NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 8 Ionawr 2018 ond mae’n cael effaith o 1 Ebrill 2018, ac mae’n gymwys o ran Cymru.

Yn unol ag adran 43(4B) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1988 (“Deddf 1988”) mae’r Gorchymyn yn darparu ar gyfer cynllun rhyddhad ardrethi i fusnesau bach ar gyfer Cymru (“y cynllun”).

Mae’r Gorchymyn yn darparu y bydd hereditamentau sy’n bodloni’r amodau a nodir yn erthyglau 7 (amodau gwerth ardrethol); 8 (amodau gofal plant) neu 9 (amodau swyddfa bost) yn cael rhyddhad o dan y cynllun.

Mae Rhan A o’r Gorchymyn yn cynnwys darpariaethau cyffredinol gan gynnwys y diffiniad o hereditamentau sydd wedi eu heithrio rhag cael rhyddhad o dan y cynllun.

Mae erthygl 3 yn gwneud darpariaeth ynghylch cymhwyso’r Gorchymyn. Mae’n darparu, pan fo hereditament yn gymwys i gael rhyddhad gan ei fod yn bodloni’r amodau mewn mwy nag un o erthyglau 7, 8 neu 9, yna’r erthygl a fydd yn darparu’r swm mwyaf o ryddhad sydd i’w chymhwyso iddo.

O dan y cynllun, yn unol ag erthygl 12, pan fo trethdalwr yn atebol am fwy na dau hereditament ar restr ardrethu annomestig leol (“rhestr leol”) unigol, a’r hereditamentau hynny yn bodloni’r amodau gwerth ardrethol yn unig, bydd y trethdalwr yn cael rhyddhad am uchafswm o ddau hereditament o’r fath yn unig. Er mwyn cynorthwyo awdurdodau bilio i weinyddu’r cyfyngiad hwn, mae erthygl 4 yn ei gwneud yn ofynnol i drethdalwyr perthnasol hysbysu’r awdurdod bilio priodol am hereditamentau o’r fath.

Mae erthygl 5 yn rhagnodi £20,500 fel uchafswm y gwerth ardrethol ar gyfer hereditamentau sy’n gymwys i gael rhyddhad o dan y cynllun.

Mae Rhan B o’r Gorchymyn yn gwneud darpariaeth ynghylch y cynllun rhyddhad, ac mae erthyglau 7 i 9 yn rhagnodi’r amodau cymhwystra.

Mae erthyglau 10 i 12 yn rhagnodi swm E at ddibenion y fformiwla yn adran 43(4A)(b) o Ddeddf 1988. Mae’r fformiwla honno’n darparu’r mecanwaith ar gyfer cyfrifo swm yr ardrethi annomestig sy’n daladwy mewn cysylltiad â’r hereditamentau sy’n gymwys i gael rhyddhad o dan y cynllun.

Yn unol ag erthygl 11, mae cyfradd y rhyddhad y bydd hereditamentau yn ei gael fel a nodir yn y tabl eglurhaol isod—

Math o amod

Gwerth ardrethol (£)

Rhyddhad (%)

Gwerth ardrethol

0 i 6,000

100

Gwerth ardrethol

6,001 i 12,000

Wedi ei dapro o 100 i 0

Gofal plant

0 i 6,000

100

Gofal plant

6,001 i 20,500

Wedi ei dapro o 100 i 0

Swyddfa bost

0 i 9,000

100

Swyddfa bost

9,001 i 12,000

50

Yn unol ag erthygl 12 fodd bynnag, ni fydd trethdalwr ond yn gallu cael rhyddhad am hyd at ddau hereditament sy’n bodloni’r amodau gwerth ardrethol yn unig, ac sy’n ymddangos ar unrhyw restr leol unigol (y cyfeirir atynt yn yr erthygl fel hereditamentau cymwys). Yn unol ag erthygl 12(1)(b), rhaid diystyru unrhyw hereditamentau y mae trethdalwr yn atebol amdanynt, sy’n bodloni’r amodau gofal plant neu’r amodau swyddfa bost.

Er mwyn sicrhau bod trethdalwr yn parhau i gael y swm uchaf posibl o ryddhad o dan y cynllun, hyd yn oed pan fo darpariaethau erthygl 12 yn gymwys, mae erthygl 12(2) yn darparu y caiff y rhyddhad ei gymhwyso i’r ddau hereditament perthnasol sydd â’r “gwerthoedd tybiannol” uchaf. Cyfrifir y gwerth tybiannol ar gyfer hereditament yn unol ag erthygl 12(4) i (6). Mae erthygl 12(3) yn rhagnodi mai swm E ar gyfer unrhyw hereditamentau cymwys pellach fydd 1 (sy’n cyfateb i ryddhad o 0%).

Mae Rhan C o’r Gorchymyn yn darparu ar gyfer yr wybodaeth y mae’n rhaid ei chynnwys yn yr hysbysiadau sydd i’w rhoi i awdurdodau bilio, o fewn pa gyfnod y mae hysbysiadau o’r fath i’w cyflwyno a’r dull o’u cyflwyno.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn. Gellir cael copi oddi wrth yr Is-adran Cyllid Strategol Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.