RHAN 16Gofynion ar unigolion cyfrifol ar gyfer sicrhau bod y gwasanaeth yn cael ei reoli’n effeithiol

Goruchwylio’r gwaith o reoli’r gwasanaethI166

Rhaid i’r unigolyn cyfrifol oruchwylio’r gwaith o reoli’r gwasanaeth, sy’n cynnwys cymryd y camau a ddisgrifir yn rheoliadau 64, 72 a 73.

Annotations:
Commencement Information
I1

Rhl. 66 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

Dyletswydd i benodi rheolwrI267

1

Rhaid i’r unigolyn cyfrifol benodi person i reoli’r gwasanaeth. Ond nid yw’r gofyniad hwn yn gymwys os yw’r amodau ym mharagraff (2) neu (3) yn gymwys.

2

Yr amodau yw—

a

bod y darparwr gwasanaeth yn unigolyn;

b

bod y darparwr gwasanaeth yn bwriadu rheoli’r gwasanaeth;

c

bod y darparwr gwasanaeth yn addas i reoli’r gwasanaeth;

d

bod y darparwr gwasanaeth wedi ei gofrestru fel rheolwr gofal cymdeithasol â Gofal Cymdeithasol Cymru; ac

e

bod y rheoleiddiwr gwasanaethau yn cytuno i’r darparwr gwasanaeth reoli’r gwasanaeth.

3

Yr amodau yw—

a

bod y darparwr gwasanaeth yn bartneriaeth, yn gorff corfforaethol neu’n gorff anghorfforedig;

b

bod y darparwr gwasanaeth wedi ei gofrestru i ddarparu gwasanaeth cartref gofal neu wasanaeth canolfan breswyl i deuluoedd mewn dim mwy na dau leoliad neu ei fod wedi ei gofrestru i ddarparu gwasanaeth cymorth cartref mewn perthynas â dim mwy na dwy ardal;

c

bod y darparwr gwasanaeth yn cynnig bod yr unigolyn sydd wedi ei ddynodi’n unigolyn cyfrifol am y gwasanaeth i gael ei benodi i reoli’r gwasanaeth;

d

bod yr unigolyn hwnnw yn addas i reoli’r gwasanaeth;

e

bod yr unigolyn hwnnw wedi ei gofrestru fel rheolwr gofal cymdeithasol â Gofal Cymdeithasol Cymru; ac

f

bod y rheoleiddiwr gwasanaethau yn cytuno i’r unigolyn hwnnw reoli’r gwasanaeth.

4

At ddibenion paragraff (2)(c), nid yw’r darparwr gwasanaeth yn addas i reoli’r gwasanaeth oni bai bod gofynion rheoliad 34(2) (addasrwydd staff) yn cael eu bodloni mewn cysylltiad â’r darparwr gwasanaeth.

5

Nid yw’r ddyletswydd ym mharagraff (1) wedi ei chyflawni os yw’r person a benodir i reoli’r gwasanaeth yn absennol am gyfnod o fwy na thri mis.

Annotations:
Commencement Information
I2

Rhl. 67 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

Gofynion o ran addasrwydd ar gyfer penodi rheolwrI368

1

Ni chaiff yr unigolyn cyfrifol benodi person i reoli’r gwasanaeth oni bai bod y person hwnnw yn addas i wneud hynny.

2

At ddibenion paragraff (1), nid yw person yn addas i reoli’r gwasanaeth oni bai bod gofynion rheoliad 35(2) (addasrwydd staff) yn cael eu bodloni mewn cysylltiad â’r person hwnnw.

Annotations:
Commencement Information
I3

Rhl. 68 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

Cyfyngiadau ar benodi rheolwr ar gyfer mwy nag un gwasanaethI469

1

Ni chaiff yr unigolyn cyfrifol benodi person i reoli mwy nag un gwasanaeth, oni bai bod paragraff (2) yn gymwys.

2

Mae’r paragraff hwn yn gymwys os—

a

yw’r darparwr gwasanaeth wedi gwneud cais i’r rheoleiddiwr gwasanaethau i gael caniatâd i benodi rheolwr ar gyfer mwy nag un gwasanaeth, a

b

yw’r rheoleiddiwr gwasanaethau wedi ei fodloni o ran y trefniadau rheoli arfaethedig—

i

na fyddant yn cael effaith andwyol ar iechyd neu lesiant unigolion, a

ii

y byddant yn darparu goruchwyliaeth ddibynadwy ac effeithiol o bob gwasanaeth.

Annotations:
Commencement Information
I4

Rhl. 69 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

Dyletswydd i adrodd am benodi rheolwr i’r darparwr gwasanaethI570

Wrth benodi rheolwr yn unol â rheoliad 67(1), rhaid i’r unigolyn cyfrifol roi hysbysiad i’r darparwr gwasanaeth o—

a

enw’r person a benodir, a

b

y dyddiad y mae’r penodiad i gymryd effaith.

Annotations:
Commencement Information
I5

Rhl. 70 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

Dyletswydd i adrodd am benodi rheolwr i reoleiddiwr y gweithlu a’r rheoleiddiwr gwasanaethauI671

1

Wrth benodi rheolwr yn unol â rheoliad 67(1), rhaid i’r unigolyn cyfrifol roi hysbysiad i reoleiddiwr y gweithlu a’r rheoleiddiwr gwasanaethau o—

a

enw, dyddiad geni a rhif cofrestru Gofal Cymdeithasol Cymru y person a benodir, a

b

y dyddiad y mae’r penodiad i gymryd effaith.

2

Mewn achos pan fo’r darparwr gwasanaeth yn unigolyn a bod y rheoleiddiwr gwasanaethau wedi cytuno i’r darparwr gwasanaeth reoli’r gwasanaeth, rhaid i’r darparwr gwasanaeth roi hysbysiad i reoleiddiwr y gweithlu o—

a

enw, dyddiad geni a rhif cofrestru Gofal Cymdeithasol Cymru y darparwr gwasanaeth, a

b

y dyddiad y mae’r darparwr gwasanaeth i reoli’r gwasanaeth ohono.

Annotations:
Commencement Information
I6

Rhl. 71 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

Y trefniadau pan fydd rheolwr yn absennolI772

1

Rhaid i’r unigolyn cyfrifol roi trefniadau addas yn eu lle i sicrhau bod y gwasanaeth yn cael ei reoli’n effeithiol ar unrhyw adeg pan nad oes rheolwr neu pan nad yw’r rheolwr yn bresennol yn y gwasanaeth.

2

Os nad oes rheolwr neu os nad yw’r rheolwr yn bresennol yn y gwasanaeth am gyfnod o fwy nag 28 o ddiwrnodau, rhaid i’r unigolyn cyfrifol—

a

hysbysu’r darparwr gwasanaeth a’r rheoleiddiwr gwasanaethau, a

b

rhoi gwybod iddynt am y trefniadau sydd wedi eu rhoi yn eu lle ar gyfer rheoli’r gwasanaeth yn effeithiol.

Annotations:
Commencement Information
I7

Rhl. 72 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

YmweliadauI873

1

Yn achos gwasanaethau cartrefi gofal, gwasanaethau llety diogel a gwasanaethau canolfannau preswyl i deuluoedd24, rhaid i’r unigolyn cyfrifol—

a

ymweld â phob man y mae’r unigolyn cyfrifol wedi ei ddynodi mewn cysylltiad ag ef, a

b

cwrdd â staff ac unigolion ym mhob man o’r fath.

2

Yn achos unrhyw wasanaethau rheoleiddiedig eraill25, rhaid i’r unigolyn cyfrifol—

a

cwrdd ag aelodau o staff sydd wedi eu cyflogi i ddarparu gwasanaeth rheoleiddiedig ym mhob man y mae’r unigolyn cyfrifol wedi ei ddynodi mewn cysylltiad ag ef, ohono neu mewn perthynas ag ef, a

b

cwrdd ag unigolion y mae gwasanaeth rheoleiddiedig yn cael ei ddarparu ym mhob man o’r fath, ohono neu mewn perthynas ag ef.

3

Mae amlder ymweliadau a chyfarfodydd o’r fath i gael ei benderfynu gan yr unigolyn cyfrifol gan roi sylw i’r datganiad o ddiben ond rhaid iddynt gael eu cynnal o leiaf bob tri mis.