RHAN 18Gofynion ar unigolion cyfrifol ar gyfer sicrhau cydymffurfedd y gwasanaeth
Dyletswydd i sicrhau bod systemau yn eu lle i gofnodi digwyddiadau a chwynionI177
Rhaid i’r unigolyn cyfrifol sicrhau bod systemau effeithiol yn eu lle i gofnodi digwyddiadau, cwynion a materion y mae rhaid gwneud hysbysiadau yn eu cylch yn unol â rheoliadau 60 i 62 a 84.
Dyletswydd i sicrhau bod systemau yn eu lle ar gyfer cadw cofnodionI278
Rhaid i’r unigolyn cyfrifol sicrhau bod systemau effeithiol yn eu lle mewn perthynas â chadw cofnodion, sy’n cynnwys systemau ar gyfer sicrhau bod cofnodion y mae’n ofynnol iddynt gael eu cadw gan reoliad 59 yn gywir ac yn gyflawn.
Dyletswydd i sicrhau bod polisïau a gweithdrefnau yn gyfredolI379
Rhaid i’r unigolyn cyfrifol roi trefniadau addas yn eu lle i sicrhau bod polisïau a gweithdrefnau’r darparwr gwasanaeth yn cael eu cadw’n gyfredol, gan roi sylw i’r datganiad o ddiben.