwasanaethau canolfannau preswyl i deuluoeddI34
Nid yw’r pethau a ganlyn i gael eu trin fel gwasanaeth canolfan breswyl i deuluoedd, er gwaethaf paragraff 3 o Atodlen 1 i’r Ddeddf (gwasanaethau rheoleiddiedig: diffiniadau, gwasanaethau canolfannau preswyl i deuluoedd)—
a
y ddarpariaeth o lety ar gyfer plant a’u rhieni pan fo’r llety wedi ei ddarparu mewn ysbyty18;
b
y ddarpariaeth o lety ar gyfer plant a’u rhieni pan fo’r llety wedi ei ddarparu mewn hostel neu mewn lloches rhag trais domestig;
c
mewn unrhyw achos arall, y ddarpariaeth o lety ar gyfer plant a’u rhieni sydd â’r prif ddiben o ddarparu llety ynghyd â gwasanaethau a chyfleusterau eraill i unigolion sy’n oedolion ac mae’r ffaith y gall yr unigolion hynny fod yn rhieni, neu y gall eu plant fod gyda hwy, yn ail i’r prif ddiben o ddarparu’r llety.
Ystyr perthynas deuluol neu bersonolI45
At ddibenion y Rhan hon—
a
mae perthynas deuluol yn cynnwys perthynas rhwng dau berson sydd—
i
yn byw yn yr un aelwyd, a
ii
yn trin ei gilydd fel pe baent yn aelodau o’r un teulu;
b
mae perthynas bersonol yn berthynas rhwng neu ymhlith ffrindiau;
c
mae ffrind i berson (A) yn cynnwys person sy’n ffrind i aelod o deulu A.