RHAN 19Gofynion ar unigolion cyfrifol ar gyfer monitro, adolygu a gwella ansawdd y gwasanaeth rheoleiddiedig

Adolygiad o ansawdd y gofalI180

1

Rhaid i’r unigolyn cyfrifol roi trefniadau addas yn eu lle i sefydlu a chynnal system ar gyfer monitro, adolygu a gwella ansawdd y gofal a’r cymorth a ddarperir gan y gwasanaeth.

2

Rhaid i’r system a sefydlir o dan baragraff (1) wneud darpariaeth i ansawdd y gofal a’r cymorth gael ei adolygu mor aml ag sy’n ofynnol ond o leiaf bob chwe mis.

3

Fel rhan o unrhyw adolygiad a gynhelir, rhaid i’r unigolyn cyfrifol wneud trefniadau ar gyfer—

a

ystyried canlyniad yr ymgysylltiad ag unigolion ac eraill, fel sy’n ofynnol gan reoliad 76;

b

dadansoddi’r data cyfanredol ar ddigwyddiadau, digwyddiadau hysbysadwy, materion diogelu, chwythu’r chwiban, pryderon a chwynion;

c

adolygu unrhyw gamau gweithredu a gymerir mewn perthynas â chwynion;

d

ystyried canlyniad unrhyw archwiliad o gywirdeb a chyflawnrwydd cofnodion.

4

Ar ôl cwblhau adolygiad o ansawdd y gofal a’r cymorth yn unol â’r rheoliad hwn, rhaid i’r unigolyn cyfrifol lunio adroddiad i’r darparwr gwasanaeth y mae rhaid iddo gynnwys—

a

asesiad o safon y gofal a’r cymorth a ddarperir, a

b

argymhellion ar gyfer gwella’r gwasanaeth.

5

Ond nid yw’r gofyniad ym mharagraff (4) yn gymwys pan fo’r darparwr gwasanaeth yn unigolyn.

Annotations:
Commencement Information
I1

Rhl. 80 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

Datganiad o gydymffurfedd â’r gofynion o ran safonau gofal a chymorthI281

1

Rhaid i’r unigolyn cyfrifol lunio’r datganiad y mae’n ofynnol iddo gael ei gynnwys yn y datganiad blynyddol o dan adran 10(2)(b) o’r Ddeddf, i’r graddau y mae’n ymwneud â’r man neu’r mannau y mae’r unigolyn cyfrifol wedi ei ddynodi mewn cysylltiad ag ef neu â hwy.

2

Wrth lunio’r datganiad, rhaid i’r unigolyn cyfrifol roi sylw i’r asesiad o safon y gofal a’r cymorth a gynhwysir mewn adroddiad a lunnir yn unol â rheoliad 80(4).