RHAN 17Gofynion ar unigolion cyfrifol ar gyfer sicrhau bod y gwasanaeth yn cael ei oruchwylio’n effeithiol
Goruchwylio digonolrwydd adnoddauI174
1
Rhaid i’r unigolyn cyfrifol adrodd i’r darparwr gwasanaeth am ddigonolrwydd yr adnoddau sydd ar gael i ddarparu’r gwasanaeth yn unol â’r gofynion ar ddarparwyr gwasanaethau yn Rhannau 3 i 15 o’r Rheoliadau hyn.
2
Rhaid i adroddiadau o’r fath gael eu gwneud yn chwarterol.
3
Ond nid yw’r gofyniad hwn yn gymwys pan fo’r darparwr gwasanaeth yn unigolyn.
Adroddiadau eraill i’r darparwr gwasanaethI275
1
Rhaid i’r unigolyn cyfrifol, yn ddi-oed, adrodd i’r darparwr gwasanaeth—
a
am unrhyw bryderon ynghylch rheoli neu ddarparu’r gwasanaeth;
b
am unrhyw newidiadau sylweddol i’r ffordd y caiff y gwasanaeth ei reoli neu ei ddarparu;
c
am unrhyw bryderon nad yw’r gwasanaeth yn cael ei ddarparu yn unol â’r datganiad o ddiben ar gyfer y gwasanaeth.
2
Ond nid yw’r gofyniad hwn yn gymwys pan fo’r darparwr gwasanaeth yn unigolyn.
Ymgysylltu ag unigolion ac eraillI376
1
Rhaid i’r unigolyn cyfrifol roi trefniadau addas yn eu lle ar gyfer cael safbwyntiau—
a
yr unigolion sy’n cael gofal a chymorth,
b
unrhyw gynrychiolwyr yr unigolion hynny,
c
yn achos plentyn y darperir llety iddo, yr awdurdod lleoli,
d
comisiynwyr gwasanaethau, ac
e
staff sy’n cael eu cyflogi yn y gwasanaeth,
ar ansawdd y gofal a’r cymorth a ddarperir a sut y gellir gwella hyn.
2
Rhaid i’r unigolyn cyfrifol adrodd am y safbwyntiau a geir i’r darparwr gwasanaeth er mwyn i’r safbwyntiau hyn allu cael eu hystyried gan y darparwr gwasanaeth wrth wneud unrhyw benderfyniadau ar gynlluniau ar gyfer gwella ansawdd y gofal a’r cymorth a ddarperir gan y gwasanaeth.