Mae adran 10(1) o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (“y Ddeddf”) yn ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr gwasanaethau gyflwyno datganiad blynyddol i Weinidogion Cymru.
Mae adran 10(2) o’r Ddeddf yn nodi’r gofynion ar gyfer cynnwys y datganiad blynyddol.
Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud o dan adran 10(2)(a)(vii), (viii) a (ix), (3) a (4) o’r Ddeddf, sy’n galluogi Gweinidogion Cymru i ragnodi’r wybodaeth am hyfforddiant a chynllunio’r gweithlu a gwybodaeth arall y mae rhaid ei chynnwys yn y datganiad blynyddol, i ragnodi ffurf y datganiad blynyddol ac i ragnodi’r terfyn amser y mae rhaid cyflwyno’r datganiad blynyddol i Weinidogion Cymru ynddo.
Mae rheoliad 3 yn ei gwneud yn ofynnol i’r datganiad blynyddol gynnwys gwybodaeth am y trefniadau ar gyfer nodi, cynllunio a diwallu anghenion hyfforddiant staff.
Mae rheoliad 4 yn ei gwneud yn ofynnol i’r datganiad blynyddol gynnwys gwybodaeth am y trefniadau ar gyfer recriwtio a chadw staff.
Mae rheoliadau 5 a 6 a’r Atodlen yn ymdrin â gwybodaeth arall am y gwasanaeth a ddarperir ym mhob lleoliad y mae rhaid ei chynnwys yn y datganiad blynyddol, gan gynnwys gwybodaeth am staffio ac am y gwasanaeth a ddarperir a’r wybodaeth benodol sy’n ofynnol pan fo’r gwasanaeth yn cynnwys y ddarpariaeth o lety.
Mae rheoliadau 7 ac 8 yn ei gwneud yn ofynnol i’r datganiad blynyddol gynnwys datganiad o wirionedd gan y darparwr gwasanaeth a’r unigolyn cyfrifol. Bydd hwn yn darparu tystiolaeth o’r person sy’n gyfrifol am wneud datganiad yn y datganiad blynyddol os bydd erlyniad am drosedd o dan adran 47 o’r Ddeddf (datganiadau anwir).
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.