RHAN 14Gofynion ar ddarparwyr gwasanaethau o ran cyflenwadau, hylendid, iechyd a diogelwch a meddyginiaethau
CyflenwadauI155
Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod cyflenwadau ar gael o nifer digonol ac o fath addas i gyflenwi’r gwasanaeth yn effeithiol ac i ddiwallu anghenion gofal a chymorth yr unigolion.
Hylendid a rheoli heintiauI256
1
Rhaid i’r darparwr gwasanaeth gael trefniadau yn eu lle i sicrhau—
a
safonau hylendid boddhaol wrth gyflenwi’r gwasanaeth;
b
bod gwastraff cyffredinol a chlinigol yn cael ei waredu’n briodol.
2
Rhaid i’r darparwr gwasanaeth gael polisïau a gweithdrefnau yn eu lle ar gyfer rheoli heintiau a lleihau heintiau rhag lledaenu a rhaid iddo sicrhau y darperir y gwasanaeth yn unol â’r polisïau hyn a’r gweithdrefnau hyn.
Iechyd a diogelwchI357
Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod unrhyw risgiau i iechyd a diogelwch unigolion yn cael eu nodi a’u lleihau i’r graddau y bo’n rhesymol ymarferol.
MeddyginiaethauI458
1
Rhaid i’r darparwr gwasanaeth gael trefniadau yn eu lle i sicrhau bod meddyginiaethau yn cael eu storio a’u gweinyddu’n ddiogel.
2
Rhaid i’r trefniadau hyn gynnwys y trefniadau ar gyfer—
a
cynnal cyflenwad digonol o feddyginiaethau;
b
archebu, ailarchebu, cofnodi, trin a gwaredu meddyginiaethau yn effeithiol;
c
archwilio storio a gweinyddu meddyginiaethau yn rheolaidd.
3
Rhaid i’r darparwr gwasanaeth gael polisi a gweithdrefnau yn eu lle mewn perthynas â storio a gweinyddu meddyginiaethau yn ddiogel a rhaid iddo sicrhau y darperir y gwasanaeth yn unol â’r polisi hwn a’r gweithdrefnau hyn.