Rheoliadau Hadau (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2017
Yn unol ag adran 16(1) o’r Ddeddf honno, mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â chynrychiolwyr y buddiannau hynny y mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru yr effeithir arnynt.
Enwi, cychwyn a chymhwyso1.
(1)
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Hadau (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2017 a deuant i rym ar 15 Rhagfyr 2017.
(2)
Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Diwygio Rheoliadau Marchnata Hadau (Cymru) 20122.
Diwygio Rheoliadau Tatws Hadyd (Cymru) 20163.
“(ia)
rhif cyfresol wedi ei neilltuo yn swyddogol;”.
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Marchnata Hadau (Cymru) 2012 a Rheoliadau Tatws Hadyd (Cymru) 2016.
Mae rheoliad 2 yn gweithredu Cyfarwyddeb Weithredu’r Comisiwn (EU) 2016/2109 sy’n diwygio Cyfarwyddeb 66/401/EEC i adlewyrchu’r newid i enw botanegol y rhywogaeth Lolium x boucheanum Kunth (OJ Rhif L 327, 2.12.2016, t. 59). Mae rheoliad 2 yn diwygio Rheoliadau Marchnata Hadau (Cymru) 2012 i adlewyrchu’r newid hwnnw i’r enw botanegol.
Mae rheoliad 3 yn gweithredu Penderfyniad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2016/320 (“y Penderfyniad”). Mae’r Penderfyniad yn diwygio Penderfyniad 2004/842/EC ynghylch y rheolau sy’n caniatáu i Aelod-wladwriaethau awdurdodi rhoi ar y farchnad hadau sy’n perthyn i amrywogaethau y mae cais i’w cynnwys yn y catalog cenedlaethol o amrywogaethau planhigion amaethyddol neu o rywogaethau llysieuol wedi cael ei gyflwyno (OJ L 60, 5.3.2016, t. 88). Mae’r Penderfyniad yn cynnwys y gofyniad i rif cyfresol wedi ei neilltuo yn swyddogol gael ei nodi ar label swyddogol tatws had sydd wedi eu hawdurdodi i gael eu marchnata at ddibenion profion a threialon. Mae rheoliad 3 yn diwygio Rheoliadau Tatws Hadyd (Cymru) 2016 er mwyn adlewyrchu’r gofyniad hwnnw.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.