RHAN ACyffredinol
Enwi, cychwyn a chymhwyso1
1
Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) 2017.
2
Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 8 Ionawr 2018 ond mae’n cael effaith o 1 Ebrill 2018.
3
Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
Dehongli2
Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “blwyddyn ariannol berthnasol” (“relevant financial year”) yw’r flwyddyn ariannol y mae trethdalwr wedi cyflwyno hysbysiad mewn cysylltiad â hi yn unol ag erthygl 14;
mae “cyfarpar cyfathrebiadau electronig” (“electronic communications apparatus”) yn cynnwys—
- a
cyfarpar a ddyluniwyd neu a addaswyd i’w ddefnyddio mewn cysylltiad â darparu rhwydwaith cyfathrebiadau electronig;
- b
cyfarpar a ddyluniwyd neu a addaswyd at ddefnydd anfon neu gael cyfathrebiadau neu signalau eraill a drosglwyddir drwy gyfrwng rhwydwaith cyfathrebiadau electronig, neu sy’n cynnwys y defnydd hwnnw;
- c
llinellau;
- d
strwythurau eraill (gan gynnwys strwythurau nad ydynt ond yn rhan o adeilad) neu bethau a ddefnyddir, a ddyluniwyd neu a addaswyd i’w defnyddio mewn cysylltiad â darparu rhwydwaith cyfathrebiadau electronig; ac
- e
unrhyw offer atodol a gaiff ei feddiannu at ddiben person a drwyddedir o dan adran 8 o Ddeddf Telegraffiaeth Ddiwifr 20063 neu berson y rhoddwyd iddo fynediad sbectrwm cydnabyddedig o dan adran 18 o’r Ddeddf honno, a dim ond ar gyfer hynny;
- a
mae i “cyfathrebiad electronig” yr ystyr a roddir i “electronic communication” yn adran 15(1) o Ddeddf Cyfathrebiadau Electronig 20004;
ystyr “Deddf 1988” (“the 1988 Act”) yw Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988;
ystyr “hereditament a eithrir” (“excepted hereditament”) yw hereditament—
- a
a ddefnyddir ar gyfer arddangos hysbysebion, parcio cerbydau modur, gweithfeydd trin carthion neu gyfarpar cyfathrebiadau electronig, a dim ond ar gyfer hynny;
- b
sy’n gaban glan môr neu’n swyddfa bost;
- c
y mae naill ai baragraff (a) neu (b) o adran 43(6) o Ddeddf 19885 yn gymwys iddo (elusennau neu glybiau chwaraeon cymunedol amatur);
- d
y mae naill ai baragraff (a) neu (b) o adran 47(5B) o Ddeddf 19886 yn gymwys iddo (sefydliadau dielw);
- e
sy’n hereditament a eithrir fel y diffinnir “excepted hereditament” yn adran 47(9) o Ddeddf 19887;
- f
sy’n hereditament y Goron fel y diffinnir “Crown hereditament” yn adran 65A(4) o Ddeddf 19888;
- a
ystyr “hereditament cymwys” (“qualifying hereditament”) yw hereditament sy’n dod o fewn erthygl 12(1)(c) o’r Gorchymyn hwn;
ystyr “llinell” (“line”) yw unrhyw wifren, unrhyw gebl, unrhyw diwb, unrhyw bibell neu unrhyw beth tebyg (gan gynnwys ei chasin neu ei gasin neu ei gorchudd neu ei orchudd) a ddyluniwyd neu a addaswyd i’w defnyddio neu ei ddefnyddio mewn cysylltiad â darparu unrhyw rwydwaith cyfathrebiadau electronig neu wasanaethau cyfathrebiadau electronig;
mae “llofnod” (“signature”), “llofnodi” (“sign”) neu “llofnodwyd” (“signed”), mewn perthynas â hysbysiad a gyflwynir yn unol ag erthygl 13(3) neu 14(6) drwy gyfathrebiad electronig, yn cynnwys ymgorffori yn yr hysbysiad, neu gysylltu’n rhesymegol â’r hysbysiad, lofnod electronig, fel y diffinnir “electronic signature” yn adran 7(2) o Ddeddf Cyfathrebiadau Electronig 2000;
ystyr “person sydd wedi ei awdurdodi i lofnodi ar ran y trethdalwr” (“person authorised to sign on behalf of the ratepayer”), pan fo’r trethdalwr—
- a
yn bartneriaeth, yw partner i’r bartneriaeth honno;
- b
yn ymddiriedolaeth, yw ymddiriedolwr i’r ymddiriedolaeth honno;
- c
yn gorff corfforaethol, yw cyfarwyddwr i’r corff hwnnw, ac
mewn unrhyw achos arall, yw person sydd wedi ei awdurdodi’n briodol i lofnodi ar ran y trethdalwr;
- a
nid yw “strwythur” (“structure”) ond yn cynnwys adeilad os mai unig ddiben yr adeilad hwnnw yw amgáu cyfarpar cyfathrebiadau electronig arall;
ystyr “swyddfa bost” (“post office”) yw swyddfa bost gyhoeddus o fewn yr ystyr a roddir i “public post office” gan adran 125(1) o Ddeddf Gwasanaethau Post 20009.
Darpariaeth gyffredinol ynghylch cymhwyso’r Gorchymyn hwn3
Pan fo hereditament yn cydymffurfio â’r amodau mewn mwy nag un o erthyglau 7, 8 neu 9, yr erthygl sy’n gymwys yw’r erthygl sy’n cael yr effaith mai’r swm isaf sydd i’w godi mewn cysylltiad â’r hereditament.
Hysbysu am hereditamentau lluosog4
Pan fo trethdalwr yn atebol i dalu ardrethi annomestig am fwy na dau hereditament a ddangosir ar restr ardrethu annomestig leol sy’n bodloni’r amodau yn erthygl 7 (amodau gwerth ardrethol) yn unig, rhaid i’r trethdalwr hysbysu’r awdurdod bilio ar gyfer y rhestr honno am yr hereditamentau hynny yn unol ag erthygl 13.
Uchafswm gwerth ardrethol ar gyfer rhyddhad ardrethi5
At ddibenion adran 43(4B)(b)(i) o Ddeddf 1988, y swm a ragnodir ar gyfer hereditament yw £20,500.
RHAN BRhyddhad
Amodau rhyddhad6
Yr amodau sydd i’w bodloni at ddibenion adran 43(4B)(b)(ii) o Ddeddf 1988 yw’r rhai a ragnodir yn erthyglau 7 i 9.
Amodau gwerth ardrethol7
Yr amodau gwerth ardrethol yw—
a
nad yw gwerth ardrethol yr hereditament yn fwy na £12,000;
b
nad yw’r hereditament yn hereditament a eithrir; ac
c
bod yr hereditament yn cael ei feddiannu’n gyfan gwbl.
Amodau gofal plant8
Yr amodau gofal plant yw—
a
bod yr hereditament yn cael ei ddefnyddio’n gyfan gwbl at ddibenion gwarchod plant neu ddarparu gofal dydd gan berson sydd wedi ei gofrestru o dan Ran 2 o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 201010;
b
nad yw’r hereditament yn hereditament a eithrir;
c
bod yr hereditament yn cael ei feddiannu’n gyfan gwbl;
d
nad yw gwerth ardrethol yr hereditament yn fwy nag £20,500; ac
e
bod y trethdalwr wedi rhoi hysbysiad i’r awdurdod bilio mewn cysylltiad â’r hereditament yn unol ag erthygl 14.
Amodau swyddfa bost9
Yr amodau swyddfa bost yw—
a
y defnyddir yr hereditament, neu ran o’r hereditament, at ddibenion swyddfa bost;
b
nad yw gwerth ardrethol yr hereditament yn fwy na £12,000;
c
bod yr hereditament yn cael ei feddiannu’n gyfan gwbl; a
d
bod y trethdalwr wedi rhoi hysbysiad i’r awdurdod bilio mewn cysylltiad â’r hereditament yn unol ag erthygl 14.
Swm E10
Mae swm E a ragnodir at ddibenion adran 44(9) o Ddeddf 1988 i’w bennu yn unol ag erthyglau 11 a 12.
Swm E pan na fo erthygl 12 yn gymwys11
1
Oni bai bod erthygl 12 yn gymwys (trethdalwr yn atebol am fwy na dau hereditament cymwys), pan fo’r amodau yn erthygl 7, 8 neu 9 wedi eu bodloni, E yw’r swm a bennir ym mharagraff (2), neu a gyfrifir yn unol â’r paragraff hwnnw.
2
Pan fo hereditament yn bodloni’r amodau a ragnodir gan yr erthygl a bennir yng ngholofn (1) o’r tabl isod, a gwerth ardrethol yr hereditament o fewn yr ystod yn y rhes gyfatebol yng ngholofn (2), E yw’r swm a bennir yn y rhes gyfatebol yng ngholofn (3), neu fel y’i cyfrifir ynddi.
(1) Erthygl | (2) Gwerth ardrethol (£) | (3) Swm E |
|---|---|---|
7 (gwerth ardrethol) | 0 i 6,000 | 5,000,000 |
7 (gwerth ardrethol) | 6,001 i 12,000 | Cyfrifir yn unol â pharagraff (3) o’r erthygl hon |
8 (gofal plant) | 0 i 6,000 | 5,000,000 |
8 (gofal plant) | 6,001 i 20,500 | Cyfrifir yn unol â pharagraff (4) o’r erthygl hon |
9 (swyddfa bost) | 0 i 9,000 | 5,000,000 |
9 (swyddfa bost) | 9,001 i 12,000 | 2 |
3
Cyfrifir swm E (ar gyfer hereditamentau sy’n bodloni’r amodau gwerth ardrethol neu’r amodau swyddfa bost) drwy rannu 6000 â’r ffigur a geir drwy dynnu 6000 o werth ardrethol yr hereditament a ddangosir yn y rhestr ardrethu annomestig leol ar gyfer y diwrnod hwnnw, wedi ei gyfrifo i dri lle degol (gan dalgrynnu i fyny neu i lawr fel y bo’n briodol).
4
Cyfrifir swm E (ar gyfer hereditamentau sy’n bodloni’r amodau gofal plant) drwy rannu 14,500 â’r ffigur a geir drwy dynnu 6000 o werth ardrethol yr hereditament a ddangosir yn y rhestr ardrethu annomestig leol ar gyfer y diwrnod hwnnw, wedi ei gyfrifo i dri lle degol (gan dalgrynnu i fyny neu i lawr fel y bo’n briodol).
Swm E pan fo trethdalwr yn atebol am fwy na dau hereditament cymwys a ddangosir ar restr ardrethu annomestig leol12
1
Mae’r erthygl hon yn gymwys—
a
i bob rhestr ardrethu annomestig leol (“rhestr”) ar wahân;
b
i hereditamentau nad ydynt yn bodloni’r amodau yn erthygl 8 neu 9 (yr amodau gofal plant neu’r amodau swyddfa bost) yn unig; ac
c
pan fo trethdalwr yn atebol i dalu ardrethi annomestig am fwy na dau hereditament a ddangosir am y diwrnod ar restr ac sy’n bodloni’r amodau yn erthygl 7 (amodau gwerth ardrethol) (“hereditamentau cymwys”).
2
Swm E ar gyfer y ddau hereditament cymwys sydd â’r gwerthoedd tybiannol uchaf, fel a bennir yn unol â pharagraffau (4) i (6), yw’r swm a bennir yn erthygl 11(2), neu a gyfrifir yn unol â’r erthygl honno.
3
Swm E ar gyfer unrhyw hereditamentau cymwys eraill yw 1.
4
Gwerth tybiannol hereditament cymwys sydd â gwerth ardrethol o £6,000 neu lai, yw A.
5
Cyfrifir gwerth tybiannol hereditament cymwys sydd â gwerth ardrethol o £6,001 neu fwy yn unol â’r fformiwla—
6
A yw gwerth ardrethol yr hereditament cymwys.
RHAN CAmrywiol
Hysbysiad a gyflwynir mewn perthynas â hereditamentau lluosog13
1
Rhaid i hysbysiad o dan yr erthygl hon gynnwys yr wybodaeth a’r materion eraill a bennir yn Atodlen 1 a rhaid iddo gael ei lofnodi gan y trethdalwr neu gan berson sydd wedi ei awdurdodi i lofnodi ar ran y trethdalwr.
2
Rhaid i hysbysiad gael ei roi pan fo trethdalwr yn atebol i dalu ardrethi annomestig am fwy na dau hereditament cymwys, neu’n dod yn atebol i’w talu.
3
Mae hysbysiad i’w gyflwyno i’r awdurdod bilio o dan sylw drwy—
a
ei gyfeirio at yr awdurdod; a
b
ei ddanfon neu ei anfon i swyddfa’r awdurdod drwy’r post neu drwy gyfathrebiad electronig.
4
Mae unrhyw hysbysiad a anfonir drwy gyfathrebiad electronig i’w ystyried, oni phrofir i’r gwrthwyneb, fel pe bai wedi ei gyflwyno ar yr adeg y daw i law ar ffurf ddarllenadwy.
5
Pan fo hysbysiad wedi ei roi caiff yr awdurdod bilio ei gwneud yn ofynnol i’r trethdalwr roi hysbysiadau pellach o dro i dro, yn unol â’r erthygl hon.
Hysbysiad a gyflwynir pan fodlonir yr amodau gofal plant neu’r amodau swyddfa bost14
1
Rhaid i hysbysiad o dan yr erthygl hon gynnwys yr wybodaeth a’r materion eraill a bennir yn Atodlen 2 a rhaid iddo gael ei lofnodi gan y trethdalwr neu gan berson sydd wedi ei awdurdodi i lofnodi ar ran y trethdalwr.
2
Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) i (5), caniateir i hysbysiad a roddir heb fod yn hwyrach na 30 Medi mewn blwyddyn ariannol gael effaith o ddyddiad nad yw’n gynharach nag 1 Ebrill yn y flwyddyn ariannol flaenorol.
3
Ni chaniateir rhoi hysbysiad yn gynharach nag 1 Hydref yn y flwyddyn ariannol sy’n dod o flaen y flwyddyn ariannol berthnasol.
4
Yn ddarostyngedig i baragraff (5), mewn perthynas â’r hereditament y mae a wnelo’r hysbysiad ag ef—
a
pan fo’r rhan o’r amodau perthnasol ynghylch gwerth ardrethol yn cael ei bodloni yn sgil newid rhestr ardrethu annomestig leol; a
b
pan roddir hysbysiad o fewn 4 mis ar ôl y dyddiad pryd yr hysbysir yr awdurdod bilio o dan sylw am y newid yn unol â rheoliadau o dan adran 55 o Ddeddf 198811 (newid rhestrau),
caniateir i’r hysbysiad gael effaith o ddyddiad nad yw’n gynharach na’r dyddiad y mae’r newid yn cael effaith o dan y rheoliadau hynny.
5
Ni chaniateir i unrhyw hysbysiad gael effaith am ddiwrnod sy’n gynharach nag 1 Ebrill 2018.
6
Mae hysbysiad i’w gyflwyno i’r awdurdod bilio o dan sylw drwy—
a
ei gyfeirio at yr awdurdod; a
b
ei ddanfon neu ei anfon i swyddfa’r awdurdod drwy’r post neu drwy gyfathrebiad electronig.
7
Mae unrhyw hysbysiad a anfonir drwy gyfathrebiad electronig i’w ystyried, oni phrofir i’r gwrthwyneb, fel pe bai wedi ei gyflwyno ar yr adeg y daw i law ar ffurf ddarllenadwy.
8
Pan fydd hysbysiad wedi ei roi mewn cysylltiad â blwyddyn ariannol, caiff yr awdurdod bilio ei gwneud yn ofynnol i’r trethdalwr roi hysbysiadau pellach yn unol â’r erthygl hon mewn perthynas â’r blynyddoedd ariannol dilynol hynny y caiff yr awdurdod eu pennu o dro i dro.
Dirymu a darpariaeth arbed15
Mae’r Gorchmynion a bennir yn Atodlen 3 wedi eu dirymu ond maent yn parhau i fod yn gymwys i flwyddyn ariannol sy’n dod i ben ar 31 Mawrth 2018 neu cyn hynny.