RHAN ACyffredinol
Enwi, cychwyn a chymhwyso1
1
Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) 2017.
2
Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 8 Ionawr 2018 ond mae’n cael effaith o 1 Ebrill 2018.
3
Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
Dehongli2
Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “blwyddyn ariannol berthnasol” (“relevant financial year”) yw’r flwyddyn ariannol y mae trethdalwr wedi cyflwyno hysbysiad mewn cysylltiad â hi yn unol ag erthygl 14;
mae “cyfarpar cyfathrebiadau electronig” (“electronic communications apparatus”) yn cynnwys—
- a
cyfarpar a ddyluniwyd neu a addaswyd i’w ddefnyddio mewn cysylltiad â darparu rhwydwaith cyfathrebiadau electronig;
- b
cyfarpar a ddyluniwyd neu a addaswyd at ddefnydd anfon neu gael cyfathrebiadau neu signalau eraill a drosglwyddir drwy gyfrwng rhwydwaith cyfathrebiadau electronig, neu sy’n cynnwys y defnydd hwnnw;
- c
llinellau;
- d
strwythurau eraill (gan gynnwys strwythurau nad ydynt ond yn rhan o adeilad) neu bethau a ddefnyddir, a ddyluniwyd neu a addaswyd i’w defnyddio mewn cysylltiad â darparu rhwydwaith cyfathrebiadau electronig; ac
- e
unrhyw offer atodol a gaiff ei feddiannu at ddiben person a drwyddedir o dan adran 8 o Ddeddf Telegraffiaeth Ddiwifr 20063 neu berson y rhoddwyd iddo fynediad sbectrwm cydnabyddedig o dan adran 18 o’r Ddeddf honno, a dim ond ar gyfer hynny;
- a
mae i “cyfathrebiad electronig” yr ystyr a roddir i “electronic communication” yn adran 15(1) o Ddeddf Cyfathrebiadau Electronig 20004;
ystyr “Deddf 1988” (“the 1988 Act”) yw Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988;
ystyr “hereditament a eithrir” (“excepted hereditament”) yw hereditament—
- a
a ddefnyddir ar gyfer arddangos hysbysebion, parcio cerbydau modur, gweithfeydd trin carthion neu gyfarpar cyfathrebiadau electronig, a dim ond ar gyfer hynny;
- b
sy’n gaban glan môr neu’n swyddfa bost;
- c
y mae naill ai baragraff (a) neu (b) o adran 43(6) o Ddeddf 19885 yn gymwys iddo (elusennau neu glybiau chwaraeon cymunedol amatur);
- d
y mae naill ai baragraff (a) neu (b) o adran 47(5B) o Ddeddf 19886 yn gymwys iddo (sefydliadau dielw);
- e
sy’n hereditament a eithrir fel y diffinnir “excepted hereditament” yn adran 47(9) o Ddeddf 19887;
- f
sy’n hereditament y Goron fel y diffinnir “Crown hereditament” yn adran 65A(4) o Ddeddf 19888;
- a
ystyr “hereditament cymwys” (“qualifying hereditament”) yw hereditament sy’n dod o fewn erthygl 12(1)(c) o’r Gorchymyn hwn;
ystyr “llinell” (“line”) yw unrhyw wifren, unrhyw gebl, unrhyw diwb, unrhyw bibell neu unrhyw beth tebyg (gan gynnwys ei chasin neu ei gasin neu ei gorchudd neu ei orchudd) a ddyluniwyd neu a addaswyd i’w defnyddio neu ei ddefnyddio mewn cysylltiad â darparu unrhyw rwydwaith cyfathrebiadau electronig neu wasanaethau cyfathrebiadau electronig;
mae “llofnod” (“signature”), “llofnodi” (“sign”) neu “llofnodwyd” (“signed”), mewn perthynas â hysbysiad a gyflwynir yn unol ag erthygl 13(3) neu 14(6) drwy gyfathrebiad electronig, yn cynnwys ymgorffori yn yr hysbysiad, neu gysylltu’n rhesymegol â’r hysbysiad, lofnod electronig, fel y diffinnir “electronic signature” yn adran 7(2) o Ddeddf Cyfathrebiadau Electronig 2000;
ystyr “person sydd wedi ei awdurdodi i lofnodi ar ran y trethdalwr” (“person authorised to sign on behalf of the ratepayer”), pan fo’r trethdalwr—
- a
yn bartneriaeth, yw partner i’r bartneriaeth honno;
- b
yn ymddiriedolaeth, yw ymddiriedolwr i’r ymddiriedolaeth honno;
- c
yn gorff corfforaethol, yw cyfarwyddwr i’r corff hwnnw, ac
mewn unrhyw achos arall, yw person sydd wedi ei awdurdodi’n briodol i lofnodi ar ran y trethdalwr;
- a
nid yw “strwythur” (“structure”) ond yn cynnwys adeilad os mai unig ddiben yr adeilad hwnnw yw amgáu cyfarpar cyfathrebiadau electronig arall;
ystyr “swyddfa bost” (“post office”) yw swyddfa bost gyhoeddus o fewn yr ystyr a roddir i “public post office” gan adran 125(1) o Ddeddf Gwasanaethau Post 20009.
Darpariaeth gyffredinol ynghylch cymhwyso’r Gorchymyn hwn3
Pan fo hereditament yn cydymffurfio â’r amodau mewn mwy nag un o erthyglau 7, 8 neu 9, yr erthygl sy’n gymwys yw’r erthygl sy’n cael yr effaith mai’r swm isaf sydd i’w godi mewn cysylltiad â’r hereditament.
Hysbysu am hereditamentau lluosog4
Pan fo trethdalwr yn atebol i dalu ardrethi annomestig am fwy na dau hereditament a ddangosir ar restr ardrethu annomestig leol sy’n bodloni’r amodau yn erthygl 7 (amodau gwerth ardrethol) yn unig, rhaid i’r trethdalwr hysbysu’r awdurdod bilio ar gyfer y rhestr honno am yr hereditamentau hynny yn unol ag erthygl 13.
Uchafswm gwerth ardrethol ar gyfer rhyddhad ardrethi5
At ddibenion adran 43(4B)(b)(i) o Ddeddf 1988, y swm a ragnodir ar gyfer hereditament yw £20,500.