(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Fferm Wynt Coedwig Clocaenog 2014 (y “prif Orchymyn”), a oedd yn rhoi caniatâd datblygu o dan Ddeddf Cynllunio 2008, yn dilyn cais am newid ansylweddol o dan baragraff 2 o Atodlen 6 i’r Ddeddf honno.
Mae’r Gorchymyn hwn yn awdurdodi newidiadau i’r cynlluniau gwaith i adlewyrchu newidiadau yn nherfynau’r gwyro ac i fannau cychwyn a therfynu’r traciau mynediad ac ychwanegu’r gwaith o adeiladu mannau troi yng Ngwaith Rhif 3.
Rhaid cyflwyno’r cynlluniau gwaith coed diwygiedig i Weinidogion Cymru er mwyn iddynt eu hardystio o dan erthygl 36(1A) newydd y prif Orchymyn. Mae gofyniad 7 yn Rhan 3 o Atodlen 1 i’r prif Orchymyn yn ei gwneud yn ofynnol i’r datblygiad awdurdodedig gael ei gyflawni’n unol â’r cynlluniau a ardystiwyd o dan erthygl 36.