Gorchymyn Daliadau Amaethyddol (Unedau Cynhyrchu) (Cymru) 2017
Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli1.
(1)
Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Daliadau Amaethyddol (Unedau Cynhyrchu) (Cymru) 2017, mae’n gymwys o ran Cymru, a daw i rym ar 5 Ionawr 2018.
(2)
Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “ardal lai ffafriol” (“less favoured area”) yw unrhyw ardal o dir dan anfantais neu dir dan anfantais ddifrifol;
mae i “hectar cymwys” yr un ystyr ag a roddir i “eligible hectare” yn Erthygl 32(2) o Reoliad 1307/2013;
ystyr “mapiau dynodedig” (“designated maps”) yw’r ddwy gyfrol o fapiau dyddiedig 20 Mai 1991, sydd wedi eu rhifo 1 a 2, y naill gyfrol a’r llall wedi eu marcio â “Volume of maps of less favoured farming areas in Wales” ac â rhif y gyfrol, ac sydd wedi eu llofnodi gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru a’u hadneuo yn swyddfeydd Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ;
ystyr “tir dan anfantais” (“disadvantaged land”) (ac eithrio yn yr ymadrodd “tir dan anfantais ddifrifol”) yw unrhyw ardal o dir sydd wedi ei lliwio’n las ar y mapiau dynodedig;
ystyr “tir dan anfantais ddifrifol” (“severely disadvantaged land”) yw unrhyw ardal o dir sydd wedi ei lliwio’n binc ar y mapiau dynodedig.
Asesu gallu cynhyrchiol tir2.
(1)
Mae paragraffau (2) a (3) yn cael effaith at y diben o asesu gallu cynhyrchiol uned o dir amaethyddol a leolir yng Nghymru, er mwyn penderfynu a yw’r uned honno yn uned fasnachol o dir amaethyddol o fewn yr ystyr a roddir i “commercial unit of agricultural land” ym mharagraff 3(1) o Atodlen 6 i Ddeddf Daliadau Amaethyddol 1986.
(2)
Os gellir defnyddio’r tir o dan sylw, pan gaiff ei ffermio o dan reolaeth gymwys, i gynhyrchu unrhyw dda byw, cnwd âr fferm, cnwd garddwriaethol yn yr awyr agored neu ffrwythau fel a grybwyllir yn unrhyw un o gofnodion 1 i 3 yng ngholofn 1 o’r Atodlen i’r Gorchymyn hwn, yna—
(a)
yr uned gynhyrchu a ragnodir mewn perthynas â’r defnydd hwnnw o’r tir yw’r uned yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn 2, a
(b)
y swm a bennir, ar gyfer y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â 12 Medi 2017, fel yr incwm blynyddol net o’r uned gynhyrchu honno yn y cyfnod hwnnw yw’r swm yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn 3, fel y’i darllenir ynghyd ag unrhyw nodyn perthnasol i’r Atodlen honno.
(3)
Os oedd tir sy’n gallu cynhyrchu incwm blynyddol net, pan gaiff ei ffermio o dan reolaeth gymwys, yn hectar cymwys yn 2016 yn unol â chofnod 4 yng ngholofn 1 o’r Atodlen i’r Gorchymyn hwn, yna—
(a)
yr uned gynhyrchu a ragnodir mewn perthynas â’r defnydd hwnnw o’r tir yw’r uned yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn 2, a
(b)
y swm a bennir, ar gyfer y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â 12 Medi 2017, fel yr incwm blynyddol net o’r uned gynhyrchu honno yn y cyfnod hwnnw yw’r swm yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn 3.
YR ATODLENUnedau cynhyrchu rhagnodedig a phennu incwm blynyddol net
Colofn 1 Defnydd ffermio | Colofn 2 Uned gynhyrchu | Colofn 3 Incwm blynyddol net o’r uned gynhyrchu (£) | |
|---|---|---|---|
1. Da byw | |||
Buchod godro | buwch | 450 | |
Buchod bridio cig eidion: | ar dir mewn ardal lai ffafriol | buwch | -111 |
ar dir arall | buwch | -137 | |
Gwartheg pesgi cig eidion (lled-arddwys) | y pen | -72(1) | |
Buchod llaeth i lenwi bylchau | y pen | 87(2) | |
Mamogiaid: | ar dir mewn ardal lai ffafriol | mamog | -27 |
ar dir arall | mamog | -6 | |
Ŵyn stôr (gan gynnwys ŵyn benyw a werthir fel hesbinod) | y pen | 4.2 | |
Moch: | hychod a banwesod torrog | hwch neu fanwes | 270 |
moch porc | y pen | 7.8 | |
moch torri | y pen | 11 | |
moch bacwn | y pen | 13.9 | |
Dofednod: | ieir dodwy | aderyn | 4.4 |
brwyliaid | aderyn | 0.8 | |
cywennod ar ddodwy | aderyn | 0.3 | |
Tyrcwn Nadolig | aderyn | 9.6 | |
2. Cnydau âr fferm | |||
Haidd | hectar | -48 | |
Ffa | hectar | -152 | |
Rêp had olew | hectar | 32 | |
Pys sych | hectar | 150 | |
Tatws: | cynnar cyntaf | hectar | 3,690 |
prif gnwd (gan gynnwys hadyd) | hectar | 3,440 | |
Betys siwgr | hectar | 280 | |
Gwenith | hectar | 100 | |
3. Cnydau garddwriaethol awyr agored a ffrwythau | |||
Ffrwythau’r berllan | hectar | 2,450 | |
Ffrwythau meddal | hectar | 7,310 | |
4. Hectarau cymwys | |||
Tir a oedd, yn 2016, yn hectar cymwys at ddibenion Rheoliad 1307/2013 | tir dan anfantais ddifrifol | hectar | 112.40 |
tir dan anfantais | hectar | 66.53 | |
pob tir arall | hectar | 47.31 | |
Mae’r Gorchymyn hwn yn rhagnodi unedau cynhyrchu ar gyfer asesu gallu cynhyrchiol tir amaethyddol a leolir yng Nghymru ac yn nodi’r swm sydd i’w ystyried fel yr incwm blynyddol net o bob uned o’r fath am y flwyddyn o 12 Medi 2017 i 11 Medi 2018 at ddibenion penodol yn Neddf Daliadau Amaethyddol 1986 (“Deddf 1986”).
Mae’n ofynnol asesu gallu cynhyrchiol tir amaethyddol er mwyn penderfynu a yw’r tir o dan sylw yn “uned fasnachol o dir amaethyddol” ai peidio at ddibenion y darpariaethau olynu yn Neddf 1986: gweler yn benodol adrannau 36(3) a 50(2). Ystyr “uned fasnachol o dir amaethyddol” yw uned o dir amaethyddol sydd, pan gaiff ei ffermio o dan reolaeth gymwys, yn gallu cynhyrchu incwm blynyddol net nad yw’n llai na chyfanred enillion blynyddol cyfartalog dau weithiwr amaethyddol gwrywaidd llawnamser sy’n 20 mlwydd oed neu’n hŷn (paragraff 3 o Atodlen 6 i Ddeddf 1986). Wrth bennu’r ffigur incwm blynyddol hwn, pa bryd bynnag y bydd defnydd ffermio penodol a grybwyllir yng ngholofn 1 o’r Atodlen yn berthnasol i’r asesiad o allu cynhyrchiol y tir o dan sylw, mae erthygl 2 o’r Gorchymyn hwn yn darparu mai’r unedau cynhyrchu a’r incwm blynyddol net a bennir yng ngholofnau 2 a 3, yn eu trefn, fydd sail yr asesiad.
Mae’r Gorchymyn hwn yn cynnwys ffigurau incwm blynyddol net ar gyfer tir a oedd, yn 2016, yn hectar cymwys o fewn ystyr Erthygl 32(2) o Reoliad (EU) Rhif 1307/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod rheolau ar gyfer taliadau uniongyrchol i ffermwyr o dan gynlluniau cymorth o fewn fframwaith y polisi amaethyddol cyffredin (OJ Rhif L 347, 20.12.2013, t. 608). Rhoddir ffigurau ar wahân yn yr Atodlen ar gyfer tir dan anfantais ddifrifol, tir dan anfantais, tir mewn ardal lai ffafriol a thir arall.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.