NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer cynnwys hysbysiadau galw am dalu ardrethi annomestig a gyflwynir gan awdurdodau bilio yng Nghymru, ac ar gyfer yr wybodaeth y mae’n rhaid iddi fynd gyda hysbysiad galw am dalu a gyflwynir ganddynt. Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â hysbysiadau galw am dalu a ddyroddir mewn cysylltiad â blynyddoedd ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2017 neu wedi hynny.

Mae’r Rheoliadau hyn yn disodli Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) 1993. Yr unig newidiadau sylweddol yw’r rhai a wneir i’r nodiadau esboniadol yn Atodlen 2. Gwneir y newidiadau hyn o ganlyniad i’r ailbrisio ardrethi annomestig sy’n cael effaith o 1 Ebrill 2017 a’r rhyddhad trosiannol cysylltiedig a ddarperir gan Reoliadau Ardrethu Annomestig (Symiau a Godir) (Cymru) 2016 (O.S. 2016/1247 (Cy. 295)).

Mae Atodlen 1 i’r Rheoliadau hyn yn amlinellu materion y mae’n rhaid eu cynnwys mewn hysbysiad galw am dalu. Mae’r materion hyn yn neilltuol i’r hereditament o dan sylw, megis ei gyfeiriad a’i werth ardrethol. Mae rheoliad 4 yn darparu, pan fo awdurdod bilio wedi methu â chynnwys unrhyw un neu ragor o’r materion hynny mewn hysbysiad galw am dalu drwy gamgymeriad, y gallai’r galwadau am daliad oddi tano fod yn effeithiol o hyd. Byddai hynny’n digwydd pe gelwid am y symiau sy’n ofynnol o dan yr hysbysiad galw am dalu yn unol â Rhan II o Reoliadau Ardrethu Annomestig (Casglu a Gorfodi) (Rhestrau Lleol) 1989 ac felly wedi eu cyfrifo’n gywir. Rhaid i’r awdurdod bilio gywiro’r camgymeriad cyn gynted â phosibl drwy ddarparu’r wybodaeth gywir a hepgorwyd o’r hysbysiad galw am dalu gwreiddiol.

Mae Atodlen 2 yn rhagnodi nodiadau esboniadol y mae’n rhaid iddynt fynd gyda hysbysiad galw am dalu. Mae Atodlen 3 yn rhagnodi gwybodaeth bellach y mae’n rhaid iddi fynd gyda hysbysiadau galw am dalu. Mae rhywfaint o’r wybodaeth a ragnodir yn Atodlen 3 yn ymwneud â chomisiynwyr heddlu a throseddu. Mae rheoliad 6, felly, yn ei gwneud yn ofynnol i gomisiynwyr heddlu a throseddu ddarparu’r wybodaeth i awdurdodau bilio i alluogi awdurdodau bilio i ddarparu’r wybodaeth a ragnodir gan Atodlen 3 i drethdalwyr.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.