RHAN 13Gofynion ychwanegol ar ddarparwyr gwasanaethau mewn cysylltiad â mangreoedd – llety newydd
Cymhwyso Rhan 13I149
1
Mae’r Rhan hon yn gymwys i ddarparwyr gwasanaethau sydd wedi eu cofrestru i ddarparu gwasanaeth llety a bod y fangre a ddefnyddir ar gyfer darparu’r gwasanaeth yn dod o fewn un o’r categorïau ym mharagraff (2). Ond nid yw’r Rhan hon yn gymwys os yw’r gwasanaeth yn cynnwys darparu llety i bedwar neu lai o unigolion.
2
Y categorïau yw—
Categori A: Mae’r fangre a ddefnyddir ar gyfer darparu’r gwasanaeth yn adeilad newydd neu adeilad presennol sydd wedi cael ei addasu at ddiben darparu’r gwasanaeth, ac, yn y naill achos neu’r llall, nad yw’r adeilad wedi cael ei ddefnyddio o’r blaen at ddiben darparu gwasanaeth llety.
Categori B: Mae’r fangre yn estyniad i adeilad sy’n cael ei ddefnyddio at ddiben darparu’r gwasanaeth mewn man a bennir fel amod i gofrestriad y darparwr gwasanaeth.
Categori C: Mae’r fangre yn adeilad a oedd heb ei feddiannu yn union cyn cofrestriad y darparwr gwasanaeth ond a oedd yn cael ei ddefnyddio o’r blaen at ddiben darparu gwasanaeth llety mewn man a bennir fel amod i gofrestriad darparwr gwasanaeth arall.
3
Os yw’r Rhan hon yn gymwys, rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau y cydymffurfir â gofynion rheoliadau 50 i 54.
4
Yn y rheoliad hwn, ystyr “gwasanaeth llety” yw gwasanaeth cartref gofal, gwasanaeth llety diogel neu wasanaeth canolfan breswyl i deuluoedd.
Gofynion ychwanegol – ystafelloedd ymolchi en-suiteI250
Rhaid i bob ystafell wely a ddefnyddir ar gyfer darparu’r gwasanaeth gael ystafell ymolchi en-suite sy’n cynnwys basn golchi dwylo, toiled a chawod hygyrch.
Gofynion ychwanegol – maint ystafelloeddI351
1
Rhaid i bob ystafell a ddefnyddir ar gyfer darparu’r gwasanaeth gael o leiaf 12 o fetrau sgwâr o le llawr y gellir ei ddefnyddio oni bai bod paragraff (2) neu (3) yn gymwys.
2
Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo rhaid i’r person sy’n byw yn yr ystafell ddefnyddio cadair olwyn yn barhaol ac yn gyson oherwydd natur ei anabledd.
3
Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo ystafell wely yn cael ei rhannu.
4
Os yw paragraff (2) yn gymwys, rhaid i’r ystafell wely gael o leiaf 13.5 o fetrau sgwâr o le llawr y gellir ei ddefnyddio.
5
Os yw paragraff (3) yn gymwys, rhaid i’r ystafell wely gael o leiaf 16 o fetrau sgwâr o le llawr y gellir ei ddefnyddio.
Gofynion ychwanegol – lle cymunedolI452
Rhaid i’r lle eistedd, hamdden a bwyta a ddefnyddir ar gyfer darparu’r gwasanaeth yn unol â rheoliad 44(6) fod o leiaf—
a
4.1 metr sgwâr ar gyfer pob unigolyn;
b
5.1 metr sgwâr ar gyfer pobl sy’n defnyddio cadair olwyn.
Gofynion ychwanegol – lle yn yr awyr agoredI553
Rhaid i’r tiroedd allanol a ddefnyddir ar gyfer darparu’r gwasanaeth yn unol â rheoliad 44(10)—
a
bod yn hygyrch i unigolion sy’n defnyddio cadair olwyn neu sydd â phroblemau symudedd eraill,
b
bod â digon o seddi addas, ac
c
wedi eu dylunio i ddiwallu anghenion pob unigolyn gan gynnwys y rhai sydd â namau corfforol, synhwyraidd a gwybyddol.
Gofynion ychwanegol – lifft i deithwyrI654
Pan fo’r llety a ddefnyddir ar gyfer darparu’r gwasanaeth ar fwy nag un llawr a bod hyn yn gyson â’r datganiad o ddiben ar gyfer y gwasanaeth, rhaid i lifft i deithwyr fod ar gael.