Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli1

1

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) (Diwygio) 2017 a deuant i rym ar 31 Rhagfyr 2017.

2

Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

3

Yn y Rheoliadau hyn ystyr “Rheoliadau 1992” (“the 1992 Regulations”) yw Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) 19922.

Diwygio Rheoliadau 19922

1

Mae Rheoliadau 1992 wedi eu diwygio fel a ganlyn mewn perthynas â’r blynyddoedd ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2018 neu ar ôl hynny.

2

Yn lle Atodlen 4 i Reoliadau 1992 rhodder yr Atodlen i’r Rheoliadau hyn.

Mark DrakefordYsgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, un o Weinidogion Cymru