Gorchymyn Fferm Wynt Coedwig Clocaenog (Diwygio) 2017
Mae Gweinidogion Cymru wedi ystyried effaith y newidiadau ar Orchymyn Fferm Wynt Coedwig Clocaenog 2014 fel y’i gwnaed yn wreiddiol, ac maent yn fodlon nad yw’r newidiadau’n sylweddol.
Yn unol â hynny, wrth arfer y pwerau ym mharagraff 2(1) a (9) o Atodlen 6 i Ddeddf Cynllunio 2008, mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn—
Enwi a chychwyn1.
Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Fferm Wynt Coedwig Clocaenog (Diwygio) 2017 a daw i rym ar 8 Rhagfyr 2017.
Diwygio Gorchymyn Fferm Wynt Coedwig Clocaenog 20142.
Mae Gorchymyn Fferm Wynt Coedwig Clocaenog 2014 wedi ei ddiwygio yn unol ag erthyglau 3 i 5.
Diwygio erthygl 2 (dehongli)3.
(1)
Mae erthygl 2 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)
““the works plan” means the revised works plan submitted with the application dated 23 Awst 2017 for a non-material change to this Order under paragraph 2 of Schedule 6 to the 2008 Act and certified by the Welsh Ministers in accordance with article 36(1A).”
Diwygio erthygl 36 (ardystio cynlluniau etc)4.
(1)
Mae erthygl 36 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)
“(1A)
The undertaker must, as soon as practicable after the coming into force of the Clocaenog Forest Wind Farm (Amendment) Order 2017, submit to the Welsh Ministers a copy of the works plan for certification that it is a true copy.”
Diwygio Atodlen 1 (prosiect awdurdodedig)5.
(1)
Yn y cyfeiriad at Waith Rhif 3 yn Rhan 1 (datblygiad awdurdodedig) o Atodlen 1, yn lle’r geiriau “A series of new tracks, existing tracks subject to improvement and widening and public roads subject to widening” rhodder “A series of new tracks, existing tracks subject to improvement and widening, public roads subject to widening and a series of turning heads located adjacent to tracks”.
(2)
Mae’r tablau sy’n ymwneud â Gwaith Rhif 3 yn Rhan 1 (datblygiad awdurdodedig) o Atodlen 1 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(3)
Yn y tabl sydd â’r pennawd “New tracks”—
(a)
yn y rhes sydd ag “N7” fel y cofnod cyntaf—
(i)
yn lle “300779” rhodder “300704”; a
(ii)
yn lle “357705” rhodder “357556”; a
(b)
“N25
300509
357483
300277
357467
N26
300596
357354
300614
357029
N27
301133
355580
300866
355375
N28
300784
355332
300534
355065”.
(4)
Yn y tabl sydd â’r pennawd “Existing tracks subject to improvement and widening”, yn y rhes sydd ag “E6” fel y cofnod cyntaf—
(a)
yn lle “300635” rhodder “300614”; a
(b)
yn lle “357032” rhodder “357029”.
(5)
“Turning Heads
Grid reference
Turning head number
Easting
Northing
TH1 (at T3)
301166
357866
TH2 (between T7 and T9)
300226
356920
TH3 (at T10)
301344
356350
TH4 (at T13)
301221
355570
TH5 (at T15)
301436
355089
TH6 (at T17)
301501
354506
TH7 (at T18)
301833
354061
TH8 (at T24)
300672
352492
TH9 (at T25)
301854
352484
TH10 (at T28)
300817
352143
TH11 (at T30)
301367
351613
TH12 (at T31)
300989
350791
TH13 (at T32)
301314
350614”.
Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Fferm Wynt Coedwig Clocaenog 2014 (y “prif Orchymyn”), a oedd yn rhoi caniatâd datblygu o dan Ddeddf Cynllunio 2008, yn dilyn cais am newid ansylweddol o dan baragraff 2 o Atodlen 6 i’r Ddeddf honno.
Mae’r Gorchymyn hwn yn awdurdodi newidiadau i’r cynlluniau gwaith i adlewyrchu newidiadau yn nherfynau’r gwyro ac i fannau cychwyn a therfynu’r traciau mynediad ac ychwanegu’r gwaith o adeiladu mannau troi yng Ngwaith Rhif 3.
Rhaid cyflwyno’r cynlluniau gwaith coed diwygiedig i Weinidogion Cymru er mwyn iddynt eu hardystio o dan erthygl 36(1A) newydd y prif Orchymyn. Mae gofyniad 7 yn Rhan 3 o Atodlen 1 i’r prif Orchymyn yn ei gwneud yn ofynnol i’r datblygiad awdurdodedig gael ei gyflawni’n unol â’r cynlluniau a ardystiwyd o dan erthygl 36.