RHAN 10Gofynion ar ddarparwyr gwasanaethau o ran staffio

Staffio - gofynion cyffredinolI134

1

Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau ar bob adeg fod nifer digonol o staff sydd â’r cymwysterau, yr hyfforddiant, y sgiliau, y cymhwysedd a’r profiad addas wedi eu defnyddio i weithio yn y gwasanaeth, gan roi sylw—

a

i’r datganiad o ddiben ar gyfer y gwasanaeth;

b

i anghenion gofal a chymorth yr unigolion;

c

i gefnogi unigolion i gyflawni eu canlyniadau personol;

d

i ofynion y rheoliadau yn Rhannau 3 i 15.

2

Yn achos gwasanaeth cartref gofal pan fo unrhyw unigolyn y darperir llety iddo wedi cael ei asesu yn rhywun y mae angen gofal nyrsio 24 awr arno, rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod nifer digonol o nyrsys cofrestredig sydd â’r cymwysterau addas wedi eu defnyddio i weithio yn y gwasanaeth ar bob adeg.

3

Rhaid i’r darparwr gwasanaeth allu dangos y ffordd y mae’r penderfyniad wedi ei wneud o ran—

a

y mathau o staff a ddefnyddir, a

b

niferoedd y staff o bob math a ddefnyddir.

4

Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod trefniadau yn cael eu gwneud ar gyfer cefnogi a datblygu staff.

5

Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau nad yw cyflogi neu gymryd ymlaen unrhyw bersonau ar sail dros dro neu ar gontract oriau heb eu gwarantu yn atal unigolion rhag cael y parhad gofal y mae’r darparwr wedi penderfynu yn unol â rheoliad 22 ei fod yn rhesymol i ddiwallu eu hanghenion am ofal a chymorth.

6

Ym mharagraff (5) o’r rheoliad hwn, mae i “contract oriau heb eu gwarantu” yr un ystyr ag yn rheoliad 42.

Annotations:
Commencement Information
I1

Rhl. 34 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

Addasrwydd staffI235

1

Ni chaiff y darparwr gwasanaeth—

a

cyflogi person o dan gontract cyflogaeth i weithio yn y gwasanaeth oni bai bod y person hwnnw yn addas i wneud hynny;

b

caniatáu i wirfoddolwr weithio yn y gwasanaeth oni bai bod y person hwnnw yn addas i wneud hynny;

c

caniatáu i unrhyw berson arall weithio yn y gwasanaeth mewn swydd y gall, yng nghwrs ei ddyletswyddau, gael cysylltiad rheolaidd ynddi ag unigolion sy’n cael gofal a chymorth neu â phersonau eraill sy’n hyglwyf oni bai bod y person hwnnw yn addas i wneud hynny.

2

At ddibenion paragraff (1), nid yw person yn addas i weithio yn y gwasanaeth oni bai—

a

bod y person yn addas o ran ei uniondeb ac o gymeriad da;

b

bod gan y person y cymwysterau, y sgiliau, y cymhwysedd a’r profiad sy’n angenrheidiol ar gyfer y gwaith y mae i’w wneud;

c

bod y person oherwydd ei iechyd, ar ôl i addasiadau rhesymol gael eu gwneud, yn gallu cyflawni’n briodol y tasgau sy’n rhan annatod o’r gwaith y mae wedi ei gyflogi neu ei gymryd ymlaen ar ei gyfer;

d

bod y person wedi darparu gwybodaeth neu ddogfennaeth lawn a boddhaol, yn ôl y digwydd, mewn cysylltiad â phob un o’r materion a bennir yn Rhan 1 i Atodlen 1 a bod yr wybodaeth hon neu’r ddogfennaeth hon ar gael yn y gwasanaeth i’r rheoleiddiwr gwasanaethau edrych arni;

e

pan fo’r person wedi ei gyflogi gan y darparwr gwasanaeth i reoli’r gwasanaeth, fod y person wedi ei gofrestru fel rheolwr gofal cymdeithasol â Gofal Cymdeithasol Cymru;

f

pan fo’r person wedi ei gyflogi gan y darparwr gwasanaeth i weithio yn rhinwedd ac eithrio fel rheolwr ac yng nghwrs ei gyflogaeth fod y person yn darparu gofal a chymorth i unrhyw berson mewn cysylltiad—

i

â gwasanaeth cartref gofal o fewn ystyr Rhan 1 o’r Ddeddf a ddarperir yn gyfan gwbl neu’n bennaf i blant; neu

ii

â gwasanaeth llety diogel o fewn ystyr Rhan 1 o’r Ddeddf,

fod y person wedi ei gofrestru fel gweithiwr gofal cymdeithasol â Gofal Cymdeithasol Cymru heb fod yn hwyrach na’r dyddiad perthnasol (gweler paragraff (8) am ystyr “y dyddiad perthnasol”).

3

Rhaid i gais gael ei wneud ar gyfer y dystysgrif y cyfeirir ati ym mharagraffau 2 a 3 o Atodlen 1 (y cyfeirir ati yn y rheoliad hwn fel tystysgrif GDG) gan neu ar ran y darparwr gwasanaeth at ddiben asesu addasrwydd person ar gyfer y swydd y cyfeirir ati ym mharagraff (1). Ond nid yw’r gofyniad hwn yn gymwys os yw’r person sy’n gweithio yn y gwasanaeth wedi ei gofrestru â gwasanaeth diweddaru’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (y cyfeirir ato yn y rheoliad hwn fel gwasanaeth diweddaru’r GDG).

4

Pan fo person sy’n cael ei ystyried ar gyfer swydd y cyfeirir ati ym mharagraff (1) wedi ei gofrestru â gwasanaeth diweddaru’r GDG, rhaid i’r darparwr gwasanaeth wirio statws tystysgrif GDG y person at ddiben asesu addasrwydd y person hwnnw ar gyfer y swydd honno.

5

Pan fo person a benodir i swydd y cyfeirir ati ym mharagraff (1) wedi ei gofrestru â gwasanaeth diweddaru’r GDG, rhaid i’r darparwr gwasanaeth wirio statws tystysgrif GDG y person o leiaf bob blwyddyn.

6

Pan nad yw person a benodir i swydd y cyfeirir ati ym mharagraff (1) wedi ei gofrestru â gwasanaeth diweddaru’r GDG, rhaid i’r darparwr gwasanaeth wneud cais am dystysgrif newydd GDG mewn cysylltiad â’r person hwnnw o fewn tair blynedd i ddyroddi’r dystysgrif y gwneir cais amdani yn unol â pharagraff (3) ac wedi hynny rhaid i geisiadau pellach o’r fath gael eu gwneud o leiaf bob tair blynedd.

7

Os nad yw unrhyw berson sy’n gweithio yn y gwasanaeth yn addas i weithio yn y gwasanaeth mwyach o ganlyniad i beidio â bodloni un neu ragor o’r gofynion ym mharagraff (2), rhaid i’r darparwr gwasanaeth—

a

cymryd camau gweithredu angenrheidiol a chymesur i sicrhau y cydymffurfir â’r gofynion perthnasol;

b

pan fo’n briodol, roi gwybod—

i

i’r corff rheoleiddiol neu broffesiynol perthnasol;

ii

i’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

8

Ym mharagraff (2)(f) o’r rheoliad hwn, “y dyddiad perthnasol” yw naill ai—

a

chwe mis o’r dyddiad y dechreuodd y person ei gyflogaeth, neu

b

dyddiad diweddarach y mae’r rheoleiddiwr gwasanaethau yn cytuno arno o dan amgylchiadau eithriadol.

9

Yn y rheoliad hwn, ystyr “y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd” (“the Disclosure and Barring Service”) a’r “GDG” (“DBS”) yw’r corff a sefydlir gan adran 1 o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 200621.

Annotations:
Commencement Information
I2

Rhl. 35 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

Cefnogi a datblygu staffI336

1

Rhaid i’r darparwr gwasanaeth gael polisi yn ei le ar gyfer cefnogi a datblygu staff.

2

Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod unrhyw berson sy’n gweithio yn y gwasanaeth (gan gynnwys person y caniateir iddo weithio fel gwirfoddolwr)—

a

yn cael cyfnod sefydlu sy’n briodol i’w rôl;

b

yn cael ei wneud yn ymwybodol o’i gyfrifoldebau ei hun a chyfrifoldebau staff eraill.

c

yn cael ei oruchwylio a’i arfarnu’n briodol;

d

yn cael hyfforddiant craidd sy’n briodol i’r gwaith sydd i gael ei wneud ganddo;

e

yn cael hyfforddiant arbenigol fel y bo’n briodol;

f

yn cael cymorth a chynhorthwy i gael unrhyw hyfforddiant pellach sy’n briodol i’r gwaith y mae’n ei wneud.

3

Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod unrhyw berson a gyflogir i weithio yn y gwasanaeth yn cael ei gefnogi i gynnal ei gofrestriad â’r corff rheoleiddiol neu alwedigaethol priodol.

Annotations:
Commencement Information
I3

Rhl. 36 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

Cydymffurfio â chod ymarfer y cyflogwrI437

Rhaid i’r darparwr gwasanaeth lynu wrth y cod ymarfer ar y safonau ymddygiad ac ymarfer a ddisgwylir oddi wrth bersonau sy’n cyflogi neu sy’n ceisio cyflogi gweithwyr gofal cymdeithasol, y mae’n ofynnol i Ofal Cymdeithasol Cymru ei gyhoeddi o dan adran 112(1)(b) o’r Ddeddf.

Annotations:
Commencement Information
I4

Rhl. 37 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

Gwybodaeth ar gyfer staffI538

1

Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau y darperir gwybodaeth i bob person sy’n gweithio yn y gwasanaeth (gan gynnwys unrhyw berson y caniateir iddo weithio fel gwirfoddolwr) am y gwasanaeth a’r ffordd y caiff ei ddarparu.

2

Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod trefniadau yn eu lle i wneud staff yn ymwybodol o unrhyw godau ymarfer ynghylch y safonau ymddygiad a ddisgwylir oddi wrth weithwyr gofal cymdeithasol, y mae’n ofynnol i Ofal Cymdeithasol Cymru eu cyhoeddi o dan adran 112(1)(a) o’r Ddeddf.

Annotations:
Commencement Information
I5

Rhl. 38 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

Gweithdrefnau disgybluI639

1

Rhaid i’r darparwr gwasanaeth roi gweithdrefn ddisgyblu yn ei lle a’i gweithredu.

2

Rhaid i’r weithdrefn ddisgyblu gynnwys—

a

darpariaeth ar gyfer atal dros dro, a chymryd camau gweithredu heb fod mor bell ag atal dros dro, gyflogai er budd diogelwch neu lesiant pobl sy’n defnyddio’r gwasanaeth;

b

darpariaeth bod methiant ar ran cyflogai i adrodd am achos o gamdriniaeth, neu ar amheuaeth o gamdriniaeth, i berson priodol yn sail dros ganiatáu cychwyn achos disgyblu.

3

At ddiben paragraff (2)(b), person priodol yw—

a

y darparwr gwasanaeth,

b

yr unigolyn cyfrifol,

c

swyddog i’r rheoleiddiwr gwasanaethau,

d

swyddog i’r awdurdod lleol ar gyfer yr ardal y darperir y gwasanaeth ynddi,

e

yn achos cam-drin neu o amheuaeth o gam-drin plentyn, swyddog i’r Gymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant, neu

f

swyddog heddlu.