Offerynnau Statudol Cymru

2017 Rhif 113 (Cy. 39)

Ardrethu A Phrisio, Cymru

Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) 2017

Gwnaed

8 Chwefror 2017

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

10 Chwefror 2017

Yn dod i rym

13 Mawrth 2017

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 62, 143(1) a (2) a 146(6) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988(1), a pharagraffau 1, 2(2)(ga), (gc), (ge) a (h) a 6A o Atodlen 9 iddi, ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy(2).

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) 2017.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 13 Mawrth 2017.

(3Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â hysbysiadau galw am dalu sy’n ymwneud â blynyddoedd ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2017 neu wedi hynny ac a ddyroddir gan awdurdodau bilio Cymreig, neu ar eu rhan.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “awdurdod bilio” (“billing authority”) yw awdurdod bilio Cymreig;

ystyr “comisiynydd heddlu a throseddu” (“police and crime commissioner”), mewn perthynas ag awdurdod bilio, yw’r comisiynydd heddlu a throseddu sydd â’r pŵer i ddyroddi praesept i’r awdurdod bilio;

ystyr “cyngor cymuned” (“community council”), mewn perthynas ag awdurdod bilio, yw cyngor cymuned sydd â’r pŵer i ddyroddi praesept i’r awdurdod bilio;

ystyr “Deddf 1988” (“the 1988 Act”) yw Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988;

ystyr “Deddf 1992” (“the 1992 Act”) yw Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992(3);

ystyr “y flwyddyn berthnasol” (“the relevant year”) yw’r flwyddyn ariannol y mae’r alwad am daliad a wneir gan yr hysbysiad galw am dalu yn ymwneud â hi;

ystyr “hysbysiad galw am dalu” (“demand notice”) yw hysbysiad galw am dalu o fewn ystyr “demand notice” yn Rhan II o Reoliadau Ardrethu Annomestig (Casglu a Gorfodi) (Rhestrau Lleol) 1989(4) a gyflwynir gan awdurdod bilio neu unrhyw berson a awdurdodir gan awdurdod bilio i arfer unrhyw swyddogaethau sy’n ymwneud â chasglu ardrethi annomestig (gan gynnwys hysbysiad o’r fath a gyflwynir yn unol â Rhan II o Reoliadau Ardrethu Annomestig (Casglu a Gorfodi) (Darpariaethau Amrywiol) 1990(5) (perchnogion a meddianwyr ar y cyd)).

Cynnwys hysbysiadau galw am dalu

3.—(1Rhaid i hysbysiad galw am dalu gynnwys y materion a ragnodir yn Atodlen 1.

(2Nid oes dim yn y rheoliad hwn yn ei gwneud yn ofynnol i hysbysiad gael ei roi ar un ddalen o bapur, ond os defnyddir mwy nag un ddalen, rhaid i’r dalenni gael eu dyroddi gyda’i gilydd, boed hwy ynghlwm ai peidio, fel eu bod yn ffurfio un hysbysiad.

Hysbysiadau galw am dalu annilys

4.—(1At ddibenion y rheoliad hwn ystyr “hysbysiad annilys” (“invalid notice”) yw hysbysiad galw am dalu nad yw’n cydymffurfio â rheoliad 3(1).

(2Mae gofyniad i dalu symiau a gynhwysir mewn hysbysiad galw am dalu annilys yn gymwys fel pe bai’r hysbysiad yn un dilys—

(a)os oedd y methiant i gydymffurfio â rheoliad 3(1) o ganlyniad i gamgymeriad; a

(b)os galwyd am y symiau y mae’n ofynnol eu talu o dan yr hysbysiad galw am dalu annilys yn unol â Rhan II o Reoliadau Ardrethu Annomestig (Casglu a Gorfodi) (Rhestrau Lleol) 1989.

(3Rhaid i awdurdod bilio, cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl i’r camgymeriad gael ei ddarganfod, ddyroddi datganiad i’r trethdalwr o dan sylw am y materion a ragnodir yn Atodlen 1 nas cynhwyswyd yn yr hysbysiad annilys.

Hysbysiadau galw am dalu: gwybodaeth esboniadol ac ariannol a gwybodaeth arall

5.—(1Rhaid i’r canlynol fynd gyda’r hysbysiad galw am dalu—

(a)yr wybodaeth esboniadol ar ffurf y geiriau a ragnodir yn Atodlen 2, a

(b)yr wybodaeth a ragnodir yn Rhan 1 o Atodlen 3.

(2Mae Rhan 2 o Atodlen 3 yn cael effaith at ddibenion Rhan 1 o’r Atodlen honno.

(3Nid yw paragraff (1)(b) yn gymwys pan gyflwynir hysbysiad galw am dalu ar ôl diwedd y flwyddyn berthnasol.

Darparu gwybodaeth gan gomisiynwyr heddlu a throseddu

6.—(1Wrth ddyroddi praesept i awdurdod bilio ar gyfer blwyddyn ariannol rhaid i gomisiynydd heddlu a throseddu ddarparu gwybodaeth i’r awdurdod bilio ynghylch—

(a)yr amcangyfrifon a grybwyllir ym mharagraff 1 o Ran 1 o Atodlen 3, a

(b)y materion a grybwyllir ym mharagraffau 2, 3 a 4 o Ran 1 o Atodlen 3.

(2Nid yw paragraff (1) yn gymwys i’r canlynol—

(a)pan fyddai’r wybodaeth yn ailadrodd gwybodaeth a roddwyd o ran praesept a ddyroddwyd ar gyfer y flwyddyn ariannol flaenorol, neu

(b)praesept amnewidiol.

(3Pan fo comisiynydd heddlu a throseddu wedi dyroddi praesept amnewidiol i awdurdod bilio rhaid i’r comisiynydd heddlu a throseddu ddarparu’r wybodaeth a bennir ym mharagraff (1) mewn cysylltiad â’r praesept amnewidiol hwnnw—

(a)pan fo’r awdurdod bilio yn hysbysu’r comisiynydd heddlu a throseddu ei fod wedi pennu, neu’n bwriadu pennu, swm o dreth gyngor o dan adran 31 o Ddeddf 1992(6) drwy gyfeirio at y praesept amnewidiol, a

(b)pan na fyddai’r wybodaeth yn ailadrodd gwybodaeth a roddwyd o ran praesept a ddyroddwyd ar gyfer y flwyddyn ariannol flaenorol.

Dirymu a darpariaeth arbed

7.  Mae’r offerynnau a bennir yng ngholofn (1) o’r tabl yn Atodlen 4 wedi eu dirymu i’r graddau a nodir yng ngholofn (3) ond maent yn parhau i fod yn gymwys i flwyddyn ariannol sy’n dod i ben ar 31 Mawrth 2017 neu cyn hynny.

Darpariaeth ganlyniadol

8.  Yn rheoliad 1(2) o Reoliadau Ardrethu Annomestig (Casglu a Gorfodi) (Rhestrau Lleol) 1989, yn y diffiniad o “demand notice regulations”, yn lle “the Non-Domestic Rating (Demand Notices) (Wales) Regulations 1993(7)” rhodder “the Non-Domestic Rating (Demand Notices) (Wales) Regulations 2017”.

9.—(1Mae erthygl 66 (cynnwys hysbysiadau galw am dalu—Cymru) o Orchymyn Awdurdodau Lleol (Contractio Allan Swyddogaethau Bilio, Casglu a Gorfodi Trethi) 1996(8) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2Ym mharagraff (1)—

(a)yn lle’r diffiniad o “the 1993 Regulations” rhodder—

“the 2017 Regulations” means the Non-Domestic Rating (Demand Notices) (Wales) Regulations 2017; a

(b)yn lle’r diffiniad o “rate demand notice” rhodder—

“demand notice” has the same meaning as in the 2017 Regulations.

(3Ym mharagraff (3), yn lle “1993” rhodder “2017”.

(4Ym mharagraff (3)(b), hepgorer “Part I or, as the case may be, Part II of”.

(5Ym mharagraff (3)(c), yn lle “Part I” rhodder “Part 1”.

10.—(1Mae rheoliad 9 o Reoliadau Ardrethu Annomestig (Taliadau Gohiriedig) (Cymru) 2012(9) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Yn y pennawd ac yng nghorff y rheoliad, yn lle “1993” rhodder “2017”.

(3Yn lle “the Collection Regulations” rhodder “the Non-Domestic Rating (Collection and Enforcement) (Local Lists) Regulations 1989”.

Mark Drakeford

Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Chyllid, un o Weinidogion Cymru

8 Chwefror 2017

Rheoliad 3

ATODLEN 1Materion i’w cynnwys mewn hysbysiadau galw am dalu

1.  Cyfeiriad pob hereditament y mae’r hysbysiad galw am dalu yn ymwneud ag ef (“hereditament perthnasol”), a disgrifiad ohono.

2.  Y gwerth ardrethol a ddangosir ar gyfer pob hereditament perthnasol ar restr ardrethu annomestig leol yr awdurdod.

3.  Y lluosydd ardrethu annomestig a gyfrifwyd ar gyfer y flwyddyn berthnasol yn unol â pharagraff 3B neu, yn ôl y digwydd, baragraff 4B o Ran I o Atodlen 7 i Ddeddf 1988(10).

4.  Pan fo gorchymyn o dan adran 45(4A) o Ddeddf 1988(11) mewn grym neu pan fydd mewn grym ar unrhyw ddiwrnod yn y flwyddyn berthnasol, datganiad o’r diwrnodau, os o gwbl, yr oedd yn ddealledig neu’n rhagdybiedig arnynt, at ddibenion cyfrifo’r taliadau y mae’n ofynnol iddynt gael eu gwneud o dan yr hysbysiad galw am dalu, bod yr amodau a grybwyllir yn adran 45(1) o Ddeddf 1988(12) yn cael eu bodloni, neu y byddent yn cael eu bodloni, mewn perthynas ag unrhyw hereditament perthnasol, a datganiad, ynghylch y diwrnodau hynny, bod y swm a godir yn cael ei ostwng yn ôl y gyfran y darperir ar ei chyfer yn y gorchymyn o gymharu â’r swm pe bai adran 45(4) o Ddeddf 1988(13) yn gymwys i gyfrifo’r swm a godir ar gyfer y diwrnodau hynny.

5.  Pan fo adran 45A o Ddeddf 1988(14) yn gymwys i unrhyw hereditament perthnasol ar unrhyw ddiwrnod yn y flwyddyn berthnasol, datganiad ynghylch y diwrnodau hynny pan fo’r swm a godir yn sero o dan yr adran honno a datganiad o’r swm y byddid wedi galw amdano pe bai adran 45(4) o Ddeddf 1988 yn gymwys i gyfrifo’r swm a godir ar gyfer y diwrnodau hynny.

6.  Datganiad o’r diwrnodau, os o gwbl, yr oedd yn ddealledig neu’n rhagdybiedig arnynt, at ddibenion cyfrifo’r taliadau y mae’n ofynnol iddynt gael eu gwneud o dan yr hysbysiad galw am dalu—

(a)y byddai’r swm a godir i’w gyfrifo o dan adran 43(4A)(b) neu (5) o Ddeddf 1988(15);

(b)y byddai’r swm a godir i’w gyfrifo drwy gyfeirio at adran 44(2) a (2A) o Ddeddf 1988 fel y’i hamnewidiwyd gan adran 44A(7) neu (9) o’r Ddeddf honno(16); neu

(c)y byddai rheolau o dan adran 47(1)(a) neu 58(3)(a) o Ddeddf 1988(17) yn gymwys;

ynghyd â datganiad o’r modd y cyfrifwyd y swm a godir ar gyfer y diwrnodau hynny a swm y gostyngiad yn y cyfanswm y gelwir amdano o dan yr hysbysiad galw am dalu o gymharu â’r swm y byddid wedi galw amdano pe bai adran 43(4), heb ei haddasu, ac (i’r graddau y bo’n berthnasol) adran 44(2)(18) heb ei hamnewid, yn gymwys i gyfrifo’r swm a godir ar gyfer y diwrnodau hynny.

Rheoliad 5

ATODLEN 2

1.  Mae ffurf y geiriau a nodir isod wedi ei rhagnodi at ddibenion rheoliad 5—

NODIADAU ESBONIADOL

Mae’r wybodaeth a roddir isod yn egluro rhai o’r termau y gellir eu defnyddio mewn hysbysiad galw am dalu ardreth annomestig ac yn yr wybodaeth ategol. Gellir cael gwybodaeth bellach ynghylch rhwymedigaeth i dalu ardrethi annomestig gan awdurdodau bilio.

Ardrethi annomestig

Mae’r ardrethi annomestig a gesglir gan awdurdodau bilio yn cael eu talu i gronfa ganolog a’u hailddosbarthu i gynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol ac i gomisiynwyr heddlu a throseddu. Mae eich cyngor a’ch comisiynydd heddlu a throseddu yn defnyddio eu cyfrannau o’r incwm ardrethi a ailddosberthir, ynghyd ag incwm oddi wrth y rhai sy’n talu’r dreth gyngor iddynt, y grant cynnal refeniw a ddarperir gan Weinidogion Cymru a symiau penodol eraill, i dalu am y gwasanaethau a ddarperir ganddynt. Gellir cael gwybodaeth bellach am y system ardrethi annomestig, gan gynnwys pa ryddhadau sydd ar gael, drwy fynd ihttps://busnescymru.llyw.cymru/

Gwerth ardrethol

Gosodir gwerth ardrethol eiddo annomestig yn y rhan fwyaf o achosion gan swyddog prisio annibynnol o Asiantaeth y Swyddfa Brisio, sy’n un o Asiantaethau Gweithredol Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi (CThEM). Maent yn llunio ac yn cynnal rhestr lawn o werthoedd ardrethol pob eiddo annomestig yng Nghymru, ac mae ar gael ar eu gwefan yn www.gov.uk/government/organisations/valuation-office-agency. Fel arfer, caiff pob eiddo annomestig ei ailbrisio bob 5 mlynedd. O 1 Ebrill 2017 mae gwerth ardrethol eiddo yn cynrychioli ei werth rhentol blynyddol ar y farchnad agored fel yr oedd ar 1 Ebrill 2015.

Yn achos eiddo cyfansawdd sy’n rhannol ddomestig ac yn rhannol annomestig, ymwneud â’r rhan annomestig yn unig y mae’r gwerth ardrethol. Dangosir gwerth pob eiddo y mae ardreth yn daladwy i’ch awdurdod arno yn y rhestr ardrethi leol, y gellir edrych ar gopi ohoni yn enw a chyfeiriad y swyddfa brisio leol ac enw a chyfeiriad yr awdurdod bilio.

Ailbrisio

Caiff yr holl werthoedd ardrethol eu hailasesu mewn ailbrisiad cyffredinol er mwyn sicrhau bod yr ardrethi a delir gan unrhyw un trethdalwr yn adlewyrchu newidiadau dros amser yng ngwerth ei eiddo o gymharu ag eraill. Mae hyn yn helpu i gadw’r system ardrethu yn deg drwy ddiweddaru prisiadau yn unol â newidiadau yn y farchnad. Cafodd y rhestr ardrethu bresennol effaith ar 1 Ebrill 2017 ac mae’n seiliedig ar werthoedd fel yr oeddent ar 1 Ebrill 2015.

Yn y flwyddyn y mae ailbrisiad yn cael effaith, ailbennir sylfaen y lluosydd er mwyn cymryd i ystyriaeth newidiadau cyffredinol i gyfanswm y gwerth ardrethol ac i sicrhau nad yw’r ailbrisiad yn codi arian ychwanegol.

Newid yn y gwerth ardrethol

Gall y gwerth ardrethol newid os yw’r swyddog prisio yn credu bod amgylchiadau’r eiddo wedi newid. Caiff y trethdalwr (ac eraill penodol sydd â buddiant yn yr eiddo), o dan amodau penodol, hefyd gynnig newid yn y gwerth. Os na fydd y trethdalwr a’r swyddog prisio yn cytuno ar y prisiad o fewn 3 mis i wneud y cynnig, bydd y mater yn cael ei gyfeirio gan y swyddog prisio fel apêl gan y cynigydd i Dribiwnlys Prisio Cymru. Mae gwybodaeth bellach ynghylch sut i gynnig newid mewn gwerth ardrethol ar gael gan swyddfeydd prisio.

Y lluosydd ardrethu annomestig

Dyma’r gyfradd yn y bunt y lluosir y gwerth ardrethol â hi i roi swm y bil ardrethol blynyddol ar gyfer eiddo. Mae’r lluosydd a bennir bob blwyddyn gan Weinidogion Cymru yr un fath ar gyfer Cymru gyfan ac, ac eithrio mewn blwyddyn ailbrisio, ni all godi fwy na chyfradd y cynnydd yn y mynegai prisiau manwerthu.

Cynigion ac apelau

Mae gwybodaeth am yr amgylchiadau y gellir cynnig newid yn y gwerth ardrethol oddi tanynt ac am sut y gellir gwneud cynnig o’r fath ar gael gan y swyddfa brisio leol a ddangosir uchod. Mae rhagor o wybodaeth am y trefniadau apelio ar gael gan enw’r awdurdod bilio neu gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio.

Mae Tribiwnlys Prisio Cymru yn darparu gwasanaeth apelau annibynnol rhad ac am ddim sy’n ymdrin ag apelau ynghylch Ardrethi Annomestig a’r Dreth Gyngor. Gellir gweld eu manylion cyswllt ymahttp://www.valuation-tribunals-wales.org.uk/cartref.html

Ardrethu eiddo heb ei feddiannu

Gall perchnogion eiddo annomestig sydd heb eu meddiannu fod yn agored i dalu ardrethi eiddo gwag a godir yn ôl 100% o’r rhwymedigaeth arferol. Mae’r rhwymedigaeth yn dechrau ar ôl i’r eiddo fod yn wag am 3 mis neu, yn achos eiddo diwydiannol penodol, ar ôl i’r eiddo fod yn wag am 6 mis. Mae mathau penodol o eiddo wedi eu heithrio rhag ardrethi eiddo gwag.

Rhyddhad elusennol ac yn ôl disgresiwn

Mae hawl gan elusennau a chlybiau chwaraeon cymunedol amatur i gael rhyddhad o 80% rhag ardrethi ar unrhyw eiddo annomestig—

(a)yn achos elusennau, pan ddefnyddir yr eiddo yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddibenion elusennol; neu

(b)yn achos clwb, pan fo’r clwb wedi ei gofrestru gyda Chyllid a Thollau EM.

Mae gan awdurdodau bilio ddisgresiwn i beidio â chodi rhan neu’r cyfan o’r 20% sy’n weddill o’r bil ar eiddo o’r fath a gallant hefyd roi rhyddhad mewn cysylltiad ag eiddo a feddiennir gan gyrff penodol nad ydynt wedi eu sefydlu nac yn cael eu rhedeg i wneud elw.

Am ragor o wybodaeth ynghylch clybiau dylech gysylltu â cyfeiriad Cyllid a Thollau EM, (y wefan yw http://www.hmrc.gov.uk).

Rhyddhad ardrethi i fusnesau bach

Mae Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) 2015(19) yn gwneud darpariaeth ar gyfer rhyddhad ardrethi i fusnesau bach. Mae manylion llawn gan gynnwys y meini prawf cymhwysedd, yr eithriadau, y gofynion gweithdrefnol a’r rhyddhadau ardrethi perthnasol ar gael gan yr awdurdod bilio.

Rhyddhad ardrethi trosiannol

Mae Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Symiau a Godir) (Cymru) 2016(20) yn gwneud darpariaeth ar gyfer rhyddhad trosiannol i fusnesau bach y mae’r ailbrisio hereditamentau annomestig sy’n cael effaith o 1 Ebrill 2017 yn cael effaith andwyol arnynt. Mae manylion llawn gan gynnwys y meini prawf cymhwysedd, yr eithriadau, y gofynion gweithdrefnol a’r rhyddhadau ardrethi perthnasol ar gael gan yr awdurdod bilio.

Cymorth gwladwriaethol

Gallai rhyddhad rhag talu ardrethi annomestig fod yn gyfystyr â chymorth gwladwriaethol. Mae’n gyfreithlon pan fo’n cael ei ddarparu yn unol â Rheoliad y Comisiwn (EU) 1407/2013 ar gymorth de minimis. Mae’r rheoliad de minimis yn caniatáu i fenter gael hyd at €200,000 o gymorth ‘de minimis’ dros gyfnod treigl o dair blynedd. Os ydych yn cael, neu wedi cael, unrhyw gymorth ‘de minimis’ a roddwyd yn ystod y flwyddyn ariannol gyfredol neu’r ddwy flynedd ariannol flaenorol (o unrhyw ffynhonnell), dylech hysbysu’r awdurdod bilio ar unwaith am fanylion y cymorth a gafwyd.

2.  Mae llythrennu italig ym mharagraff 1 uchod yn dangos bod geiriau i’w mewnosod.

Rheoliad 6

ATODLEN 3Gwybodaeth ariannol a gwybodaeth arall

RHAN 1Gwybodaeth i’w darparu gyda hysbysiadau galw am dalu

1.  Amcangyfrifon yr awdurdod bilio a’r comisiynydd heddlu a throseddu o—

(a)cyfanswm ei wariant gros ar gyfer y flwyddyn berthnasol ar yr holl wasanaethau a weinyddir ganddo;

(b)y lwfans sy’n briodol ar gyfer hapddigwyddiadau a’r cyfraniadau i gronfeydd ariannol wrth gefn neu ohonynt ar gyfer y flwyddyn berthnasol;

(c)swm ei gronfeydd ariannol wrth gefn ar ddiwedd y flwyddyn berthnasol;

(d)swm y gwariant cyfalaf y bydd yn mynd iddo yn y flwyddyn berthnasol;

(e)y symiau sy’n daladwy iddo ar gyfer y flwyddyn berthnasol ar ffurf—

(i)grant cynnal refeniw (neu, os yw swm grant o’r fath i gael ei addasu yn dilyn cymeradwyo adroddiad diwygio o dan adran 84L o Ddeddf 1988(21) drwy benderfyniad Cynulliad Cenedlaethol Cymru, y swm a fyddai’n daladwy yn y fath fodd oni bai am yr adroddiad hwnnw);

(ii)grant ychwanegol;

(iii)ardrethi annomestig a ailddosberthir; a

(iv)grant yr heddlu o dan adran 46 o Ddeddf yr Heddlu 1996(22);

(f)cyfanswm ei wariant gros ar gyfer y flwyddyn flaenorol ar yr holl wasanaethau a weinyddir ganddo; ac

(g)swm ei gronfeydd ariannol wrth gefn ar ddiwedd y flwyddyn flaenorol.

2.  Y swm a gyfrifir fel ei ofynion cyllideb ar gyfer y flwyddyn berthnasol—

(a)gan yr awdurdod bilio o dan adran 32(4) o Ddeddf 1992; a

(b)gan y comisiynydd heddlu a throseddu o dan adran 43(4) o Ddeddf 1992.

3.  Y swm a gyfrifir ar gyfer y flwyddyn berthnasol gan yr awdurdod bilio a’r comisiynydd heddlu a throseddu fel swm y gwahaniaeth (boed yn bositif neu’n negyddol) rhwng—

(a)swm ei ofynion cyllideb ar gyfer y flwyddyn honno; a

(b)y swm a gyfrifwyd ganddo ar gyfer y flwyddyn honno fel swm eitem P yn adran 33(1) neu, yn ôl y digwydd, adran 44(1) o Ddeddf 1992(23).

4.  Yr asesiad o wariant safonol ar gyfer yr awdurdod bilio a’r comisiynydd heddlu a throseddu ar gyfer y flwyddyn berthnasol.

5.  Swm y praesept a ragwelir gan yr awdurdod bilio ar gyfer y flwyddyn berthnasol, os o gwbl, yn unol â rheoliadau o dan adran 41(3) o Ddeddf 1992(24).

6.  Pan fo corff wedi dyroddi ardoll neu ardoll arbennig i’r awdurdod bilio a gymerwyd i ystyriaeth ar gyfer y flwyddyn berthnasol gan yr awdurdod wrth iddo wneud ei amcangyfrif o dan adran 32(2)(a) o Ddeddf 1992(25)

(a)swm yr ardoll neu’r ardoll arbennig; a

(b)gwybodaeth ynghylch a driniwyd unrhyw ran ohoni fel treuliau arbennig yr awdurdod.

7.  Swm unrhyw ardoll neu ardoll arbennig a ddyroddwyd i awdurdod bilio a gymerwyd i ystyriaeth ar gyfer y flwyddyn flaenorol gan yr awdurdod wrth iddo wneud ei amcangyfrif o dan adran 32(2)(a) o Ddeddf 1992.

8.  Swm y praesept, os o gwbl, a ddyroddwyd gan bob cyngor cymuned ar gyfer—

(a)y flwyddyn berthnasol; a

(b)y flwyddyn flaenorol.

RHAN 2Dehongli etc.

9.  At ddibenion paragraff 1(a) ac (f) o Ran 1, y gwariant gros mewn cysylltiad â gwasanaeth am flwyddyn yw cyfanswm yr holl eitemau a godir ar gyfrif refeniw am y flwyddyn sydd i’w priodoli i’r gwasanaeth, ond nid yw’n cynnwys lwfansau ar gyfer hapddigwyddiadau na chyfraniadau i gronfeydd ariannol wrth gefn.

10.  Yr amcangyfrifon ar gyfer y flwyddyn berthnasol a’r flwyddyn flaenorol, sydd i’w darparu yn unol â pharagraff 1(a), (b), (c), (f) ac (g) o Ran 1—

(a)o ran yr awdurdod bilio, yw’r amcangyfrifon a wneir at ddibenion y cyfrifiadau sy’n ofynnol gan adran 32 o Ddeddf 1992; a

(b)o ran comisiynwyr heddlu a throseddu, yw’r amcangyfrifon a wneir at ddibenion y cyfrifiadau sy’n ofynnol gan adran 43 o Ddeddf 1992.

11.  At ddibenion paragraff 1(d) o Ran 1, gwariant cyfalaf yw gwariant yr awdurdod bilio—

(a)sydd i’w gyfalafu yn unol ag arferion priodol; neu

(b)sy’n cael ei drin fel pe bai’n wariant cyfalaf yn rhinwedd rheoliadau neu gyfarwyddydau a wneir gan Weinidogion Cymru o dan adran 16(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003.

12.  At ddibenion paragraff 4 o Ran 1, yr asesiad o wariant safonol ar gyfer awdurdod bilio a chomisiynydd heddlu a throseddu ar gyfer y flwyddyn berthnasol yw’r asesiad o wariant safonol ar gyfer y corff hwnnw yn yr adroddiad cyllid llywodraeth leol ar gyfer y flwyddyn honno a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan adran 84G o Ddeddf 1988(26) ac a gymeradwywyd drwy benderfyniad Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Rheoliad 7

ATODLEN 4Dirymiadau ac arbedion

Yr offerynnau a ddirymirCyfeirnodauGraddau’r dirymu
Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) 1993O.S. 1993/252Y rheoliadau cyfan
Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) (Diwygio) 1993O.S. 1993/1506Y rheoliadau cyfan
Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) (Diwygio) 1994O.S. 1994/415Y rheoliadau cyfan
Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) (Diwygio) 1995O.S. 1995/284Y rheoliadau cyfan
Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) (Diwygio) 1996O.S. 1996/311Y rheoliadau cyfan
Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Contractio Allan Swyddogaethau Bilio, Casglu a Gorfodi Trethi) 1996O.S. 1996/1880Erthygl 75(2)
Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) (Diwygio) 1997O.S. 1997/356Y rheoliadau cyfan
Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) (Diwygio) (Rhyddhad Ardrethi Gwledig) 1998O.S. 1998/155Y rheoliadau cyfan
Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) (Diwygio) 2000O.S. 2000/793 (Cy. 30)Y rheoliadau cyfan
Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) (Diwygio) 2003O.S. 2003/414 (Cy. 59)Y rheoliadau cyfan
Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) (Diwygio) 2005O.S. 2005/256 (Cy. 22)Y rheoliadau cyfan
Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Hysbysiadau Galw am Dalu a Rhyddhad yn ôl Disgresiwn) (Cymru) (Diwygio) 2006O.S. 2006/3392 (Cy. 311)Rheoliad 3
Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) (Diwygio) 2007O.S. 2007/3399 (Cy. 303)Y rheoliadau cyfan
Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) (Diwygio) 2008O.S. 2008/7 (Cy. 3)Y rheoliadau cyfan
Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) (Diwygiad Rhif 2) 2008O.S. 2008/3075 (Cy. 269)Y rheoliadau cyfan
Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) (Diwygio) 2010O.S. 2010/271 (Cy. 34)Y rheoliadau cyfan
Gorchymyn Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (Cychwyn Rhif 2, Arbedion a Darpariaethau Trosiannol) 2010O.S. 2010/2582 (Cy. 216)Paragraff 2 o Atodlen 4 i’r Gorchymyn
Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) (Diwygio) 2012O.S. 2012/467 (Cy. 78)Y rheoliadau cyfan
Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) (Diwygio) 2015O.S. 2015/655 (Cy. 52)Y rheoliadau cyfan

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer cynnwys hysbysiadau galw am dalu ardrethi annomestig a gyflwynir gan awdurdodau bilio yng Nghymru, ac ar gyfer yr wybodaeth y mae’n rhaid iddi fynd gyda hysbysiad galw am dalu a gyflwynir ganddynt. Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â hysbysiadau galw am dalu a ddyroddir mewn cysylltiad â blynyddoedd ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2017 neu wedi hynny.

Mae’r Rheoliadau hyn yn disodli Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) 1993. Yr unig newidiadau sylweddol yw’r rhai a wneir i’r nodiadau esboniadol yn Atodlen 2. Gwneir y newidiadau hyn o ganlyniad i’r ailbrisio ardrethi annomestig sy’n cael effaith o 1 Ebrill 2017 a’r rhyddhad trosiannol cysylltiedig a ddarperir gan Reoliadau Ardrethu Annomestig (Symiau a Godir) (Cymru) 2016 (O.S. 2016/1247 (Cy. 295)).

Mae Atodlen 1 i’r Rheoliadau hyn yn amlinellu materion y mae’n rhaid eu cynnwys mewn hysbysiad galw am dalu. Mae’r materion hyn yn neilltuol i’r hereditament o dan sylw, megis ei gyfeiriad a’i werth ardrethol. Mae rheoliad 4 yn darparu, pan fo awdurdod bilio wedi methu â chynnwys unrhyw un neu ragor o’r materion hynny mewn hysbysiad galw am dalu drwy gamgymeriad, y gallai’r galwadau am daliad oddi tano fod yn effeithiol o hyd. Byddai hynny’n digwydd pe gelwid am y symiau sy’n ofynnol o dan yr hysbysiad galw am dalu yn unol â Rhan II o Reoliadau Ardrethu Annomestig (Casglu a Gorfodi) (Rhestrau Lleol) 1989 ac felly wedi eu cyfrifo’n gywir. Rhaid i’r awdurdod bilio gywiro’r camgymeriad cyn gynted â phosibl drwy ddarparu’r wybodaeth gywir a hepgorwyd o’r hysbysiad galw am dalu gwreiddiol.

Mae Atodlen 2 yn rhagnodi nodiadau esboniadol y mae’n rhaid iddynt fynd gyda hysbysiad galw am dalu. Mae Atodlen 3 yn rhagnodi gwybodaeth bellach y mae’n rhaid iddi fynd gyda hysbysiadau galw am dalu. Mae rhywfaint o’r wybodaeth a ragnodir yn Atodlen 3 yn ymwneud â chomisiynwyr heddlu a throseddu. Mae rheoliad 6, felly, yn ei gwneud yn ofynnol i gomisiynwyr heddlu a throseddu ddarparu’r wybodaeth i awdurdodau bilio i alluogi awdurdodau bilio i ddarparu’r wybodaeth a ragnodir gan Atodlen 3 i drethdalwyr.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

(1)

1988 p. 41. Diwygiwyd paragraff 1 o Atodlen 9 gan Atodlen 13 i Ddeddf Tribiwnlysoedd, Llysoedd a Gorfodi 2007 (p. 15). Mewnosodwyd paragraff 2(2)(g) i (ge) o Atodlen 9 gan baragraff 44(2) o Atodlen 5 i Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (p. 42) (“Deddf 1989”). Diwygiwyd paragraff 2(2)(h) o Atodlen 9 gan baragraff 44(3) o Atodlen 5 i Ddeddf 1989 a chan adran 8(3) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 2012 (p. 17). Mewnosodwyd paragraff 6A o Atodlen 6A gan baragraff 87 o Atodlen 13 i Ddeddf 1992.

(2)

Trosglwyddwyd pwerau’r Ysgrifennydd Gwladol, o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672). Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru wedi hynny yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.

(5)

O.S. 1990/145, fel y’i diwygiwyd gan O.S. 1993/616 a 2014/600.

(6)

Fel y’i diwygiwyd gan baragraff 2(2) i (5) o Atodlen 6 a pharagraff 9 o Atodlen 7 i Ddeddf Lleoliaeth 2011 (p. 20).

(10)

Mewnosodwyd paragraffau 3B a 4B o Atodlen 7 i Ddeddf 1988 gan adran 62 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 (p. 26).

(11)

Mewnosodwyd adran 45(4A) o Ddeddf 1988 gan adran 1(1) o Ddeddf Ardrethu (Eiddo Gwag) 2007 (p. 9).

(12)

Diwygiwyd adran 45(1) o Ddeddf 1988 gan baragraff 23 o Atodlen 5 i Ddeddf 1989.

(13)

Mewnosodwyd adran 45(4) o Ddeddf 1988 gan adran 1(1) o Ddeddf Ardrethu (Eiddo Gwag) 2007.

(14)

Mewnosodwyd adran 45A o Ddeddf 1998 gan adran 1(2) o Ddeddf Ardrethu (Eiddo Gwag) 2007.

(15)

Mewnosodwyd adran 43(4A) gan adran 61 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003.

(16)

Mewnosodwyd adran 44A gan adran 139 o Ddeddf 1989, a pharagraff 22 o Atodlen 5 iddi. Diwygiwyd adran 44A(9) gan baragraff 1(4) o Atodlen 1 i Ddeddf Ardrethu (Eiddo Gwag) 2007.

(17)

Diwygiwyd adran 47(1)(a) gan baragraff 65 o Atodlen 13 i Ddeddf 1992 ac adran 69 o Ddeddf Lleoliaeth 2011.

(18)

Fel y’i diwygiwyd gan baragraff 21 o Atodlen 5 i Ddeddf 1989.

(21)

Mewnosodwyd adran 84L yn wreiddiol gan baragraff 1 o Atodlen 2 i Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 ond fe’i hamnewidiwyd wedi hynny gan baragraff 29 o Atodlen 1 i Orchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Addasiadau Canlyniadol a Darpariaethau Trosiannol) 2007 (O.S. 2007/1388).

(22)

1996 p. 16. Fel y’i diwygiwyd gan adran 24 o Ddeddf Diwygio’r Heddlu a Chyfrifoldeb Cymdeithasol 2011 (p. 13) ac adran 142(1) o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 (p. 12).

(23)

Diwygiwyd adran 33(1) gan baragraff 5(2) o Atodlen 12 i Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 (p. 19), paragraff 11 o Atodlen 7 i Ddeddf Lleoliaeth 2011, rheoliad 4(1) o Reoliadau Awdurdodau Lleol (Addasu Cyfrifiadau Angenrheidiol a Chronfeydd) 1994 (O.S. 1994/246), rheoliad 3 o Reoliadau Awdurdodau Lleol (Addasu Cyfrifiadau Angenrheidiol) (Cymru) 2012 (O.S. 2012/521) (Cy. 82) a rheoliad 3 o Reoliadau Awdurdodau Lleol (Addasu Cyfrifiadau Angenrheidiol) (Cymru) 2013 (O.S. 2013/216) (Cy. 28). Diwygiwyd adran 44(1) gan baragraff 21 o Atodlen 7 i Ddeddf Lleoliaeth 2011, rheoliad 4(1) o O.S. 1994/246, rheoliad 5 o Reoliadau Awdurdodau Lleol (Addasu Cyfrifiadau Angenrheidiol a Chronfeydd) 1995 (O.S. 1995/234), rheoliad 5 o Reoliadau Awdurdodau Lleol (Addasu Cyfrifiadau Angenrheidiol) (Cymru) 2010 (O.S. 2010/317) (Cy. 41), rheoliad 5 o Reoliadau Awdurdodau Lleol (Addasu Cyfrifiadau Angenrheidiol) (Cymru) 2011 (O.S. 2011/446) (Cy. 67), O.S. 2012/521 (Cy. 82) ac O.S. 2013/216 (Cy. 28).

(24)

Fel y’i diwygiwyd gan baragraff 18(4) o Atodlen 7 i Ddeddf Lleoliaeth 2011.

(25)

Fel y’i hamnewidiwyd gan reoliad 2 o Reoliadau Awdurdodau Lleol (Addasu Cyfrifiadau Angenrheidiol) (Cymru) 2013.

(26)

Mewnosodwyd adran 84G yn wreiddiol gan baragraff 1 o Atodlen 2 i Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 ac fe’i diwygiwyd yn ddiweddarach gan baragraff 25 o Atodlen 1 i O.S. 2007/1388.