Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau Swyddogion Canlyniadau) (Diwygio) 2017

Offerynnau Statudol Cymru

2017 Rhif 1106 (Cy. 280)

Cynrychiolaeth Y Bobl, Cymru

Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau Swyddogion Canlyniadau) (Diwygio) 2017

Gwnaed

15 Tachwedd 2017

Yn dod i rym yn unol ag erthygl 1(2)

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 23 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2007(1) ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy(2), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn—

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau Swyddogion Canlyniadau) (Diwygio) 2017.

(2Daw’r Gorchymyn hwn i rym drannoeth y diwrnod y’i gwneir.

(3Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.  Yn y Gorchymyn hwn mae “etholaeth Cynulliad” (“Assembly constituency”) i’w ddehongli yn unol ag adran 2 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006(3).

Diwygio Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau Swyddogion Canlyniadau) 2016

3.—(1Mae Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau Swyddogion Canlyniadau) 2016(4) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Yn erthygl 2 (dehongli) hepgorer y diffiniad o “etholiad comisiynydd heddlu a throseddu”.

(3Yn erthyglau 4, 5(1), 6(1), 7, 8(1) a 9(1), ac ym mhenawdau’r erthyglau hynny ac Atodlen 2, hepgorer y geiriau “ac a gynhelir ar yr un diwrnod ag etholiad comisiynydd heddlu a throseddu”.

(4Yn lle Atodlen 1 rhodder yr Atodlen a ganlyn—

Erthyglau 4, 5(1) a 6(1)

ATODLEN 1Y cyfanswm cyffredinol mwyaf sy’n adenilladwy a’r cyfansymiau mwyaf sy’n adenilladwy am wasanaethau penodedig ac am dreuliau penodedig mewn etholiad etholaeth Cynulliad a ymleddir

1.

Etholaeth Cynulliad

2.

Cyfanswm mwyaf sy’n adenilladwy am y gwasanaethau penodedig

3.

Cyfanswm mwyaf sy’n adenilladwy am y treuliau penodedig

4.

Cyfanswm cyffredinol mwyaf sy’n adenilladwy

Aberafan£4,730.00£162,732.00£167,462.00
Aberconwy£4,730.00£113,416.00£118,146.00
Alun a Glannau Dyfrdwy£4,730.00£133,869.00£138,599.00
Arfon£4,730.00£115,258.00£119,988.00
Blaenau Gwent£4,730.00£174,354.00£179,084.00
Bro Morgannwg£4,730.00£207,142.00£211,872.00
Brycheiniog a Sir Faesyfed£4,730.00£191,014.00£195,744.00
Caerffili£4,730.00£172,693.00£177,423.00
Canol Caerdydd£4,730.00£142,420.00£147,150.00
Castell-nedd£4,730.00£182,765.00£187,495.00
Ceredigion£4,730.00£165,255.00£169,985.00
Cwm Cynon£4,730.00£130,993.00£135,723.00
De Caerdydd a Phenarth£4,730.00£197,707.00£202,437.00
De Clwyd£4,730.00£157,430.00£162,160.00
Delyn£4,730.00£139,936.00£144,666.00
Dwyfor Meirionnydd£4,730.00£163,850.00£168,580.00
Dwyrain Abertawe£4,730.00£153,310.00£158,040.00
Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr£4,730.00£190,822.00£195,552.00
Dwyrain Casnewydd£4,730.00£139,993.00£144,723.00
Dyffryn Clwyd£4,730.00£126,788.00£131,518.00
Gogledd Caerdydd£4,730.00£177,763.00£182,493.00
Gorllewin Abertawe£4,730.00£146,769.00£151,499.00
Gorllewin Caerdydd£4,730.00£162,764.00£167,494.00
Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro£4,730.00£173,850.00£178,580.00
Gorllewin Casnewydd£4,730.00£160,721.00£165,451.00
Gorllewin Clwyd£4,730.00£149,982.00£154,712.00
Gŵyr£4,730.00£159,982.00£164,712.00
Islwyn£4,730.00£150,767.00£155,497.00
Llanelli£4,730.00£174,786.00£179,516.00
Merthyr Tudful a Rhymni£4,730.00£168,128.00£172,858.00
Mynwy£4,730.00£198,258.00£202,988.00
Ogwr£4,730.00£136,181.00£140,911.00
Pen-y-bont ar Ogwr£4,730.00£141,228.00£145,958.00
Pontypridd£4,730.00£158,580.00£163,310.00
Preseli Sir Benfro£4,730.00£173,779.00£178,509.00
Rhondda£4,730.00£148,564.00£153,294.00
Sir Drefaldwyn£4,730.00£141,920.00£146,650.00
Torfaen£4,730.00£175,871.00£180,601.00
Wrecsam£4,730.00£118,331.00£123,061.00
Ynys Môn£4,730.00£150,220.00£154,950.00.

Alun Davies

Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus, un o Weinidogion Cymru

15 Tachwedd 2017

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn darparu ar gyfer taliadau am wasanaethau a threuliau swyddogion canlyniadau mewn cysylltiad â chynnal etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau Swyddogion Canlyniadau) 2016 (O.S. 2016/417 (Cy. 133)) (“Gorchymyn 2016”). Fe’i gwneir o dan erthygl 23 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2007 (O.S. 2007/236). Mae erthygl 23 yn darparu bod hawl gan swyddog canlyniadau etholaeth neu swyddog canlyniadau rhanbarthol i adennill taliadau mewn perthynas â gwasanaethau a ddarparwyd neu dreuliau yr aed iddynt mewn cysylltiad ag etholiad Cynulliad.

Mae erthygl 3(2) yn diwygio erthygl 2 o Orchymyn 2016 drwy ddileu’r diffiniad o “etholiad comisiynydd heddlu a throseddu”.

Mae erthygl 3(3) yn diwygio erthyglau 4, 5(1), 6(1), 7, 8(1) a 9(1) o Orchymyn 2016 drwy ddileu cyfeiriadau at etholiadau Comisiynwyr Heddlu a Throseddu (cyfeirir atynt yng Ngorchymyn 2016 fel etholiad comisiynydd heddlu a throseddu).

Fel y’i diwygiwyd, mae erthygl 4 o Orchymyn 2016 yn pennu mai’r cyfanswm cyffredinol mwyaf sy’n adenilladwy am etholiad etholaeth Cynulliad a ymleddir yw’r hyn a ddangosir yng ngholofn 4 y tabl yn Atodlen 1 i’r Gorchymyn hwnnw.

Fel y’i diwygiwyd, mae erthygl 5 o Orchymyn 2016 yn pennu mai’r cyfanswm mwyaf sy’n adenilladwy am wasanaethau mewn etholiad etholaeth Cynulliad a ymleddir yw’r hyn a ddangosir yng ngholofn 2 y tabl yn Atodlen 1 i’r Gorchymyn hwnnw.

Fel y’i diwygiwyd, mae erthygl 6 o Orchymyn 2016 yn pennu mai’r cyfanswm mwyaf sy’n adenilladwy am dreuliau mewn etholiad etholaeth Cynulliad a ymleddir yw’r hyn a ddangosir yng ngholofn 3 y tabl yn Atodlen 1 i’r Gorchymyn hwnnw.

Fel y’i diwygiwyd, mae erthygl 7 o Orchymyn 2016 yn pennu mai’r cyfanswm cyffredinol mwyaf sy’n adenilladwy am etholiad rhanbarthol y Cynulliad a ymleddir yw’r hyn a ddangosir yng ngholofn 4 y tabl yn Atodlen 2 i’r Gorchymyn hwnnw.

Fel y’i diwygiwyd, mae erthygl 8 o Orchymyn 2016 yn pennu mai’r cyfanswm mwyaf sy’n adenilladwy am wasanaethau mewn etholiad rhanbarthol y Cynulliad a ymleddir yw’r hyn a ddangosir yng ngholofn 2 y tabl yn Atodlen 2 i’r Gorchymyn hwnnw.

Fel y’i diwygiwyd, mae erthygl 9 o Orchymyn 2016 yn pennu mai’r cyfanswm mwyaf sy’n adenilladwy am dreuliau mewn etholiad rhanbarthol y Cynulliad a ymleddir yw’r hyn a ddangosir yng ngholofn 3 y tabl yn Atodlen 2 i’r Gorchymyn hwnnw.

Mae erthygl 3(3) o’r Gorchymyn hwn hefyd yn dileu’r cyfeiriadau at etholiadau Comisiynwyr Heddlu a Throseddu ym mhenawdau erthyglau 4, 5, 6, 7, 8 a 9 o Orchymyn 2016 ac Atodlen 2 iddo.

Mae erthygl 3(4) yn amnewid Atodlen 1 i Orchymyn 2016. Mae’r tabl yn Atodlen 1 sydd wedi ei hamnewid yn rhestru’r cyfanswm cyffredinol mwyaf (colofn 4), a’r cyfansymiau mwyaf am wasanaethau (colofn 2) ac am dreuliau (colofn 3), sy’n adenilladwy gan swyddog canlyniadau etholaethol am etholiad a ymleddir i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, neu mewn cysylltiad ag etholiad o’r fath.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.

(2)

Yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32), a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi, trosglwyddwyd pwerau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru.

(3)

2006 p. 32. Diwygiwyd adran 2 gan Ddeddf Pleidleisio Seneddol ac Etholaethau 2011 (p. 1); adrannau 13(1), 13(2)(a) ac 16 o’r Ddeddf honno, a Rhan 2 o Atodlen 12 iddi.