RHAN CAmrywiol

Hysbysiad a gyflwynir mewn perthynas â hereditamentau lluosog13

1

Rhaid i hysbysiad o dan yr erthygl hon gynnwys yr wybodaeth a’r materion eraill a bennir yn Atodlen 1 a rhaid iddo gael ei lofnodi gan y trethdalwr neu gan berson sydd wedi ei awdurdodi i lofnodi ar ran y trethdalwr.

2

Rhaid i hysbysiad gael ei roi pan fo trethdalwr yn atebol i dalu ardrethi annomestig am fwy na dau hereditament cymwys, neu’n dod yn atebol i’w talu.

3

Mae hysbysiad i’w gyflwyno i’r awdurdod bilio o dan sylw drwy—

a

ei gyfeirio at yr awdurdod; a

b

ei ddanfon neu ei anfon i swyddfa’r awdurdod drwy’r post neu drwy gyfathrebiad electronig.

4

Mae unrhyw hysbysiad a anfonir drwy gyfathrebiad electronig i’w ystyried, oni phrofir i’r gwrthwyneb, fel pe bai wedi ei gyflwyno ar yr adeg y daw i law ar ffurf ddarllenadwy.

5

Pan fo hysbysiad wedi ei roi caiff yr awdurdod bilio ei gwneud yn ofynnol i’r trethdalwr roi hysbysiadau pellach o dro i dro, yn unol â’r erthygl hon.