RHAN 15Gofynion eraill ar ddarparwyr gwasanaethau

CofnodionI159

1

Rhaid i’r darparwr gwasanaeth gadw a chynnal y cofnodion a bennir yn Rhan 1 o Atodlen 2 mewn cysylltiad â phob man y darperir y gwasanaeth ynddo, ohono neu mewn perthynas ag ef.

2

Pan fo’r darparwr gwasanaeth wedi ei gofrestru i ddarparu gwasanaeth cartref gofal, gwasanaeth llety diogel neu wasanaeth canolfan breswyl i deuluoedd, rhaid i’r darparwr gwasanaeth hefyd gadw a chynnal y cofnodion a bennir yn Rhan 2 o Atodlen 2 mewn cysylltiad â phob man y darperir y gwasanaeth hwnnw ynddo.

3

Rhaid i’r darparwr gwasanaeth—

a

sicrhau bod cofnodion sy’n ymwneud ag unigolion yn gywir ac yn gyfredol;

b

cadw pob cofnod yn ddiogel;

c

gwneud trefniadau er mwyn i’r cofnodion barhau i gael eu cadw’n ddiogel os bydd y gwasanaeth yn cau;

d

yn achos cofnodion am blentyn sy’n cael ei letya mewn gwasanaeth cartref gofal a ddarperir yn gyfan gwbl neu’n bennaf i blant, sicrhau bod y cofnodion yn cael eu dosbarthu i’r awdurdod lleoli pan fo’r gwasanaeth yn peidio â chael ei ddarparu mewn cysylltiad â’r plentyn y mae’r cofnodion yn ymwneud ag ef;

e

gwneud y cofnodion ar gael i’r rheoleiddiwr gwasanaethau ar gais;

f

cadw cofnodion sy’n ymwneud ag oedolion am dair blynedd o ddyddiad y cofnod diwethaf;

g

cadw cofnodion sy’n ymwneud â phlant am bymtheng mlynedd o ddyddiad y cofnod diwethaf, oni bai bod y cofnodion yn cael eu dychwelyd i’r awdurdod lleoli yn unol ag is-baragraff (d);

h

sicrhau bod unigolion sy’n defnyddio’r gwasanaeth—

i

yn gallu cael mynediad i’w cofnodion; a

ii

yn cael eu gwneud yn ymwybodol eu bod yn gallu cael mynediad i’w cofnodion.

Annotations:
Commencement Information
I1

Rhl. 59 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

HysbysiadauI260

1

Rhaid i’r darparwr gwasanaeth hysbysu’r rheoleiddiwr gwasanaethau am y digwyddiadau a bennir yn Rhannau 1 a 2 o Atodlen 3.

2

Pan fo’r darparwr gwasanaeth yn darparu gwasanaeth cartref gofal i blant, rhaid i’r darparwr—

a

hysbysu’r awdurdod lleoli am y digwyddiadau a bennir yn Rhan 3 o Atodlen 3;

b

hysbysu’r awdurdod lleol ar gyfer yr ardal y mae’r cartref ynddi am y digwyddiadau a bennir yn Rhan 4 o Atodlen 3;

c

hysbysu’r swyddog heddlu priodol am y digwyddiadau a bennir yn Rhan 5 o Atodlen 3;

d

hysbysu’r bwrdd iechyd y mae’r cartref yn ei ardal am y digwyddiadau a bennir yn Rhan 6 o Atodlen 3.

3

Rhaid i’r hysbysiadau sy’n ofynnol gan baragraffau (1) a (2) gynnwys manylion y digwyddiad.

4

Oni nodir fel arall, rhaid i hysbysiadau gael eu gwneud yn ddi-oed ac yn ysgrifenedig.

5

Rhaid i hysbysiadau gael eu gwneud yn y modd a’r ffurf sy’n ofynnol gan y rheoleiddiwr gwasanaethau.

Annotations:
Commencement Information
I2

Rhl. 60 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

Hysbysu mewn cysylltiad â phlant sy’n cael eu derbyn i fan, neu ei ryddhau o fan, y darperir llety i blant ynddoI361

1

Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo’r darparwr gwasanaeth wedi ei gofrestru i ddarparu—

a

gwasanaeth cartref gofal sy’n darparu llety i blant (y cyfeirir ato yn y rheoliad hwn fel “gwasanaeth cartref gofal i blant”), neu

b

gwasanaeth llety diogel.

2

Yn y rheoliad hwn, mae cyfeiriadau at “y llety” yn gyfeiriadau at y man y mae gwasanaeth cartref gofal i blant neu wasanaeth llety diogel wedi ei ddarparu ynddo.

3

Rhaid i’r darparwr gwasanaeth hysbysu, yn ddi-oed, yr awdurdod lleol ar gyfer yr ardal y mae’r llety ynddi, am bob plentyn sy’n cael ei dderbyn i’r llety ac am bob plentyn sy’n cael ei ryddhau o’r llety.

4

Nid yw’n ofynnol i’r darparwr gwasanaeth hysbysu’r awdurdod lleol ym mharagraff (3) os yr awdurdod lleol hwnnw yw’r awdurdod lleoli ar gyfer y plentyn o dan sylw hefyd.

5

Rhaid i hysbysiad o dan y rheoliad hwn fod yn ysgrifenedig a rhaid iddo ddatgan—

a

enw a dyddiad geni’r plentyn;

b

a yw llety wedi ei ddarparu i’r plentyn o dan adran 76 neu 77 o Ddeddf 2014 neu, yn achos plentyn a leolir gan awdurdod lleol yn Lloegr, a yw llety yn cael ei ddarparu i’r plentyn o dan adran 20 neu 21 o Ddeddf Plant 1989;

c

a yw’r plentyn yn ddarostyngedig i orchymyn gofal neu orchymyn goruchwylio o dan adran 31 o Ddeddf Plant 1989;

d

manylion cyswllt—

i

awdurdod lleoli’r plentyn; a

ii

y swyddog adolygu annibynnol a benodir ar gyfer achos y plentyn; ac

e

a oes gan y plentyn ddatganiad anghenion addysgol arbennig neu gynllun addysg, iechyd a gofal ac, os felly, fanylion yr awdurdod lleol a chanddo gyfrifoldeb am gynnal y datganiad anghenion addysgol arbennig neu’r cynllun addysg, iechyd a gofal.

6

Yn y rheoliad hwn, mae i “cynllun addysg, iechyd a gofal” yr ystyr a roddir i “EHC plan” yn adran 37(2) (cynlluniau addysg, iechyd a gofal) o Ddeddf Plant a Theuluoedd 201422.

Annotations:
Commencement Information
I3

Rhl. 61 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

Hysbysu mewn cysylltiad â marwolaeth plentyn sy’n cael ei letya mewn cartref diogel i blantI462

1

Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo plentyn y darperir gwasanaeth llety diogel23 iddo yn marw.

2

Mae unrhyw ofynion a osodir gan y rheoliad hwn yn gymwys i ddarparwr gwasanaeth y gwasanaeth llety diogel a oedd yn darparu llety i’r plentyn ar adeg ei farwolaeth.

3

Os yw’r rheoliad hwn yn gymwys, rhaid i’r darparwr gwasanaeth yn ddi-oed hysbysu—

a

swyddfa briodol y rheoleiddiwr gwasanaethau;

b

yr awdurdod lleoli;

c

yr awdurdod lleol y mae’r gwasanaeth llety diogel yn ei ardal;

d

y Bwrdd Iechyd Lleol y mae’r gwasanaeth llety diogel yn ei ardal;

e

Ombwdsmon Carchardai a Phrofiannaeth Cymru a Lloegr (“yr OCPh”); ac

f

rhiant y plentyn neu’r person a chanddo gyfrifoldeb rhiant dros y plentyn.

4

Rhaid i’r darparwr gwasanaeth ganiatáu i’r OCPh ymchwilio i’r farwolaeth drwy—

a

rhoi i’r OCPh fynediad i—

i

mangre’r gwasanaeth; a

ii

dogfennau a chofnodion y gwasanaeth;

b

caniatáu i’r OCPh fynd â chopïau, o’r fangre, o unrhyw ddogfennau neu gofnodion y ceir mynediad iddynt o dan is-baragraff (a)(ii) ar yr amod bod gan yr OCPh drefniadau diogel ar gyfer gwneud hynny; ac

c

os byddant yn cydsynio, ganiatáu i’r OCPh gyf-weld yn breifat ag unrhyw blant, rhieni (neu bersonau a chanddynt gyfrifoldeb rhiant) neu berthnasau, neu bersonau sy’n gweithio yn y gwasanaeth.

5

Rhaid i hysbysiad o dan y rheoliad hwn—

a

cynnwys manylion—

i

amgylchiadau’r farwolaeth;

ii

y personau, y cyrff neu’r sefydliadau eraill (os oes rhai) y mae’r darparwr gwasanaeth wedi eu hysbysu neu’n bwriadu eu hysbysu; a

iii

unrhyw gamau gweithredu y mae’r darparwr gwasanaeth wedi eu cymryd neu’n bwriadu eu cymryd o ganlyniad i’r farwolaeth;

b

cael ei wneud neu ei gadarnhau yn ysgrifenedig.

6

Yn y rheoliad hwn, mae cyfeiriadau at yr OCPh yn cynnwys person sydd wedi ei benodi gan, neu sy’n gweithio ar ran, yr OCPh at ddibenion ymchwiliad o dan baragraff (2).

Annotations:
Commencement Information
I4

Rhl. 62 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

Gwrthdaro buddiannau (gan gynnwys gwaharddiadau)I563

1

Rhaid i’r darparwr gwasanaeth gael trefniadau effeithiol yn eu lle i nodi, cofnodi a rheoli achosion posibl o wrthdaro buddiannau.

2

Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau nad yw person a chanddo fuddiant ariannol ym mherchnogaeth gwasanaeth cartref gofal yn gweithredu fel ymarferydd meddygol ar gyfer unrhyw unigolyn y darperir y gwasanaeth hwnnw ar ei gyfer.

Annotations:
Commencement Information
I5

Rhl. 63 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

Polisi a gweithdrefn gwynoI664

1

Rhaid i’r darparwr gwasanaeth gael polisi cwyno yn ei le a sicrhau bod y gwasanaeth yn cael ei weithredu yn unol â’r polisi hwnnw.

2

Rhaid i’r darparwr gwasanaeth gael trefniadau effeithiol yn eu lle ar gyfer ymdrin â chwynion gan gynnwys trefniadau ar gyfer—

a

nodi cwynion ac ymchwilio iddynt;

b

rhoi ymateb priodol i berson sy’n gwneud cwyn, os yw’n rhesymol ymarferol cysylltu â’r person hwnnw;

c

sicrhau bod camau gweithredu priodol yn cael eu cymryd yn dilyn ymchwiliad;

d

cadw cofnodion sy’n ymwneud â’r materion yn is-baragraffau (a) i (c).

3

Rhaid i’r darparwr gwasanaeth ddarparu crynodeb o gwynion, ymatebion a chamau gweithredu dilynol i’r rheoleiddiwr gwasanaethau o fewn 28 o ddiwrnodau i gael cais i wneud hynny.

4

Rhaid i’r darparwr gwasanaeth—

a

dadansoddi gwybodaeth sy’n ymwneud â chwynion a phryderon; a

b

rhoi sylw i’r dadansoddiad hwnnw, gan nodi unrhyw feysydd i’w gwella.

Annotations:
Commencement Information
I6

Rhl. 64 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

Chwythu’r chwibanI765

1

Rhaid i’r darparwr gwasanaeth gael trefniadau yn eu lle i sicrhau bod pob person sy’n gweithio yn y gwasanaeth (gan gynnwys unrhyw berson y caniateir iddo weithio fel gwirfoddolwr) yn gallu codi pryderon am faterion a all effeithio’n andwyol ar iechyd, diogelwch neu lesiant unigolion y darperir y gwasanaeth ar eu cyfer.

2

Rhaid i’r trefniadau hyn gynnwys—

a

cael polisi chwythu’r chwiban yn ei le a gweithredu yn unol â’r polisi hwnnw, a

b

sefydlu trefniadau i alluogi a chefnogi pobl sy’n gweithio yn y gwasanaeth i godi pryderon o’r fath.

3

Rhaid i’r darparwr sicrhau bod y trefniadau sy’n ofynnol o dan y rheoliad hwn yn cael eu gweithredu’n effeithiol.

4

Pan godir pryder, rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau—

a

yr ymchwilir i’r pryder;

b

y cymerir camau priodol yn dilyn ymchwiliad;

c

y cedwir cofnod o’r ddau bwynt uchod.