ATODLEN 2Gwybodaeth a materion eraill sydd i’w cynnwys mewn hysbysiad pan fo’r amodau gofal plant neu’r amodau swyddfa bost yn gymwys
1
Enw, cyfeiriad (gan gynnwys cod post), rhif ffacs (pan fo hynny’n gymwys), rhif ffôn a chyfeiriad post electronig (pan fo hynny’n gymwys) y trethdalwr.
2
Cyfeiriad (gan gynnwys cod post) yr hereditament y gwneir cais am ryddhad ardrethi i fusnesau bach mewn cysylltiad ag ef a, phan fo hynny’n hysbys, rif y cyfrif ardrethu annomestig.
3
Yn achos mangre a ddefnyddir ar gyfer gofal plant—
a
cadarnhad—
i
bod yr hereditament a grybwyllir ym mharagraff 2 yn cael ei ddefnyddio’n gyfan gwbl at ddibenion gofal plant fel a ddisgrifir yn y Gorchymyn hwn;
ii
nad yw’r hereditament yn hereditament a eithrir fel y’i disgrifir yn y Gorchymyn hwn;
iii
bod yr hereditament yn cael ei feddiannu’n gyfan gwbl; a
b
enw a chyfeiriad y darparwr cofrestredig a’i rif cofrestru.
4
Yn achos swyddfa bost, cadarnhad bod yr hereditament a grybwyllir ym mharagraff 2 yn cael ei ddefnyddio’n gyfan gwbl neu’n rhannol at ddibenion swyddfa bost fel a ddisgrifir yn y Gorchymyn hwn.
5
Cadarnhad o’r naill neu’r llall o’r canlynol—
a
y dyddiad pryd y cafodd yr hereditament ei ddefnyddio gyntaf fel a ddisgrifir yn yr hysbysiad a’i fod wedi parhau i gael ei ddefnyddio felly hyd at ddyddiad yr hysbysiad; neu
b
y dyddiad y bydd yr hereditament yn cael ei ddefnyddio gyntaf fel a ddisgrifir uchod.
6
Ymgymeriad gan y trethdalwr (neu os nad y trethdalwr yw’r person sy’n llofnodi’r hysbysiad, ymgymeriad ar ran y trethdalwr) y bydd y trethdalwr, cyn gynted ag y bo’n ymarferol, yn ysgrifennu i hysbysu’r awdurdod bilio os yw’n ystyried y gallai beidio â bod yn gymwys mwyach i gael rhyddhad ardrethi o dan y Gorchymyn hwn.
7
Awdurdodiad gan y trethdalwr yn awdurdodi’r awdurdod bilio y rhoddir yr hysbysiad iddo i gaffael gan unrhyw berson unrhyw wybodaeth y mae’r awdurdod yn ystyried ei bod yn berthnasol at ddibenion cadarnhau unrhyw wybodaeth a roddir yn yr hysbysiad neu at ddibenion sicrhau mewn unrhyw ddull arall gymhwystra’r trethdalwr i gael rhyddhad mewn cysylltiad â’r hereditament a grybwyllir ym mharagraff 2.
8
Llofnod y trethdalwr neu’r person sydd wedi ei awdurdodi i lofnodi ar ran y trethdalwr.
9
Disgrifiad o swyddogaeth y person sy’n llofnodi’r hysbysiad.
10
Dyddiad yr hysbysiad.