RHAN BRhyddhad

Swm E pan na fo erthygl 12 yn gymwys11

1

Oni bai bod erthygl 12 yn gymwys (trethdalwr yn atebol am fwy na dau hereditament cymwys), pan fo’r amodau yn erthygl 7, 8 neu 9 wedi eu bodloni, E yw’r swm a bennir ym mharagraff (2), neu a gyfrifir yn unol â’r paragraff hwnnw.

2

Pan fo hereditament yn bodloni’r amodau a ragnodir gan yr erthygl a bennir yng ngholofn (1) o’r tabl isod, a gwerth ardrethol yr hereditament o fewn yr ystod yn y rhes gyfatebol yng ngholofn (2), E yw’r swm a bennir yn y rhes gyfatebol yng ngholofn (3), neu fel y’i cyfrifir ynddi.

Tabl

(1)

Erthygl

(2)

Gwerth ardrethol

(£)

(3)

Swm E

7 (gwerth ardrethol)

0 i 6,000

5,000,000

7 (gwerth ardrethol)

6,001 i 12,000

Cyfrifir yn unol â pharagraff (3) o’r erthygl hon

8 (gofal plant)

0 i 6,000

5,000,000

8 (gofal plant)

6,001 i 20,500

Cyfrifir yn unol â pharagraff (4) o’r erthygl hon

9 (swyddfa bost)

0 i 9,000

5,000,000

9 (swyddfa bost)

9,001 i 12,000

2

3

Cyfrifir swm E (ar gyfer hereditamentau sy’n bodloni’r amodau gwerth ardrethol neu’r amodau swyddfa bost) drwy rannu 6000 â’r ffigur a geir drwy dynnu 6000 o werth ardrethol yr hereditament a ddangosir yn y rhestr ardrethu annomestig leol ar gyfer y diwrnod hwnnw, wedi ei gyfrifo i dri lle degol (gan dalgrynnu i fyny neu i lawr fel y bo’n briodol).

4

Cyfrifir swm E (ar gyfer hereditamentau sy’n bodloni’r amodau gofal plant) drwy rannu 14,500 â’r ffigur a geir drwy dynnu 6000 o werth ardrethol yr hereditament a ddangosir yn y rhestr ardrethu annomestig leol ar gyfer y diwrnod hwnnw, wedi ei gyfrifo i dri lle degol (gan dalgrynnu i fyny neu i lawr fel y bo’n briodol).