2017 Rhif 1163 (Cy. 289)
Trethi, Cymru

Rheoliadau Casglu a Rheoli Trethi (Datgelu a Ganiateir) (Cymru) 2017

Gwnaed
Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2)
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pŵer a roddir iddynt gan adran 18(2) o Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 20161.

Yn unol ag adran 189(2) o’r Ddeddf honno, gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddo drwy benderfyniad.

Enwi a chychwyn1.

(1)

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Casglu a Rheoli Trethi (Datgelu a Ganiateir) (Cymru) 2017.

(2)

Daw’r Rheoliadau hyn i rym drannoeth y diwrnod y’u gwneir.

Diwygio Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 20162.

Mae adran 18(1) (datgelu a ganiateir) o Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 wedi ei diwygio fel a ganlyn—

(a)

hepgorer y “neu” ar ôl paragraff (g);

(b)

ym mharagraff (h) yn lle “.” rhodder “,”; ac

(c)

ar ôl paragraff (h) mewnosoder—

“(i)

os gwneir hynny i Gyllid a Thollau ei Mawrhydi mewn cysylltiad ag un o swyddogaethau ACC neu mewn cysylltiad ag un o swyddogaethau Cyllid a Thollau ei Mawrhydi, neu

(j)

os gwneir hynny i Gyllid yr Alban2 mewn cysylltiad ag un o swyddogaethau ACC neu mewn cysylltiad â chasglu a rheoli treth ddatganoledig o fewn yr ystyr a roddir i “devolved tax” yn Neddf yr Alban 1998 (p. 46)3.”
Mark Drakeford
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio adran 18(1) o Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 (“y Ddeddf”).

Mae’r diwygiadau i’r Ddeddf a wneir gan y Rheoliadau hyn yn caniatáu i “swyddog perthnasol”, fel y’i diffinnir gan adran 17(2) o’r Ddeddf, ddatgelu “gwybodaeth warchodedig am drethdalwr”, fel y’i diffinnir gan adran 17(3) o’r Ddeddf, i Gyllid a Thollau ei Mawrhydi ac i Gyllid yr Alban, mewn cysylltiad â’u priod swyddogaethau neu ag un o swyddogaethau Awdurdod Cyllid Cymru.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.