Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau Swyddogion Canlyniadau) (Diwygio) 2017
Enwi, cychwyn a chymhwyso1.
(1)
Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau Swyddogion Canlyniadau) (Diwygio) 2017.
(2)
Daw’r Gorchymyn hwn i rym drannoeth y diwrnod y’i gwneir.
(3)
Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
Dehongli2.
Diwygio Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau Swyddogion Canlyniadau) 20163.
(1)
(2)
Yn erthygl 2 (dehongli) hepgorer y diffiniad o “etholiad comisiynydd heddlu a throseddu”.
(3)
Yn erthyglau 4, 5(1), 6(1), 7, 8(1) a 9(1), ac ym mhenawdau’r erthyglau hynny ac Atodlen 2, hepgorer y geiriau “ac a gynhelir ar yr un diwrnod ag etholiad comisiynydd heddlu a throseddu”.
(4)
“ATODLEN 1Y cyfanswm cyffredinol mwyaf sy’n adenilladwy a’r cyfansymiau mwyaf sy’n adenilladwy am wasanaethau penodedig ac am dreuliau penodedig mewn etholiad etholaeth Cynulliad a ymleddir
1.
Etholaeth Cynulliad
2.
Cyfanswm mwyaf sy’n adenilladwy am y gwasanaethau penodedig
3.
Cyfanswm mwyaf sy’n adenilladwy am y treuliau penodedig
4.
Cyfanswm cyffredinol mwyaf sy’n adenilladwy
Aberafan
£4,730.00
£162,732.00
£167,462.00
Aberconwy
£4,730.00
£113,416.00
£118,146.00
Alun a Glannau Dyfrdwy
£4,730.00
£133,869.00
£138,599.00
Arfon
£4,730.00
£115,258.00
£119,988.00
Blaenau Gwent
£4,730.00
£174,354.00
£179,084.00
Bro Morgannwg
£4,730.00
£207,142.00
£211,872.00
Brycheiniog a Sir Faesyfed
£4,730.00
£191,014.00
£195,744.00
Caerffili
£4,730.00
£172,693.00
£177,423.00
Canol Caerdydd
£4,730.00
£142,420.00
£147,150.00
Castell-nedd
£4,730.00
£182,765.00
£187,495.00
Ceredigion
£4,730.00
£165,255.00
£169,985.00
Cwm Cynon
£4,730.00
£130,993.00
£135,723.00
De Caerdydd a Phenarth
£4,730.00
£197,707.00
£202,437.00
De Clwyd
£4,730.00
£157,430.00
£162,160.00
Delyn
£4,730.00
£139,936.00
£144,666.00
Dwyfor Meirionnydd
£4,730.00
£163,850.00
£168,580.00
Dwyrain Abertawe
£4,730.00
£153,310.00
£158,040.00
Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr
£4,730.00
£190,822.00
£195,552.00
Dwyrain Casnewydd
£4,730.00
£139,993.00
£144,723.00
Dyffryn Clwyd
£4,730.00
£126,788.00
£131,518.00
Gogledd Caerdydd
£4,730.00
£177,763.00
£182,493.00
Gorllewin Abertawe
£4,730.00
£146,769.00
£151,499.00
Gorllewin Caerdydd
£4,730.00
£162,764.00
£167,494.00
Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro
£4,730.00
£173,850.00
£178,580.00
Gorllewin Casnewydd
£4,730.00
£160,721.00
£165,451.00
Gorllewin Clwyd
£4,730.00
£149,982.00
£154,712.00
Gŵyr
£4,730.00
£159,982.00
£164,712.00
Islwyn
£4,730.00
£150,767.00
£155,497.00
Llanelli
£4,730.00
£174,786.00
£179,516.00
Merthyr Tudful a Rhymni
£4,730.00
£168,128.00
£172,858.00
Mynwy
£4,730.00
£198,258.00
£202,988.00
Ogwr
£4,730.00
£136,181.00
£140,911.00
Pen-y-bont ar Ogwr
£4,730.00
£141,228.00
£145,958.00
Pontypridd
£4,730.00
£158,580.00
£163,310.00
Preseli Sir Benfro
£4,730.00
£173,779.00
£178,509.00
Rhondda
£4,730.00
£148,564.00
£153,294.00
Sir Drefaldwyn
£4,730.00
£141,920.00
£146,650.00
Torfaen
£4,730.00
£175,871.00
£180,601.00
Wrecsam
£4,730.00
£118,331.00
£123,061.00
Ynys Môn
£4,730.00
£150,220.00
£154,950.00”.
Mae’r Gorchymyn hwn yn darparu ar gyfer taliadau am wasanaethau a threuliau swyddogion canlyniadau mewn cysylltiad â chynnal etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau Swyddogion Canlyniadau) 2016 (O.S. 2016/417 (Cy. 133)) (“Gorchymyn 2016”). Fe’i gwneir o dan erthygl 23 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2007 (O.S. 2007/236). Mae erthygl 23 yn darparu bod hawl gan swyddog canlyniadau etholaeth neu swyddog canlyniadau rhanbarthol i adennill taliadau mewn perthynas â gwasanaethau a ddarparwyd neu dreuliau yr aed iddynt mewn cysylltiad ag etholiad Cynulliad.
Mae erthygl 3(2) yn diwygio erthygl 2 o Orchymyn 2016 drwy ddileu’r diffiniad o “etholiad comisiynydd heddlu a throseddu”.
Mae erthygl 3(3) yn diwygio erthyglau 4, 5(1), 6(1), 7, 8(1) a 9(1) o Orchymyn 2016 drwy ddileu cyfeiriadau at etholiadau Comisiynwyr Heddlu a Throseddu (cyfeirir atynt yng Ngorchymyn 2016 fel etholiad comisiynydd heddlu a throseddu).
Fel y’i diwygiwyd, mae erthygl 4 o Orchymyn 2016 yn pennu mai’r cyfanswm cyffredinol mwyaf sy’n adenilladwy am etholiad etholaeth Cynulliad a ymleddir yw’r hyn a ddangosir yng ngholofn 4 y tabl yn Atodlen 1 i’r Gorchymyn hwnnw.
Fel y’i diwygiwyd, mae erthygl 5 o Orchymyn 2016 yn pennu mai’r cyfanswm mwyaf sy’n adenilladwy am wasanaethau mewn etholiad etholaeth Cynulliad a ymleddir yw’r hyn a ddangosir yng ngholofn 2 y tabl yn Atodlen 1 i’r Gorchymyn hwnnw.
Fel y’i diwygiwyd, mae erthygl 6 o Orchymyn 2016 yn pennu mai’r cyfanswm mwyaf sy’n adenilladwy am dreuliau mewn etholiad etholaeth Cynulliad a ymleddir yw’r hyn a ddangosir yng ngholofn 3 y tabl yn Atodlen 1 i’r Gorchymyn hwnnw.
Fel y’i diwygiwyd, mae erthygl 7 o Orchymyn 2016 yn pennu mai’r cyfanswm cyffredinol mwyaf sy’n adenilladwy am etholiad rhanbarthol y Cynulliad a ymleddir yw’r hyn a ddangosir yng ngholofn 4 y tabl yn Atodlen 2 i’r Gorchymyn hwnnw.
Fel y’i diwygiwyd, mae erthygl 8 o Orchymyn 2016 yn pennu mai’r cyfanswm mwyaf sy’n adenilladwy am wasanaethau mewn etholiad rhanbarthol y Cynulliad a ymleddir yw’r hyn a ddangosir yng ngholofn 2 y tabl yn Atodlen 2 i’r Gorchymyn hwnnw.
Fel y’i diwygiwyd, mae erthygl 9 o Orchymyn 2016 yn pennu mai’r cyfanswm mwyaf sy’n adenilladwy am dreuliau mewn etholiad rhanbarthol y Cynulliad a ymleddir yw’r hyn a ddangosir yng ngholofn 3 y tabl yn Atodlen 2 i’r Gorchymyn hwnnw.
Mae erthygl 3(3) o’r Gorchymyn hwn hefyd yn dileu’r cyfeiriadau at etholiadau Comisiynwyr Heddlu a Throseddu ym mhenawdau erthyglau 4, 5, 6, 7, 8 a 9 o Orchymyn 2016 ac Atodlen 2 iddo.
Mae erthygl 3(4) yn amnewid Atodlen 1 i Orchymyn 2016. Mae’r tabl yn Atodlen 1 sydd wedi ei hamnewid yn rhestru’r cyfanswm cyffredinol mwyaf (colofn 4), a’r cyfansymiau mwyaf am wasanaethau (colofn 2) ac am dreuliau (colofn 3), sy’n adenilladwy gan swyddog canlyniadau etholaethol am etholiad a ymleddir i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, neu mewn cysylltiad ag etholiad o’r fath.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.