2017 Rhif 1058 (Cy. 271)
Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2017
Gwnaed
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn dod i rym
Mae Panel Cynghori ar Amaethyddiaeth Cymru, yn unol â’i swyddogaethau o dan erthygl 3(2)(b) o Orchymyn Panel Cynghori ar Amaethyddiaeth Cymru (Sefydlu) 20161, wedi llunio gorchymyn cyflogau amaethyddol ar ffurf ddrafft, wedi ymgynghori ar y gorchymyn ac wedi ei gyflwyno i Weinidogion Cymru i’w gymeradwyo ganddynt.
Mae Gweinidogion Cymru wedi cymeradwyo’r gorchymyn cyflogau amaethyddol drafft yn unol ag adran 4(1)(a) o Ddeddf Sector Amaethyddol (Cymru) 20142.
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 3, 4(1) a 17 o Ddeddf Sector Amaethyddol (Cymru) 2014, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.
RHAN 1 - Rhagarweiniol
Enwi a chychwyn1
1
Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2017 ac mae’n dod i rym drannoeth y diwrnod y’i gwneir.
2
Er bod y Gorchymyn hwn yn dod i rym drannoeth y diwrnod y’i gwneir, mae’n gymwys fel pe bai wedi dod i rym ar 1 Ebrill 2017.
Dehongli2
1
Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “absenoldeb salwch” (“sickness absence”) yw absenoldeb unrhyw weithiwr amaethyddol o’r gwaith oherwydd analluedd yn sgil—
- a
unrhyw salwch a ddioddefir gan y gweithiwr amaethyddol;
- b
salwch neu analluedd a achosir am fod y gweithiwr amaethyddol yn feichiog neu’n fam;
- c
anaf sy’n digwydd i’r gweithiwr amaethyddol yn ei le gwaith;
- d
anaf sy’n digwydd i’r gweithiwr amaethyddol wrth deithio yn ôl ac ymlaen i’w le gwaith;
- e
amser a dreulir gan y gweithiwr amaethyddol yn ymadfer ar ôl llawdriniaeth a achoswyd gan salwch; neu
- f
amser a dreulir gan y gweithiwr amaethyddol yn ymadfer ar ôl llawdriniaeth o ganlyniad i anaf a ddioddefwyd yn ei le gwaith neu anaf a ddioddefwyd wrth deithio yn ôl ac ymlaen i’w le gwaith,
ond nid yw’n cynnwys unrhyw anaf a ddioddefir gan y gweithiwr amaethyddol pan na fo yn ei le gwaith nac unrhyw anaf a ddioddefir pan na fo’r gweithiwr amaethyddol yn teithio yn ôl ac ymlaen i’w le gwaith;
- a
ystyr “amser gweithio” (“working time”) yw unrhyw gyfnod pryd y mae gweithiwr amaethyddol yn gweithio yng ngwasanaeth ei gyflogwr ac yn cyflawni ei weithgareddau neu ei ddyletswyddau yn unol â naill ai ei gontract gwasanaeth neu ei brentisiaeth ac mae’n cynnwys—
- a
unrhyw gyfnod pryd y mae gweithiwr amaethyddol yn derbyn hyfforddiant perthnasol;
- b
unrhyw gyfnod a dreulir gan weithiwr amaethyddol yn teithio at ddibenion ei gyflogaeth ond nad yw’n cynnwys amser a dreulir yn teithio rhwng ei gartref a’i le gwaith;
- c
unrhyw gyfnod y mae gweithiwr amaethyddol yn cael ei rwystro rhag cyflawni gweithgareddau neu ddyletswyddau yn unol â’i gontract gwasanaeth neu ei brentisiaeth oherwydd tywydd drwg; a
- d
unrhyw gyfnod ychwanegol y mae’r cyflogwr a’r gweithiwr amaethyddol yn cytuno ei fod i’w drin fel amser gweithio,
- a
ac mae cyfeiriadau at “gwaith” (“work”) i’w dehongli yn unol â hyn;
ystyr “ar alwad” (“on-call”) yw trefniant ffurfiol rhwng y gweithiwr amaethyddol a’i gyflogwr pan fo gweithiwr amaethyddol nad yw yn y gwaith yn cytuno â’i gyflogwr y bydd modd cysylltu ag ef drwy gyfrwng y cytunir arno ac y gall gyrraedd y fan lle y gall fod yn ofynnol iddo weithio o fewn amser y cytunir arno;
ystyr “diwrnodau cymwys” (“qualifying days”) yw diwrnodau pan fyddai’n ofynnol fel arfer i’r gweithiwr amaethyddol fod ar gael i weithio heblaw unrhyw ddiwrnodau pan oedd y gweithiwr amaethyddol—
- a
yn cymryd gwyliau blynyddol;
- b
yn cymryd absenoldeb oherwydd profedigaeth; neu
- c
yn cymryd absenoldeb mamolaeth, absenoldeb tadolaeth neu absenoldeb mabwysiadu statudol;
- a
ystyr “goramser” (“overtime”) yw—
- a
mewn perthynas â gweithiwr amaethyddol a ddechreuodd ei gyflogaeth cyn 1 Hydref 2006, amser nad yw’n oramser gwarantedig y mae’r gweithiwr amaethyddol yn ei weithio—
- i
yn ychwanegol at ddiwrnod gwaith 8 awr;
- ii
yn ychwanegol at yr oriau gwaith y cytunwyd arnynt yn ei gontract gwasanaeth;
- iii
ar ŵyl gyhoeddus;
- iv
ar ddydd Sul; neu
- v
mewn unrhyw gyfnod sy’n cychwyn ar ddydd Sul ac yn parhau hyd y dydd Llun canlynol hyd at yr amser y byddai’r gweithiwr hwnnw yn cychwyn ei ddiwrnod gwaith fel arfer;
- i
- b
mewn perthynas â phob gweithiwr amaethyddol arall, amser nad yw’n oramser gwarantedig y mae’r gweithiwr amaethyddol yn ei weithio—
- i
yn ychwanegol at ddiwrnod gwaith 8 awr;
- ii
yn ychwanegol at yr oriau gwaith y cytunwyd arnynt yn ei gontract gwasanaeth; neu
- iii
ar ŵyl gyhoeddus;
- i
- a
ystyr “goramser gwarantedig” (“guaranteed overtime”) yw goramser y mae’n ofynnol i weithiwr amaethyddol ei weithio o dan naill ai ei gontract gwasanaeth neu ei brentisiaeth ac y mae cyflogwr y gweithiwr amaethyddol yn gwarantu taliad ar ei gyfer, p’un a oes gwaith i’r gweithiwr amaethyddol ei wneud neu beidio;
ystyr “grant geni a mabwysiadu” (“birth and adoption grant”) yw taliad y mae gan weithiwr amaethyddol hawl i’w gael oddi wrth ei gyflogwr pan enir plentyn iddo neu pan fydd yn mabwysiadu plentyn ac mae’n daladwy—
- a
pan fo’r gweithiwr amaethyddol wedi rhoi copi i’w gyflogwr o Dystysgrif Geni’r plentyn neu ei Orchymyn Mabwysiadu (sy’n enwi’r gweithiwr fel rhiant y plentyn neu ei riant mabwysiadol) o fewn 3 mis ar ôl geni neu fabwysiadu’r plentyn; a
- b
o dan amgylchiadau pan fo’r ddau riant neu’r ddau riant mabwysiadol yn weithwyr amaethyddol gyda’r un cyflogwr, i’r ddau weithiwr amaethyddol;
- a
ystyr “gwaith allbwn” (“output work”) yw gwaith sydd, at ddibenion tâl, yn cael ei fesur yn ôl nifer y darnau a wneir neu a brosesir neu nifer y tasgau a gyflawnir gan weithiwr amaethyddol;
ystyr “gwaith nos” (“night work”) yw gwaith (heblaw oriau goramser) a wneir gan weithiwr amaethyddol rhwng 7 p.m. un noson a 6 a.m. fore trannoeth, ond heb gynnwys y ddwy awr gyntaf o waith y mae gweithiwr amaethyddol yn ei wneud yn y cyfnod hwnnw;
ystyr “llety arall” (“other accommodation”) yw unrhyw lety byw heblaw tŷ—
- a
sy’n addas i bobl fyw ynddo;
- b
sy’n ddiogel ac yn ddiddos;
- c
sy’n darparu gwely i’w ddefnyddio gan bob gweithiwr amaethyddol unigol yn unig; a
- d
sy’n darparu dŵr yfed glân, cyfleusterau glanweithdra addas a digonol a chyfleusterau ymolchi i weithwyr amaethyddol yn unol â rheoliadau 20 i 22 o Reoliadau Gweithleoedd (Iechyd, Diogelwch a Lles) 19923 fel pe bai’r llety’n weithle yr oedd rheoliadau 20 i 22 o’r Rheoliadau hynny’n gymwys iddo;
- a
mae i “oedran ysgol gorfodol” yr ystyr a roddir i “compulsory school age” yn adran 8 o Ddeddf Addysg 19964;
mae “oriau” (“hours”) yn cynnwys ffracsiwn o awr;
ystyr “oriau sylfaenol” (“basic hours”) yw 39 awr o waith yr wythnos, heb gynnwys goramser, a weithir yn unol â naill ai contract gwasanaeth neu brentisiaeth gweithiwr amaethyddol;
ystyr “teithio” (“travelling”) yw siwrnai drwy gyfrwng dull teithio neu siwrnai ar droed yn cynnwys—
- a
aros wrth fan ymadael i gychwyn siwrnai drwy gyfrwng dull teithio;
- b
aros wrth fan ymadael i siwrnai ailgychwyn naill ai drwy gyfrwng yr un dull teithio neu drwy gyfrwng un arall, ac eithrio unrhyw amser a dreulir gan y gweithiwr amaethyddol yn cymryd seibiant gorffwys; ac
- c
aros ar ddiwedd siwrnai i gyflawni dyletswyddau, neu i dderbyn hyfforddiant, ac eithrio unrhyw amser a dreulir gan y gweithiwr amaethyddol yn cymryd seibiant gorffwys;
- a
ystyr “tŷ” (“house”) yw tŷ annedd cyfan neu lety hunangynhwysol y mae’n ofynnol i’r gweithiwr amaethyddol fyw ynddo yn rhinwedd contract gwasanaeth y gweithiwr amaethyddol er mwyn cyflawni ei ddyletswyddau mewn modd priodol neu well ac mae’n cynnwys unrhyw ardd o fewn cwrtil y tŷ annedd neu’r llety hunangynhwysol hwnnw.
2
Yn yr erthygl hon mae’r cyfeiriad at weithwyr amaethyddol a ddechreuodd eu cyflogaeth cyn 1 Hydref 2006 yn cynnwys gweithwyr amaethyddol—
a
y mae telerau eu contract wedi bod yn destun unrhyw amrywiad ers hynny; neu
b
sydd wedi eu cyflogi gan gyflogwr newydd ers hynny yn unol â Rheoliadau Trosglwyddo Ymgymeriadau (Diogelu Cyflogaeth) 20065.
3
Mae cyfeiriadau yn y Gorchymyn hwn at gyfnod o gyflogaeth ddi-dor i’w dehongli fel cyfnod o gyflogaeth ddi-dor a gyfrifir yn unol ag adrannau 210 i 219 o Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 19966.
RHAN 2 – Gweithwyr amaethyddol
Telerau ac amodau cyflogaeth3
Mae cyflogaeth gweithiwr amaethyddol yn ddarostyngedig i’r telerau a’r amodau a nodir yn y Rhan hon ac yn Rhannau 3, 4 a 5 o’r Gorchymyn hwn.
Graddau a chategorïau gweithiwr amaethyddol4
Rhaid i weithiwr amaethyddol gael ei gyflogi fel gweithiwr ar un o’r Graddau a bennir yn erthyglau 5 i 9 neu 10(1) neu fel prentis yn unol â’r darpariaethau yn erthygl 11.
Gradd 25
Rhaid i weithiwr amaethyddol—
a
sy’n darparu tystiolaeth ddogfennol i gyflogwr fod ganddo—
i
un o’r dyfarniadau neu’r tystysgrifau cymhwysedd a restrir yn y tablau yn Atodlen 1;
ii
un Cymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol sy’n berthnasol i’w waith; neu
iii
cymhwyster cyfatebol; neu
b
y mae’n ofynnol iddo—
i
gweithio heb oruchwyliaeth;
ii
gweithio gydag anifeiliaid;
iii
gweithio â pheiriannau pŵer; neu
iv
gyrru tractor amaethyddol,
gael ei gyflogi fel gweithiwr ar Radd 2.
Gradd 36
1
Rhaid i weithiwr amaethyddol sydd wedi ei gyflogi mewn amaethyddiaeth am gyfnod agregedig o 2 flynedd o leiaf yn ystod y 5 mlynedd blaenorol ac—
a
sy’n darparu tystiolaeth ddogfennol i gyflogwr fod ganddo —
i
un o’r dyfarniadau neu’r tystysgrifau cymhwysedd a restrir yn y tablau yn Atodlen 2;
ii
un Cymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol sy’n berthnasol i’w waith; neu
iii
cymhwyster cyfatebol; neu
b
sydd wedi ei ddynodi’n arweinydd tîm,
gael ei gyflogi fel gweithiwr ar Radd 3.
2
At ddibenion yr erthygl hon, mae “arweinydd tîm” yn gyfrifol am arwain tîm o weithwyr amaethyddol ac am fonitro sut mae’r tîm yn cydymffurfio â chyfarwyddiadau a roddir gan neu ar ran eu cyflogwr ond nid yw’n gyfrifol am faterion disgyblu.
Gradd 47
Rhaid i weithiwr amaethyddol—
a
sy’n darparu tystiolaeth ddogfennol i gyflogwr fod ganddo gyfanswm o 8 cymhwyster sydd naill ai—
i
yn ddyfarniadau neu dystysgrifau cymhwysedd a restrir yn y tablau yn Atodlen 1;
ii
yn Gymwysterau Galwedigaethol Cenedlaethol sy’n berthnasol i’w waith; neu
iii
yn gymwysterau cyfatebol; neu
b
sy’n darparu tystiolaeth ddogfennol i gyflogwr fod ganddo 1 o’r dyfarniadau neu dystysgrifau cymhwysedd a restrir yn y tablau yn Atodlen 3 neu gymhwyster cyfatebol; ac
c
sydd naill ai—
i
wedi ei gyflogi mewn amaethyddiaeth am gyfnod agregedig o 2 flynedd o leiaf yn ystod y 5 mlynedd diwethaf; neu
ii
wedi ei gyflogi’n ddi-dor am gyfnod o 12 mis neu ragor o leiaf gan yr un cyflogwr ers ennill y cymwysterau y cyfeirir atynt ym mharagraffau (a) a (b),
gael ei gyflogi fel gweithiwr ar Radd 4.
Gradd 58
Rhaid i weithiwr amaethyddol y mae’n ofynnol iddo ysgwyddo cyfrifoldeb o ddydd i ddydd—
a
dros oruchwylio’r gwaith a gyflawnir ar ddaliad y cyflogwr;
b
dros roi penderfyniadau rheoli ar waith; neu
c
dros reoli staff,
gael ei gyflogi fel gweithiwr ar Radd 5.
Gradd 69
Rhaid i weithiwr amaethyddol y mae’n ofynnol iddo ysgwyddo cyfrifoldeb rheoli—
a
dros ddaliad cyfan y cyflogwr;
b
dros ran o ddaliad y cyflogwr a redir fel gweithrediad neu fusnes ar wahân; neu
c
dros hurio a rheoli staff,
gael ei gyflogi fel gweithiwr ar Radd 6.
Datblygu Proffesiynol Parhaus10
1
Rhaid i weithiwr amaethyddol na ellir ei gyflogi ar un o Raddau 2 i 6 yn unol â’r ddarpariaeth yn erthyglau 5 i 9 o’r Gorchymyn hwn ac nad yw’n brentis yn unol ag erthygl 11 gael ei gyflogi fel gweithiwr ar Radd 1.
2
Mae prentis sydd yn nhrydedd flwyddyn ac unrhyw flwyddyn olynol ei brentisiaeth i fod yn ddarostyngedig i’r cyfraddau tâl isaf ac unrhyw delerau ac amodau eraill yn y Gorchymyn hwn sy’n gymwys i weithwyr amaethyddol a gyflogir ar Radd 2.
3
Rhaid i weithiwr amaethyddol—
a
cadw tystiolaeth ddogfennol o gymwysterau a phrofiad a enillwyd ganddo sy’n berthnasol i’w gyflogaeth; a
b
rhoi gwybod i’w gyflogwr os yw wedi ennill cymwysterau a phrofiad sy’n ei alluogi i gael ei gyflogi ar Radd wahanol.
Prentisiaid11
1
Mae gweithiwr amaethyddol yn brentis sydd wedi ei gyflogi o dan brentisiaeth—
a
os yw’n cael ei gyflogi o dan naill ai contract prentisiaeth neu gytundeb prentisiaeth o fewn ystyr “apprenticeship agreement” yn adran 32 o Ddeddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 20097, neu’n cael ei drin fel pe bai wedi ei gyflogi o dan gontract prentisiaeth; a
b
os yw o fewn y 12 mis cyntaf ar ôl cychwyn y gyflogaeth honno yn llai na 19 oed.
2
Rhaid i weithiwr amaethyddol gael ei drin fel pe bai wedi ei gyflogi o dan gontract prentisiaeth os yw wedi ei gymryd ymlaen yng Nghymru o dan drefniadau Llywodraeth o’r enw Prentisiaethau Sylfaen, Prentisiaethau neu Brentisiaethau Uwch.
RHAN 3 - Yr isafswm cyflog amaethyddol
Cyfraddau tâl isaf12
1
Yn ddarostyngedig i weithrediad adran 1 o Ddeddf Isafswm Cyflog Cenedlaethol 199810, rhaid i weithwyr amaethyddol gael eu talu gan eu cyflogwr mewn cysylltiad â’u gwaith yn ôl cyfradd nad yw’n llai na’r isafswm cyflog amaethyddol.
2
Yr isafswm cyflog amaethyddol yw’r gyfradd isaf fesul awr a bennir yn y Tabl yn Atodlen 4 fel y gyfradd sy’n gymwys i bob gradd o weithiwr amaethyddol ac i brentisiaid.
Cyfraddau tâl isaf am oramser13
Rhaid i weithwyr amaethyddol gael eu talu gan eu cyflogwr mewn cysylltiad â goramser a weithir yn ôl cyfradd nad yw’n llai nag 1.5 gwaith yr isafswm cyflog amaethyddol a bennir yn erthygl 12 o’r Gorchymyn hwn ac Atodlen 4 iddo sy’n gymwys i’w radd neu i’w gategori.
Cyfraddau tâl isaf am waith allbwn14
Rhaid i weithwyr amaethyddol gael eu talu gan eu cyflogwr mewn cysylltiad â gwaith allbwn yn ôl cyfradd nad yw’n llai na’r isafswm cyflog amaethyddol a bennir yn erthygl 12 o’r Gorchymyn hwn ac Atodlen 4 iddo sy’n gymwys i’w radd neu i’w gategori.
Lwfans gwrthbwyso llety15
1
Pan fo cyflogwr, mewn unrhyw wythnos, yn darparu tŷ i weithiwr amaethyddol am y cyfan o’r wythnos honno, caiff y cyflogwr dynnu’r swm o £1.50 oddi ar isafswm cyflog y gweithiwr amaethyddol sy’n daladwy o dan erthygl 12 o’r Gorchymyn hwn ar gyfer yr wythnos honno.
2
Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) a (4), pan fo cyflogwr, mewn unrhyw wythnos, yn darparu llety arall i weithiwr amaethyddol, caiff y cyflogwr dynnu’r swm o £4.82 oddi ar isafswm cyflog y gweithiwr amaethyddol sy’n daladwy o dan erthygl 12 o’r Gorchymyn hwn am bob diwrnod yn yr wythnos y darperir y llety arall i’r gweithiwr.
3
Dim ond pan fo’r gweithiwr amaethyddol wedi gweithio o leiaf 15 awr yn ystod yr wythnos honno y caniateir i’r didyniad ym mharagraff (2) gael ei wneud.
4
Rhaid i unrhyw amser yn ystod yr wythnos honno pan fo’r gweithiwr amaethyddol ar wyliau blynyddol neu absenoldeb oherwydd profedigaeth gyfrif tuag at y 15 awr hynny.
Taliadau nad ydynt yn ffurfio rhan o dâl gweithiwr amaethyddol16
Nid yw’r lwfansau a’r taliadau a ganlyn yn ffurfio rhan o dâl gweithiwr amaethyddol—
a
lwfans cŵn o £7.72 y ci i’w dalu’n wythnosol pan fo’i gyflogwr yn ei gwneud yn ofynnol i weithiwr amaethyddol gadw un neu ragor o gŵn;
b
lwfans ar alwad o swm sy’n cyfateb i ddwy waith y gyfradd goramser fesul awr a nodir yn erthygl 13 o’r Gorchymyn hwn;
c
lwfans gwaith nos o £1.46 am bob awr o waith nos; a
d
grant geni a mabwysiadu o £60.72 am bob plentyn.
Costau hyfforddi17
1
Pan fo gweithiwr amaethyddol yn mynd ar gwrs hyfforddi gyda chytundeb ei gyflogwr ymlaen llaw, rhaid i’r cyflogwr dalu—
a
unrhyw ffioedd am y cwrs; a
b
unrhyw gostau teithio a llety a ysgwyddir gan y gweithiwr amaethyddol wrth fynd ar y cwrs.
2
Bernir bod gweithiwr amaethyddol sydd wedi ei gyflogi’n ddi-dor ar Radd 1 gan yr un cyflogwr am ddim llai na 30 wythnos wedi cael cymeradwyaeth ei gyflogwr i ymgymryd â hyfforddiant gyda golwg ar sicrhau’r cymwysterau angenrheidiol y mae’n ofynnol i weithiwr Radd 2 feddu arnynt.
3
Y cyflogwr sydd i dalu am unrhyw hyfforddiant y mae gweithiwr amaethyddol yn ymgymryd ag ef yn unol â pharagraff (2).
RHAN 4 – Yr hawl i gael tâl salwch amaethyddol
Yr hawl i gael tâl salwch amaethyddol18
Yn ddarostyngedig i’r darpariaethau yn y Rhan hon, mae gan weithiwr amaethyddol hawl i gael tâl salwch amaethyddol gan ei gyflogwr mewn cysylltiad â’i absenoldeb salwch.
Amodau cymhwyso ar gyfer tâl salwch amaethyddol19
Mae gweithiwr amaethyddol yn cymhwyso ar gyfer tâl salwch amaethyddol o dan y Gorchymyn hwn ar yr amod bod y gweithiwr amaethyddol—
a
wedi cael ei gyflogi’n barhaus gan ei gyflogwr am gyfnod o 52 o wythnosau o leiaf cyn yr absenoldeb salwch;
b
wedi hysbysu ei gyflogwr am yr absenoldeb salwch mewn ffordd a gytunwyd yn flaenorol gyda’i gyflogwr neu, yn niffyg unrhyw gytundeb o’r fath, drwy unrhyw ddull rhesymol;
c
mewn amgylchiadau pan fo’r absenoldeb salwch wedi parhau am gyfnod o 8 diwrnod yn olynol neu ragor, wedi darparu tystysgrif i’w gyflogwr gan ymarferwr meddygol cofrestredig sy’n datgelu’r diagnosis ynghylch anhwylder meddygol y gweithiwr ac sy’n datgan mai’r anhwylder sydd wedi achosi absenoldeb salwch y gweithiwr amaethyddol.
Cyfnodau absenoldeb salwch20
Rhaid i unrhyw 2 gyfnod o salwch sydd â chyfnod o ddim mwy na 14 diwrnod rhyngddynt gael eu trin fel un cyfnod o absenoldeb salwch.
Cyfyngiadau ar yr hawl i dâl salwch amaethyddol21
1
Ni fydd tâl salwch amaethyddol yn daladwy am y 3 diwrnod cyntaf o absenoldeb salwch o dan amgylchiadau pan fo hyd yr absenoldeb salwch yn llai na 14 diwrnod.
2
Yn ystod pob cyfnod hawl, uchafswm nifer yr wythnosau y mae gan weithiwr amaethyddol hawl i gael tâl salwch amaethyddol ar eu cyfer yw—
a
13 wythnos pan fo’r gweithiwr amaethyddol wedi ei gyflogi gan yr un cyflogwr am o leiaf 12 mis ond heb fod yn fwy na 24 mis;
b
16 wythnos pan fo’r gweithiwr amaethyddol wedi ei gyflogi gan yr un cyflogwr am o leiaf 24 mis ond heb fod yn fwy na 36 mis;
c
19 wythnos pan fo’r gweithiwr amaethyddol wedi ei gyflogi gan yr un cyflogwr am o leiaf 36 mis ond heb fod yn fwy na 48 mis;
d
22 wythnos pan fo’r gweithiwr amaethyddol wedi ei gyflogi gan yr un cyflogwr am o leiaf 48 mis ond heb fod yn fwy na 59 mis;
e
26 wythnos pan fo’r gweithiwr amaethyddol wedi ei gyflogi gan yr un cyflogwr am 59 mis neu fwy.
3
Pan fo gweithiwr amaethyddol yn gweithio oriau sylfaenol neu unrhyw oramser gwarantedig, pan fo hynny’n berthnasol, ar nifer penodedig o ddiwrnodau bob wythnos, cyfrifir uchafswm nifer y diwrnodau o dâl salwch amaethyddol y mae gan y gweithiwr amaethyddol hawl i’w cael drwy luosi uchafswm nifer yr wythnosau sy’n berthnasol i’r gweithiwr amaethyddol â nifer y diwrnodau cymwys a weithiwyd bob wythnos.
4
Pan fo gweithiwr amaethyddol yn gweithio oriau sylfaenol neu unrhyw oramser gwarantedig, pan fo hynny’n berthnasol, ar nifer amrywiol o ddiwrnodau bob wythnos, cyfrifir uchafswm nifer y diwrnodau o dâl salwch amaethyddol y mae gan y gweithiwr amaethyddol hawl i’w cael drwy luosi uchafswm nifer yr wythnosau sy’n berthnasol i’r gweithiwr hwnnw â nifer y diwrnodau perthnasol.
5
Cyfrifir nifer y diwrnodau perthnasol drwy rannu nifer y diwrnodau cymwys a weithiwyd yn ystod cyfnod o 12 mis yn arwain at gyfnod yr absenoldeb salwch â 52.
6
Mae uchafswm hawl gweithiwr amaethyddol i gael tâl salwch amaethyddol yn gymwys pa faint bynnag o gyfnodau o absenoldeb salwch a geir yn ystod unrhyw gyfnod hawl.
7
Yn ddarostyngedig i baragraff (8), yn yr erthygl hon, “cyfnod hawl” yw cyfnod sy’n dechrau â chychwyn absenoldeb salwch ac sy’n dod i ben 12 mis yn ddiweddarach.
8
Os yw’r gweithiwr amaethyddol yn cael cyfnod o absenoldeb salwch sy’n cychwyn unrhyw bryd yn ystod y cyfnod hawl a ddisgrifir ym mharagraff (7), ond sy’n parhau tu hwnt i ddiwedd y cyfnod hawl hwnnw, rhaid estyn y cyfnod hawl fel y bo’n dod i ben â pha un bynnag o’r canlynol sy’n digwydd gyntaf—
a
y dyddiad y mae absenoldeb salwch y gweithiwr amaethyddol yn dod i ben ac y mae’r gweithiwr amaethyddol yn dychwelyd i’r gwaith; neu
b
y diwrnod y mae’r gweithiwr amaethyddol yn cyrraedd uchafswm yr hawl i gael tâl salwch amaethyddol sy’n gymwys i’r cyfnod o 12 mis y cyfeirir ato ym mharagraff (7) (pe na bai hwnnw wedi ei estyn).
Pennu swm tâl salwch amaethyddol22
1
Mae tâl salwch amaethyddol yn daladwy yn ôl cyfradd sy’n cyfateb i’r gyfradd tâl isaf fesul awr a ragnodir yn erthygl 12 o’r Gorchymyn hwn ac Atodlen 4 iddo fel y gyfradd sy’n gymwys i’r radd honno neu’r categori hwnnw o weithiwr amaethyddol.
2
Pennir swm y tâl salwch amaethyddol sy’n daladwy i weithiwr amaethyddol drwy gyfrifo nifer yr oriau contract dyddiol a fyddai wedi cael eu gweithio yn ystod cyfnod o absenoldeb salwch.
3
Pennir nifer yr oriau contract dyddiol—
a
o dan amgylchiadau pan fo gweithiwr amaethyddol yn gweithio nifer penodedig o oriau bob wythnos dwy rannu cyfanswm nifer yr oriau a weithiwyd yn ystod unrhyw wythnos â nifer y diwrnodau a weithiwyd yn yr wythnos honno;
b
o dan amgylchiadau pan fo gweithiwr amaethyddol yn gweithio nifer amrywiol o oriau bob wythnos, drwy ddefnyddio’r fformwla—
pan fo, at ddibenion yr erthygl hon—
QH yn gyfanswm nifer yr oriau cymwys yn y cyfnod, a
DWEW yn nifer y diwrnodau a weithiwyd bob wythnos gan y gweithiwr amaethyddol o’u cymryd ar gyfartaledd yn ystod cyfnod o 8 wythnos yn union cyn i’r absenoldeb salwch gychwyn.
4
Yn yr erthygl hon “oriau cymwys” yw oriau—
a
pan fu’r gweithiwr amaethyddol yn gweithio oriau sylfaenol neu oramser gwarantedig;
b
pan gymerodd y gweithiwr amaethyddol wyliau blynyddol neu absenoldeb oherwydd profedigaeth;
c
pan gafodd y gweithiwr amaethyddol absenoldeb salwch a oedd yn gymwys ar gyfer tâl salwch amaethyddol o dan y Gorchymyn hwn; neu
d
pan gafodd y gweithiwr amaethyddol absenoldeb salwch nad oedd yn gymwys ar gyfer tâl salwch amaethyddol o dan y Gorchymyn hwn; a
“diwrnodau cymwys” yw unrhyw ddiwrnodau o fewn y cyfnod y cafwyd ynddynt oriau cymwys mewn perthynas â’r gweithiwr amaethyddol.
5
At ddibenion cyfrifiadau o dan yr erthygl hon, pan gyflogwyd gweithiwr amaethyddol gan ei gyflogwr am lai nag 8 wythnos, rhaid ystyried yr oriau cymwys a’r diwrnodau cymwys yn ystod y gwir nifer o wythnosau y cyflogwyd y gweithiwr amaethyddol gan ei gyflogwr.
Tâl salwch amaethyddol i gymryd tâl salwch statudol i ystyriaeth23
Caniateir i swm sy’n hafal i unrhyw daliad tâl salwch statudol a wneir yn unol â Rhan XI o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 199211 mewn cysylltiad â chyfnod absenoldeb salwch gweithiwr amaethyddol gael ei dynnu oddi ar dâl salwch amaethyddol y gweithiwr hwnnw.
Talu tâl salwch amaethyddol24
Rhaid i dâl salwch amaethyddol gael ei dalu i’r gweithiwr amaethyddol ar ei ddiwrnod cyflog arferol yn unol â naill ai ei gontract gwasanaeth neu ei brentisiaeth.
Cyflogaeth yn dod i ben yn ystod absenoldeb salwch25
1
Yn ddarostyngedig i baragraff (2), os terfynir naill ai contract gwasanaeth gweithiwr amaethyddol neu ei brentisiaeth yn ystod cyfnod o absenoldeb salwch neu os rhoddir hysbysiad i’r gweithiwr amaethyddol fod naill ai ei gontract gwasanaeth neu ei brentisiaeth i gael eu terfynu, mae unrhyw hawl sydd gan y gweithiwr amaethyddol i gael tâl salwch amaethyddol yn parhau ar ôl i’r contract hwnnw ddod i ben fel pe bai’r gweithiwr amaethyddol yn dal yn cael ei gyflogi gan ei gyflogwr, hyd nes i un o’r canlynol ddigwydd—
a
bod absenoldeb salwch y gweithiwr amaethyddol yn dod i ben;
b
bod y gweithiwr amaethyddol yn dechrau gweithio i gyflogwr arall; neu
c
bod uchafswm yr hawl i gael tâl salwch amaethyddol yn unol ag erthygl 21 yn cael ei ddihysbyddu.
2
Nid oes gan weithiwr amaethyddol y terfynwyd ei gontract hawl i gael unrhyw dâl salwch amaethyddol ar ôl diwedd ei gyflogaeth yn unol â pharagraff (1) os rhoddwyd hysbysiad i’r gweithiwr amaethyddol fod ei gyflogwr yn bwriadu terfynu ei gontract gwasanaeth neu ei brentisiaeth cyn i’r cyfnod o absenoldeb salwch gychwyn.
Gordalu tâl salwch amaethyddol26
1
Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau paragraff (2), os caiff gweithiwr amaethyddol sydd â hawl i gael tâl salwch amaethyddol o dan y Rhan hon daliad am fwy o dâl salwch amaethyddol na’i hawl, gall ei gyflogwr adennill gordaliad y tâl salwch amaethyddol hwnnw drwy ei dynnu oddi ar gyflog y gweithiwr amaethyddol hwnnw.
2
Os tynnir gordaliad tâl salwch amaethyddol o dan y Gorchymyn hwn fel y’i crybwyllir ym mharagraff (1), rhaid i’r cyflogwr beidio â thynnu mwy nag 20% o gyflog gros y gweithiwr amaethyddol oni bai bod hysbysiad wedi ei roi i derfynu’r gyflogaeth neu fod y gyflogaeth eisoes wedi ei therfynu pryd y caniateir i fwy nag 20% o gyflog gros y gweithiwr amaethyddol gael ei dynnu gan y cyflogwr oddi ar daliad cyflog olaf y gweithiwr.
Iawndal a adenillir yn sgil colli enillion27
1
Mae’r erthygl hon yn gymwys i weithiwr amaethyddol y mae ei hawl i gael tâl salwch amaethyddol yn codi oherwydd gweithred neu anwaith person heblaw ei gyflogwr ac mae’r iawndal yn cael ei adennill gan y gweithiwr amaethyddol mewn cysylltiad â cholled enillion a ddioddefir yn ystod y cyfnod y cafodd y gweithiwr amaethyddol dâl salwch amaethyddol gan ei gyflogwr ar ei gyfer.
2
Pan fo paragraff (1) yn gymwys—
a
rhaid i’r gweithiwr amaethyddol roi gwybod ar unwaith i’w gyflogwr am yr holl amgylchiadau perthnasol ac am unrhyw hawliad ac am unrhyw iawndal a adenillwyd o dan unrhyw gyfaddawd, setliad neu ddyfarniad;
b
rhaid i’r holl dâl salwch amaethyddol a dalwyd gan y cyflogwr i’r gweithiwr amaethyddol hwnnw mewn cysylltiad â’r absenoldeb salwch yr adenillir iawndal am golli enillion ar ei gyfer fod yn gyfystyr â benthyciad i’r gweithiwr; ac
c
rhaid i’r gweithiwr amaethyddol ad-dalu i’w gyflogwr swm nad yw’n fwy na’r lleiaf o’r canlynol—
i
swm yr iawndal a adenillwyd am golli enillion yn y cyfnod y talwyd tâl salwch amaethyddol ar ei gyfer; a
ii
y symiau a roddwyd i’r gweithiwr amaethyddol gan ei gyflogwr o dan y Rhan hon ar ffurf tâl salwch amaethyddol.
RHAN 5 – Yr hawl i gael amser i ffwrdd
Seibiannau gorffwys28
1
Mae gan weithiwr amaethyddol sy’n 18 oed neu’n hŷn ac sydd â’i amser gweithio dyddiol yn fwy na 5 awr a hanner hawl i gael seibiant gorffwys.
2
Mae’r seibiant gorffwys y darperir ar ei gyfer ym mharagraff (1) yn gyfnod di-dor o ddim llai na 30 munud ac mae gan y gweithiwr amaethyddol hawl i’w dreulio i ffwrdd o’i weithfan (os oes ganddo un) neu ei le gwaith arall.
3
Yn ddarostyngedig i baragraff (4), nid yw’r darpariaethau ynglŷn â seibiannau gorffwys a bennir ym mharagraffau (1) a (2) yn gymwys i weithiwr amaethyddol—
a
pan nad yw cyfnod ei amser gweithio yn cael ei fesur neu ei bennu ymlaen llaw oherwydd nodweddion penodol y gweithgaredd y mae’r gweithiwr amaethyddol yn ei gyflawni;
b
pan fo gweithgareddau’r gweithiwr amaethyddol yn golygu bod angen parhad mewn gwasanaeth neu mewn cynhyrchu;
c
pan geir ymchwydd gweithgarwch rhagweladwy;
d
pan effeithir ar weithgareddau’r gweithiwr amaethyddol—
i
gan ddigwyddiad oherwydd amgylchiadau anarferol nad ydynt yn rhagweladwy, y tu hwnt i reolaeth ei gyflogwr;
ii
gan ddigwyddiadau eithriadol, nad oedd modd osgoi eu canlyniadau er i’r cyflogwr arfer pob gofal dyladwy; neu
iii
gan ddamwain neu’r risg bod damwain ar fin digwydd; neu
e
pan fo’r cyflogwr a’r gweithiwr amaethyddol yn cytuno i addasu paragraffau (1) a (2) neu i’w hatal rhag bod yn gymwys yn y modd ac i’r graddau a ganiateir gan neu o dan Reoliadau Amser Gwaith 199812.
4
Pan fo paragraff (3) yn gymwys a bod ei gyflogwr yn ei gwneud yn ofynnol i’r gweithiwr amaethyddol weithio yn unol â hynny yn ystod cyfnod a fyddai fel arall yn seibiant gorffwys—
a
rhaid i’r cyflogwr, oni bai bod is-baragraff (b) yn gymwys, ganiatáu i’r gweithiwr amaethyddol gymryd cyfnod cyfatebol o seibiant yn ei le; a
b
mewn achosion eithriadol pan nad yw, am resymau gwrthrychol, yn bosibl caniatáu cyfnod gorffwys o’r fath, rhaid i gyflogwr y gweithiwr amaethyddol gynnig iddo unrhyw amddiffyniad sy’n briodol i warchod iechyd a diogelwch y gweithiwr amaethyddol.
Y flwyddyn gwyliau blynyddol29
Y flwyddyn gwyliau blynyddol i bob gweithiwr amaethyddol yw’r cyfnod o 12 mis sy’n dechrau ar 1 Hydref ac sy’n dod i ben ar 30 Medi.
Swm gwyliau blynyddol gweithwyr amaethyddol a chanddynt ddiwrnodau gweithio penodedig a gyflogir drwy gydol y flwyddyn gwyliau30
1
Mae gan weithiwr amaethyddol a gyflogir gan yr un cyflogwr drwy gydol y flwyddyn gwyliau blynyddol hawl i gael y swm gwyliau blynyddol a ragnodir yn y Tabl yn Atodlen 5.
2
Pan fo gweithiwr amaethyddol yn gweithio ei oriau sylfaenol ac unrhyw oramser gwarantedig, pan fo hynny’n berthnasol, ar nifer penodedig o ddiwrnodau cymwys bob wythnos, nifer y diwrnodau a weithiwyd bob wythnos at ddibenion y Tabl yn Atodlen 5 yw’r nifer penodedig hwnnw o ddiwrnodau.
Swm gwyliau blynyddol gweithwyr amaethyddol a chanddynt ddiwrnodau gweithio amrywiol a gyflogir drwy gydol y flwyddyn gwyliau31
1
Pan fo gweithiwr amaethyddol yn gweithio ei oriau sylfaenol ar nifer amrywiol o ddiwrnodau bob wythnos, cymerir mai nifer y diwrnodau a weithiwyd bob wythnos at ddibenion y Tabl yn Atodlen 5, yw cyfartaledd nifer y diwrnodau cymwys a weithiwyd bob wythnos yn ystod cyfnod o 12 wythnos yn union cyn i wyliau blynyddol y gweithiwr amaethyddol gychwyn a rhaid i’r nifer cyfartalog hwnnw o ddiwrnodau cymwys gael ei dalgrynnu i’r diwrnod cyfan agosaf, pan fo hynny’n briodol.
2
Ar ddiwedd y flwyddyn gwyliau blynyddol rhaid i’r cyflogwr gyfrifo hawl wirioneddol y gweithiwr amaethyddol at ddibenion y Tabl yn Atodlen 5, ar sail nifer y diwrnodau cymwys a weithiwyd bob wythnos, wedi ei gymryd fel cyfartaledd nifer y diwrnodau cymwys a weithiwyd bob wythnos yn ystod y flwyddyn gwyliau blynyddol (h.y. dros gyfnod o 52 wythnos) a rhaid i nifer cyfartalog y diwrnodau cymwys gael ei dalgrynnu i’r diwrnod cyfan agosaf, pan fo hynny’n briodol.
3
Os yw’r gweithiwr amaethyddol, ar ddiwedd y flwyddyn gwyliau blynyddol, wedi cronni hawl i wyliau ond heb eu cymryd, mae gan y gweithiwr amaethyddol hawl i ddwyn ymlaen unrhyw wyliau a gronnwyd ond nas cymerwyd i’r flwyddyn gwyliau blynyddol ganlynol yn unol ag erthygl 33(3) o’r Gorchymyn hwn neu caiff y gweithiwr amaethyddol a’r cyflogwr gytuno i daliad yn lle unrhyw wyliau a gronnwyd ond nas cymerwyd yn unol ag erthygl 36 o’r Gorchymyn hwn.
4
Os yw’r gweithiwr amaethyddol, ar ddiwedd y flwyddyn gwyliau blynyddol, wedi cymryd mwy o ddiwrnodau gwyliau nag yr oedd ganddo hawl iddynt o dan y Gorchymyn hwn, ar sail nifer cyfartalog y diwrnodau cymwys a weithiwyd bob wythnos (wedi ei gyfrifo yn unol â pharagraff (2)), mae gan y gweithiwr hawl i ddidynnu unrhyw dâl am ddiwrnodau gwyliau a gymerwyd uwchlaw hawl y gweithiwr amaethyddol neu, fel arall, ddidynnu’r diwrnodau gwyliau a gymerwyd uwchlaw hawl y gweithiwr amaethyddol o’i hawl ar gyfer y flwyddyn gwyliau blynyddol ganlynol (ar yr amod nad yw didyniad o’r fath yn arwain at fod y gweithiwr amaethyddol yn cael llai na’i hawl gwyliau blynyddol statudol o dan reoliadau 13 a 13A o’r Rheoliadau Amser Gwaith 1998).
Swm gwyliau blynyddol gweithwyr amaethyddol a gyflogir am ran o’r flwyddyn gwyliau32
1
Mae gan weithiwr amaethyddol a gyflogir gan yr un cyflogwr am ran o’r flwyddyn gwyliau blynyddol hawl i gronni gwyliau blynyddol yn ôl cyfradd o 1/52 o’r hawl i gael gwyliau blynyddol a bennir yn y Tabl yn Atodlen 5 am bob wythnos orffenedig o wasanaeth gyda’r un cyflogwr.
2
Pan fo swm y gwyliau blynyddol a gronnwyd mewn achos penodol yn cynnwys ffracsiwn o ddiwrnod heblaw hanner diwrnod, mae’r ffracsiwn hwnnw—
a
i’w dalgrynnu i lawr i’r diwrnod cyfan nesaf os yw’n llai na hanner diwrnod; a
b
i’w dalgrynnu i fyny i’r diwrnod cyfan nesaf os yw’n fwy na hanner diwrnod.
Amseru gwyliau blynyddol33
1
Caiff gweithiwr amaethyddol gymryd gwyliau blynyddol y mae ganddo hawl i’w cymryd o dan y Gorchymyn hwn unrhyw bryd o fewn y flwyddyn gwyliau blynyddol yn ddarostyngedig i gymeradwyaeth ei gyflogwr.
2
Nid oes gan weithiwr amaethyddol hawl i gario unrhyw hawl gwyliau blynyddol nas cymerwyd ymlaen o’r naill flwyddyn gwyliau i’r flwyddyn gwyliau nesaf heb gymeradwyaeth ei gyflogwr.
3
Pan fo cyflogwr wedi cytuno y caiff gweithiwr amaethyddol gario unrhyw hawl gwyliau blynyddol nas defnyddiwyd ymlaen, dim ond yn ystod y flwyddyn gwyliau y mae’n cael ei gario ymlaen iddi y caniateir i’r balans gael ei gymryd.
4
Yn ystod y cyfnod o 1 Hydref hyd at 31 Mawrth mewn unrhyw flwyddyn gwyliau blynyddol caiff cyflogwr ei gwneud yn ofynnol i weithiwr amaethyddol gymryd hyd at 2 wythnos o’i hawl gwyliau blynyddol o dan y Gorchymyn hwn a chaiff gyfarwyddo i’r gweithiwr gymryd un o’r 2 wythnos hynny o wyliau blynyddol ar ddiwrnodau yn yr un wythnos.
5
Yn ystod y cyfnod o 1 Ebrill hyd at 30 Medi mewn unrhyw flwyddyn gwyliau blynyddol, rhaid i gyflogwr ganiatáu i weithiwr amaethyddol gymryd 2 wythnos o hawl gwyliau blynyddol y gweithiwr o dan y Gorchymyn hwn mewn wythnosau olynol.
6
At ddibenion yr erthygl hon, mae 1 wythnos o wyliau blynyddol gweithiwr amaethyddol yn cyfateb i nifer y diwrnodau a weithiwyd bob wythnos gan y gweithiwr amaethyddol fel y’i pennir yn unol ag erthyglau 30 a 31.
Tâl gwyliau34
1
Mae gan weithiwr amaethyddol hawl i gael ei dalu mewn cysylltiad â phob diwrnod o wyliau blynyddol y mae’n ei gymryd.
2
Mae swm y tâl gwyliau y mae gan weithiwr amaethyddol hawl i’w gael o dan baragraff (1) i’w bennu drwy rannu cyflog wythnosol y gweithiwr amaethyddol fel y’i pennir yn unol â pharagraff (3) neu, yn ôl y digwydd, paragraff (4), â nifer y diwrnodau cymwys a weithiwyd bob wythnos gan y gweithiwr amaethyddol hwnnw.
3
Pan nad yw oriau gwaith arferol y gweithiwr amaethyddol o dan naill ai ei gontract gwasanaeth neu ei brentisiaeth yn amrywio (yn ddarostyngedig i baragraff (4)), swm cyflog wythnosol y gweithiwr amaethyddol at ddibenion paragraff (2) yw tâl wythnosol arferol y gweithiwr amaethyddol sy’n daladwy gan y cyflogwr.
4
Pan fo oriau gwaith arferol y gweithiwr amaethyddol yn amrywio o wythnos i wythnos, neu pan fo gweithiwr amaethyddol sydd ag oriau gwaith arferol (fel ym mharagraff (3)) yn gweithio goramser yn ogystal â’r oriau hynny, cyfrifir swm tâl wythnosol arferol y gweithiwr amaethyddol at ddibenion paragraff (2) drwy adio swm tâl wythnosol arferol y gweithiwr amaethyddol ym mhob un o’r 12 wythnos yn union cyn cychwyn gwyliau blynyddol y gweithiwr a rhannu’r cyfanswm â 12.
5
At ddibenion yr erthygl hon ystyr “tâl wythnosol arferol” yw—
a
tâl sylfaenol y gweithiwr amaethyddol o dan ei gontract gwasanaeth neu ei brentisiaeth; a
b
unrhyw dâl goramser ac unrhyw lwfans a delir yn gyson i’r gweithiwr amaethyddol.
6
Pan fo gweithiwr amaethyddol wedi ei gyflogi gan ei gyflogwr am lai na 12 wythnos, rhaid ystyried wythnosau pan oedd tâl yn ddyledus i’r gweithiwr amaethyddol yn unig.
7
At ddibenion paragraff (2), mae nifer y diwrnodau cymwys a weithiwyd yn cael ei bennu yn unol â’r darpariaethau yn erthyglau 30 a 31 o’r Gorchymyn hwn.
8
Rhaid i unrhyw dâl sy’n ddyledus i weithiwr amaethyddol o dan yr erthygl hon gael ei dalu heb fod yn hwyrach na diwrnod gwaith olaf y gweithiwr amaethyddol cyn i’r cyfnod o wyliau blynyddol y mae’r taliad yn ymwneud ag ef gychwyn.
Gwyliau cyhoeddus a gwyliau banc35
1
Mae’r erthygl hon yn gymwys pan fo gŵyl gyhoeddus neu ŵyl banc yng Nghymru yn syrthio ar ddiwrnod pan fo’n ofynnol fel arfer i weithiwr amaethyddol weithio o dan naill ai ei gontract gwasanaeth neu ei brentisiaeth.
2
Mae gan weithiwr amaethyddol y mae ei gyflogwr yn ei gwneud yn ofynnol iddo weithio ar yr ŵyl gyhoeddus neu’r ŵyl banc hawl i gael tâl nad yw’n llai na’r gyfradd goramser a bennir yn erthygl 13.
3
Mae balans y gwyliau blynyddol sydd wedi eu cronni ar gyfer y flwyddyn gwyliau honno o dan y Gorchymyn hwn gan weithiwr amaethyddol nad yw ei gyflogwr yn ei gwneud yn ofynnol iddo weithio ar yr ŵyl gyhoeddus neu’r ŵyl banc i gael ei leihau o 1 diwrnod mewn cysylltiad â’r ŵyl gyhoeddus neu’r ŵyl banc nad yw’n ofynnol i’r gweithiwr amaethyddol weithio arni.
Taliad yn lle gwyliau blynyddol36
1
Yn ddarostyngedig i’r amodau ym mharagraff (2), caiff gweithiwr amaethyddol a’i gyflogwr gytuno bod y gweithiwr amaethyddol i gael taliad yn lle diwrnod o hawl gwyliau blynyddol y gweithiwr amaethyddol.
2
Yr amodau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yw—
a
bod uchafswm nifer y diwrnodau y caiff gweithiwr amaethyddol gael taliad yn lle gwyliau blynyddol ar eu cyfer yn ystod unrhyw flwyddyn gwyliau blynyddol wedi ei ragnodi yn y Tabl yn Atodlen 6;
b
bod cofnod ysgrifenedig i’w gadw gan y cyflogwr ynglŷn ag unrhyw gytundeb y caiff gweithiwr amaethyddol daliad yn lle diwrnod o wyliau blynyddol am o leiaf 3 blynedd gan gychwyn ar ddiwedd y flwyddyn gwyliau honno;
c
o dan amgylchiadau pan nad yw’r gweithiwr amaethyddol yn gweithio ar ddiwrnod fel y cytunir yn unol â pharagraff (1), bod y diwrnod hwnnw i barhau’n rhan o hawl gwyliau blynyddol y gweithiwr amaethyddol;
d
bod taliad yn lle gwyliau blynyddol i’w dalu ar gyfradd sy’n cynnwys y gyfradd goramser a bennir yn erthygl 13 yn ogystal â thâl gwyliau a gyfrifir yn unol ag erthygl 34 fel pe bai’r diwrnod y gwneir taliad yn lle gwyliau blynyddol yn ddiwrnod y mae’r gweithiwr amaethyddol yn cymryd gwyliau blynyddol.
Talu tâl gwyliau wrth derfynu cyflogaeth37
1
Pan derfynir cyflogaeth gweithiwr amaethyddol ac nad yw’r gweithiwr amaethyddol wedi cymryd yr holl hawl gwyliau blynyddol sydd wedi cronni iddo ar ddyddiad terfynu’r gyflogaeth, mae gan y gweithiwr amaethyddol hawl yn unol â pharagraff (2) i gael taliad yn lle’r gwyliau blynyddol a gronnwyd ond nas cymerwyd.
2
Mae swm y taliad sydd i’w dalu i’r gweithiwr amaethyddol yn lle pob diwrnod o’i wyliau blynyddol a gronnwyd ond nas cymerwyd ar ddyddiad terfynu’r gyflogaeth i’w gyfrifo yn unol ag erthygl 34 fel pe bai dyddiad terfynu’r gyflogaeth yn ddiwrnod cyntaf cyfnod o wyliau blynyddol y gweithiwr amaethyddol.
Adennill tâl gwyliau38
1
Os terfynir cyflogaeth gweithiwr amaethyddol cyn diwedd y flwyddyn gwyliau blynyddol a bod y gweithiwr amaethyddol wedi cymryd mwy o wyliau blynyddol nag yr oedd ganddo hawl i’w cael o dan ddarpariaethau’r Gorchymyn hwn neu fel arall, mae gan ei gyflogwr hawl i adennill swm y tâl gwyliau a dalwyd i’r gweithiwr amaethyddol mewn cysylltiad â gwyliau blynyddol a gymerwyd uwchlaw ei hawl.
2
Pan fo gan gyflogwr hawl o dan baragraff (1) i adennill tâl gwyliau oddi ar weithiwr amaethyddol, caiff y cyflogwr wneud hynny drwy ei dynnu oddi ar daliad cyflog olaf y gweithiwr amaethyddol.
Absenoldeb oherwydd profedigaeth39
1
Mae gan weithiwr amaethyddol hawl i gael absenoldeb oherwydd profedigaeth â thâl o dan amgylchiadau pan fo’r brofedigaeth yn ymwneud â pherson yng Nghategori A neu Gategori B.
2
At ddibenion paragraff (1), personau yng Nghategori A yw—
a
rhiant i’r gweithiwr amaethyddol;
b
mab neu ferch i’r gweithiwr amaethyddol;
c
priod neu bartner sifil y gweithiwr amaethyddol; neu
d
rhywun y mae’r gweithiwr amaethyddol yn byw gydag ef fel gŵr a gwraig heb fod yn gyfreithiol briod neu rywun y mae’r gweithiwr amaethyddol yn byw gydag ef fel pe baent mewn partneriaeth sifil.
3
At ddibenion paragraff (1), personau yng Nghategori B yw—
a
brawd neu chwaer i’r gweithiwr amaethyddol;
b
nain neu daid i’r gweithiwr amaethyddol; neu
c
ŵyr neu wyres i’r gweithiwr amaethyddol.
4
At ddibenion paragraff (1) mae absenoldeb oherwydd profedigaeth yn ychwanegol at unrhyw hawliau eraill i gael absenoldeb o dan y Gorchymyn hwn.
Pennu swm absenoldeb oherwydd profedigaeth40
1
Swm yr absenoldeb oherwydd profedigaeth y mae gan weithiwr amaethyddol hawl i’w gael yn sgil marwolaeth person yng Nghategori A yw—
a
4 diwrnod pan fo’r gweithiwr amaethyddol yn gweithio ei oriau sylfaenol ar 5 niwrnod neu fwy bob wythnos i’r un cyflogwr; neu
b
pan fo’r gweithiwr amaethyddol yn gweithio ei oriau sylfaenol ar 4 diwrnod yr wythnos neu lai i’r un cyflogwr, nifer y diwrnodau a gyfrifir yn unol â pharagraff (2).
2
Yn ddarostyngedig i baragraff (6), mae swm hawl gweithiwr amaethyddol i gael absenoldeb oherwydd profedigaeth yn sgil marwolaeth person yng Nghategori A i’w gyfrifo yn ôl y fformwla a ganlyn—
3
Swm yr absenoldeb oherwydd profedigaeth y mae gan weithiwr amaethyddol hawl i’w gael yn sgil marwolaeth person yng Nghategori B yw—
a
2 ddiwrnod pan fo’r gweithiwr amaethyddol yn gweithio ei oriau sylfaenol ar 5 niwrnod neu fwy bob wythnos i’r un cyflogwr; neu
b
pan fo’r gweithiwr amaethyddol yn gweithio ei oriau sylfaenol ar 4 diwrnod yr wythnos neu lai i’r un cyflogwr, nifer y diwrnodau a gyfrifir yn unol â pharagraff (4).
4
Yn ddarostyngedig i baragraff (6), pan fo’r erthygl hon yn gymwys mae swm hawl gweithiwr amaethyddol i gael absenoldeb oherwydd profedigaeth yn sgil marwolaeth person yng Nghategori B i’w gyfrifo yn ôl y fformwla a ganlyn—
5
At ddibenion y fformwla ym mharagraffau (2) a (4), DWEW yw nifer y diwrnodau a weithiwyd bob wythnos gan y gweithiwr amaethyddol wedi ei gyfrifo yn unol ag erthygl 30 neu 31 (fel y bo’n briodol).
6
Pan fo’r cyfrifiad ym mharagraff (2) neu (4) yn arwain at hawl i gael absenoldeb oherwydd profedigaeth o lai nag 1 diwrnod, mae’r hawl i’w thalgrynnu i fyny i un diwrnod cyfan.
7
Mewn amgylchiadau pan fo mwy nag un gyflogaeth gan weithiwr amaethyddol (boed gyda’r un cyflogwr neu gyda chyflogwyr gwahanol), caniateir cymryd absenoldeb oherwydd profedigaeth â thâl mewn cysylltiad â mwy nag un gyflogaeth ond ni chaiff, mewn cysylltiad ag unrhyw un brofedigaeth, fod yn fwy nag uchafswm yr absenoldeb oherwydd profedigaeth a bennir ar gyfer un gyflogaeth yn yr erthygl hon.
Swm tâl absenoldeb oherwydd profedigaeth41
Mae swm y tâl mewn cysylltiad ag absenoldeb oherwydd profedigaeth i’w bennu yn unol â’r darpariaethau yn erthygl 34 fel pe bai diwrnod cyntaf absenoldeb y gweithiwr amaethyddol oherwydd profedigaeth yn ddiwrnod cyntaf gwyliau blynyddol y gweithiwr hwnnw.
Absenoldeb di-dâl42
Caiff gweithiwr amaethyddol gymryd cyfnod o absenoldeb di-dâl, gyda chydsyniad ei gyflogwr.
RHAN 6 – Dirymu a darpariaeth drosiannol
Dirymu a darpariaeth drosiannol43
1
Mae Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 201613 (“Gorchymyn 2016”) wedi ei ddirymu.
2
Mae gweithiwr amaethyddol a gyflogir fel gweithiwr ar Radd neu fel prentis ond nid fel gweithiwr hyblyg, ac sy’n ddarostyngedig i’r telerau ac amodau a ragnodwyd yng Ngorchymyn 2016 neu unrhyw Orchmynion blaenorol, yn parhau i fod wedi ei gyflogi ar y Radd honno neu fel prentis ac mae, o’r dyddiad y daw’r Gorchymyn hwn i rym, yn ddarostyngedig i’r telerau ac amodau a ragnodir yn y Gorchymyn hwn.
3
Yn yr erthygl hon ystyr “Gorchmynion blaenorol” yw Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru a Lloegr) 2012 a phob gorchymyn a ddirymwyd gan erthygl 70 o’r Gorchymyn hwnnw.
ATODLEN 1DYFARNIADAU A THYSTYSGRIFAU CYMHWYSEDD GWEITHWYR GRADD 2
Cod y Dyfarniad | Sefydliad Dyfarnu | Lefel | Teitl |
|---|---|---|---|
600/7421/8 | ABC | Lefel 1 | Dyfarniad Lefel 1 mewn Sgiliau Cefn Gwlad Ymarferol |
600/7388/3 | ABC | Lefel 1 | Dyfarniad Lefel 1 mewn Sgiliau Garddwriaeth Ymarferol |
600/7423/1 | ABC | Lefel 1 | Tystysgrif Lefel 1 mewn Sgiliau Cefn Gwlad Ymarferol |
600/7389/5 | ABC | Lefel 1 | Tystysgrif Lefel 1 mewn Sgiliau Garddwriaeth Ymarferol |
600/7424/3 | ABC | Lefel 1 | Diploma Lefel 1 mewn Sgiliau Cefn Gwlad Ymarferol |
500/9700/3 | ABC | Lefel 1 | Dyfarniad Lefel 1 mewn Sgiliau Cefn Gwlad Ymarferol |
500/9854/8 | ABC | Lefel 1 | Dyfarniad Lefel 1 mewn Sgiliau Garddwriaeth Ymarferol |
600/5890/0 | NOCN | Lefel 1 | Dyfarniad Lefel 1 mewn Garddwriaeth |
600/5891/2 | NOCN | Lefel 1 | Tystysgrif Lefel 1 mewn Garddwriaeth |
601/0156/8 | NOCN | Lefel 1 | Dyfarniad Lefel 1 mewn Astudiaethau Galwedigaethol (Garddwriaeth) |
601/0157/X | NOCN | Lefel 1 | Tystysgrif Lefel 1 mewn Astudiaethau Galwedigaethol (Garddwriaeth) |
500/6256/6 | City & Guilds | Lefel 1 | Dyfarniad Lefel 1 yn Astudiaethau’r Tir |
500/6713/8 | City & Guilds | Lefel 1 | Dyfarniad Lefel 1 mewn Amaethyddiaeth Seiliedig ar Waith |
500/6708/4 | City & Guilds | Lefel 1 | Dyfarniad Lefel 1 mewn Garddwriaeth Seiliedig ar Waith |
500/6712/6 | City & Guilds | Lefel 1 | Dyfarniad Lefel 1 mewn Gweithrediadau ar y Tir Seiliedig ar Waith |
500/6257/8 | City & Guilds | Lefel 1 | Tystysgrif Lefel 1 yn Astudiaethau’r Tir |
500/6752/7 | City & Guilds | Lefel 1 | Tystysgrif Lefel 1 mewn Amaethyddiaeth Seiliedig ar Waith |
500/6659/6 | City & Guilds | Lefel 1 | Tystysgrif Lefel 1 mewn Garddwriaeth Seiliedig ar Waith |
500/6660/2 | City & Guilds | Lefel 1 | Tystysgrif Lefel 1 mewn Gweithrediadau ar y Tir Seiliedig ar Waith |
500/6268/2 | City & Guilds | Lefel 1 | Diploma Lefel 1 yn Astudiaethau’r Tir |
500/6761/8 | City & Guilds | Lefel 1 | Diploma Lefel 1 mewn Amaethyddiaeth Seiliedig ar Waith |
500/6709/6 | City & Guilds | Lefel 1 | Diploma Lefel 1 mewn Garddwriaeth Seiliedig ar Waith |
500/6711/4 | City & Guilds | Lefel 1 | Diploma Lefel 1 mewn Gweithrediadau ar y Tir Seiliedig ar Waith |
600/5587/X | City & Guilds | Lefel 1 | Dyfarniad Lefel 1 mewn Sgiliau Garddwriaeth Ymarferol |
600/5611/3 | City & Guilds | Lefel 1 | Tystysgrif Lefel 1 mewn Sgiliau Garddwriaeth Ymarferol |
600/5612/5 | City & Guilds | Lefel 1 | Diploma Lefel 1 mewn Sgiliau Garddwriaeth Ymarferol |
500/9128/1 | RHS | Lefel 1 | Dyfarniad Lefel 1 mewn Garddwriaeth Ymarferol |
601/0613/X | RHS | Lefel 1 | Dyfarniad Rhagarweiniol Lefel 1 mewn Garddwriaeth Ymarferol |
601/0554/9 | RHS | Lefel 2 | Tystysgrif Lefel 2 mewn Egwyddorion Tyfu, Lluosogi a Datblygu Planhigion |
601/0355/3 | RHS | Lefel 2 | Tystysgrif Lefel 2 mewn Egwyddorion Garddwriaeth |
500/9635/7 | ABC | Lefel 2 | Dyfarniad Lefel 2 mewn Sgiliau Garddwriaeth Ymarferol |
501/1411/6 | ABC | Lefel 2 | Tystysgrif Lefel 2 mewn Coedyddiaeth |
500/9633/3 | ABC | Lefel 2 | Tystysgrif Lefel 2 mewn Sgiliau Garddwriaeth Ymarferol |
603/0159/4 | NOCN | Lefel 2 | Dyfarniad Lefel 2 i’r Gweithiwr Diogel |
500/7689/9 | City & Guilds | Lefel 2 | Dyfarniad Lefel 2 mewn Gweithio’n Ddiogel mewn Amaethyddiaeth a Garddwriaeth Gynhyrchu |
500/6938/X | City & Guilds | Lefel 2 | Dyfarniad Lefel 2 mewn Amaethyddiaeth Seiliedig ar Waith |
500/6871/9 | City & Guilds | Lefel 2 | Dyfarniad Lefel 2 mewn Garddwriaeth Seiliedig ar Waith |
500/8584/0 | City & Guilds | Lefel 2 | Tystysgrif Lefel 2 mewn Amaethyddiaeth |
500/8552/9 | City & Guilds | Lefel 2 | Tystysgrif Lefel 2 mewn Coedwigaeth a Choedyddiaeth |
500/8577/3 | City & Guilds | Lefel 2 | Tystysgrif Lefel 2 mewn Garddwriaeth |
500/0677/6 | City & Guilds | Lefel 2 | Tystysgrif Lefel 2 mewn Technoleg sy’n ymwneud â’r Tir |
500/6939/1 | City & Guilds | Lefel 2 | Tystysgrif Lefel 2 mewn Amaethyddiaeth Seiliedig ar Waith |
500/6816/7 | City & Guilds | Lefel 2 | Tystysgrif Lefel 2 mewn Garddwriaeth Seiliedig ar Waith |
500/8590/6 | City & Guilds | Lefel 2 | Tystysgrif Estynedig Lefel 2 mewn Amaethyddiaeth |
500/8587/6 | City & Guilds | Lefel 2 | Tystysgrif Estynedig Lefel 2 mewn Coedwigaeth a Choedyddiaeth |
500/8582/7 | City & Guilds | Lefel 2 | Tystysgrif Estynedig Lefel 2 mewn Garddwriaeth |
501/0683/1 | City & Guilds | Lefel 2 | Tystysgrif Estynedig Lefel 2 mewn Technoleg sy’n ymwneud â’r Tir |
600/4671/5 | City & Guilds | Lefel 2 | Dyfarniad Lefel 2 mewn Gyrru Tractor Amaethyddol a Gweithrediadau Perthynol |
600/4883/9 | City & Guilds | Lefel 2 | Dyfarniad Lefel 2 mewn Gyrru Tractor Cryno a Gweithrediadau Perthynol |
600/4957/1 | City & Guilds | Lefel 2 | Dyfarniad Lefel 2 mewn Trin Cerbydau Pob Tir i’w Reidio ag Un Goes Bob Ochr |
600/4689/2 | City & Guilds | Lefel 2 | Dyfarniad Lefel 2 yn y Defnydd Diogel o Beiriannau Torri Gwair a Reolir gan Bobl ar Droed |
600/4690/9 | City & Guilds | Lefel 2 | Dyfarniad Lefel 2 yn y Defnydd Diogel o Beiriannau Torri Gwair Hunanyredig i’w Reidio |
600/4670/3 | City & Guilds | Lefel 2 | Dyfarniad Lefel 2 yn y Defnydd Diogel o Beiriannau Torri Gwair a Osodir ar Dractor |
500/7693/0 | City & Guilds NPTC | Lefel 2 | Dyfarniad Lefel 2 mewn Cynnal a Chadw Peiriannau Amaethyddiaeth |
500/7697/8 | City & Guilds NPTC | Lefel 2 | Dyfarniad Lefel 2 mewn Hwsmonaeth a Lles Sylfaenol |
600/6303/8 | City & Guilds NPTC | Lefel 2 | Dyfarniad Lefel 2 mewn Tynnu Canghennau a Chwalu Corunau gan Ddefnyddio Llif Gadwyn |
600/6160/1 | City & Guilds NPTC | Lefel 2 | Dyfarniad Lefel 2 mewn Cynnal a Chadw Llif Gadwyn |
600/6161/3 | City & Guilds NPTC | Lefel 2 | Dyfarniad Lefel 2 mewn Cynnal a Chadw Llif Gadwyn a Thrawslifio |
600/6428/6 | City & Guilds NPTC | Lefel 2 | Dyfarniad Lefel 2 mewn Trawslifio Coed gan Ddefnyddio Llif Gadwyn |
600/6162/5 | City & Guilds NPTC | Lefel 2 | Dyfarniad Lefel 2 mewn Cwympo a Phrosesu Coed hyd at 380mm |
600/6619/2 | City & Guilds NPTC | Lefel 2 | Dyfarniad Lefel 2 mewn Defnyddio Llif Gadwyn ar y Tir |
500/7889/6 | City & Guilds NPTC | Lefel 2 | Dyfarniad Lefel 2 mewn Gyrru oddi ar y Ffordd |
600/6417/1 | City & Guilds NPTC | Lefel 2 | Dyfarniad Lefel 2 yn y Defnydd Diogel o Dociwr Polyn â Modur |
600/6435/3 | City & Guilds NPTC | Lefel 2 | Dyfarniad Lefel 2 mewn Cynorthwyo Cydweithwyr heb fod â’u Traed ar y Ddaear sy’n Gwneud Gwaith mewn perthynas â Choed |
600/0803/9 | City & Guilds NPTC | Lefel 2 | Dyfarniad Lefel 2 mewn Cludo Anifeiliaid dros Bellter Hir ar y Ffordd – Cynorthwyydd |
600/0307/8 | City & Guilds NPTC | Lefel 2 | Dyfarniad Lefel 2 mewn Cludo Anifeiliaid dros Bellter Hir ar y Ffordd – Gyrrwr |
601/5141/9 | City & Guilds NPTC | Lefel 2 | Dyfarniad Lefel 2 yn y Defnydd Diogel o Blaleiddiaid gan Ddefnyddio Chwistrellwyr Bŵm Llorweddol Hunanyredig, Mowntiedig, Llusg |
601/5142/0 | City & Guilds NPTC | Lefel 2 | Dyfarniad Lefel 2 yn y Defnydd Diogel o Blaleiddiaid gan Ddefnyddio Chwistrellwyr Bŵm Geometreg Cyfnewidiol neu Wasgaru |
601/5143/2 | City & Guilds NPTC | Lefel 2 | Dyfarniad Lefel 2 yn y Defnydd Diogel o Blaleiddiaid Pelennog neu Ronynnog gan Ddefnyddio Taenwyr Mowntiedig neu Lusg |
601/5144/4 | City & Guilds NPTC | Lefel 2 | Dyfarniad Lefel 2 yn y Defnydd Diogel o Blaleiddiaid gan Ddefnyddio Offer wedi ei Fowntio ar Gwch |
601/5145/6 | City & Guilds NPTC | Lefel 2 | Dyfarniad Lefel 2 yn y Defnydd Diogel o Blaleiddiaid gan Ddefnyddio Offer Llaw ar gyfer Cerddwyr |
601/5146/8 | City & Guilds NPTC | Lefel 2 | Dyfarniad Lefel 2 yn y Defnydd Diogel o Blaleiddiaid o’r Awyr |
601/5147/X | City & Guilds NPTC | Lefel 2 | Dyfarniad Lefel 2 mewn Cymysgu a Throsglwyddo Plaleiddiaid yn Ddiogel |
601/5148/1 | City & Guilds NPTC | Lefel 2 | Dyfarniad Lefel 2 yn y Defnydd Diogel o Blaleiddiaid ar ffurf Tarthau, Niwloedd a Mygau |
601/5149/3 | City & Guilds NPTC | Lefel 2 | Dyfarniad Lefel 2 mewn Dipio Deunydd Planhigion mewn Plaleiddiaid yn Ddiogel |
601/5150/X | City & Guilds NPTC | Lefel 2 | Dyfarniad Lefel 2 mewn Trin Hadau â Phlaleiddiaid yn Ddiogel |
601/5151/1 | City & Guilds NPTC | Lefel 2 | Dyfarniad Lefel 2 yn y Defnydd Diogel o Blaleiddiaid i Ddeunydd Planhigion yn ystod Proses Llif Parhaus |
601/5153/3 | City & Guilds NPTC | Lefel 2 | Dyfarniad Lefel 2 mewn Defnyddio Hylifau Plaleiddiaid o dan yr Wyneb yn Ddiogel |
601/5153/5 | City & Guilds NPTC | Lefel 2 | Dyfarniad Lefel 2 yn y Defnydd Diogel o Blaleiddiaid gan Ddefnyddio Offer Arbenigol |
500/7692/9 | City & Guilds NPTC | Lefel 2 | Dyfarniad Lefel 2 yn y Defnydd Diogel o Ddip Defaid |
601/8781/5 | City & Guilds NPTC | Lefel 2 | Tystysgrif Cymhwysedd Lefel 2 yn y Defnydd Diogel a Chyfrifol o Feddyginiaethau Milfeddygol |
600/0306/6 | City & Guilds NPTC | Lefel 2 | Dyfarniad Lefel 2 mewn Cludo Anifeiliaid ar y Ffordd (Siwrneiau Byr) |
600/6620/9 | City & Guilds NPTC | Lefel 2 | Dyfarniad Lefel 2 mewn Dringo Coed ac Achub |
100/2000/7 | City & Guilds NPTC | Lefel 2 | Tystysgrif Cymhwysedd Lefel 2 yn y Defnydd Diogel o Lorri Ddadlwytho |
100/2001/9 | City & Guilds NPTC | Lefel 2 | Tystysgrif Cymhwysedd Lefel 2 yn y Defnydd Diogel o Beiriannau Olwyn Garw |
100/2103/5 | City & Guilds NPTC | Lefel 2 | Tystysgrif Cymhwysedd Lefel 2 yn y Defnydd Diogel o Beiriannau Offer |
100/1733/1 | City & Guilds NPTC | Lefel 2 | Tystysgrif Cymhwysedd Lefel 2 yn y Defnydd Diogel o Gyfarpar Cynnal Glaswellt |
601/2259/6 | City & Guilds NPTC | Lefel 2 | Dyfarniad Lefel 2 yn y Defnydd Diogel o Ffosffid Alwminiwm i Reoli Plâu Fertebraidd |
600/6453/5 | IMIAL | Lefel 2 | Tystysgrif Lefel 2 mewn Technoleg sy’n ymwneud â’r Tir |
600/6774/3 | IMIAL | Lefel 2 | Tystysgrif Estynedig Lefel 2 mewn Technoleg sy’n ymwneud â’r Tir |
501/1740/3 | Lantra Awards | Lefel 2 | Dyfarniad Lefel 2 mewn Cludo Anifeiliaid ar y Ffordd – Cynorthwyydd Siwrnai Hir |
501/1739/7 | Lantra Awards | Lefel 2 | Dyfarniad Lefel 2 mewn Cludo Anifeiliaid ar y Ffordd – Gyrrwr Siwrnai Hir |
501/1738/5 | Lantra Awards | Lefel 2 | Dyfarniad Lefel 2 mewn Cludo Anifeiliaid ar y Ffordd – Siwrnai Fer |
600/5699/X | Lantra Awards | Lefel 2 | Dyfarniad Lefel 2 mewn Cynnal a Chadw Llif Gadwyn |
600/5701/4 | Lantra Awards | Lefel 2 | Dyfarniad Lefel 2 mewn Cynnal a Chadw Llif Gadwyn a Thrawslifio |
600/5700/2 | Lantra Awards | Lefel 2 | Dyfarniad Lefel 2 mewn Trawslifio Coed gan Ddefnyddio Llif Gadwyn |
600/5703/8 | Lantra Awards | Lefel 2 | Dyfarniad Lefel 2 mewn Cwympo a Phrosesu Coed hyd at 380mm |
600/5717/8 | Lantra Awards | Lefel 2 | Dyfarniad Lefel 2 mewn Tynnu Canghennau a Malu Corunau gan Ddefnyddio Llif Gadwyn (QCF) |
500/7449/0 | Lantra Awards | Lefel 2 | Dyfarniad Lefel 2 mewn Gweithio’n Ddiogel mewn Amaethyddiaeth a Garddwriaeth Gynhyrchu |
600/5709/9 | Lantra Awards | Lefel 2 | Dyfarniad Lefel 2 mewn Cynorthwyo Cydweithwyr heb fod â’u Traed ar y Ddaear sy’n Gwneud Gwaith mewn perthynas â Choed |
600/8391/8 | Lantra Awards | Lefel 2 | Dyfarniad Lefel 2 yn y Defnydd Diogel o Alwminiwm Ffosffid ar gyfer Plâu Fertebraidd |
600/5708/7 | Lantra Awards | Lefel 2 | Dyfarniad Lefel 2 mewn Defnyddio Tociwr Polyn â Modur |
600/6729/9 | Lantra Awards | Lefel 2 | Tystysgrif Lefel 2 mewn Gweithgareddau ar y Tir |
601/5977/7 | Lantra Awards | Lefel 2 | Dyfarniad Lefel 2 yn y Defnydd Diogel o Blaleiddiaid |
601/6562/5 | Lantra Awards | Lefel 2 | Dyfarniad Lefel 2 mewn Taenu Plaleiddiaid yn Ddiogel gan Ddefnyddio Offer Llaw (QCF) |
601/6562/5X | Lantra Awards | Lefel 2 | Dyfarniad Lefel 2 mewn Taenu Plaleiddiaid yn Ddiogel gan Ddefnyddio Offer Llaw (QCF) (heb Ddefnydd Diogel) |
601/6565/0 | Lantra Awards | Lefel 2 | Dyfarniad Lefel 2 mewn Taenu Plaleiddiaid yn Ddiogel gan Ddefnyddio Offer Gronynnog (QCF) |
601/6565/0X | Lantra Awards | Lefel 2 | Dyfarniad Lefel 2 mewn Taenu Plaleiddiaid yn Ddiogel gan Ddefnyddio Offer Gronynnog (QCF) (heb Ddefnydd Diogel) |
601/6563/7 | Lantra Awards | Lefel 2 | Dyfarniad Lefel 2 mewn Taenu Plaleiddiaid yn Ddiogel gan Ddefnyddio Chwistrellwyr Bŵm wedi eu Mowntio ar Gerbyd (QCF) |
601/6563/7X | Lantra Awards | Lefel 2 | Dyfarniad Lefel 2 mewn Taenu Plaleiddiaid yn Ddiogel gan Ddefnyddio Bŵm wedi ei Fowntio ar Gerbyd |
600/8391/8 | Lantra Awards | Lefel 2 | Dyfarniad Lefel 2 yn y Defnydd Diogel o Alwminiwm Ffosffid i Reoli Plâu Fertebraidd (QCF) |
500/9933/4 | Pearson BTEC | Lefel 2 | Tystysgrif Lefel 2 mewn Amaethyddiaeth |
500/9932/2 | Pearson BTEC | Lefel 2 | Tystysgrif Estynedig Lefel 2 mewn Amaethyddiaeth |
501/0122/5 | Pearson BTEC | Lefel 2 | Tystysgrif Estynedig Lefel 2 mewn Garddwriaeth |
600/4507/3 | Pearson Edexcel | Lefel 2 | Tystysgrif Lefel 2 mewn Garddwriaeth Seiliedig ar Waith |
501/0207/2 | RHS | Lefel 2 | Tystysgrif Lefel 2 mewn Garddwriaeth Ymarferol |
500/8295/4 | RHS | Lefel 2 | Tystysgrif Lefel 2 mewn Egwyddorion Cynllunio, Sefydlu a Chadw Gardd |
Cymhwysedd (Rhifau) | Teitl |
|---|---|
CU 5.2. (T5021690) | Sefydlu a chynnal perthynas waith effeithiol ag eraill (Lefel 2) |
CU 9.2. (J5021449) | Cynllunio a chynnal cyflenwadau adnoddau ffisegol yn y lle gweithio (Lefel 3) |
ATODLEN 2DYFARNIADAU A THYSTYSGRIFAU CYMHWYSEDD GWEITHWYR GRADD 3
Cod y Dyfarniad | Sefydliad Dyfarnu | Lefel | Teitl |
|---|---|---|---|
500/8575/X | City & Guilds | Lefel 2 | Diploma mewn Amaethyddiaeth |
500/8718/6 | City & Guilds | Lefel 2 | Diploma mewn Coedwigaeth a Choedyddiaeth |
500/8576/1 | City & Guilds | Lefel 2 | Diploma mewn Garddwriaeth |
501/0678/8 | City & Guilds | Lefel 2 | Diploma mewn Technoleg sy’n ymwneud â’r Tir |
500/6231/1 | City & Guilds | Lefel 2 | Diploma mewn Amaethyddiaeth Seiliedig ar Waith |
500/6205/0 | City & Guilds | Lefel 2 | Diploma mewn Garddwriaeth Seiliedig ar Waith |
501/0302/7 | City & Guilds | Lefel 2 | Diploma mewn Gweithrediadau Peirianneg sy’n ymwneud â’r Tir Seiliedig ar Waith |
600/7616/1 | City & Guilds | Lefel 2 | Diploma mewn Coed a Phren |
601/2331/X | HABC | Lefel 2 | Diploma mewn Garddwriaeth Seiliedig ar Waith |
600/6775/5 | IMIAL | Lefel 2 | Diploma mewn Technoleg sy’n ymwneud â’r Tir |
601/0608/6 | IMIAL | Lefel 2 | Diploma mewn Cyfarpar â Modur ar gyfer Gweithrediadau Peirianneg sy’n ymwneud â’r Tir Seiliedig ar Waith |
600/5109/7 | IMIAL | Lefel 2 | Diploma mewn Gweithrediadau Peirianneg sy’n ymwneud â’r Tir Seiliedig ar Waith |
500/9547/X | Pearson BTEC | Lefel 2 | Diploma mewn Amaethyddiaeth |
500/9934/6 | Pearson BTEC | Lefel 2 | Diploma mewn Garddwriaeth |
600/3577/8 | Pearson Edexcel | Lefel 2 | Diploma mewn Gweithrediadau Peirianneg sy’n ymwneud â’r Tir Seiliedig ar Waith |
601/0356/5 | RHS | Lefel 2 | Diploma mewn Egwyddorion ac Arferion Garddwriaeth |
Cymhwysedd (Rhifau) | Teitl |
|---|---|
CU 5.2. (T5021690) | Sefydlu a chynnal perthynas waith effeithiol ag eraill (Lefel 2) |
CU 9.2. (J5021449) | Cynllunio a chynnal cyflenwadau adnoddau ffisegol yn y lle gweithio (Lefel 3) |
ATODLEN 3DYFARNIADAU A THYSTYSGRIFAU CYMHWYSEDD GWEITHWYR GRADD 4
Cod y Dyfarniad | Sefydliad Dyfarnu | Lefel | Teitl |
|---|---|---|---|
500/8487/2 | City & Guilds | Lefel 3 | Diploma mewn Amaethyddiaeth |
500/8564/5 | City & Guilds | Lefel 3 | Diploma mewn Coedwigaeth a Choedyddiaeth |
500/8384/3 | City & Guilds | Lefel 3 | Diploma mewn Garddwriaeth |
501/0681/8 | City & Guilds | Lefel 3 | Diploma mewn Technoleg sy’n ymwneud â’r Tir |
500/6224/4 | City & Guilds | Lefel 3 | Diploma mewn Amaethyddiaeth Seiliedig ar Waith |
500/6255/4 | City & Guilds | Lefel 3 | Diploma mewn Garddwriaeth Seiliedig ar Waith |
501/0399/4 | City & Guilds | Lefel 3 | Diploma mewn Gweithrediadau Peirianneg sy’n ymwneud â’r Tir Seiliedig ar Waith |
500/8490/2 | City & Guilds | Lefel 3 | Diploma Estynedig mewn Amaethyddiaeth |
500/8720/4 | City & Guilds | Lefel 3 | Diploma Estynedig mewn Coedwigaeth a Choedyddiaeth |
500/8401/X | City & Guilds | Lefel 3 | Diploma Estynedig mewn Garddwriaeth |
501/0682/X | City & Guilds | Lefel 3 | Diploma Estynedig mewn Technoleg sy’n ymwneud â’r Tir |
500/8388/0 | City & Guilds | Lefel 3 | Diploma Atodol mewn Amaethyddiaeth |
500/8724/1 | City & Guilds | Lefel 3 | Diploma Atodol mewn Coedwigaeth a Choedyddiaeth |
500/8385/5 | City & Guilds | Lefel 3 | Diploma Atodol mewn Garddwriaeth |
501/0694/6 | City & Guilds | Lefel 3 | Diploma Atodol mewn Technoleg sy’n ymwneud â’r Tir |
600/6048/7 | City & Guilds | Lefel 3 | Diploma 90-Credyd mewn Amaethyddiaeth |
600/5946/1 | City & Guilds | Lefel 3 | Diploma 90-Credyd mewn Coedwigaeth a Choedyddiaeth |
600/6115/7 | City & Guilds | Lefel 3 | Diploma 90-Credyd mewn Garddwriaeth |
600/5945/X | City & Guilds | Lefel 3 | Diploma 90-Credyd mewn Technoleg sy’n ymwneud â’r Tir |
601/7448/1 | City & Guilds | Lefel 3 | Tystysgrif Dechnegol Uwch Lefel 3 mewn Amaethyddiaeth |
601/7452/3 | City & Guilds | Lefel 3 | Diploma Dechnegol Uwch Lefel 3 mewn Amaethyddiaeth (540) |
601/7451/1 | City & Guilds | Lefel 3 | Diploma Estynedig Dechnegol Uwch Lefel 3 mewn Amaethyddiaeth (720) |
601/7459/6 | City & Guilds | Lefel 3 | Diploma Estynedig Dechnegol Uwch Lefel 3 mewn Amaethyddiaeth (1080) |
601/7507/2 | City & Guilds | Lefel 3 | Tystysgrif Dechnegol Uwch Lefel 3 mewn Coedwigaeth a Choedyddiaeth |
601/7517/5 | City & Guilds | Lefel 3 | Diploma Estynedig Dechnegol Uwch Lefel 3 mewn Coedwigaeth a Choedyddiaeth (1080) |
601/7453/5 | City & Guilds | Lefel 3 | Tystysgrif Dechnegol Uwch Lefel 3 mewn Garddwriaeth |
601/7456/0 | City & Guilds | Lefel 3 | Diploma Dechnegol Uwch Lefel 3 mewn Garddwriaeth (540) |
601/7455/9 | City & Guilds | Lefel 3 | Diploma Estynedig Dechnegol Uwch Lefel 3 mewn Garddwriaeth (720) |
601/7454/7 | City & Guilds | Lefel 3 | Diploma Estynedig Dechnegol Uwch Lefel 3 mewn Garddwriaeth (1080) |
601/7463/8 | City & Guilds | Lefel 3 | Diploma Estynedig Dechnegol Uwch Lefel 3 mewn Peirianneg sy’n ymwneud â’r Tir (1080) |
600/6970/3 | City & Guilds | Lefel 3 | Diploma mewn Coed a Phren Seiliedig ar Waith |
600/7794/3 | IMIAL | Lefel 3 | Diploma mewn Technoleg sy’n ymwneud â’r Tir |
600/7796/7 | IMIAL | Lefel 3 | Diploma Estynedig mewn Technoleg sy’n ymwneud â’r Tir |
600/7795/5 | IMIAL | Lefel 3 | Diploma Atodol mewn Technoleg sy’n ymwneud â’r Tir |
600/5128/0 | IMIAL | Lefel 3 | Diploma mewn Peirianneg sy’n ymwneud â’r Tir Seiliedig ar Waith |
500/8240/1 | Pearson BTEC | Lefel 3 | Diploma mewn Amaethyddiaeth |
500/9449/X | Pearson BTEC | Lefel 3 | Diploma mewn Coedwigaeth a Choedyddiaeth |
500/8336/3 | Pearson BTEC | Lefel 3 | Diploma mewn Garddwriaeth |
500/8301/6 | Pearson BTEC | Lefel 3 | Diploma Estynedig mewn Amaethyddiaeth |
500/9448/8 | Pearson BTEC | Lefel 3 | Diploma Estynedig mewn Coedwigaeth a Choedyddiaeth |
500/8266/8 | Pearson BTEC | Lefel 3 | Diploma Estynedig mewn Garddwriaeth |
500/8242/5 | Pearson BTEC | Lefel 3 | Diploma Atodol mewn Amaethyddiaeth |
500/9451/8 | Pearson BTEC | Lefel 3 | Diploma Atodol mewn Coedwigaeth a Choedyddiaeth |
500/8351/X | Pearson BTEC | Lefel 3 | Diploma Atodol mewn Garddwriaeth |
600/3550/X | Pearson Edexcel | Lefel 3 | Diploma mewn Peirianneg sy’n ymwneud â’r Tir Seiliedig ar Waith |
601/7189/3 | RHS | Lefel 3 | Diploma mewn Egwyddorion ac Arferion Garddwriaeth |
601/8097/3 | RHS | Lefel 3 | Diploma mewn Arferion Garddwriaeth |
600/2788/5 | City & Guilds | Lefel 4 | Tystysgrif mewn Rheolaeth Amaethyddol Seiliedig ar Waith |
600/2842/7 | City & Guilds | Lefel 4 | Diploma mewn Rheoli Busnes Amaethyddol Seiliedig ar Waith |
600/2132/9 | Pearson BTEC | Lefel 4 | Diploma HNC mewn Garddwriaeth |
601/5485/8 | Agored Cymru | Lefel 4 | Tystysgrif mewn Garddwriaeth Seiliedig ar Waith |
601/5484/6 | Agored Cymru | Lefel 4 | Diploma mewn Garddwriaeth Seiliedig ar Waith |
603/0320/7 | RHS | Lefel 4 | Diploma mewn Arferion Garddwriaeth |
Cymhwysedd (Rhifau) | Teitl |
|---|---|
CU 5.2. (T5021690) | Sefydlu a chynnal perthynas waith effeithiol ag eraill (Lefel 2) |
CU 9.2. (J5021449) | Cynllunio a chynnal cyflenwadau adnoddau ffisegol yn y lle gweithio (Lefel 3) |
ATODLEN 4CYFRADDAU TÂL ISAF
Gradd neu gategori’r gweithiwr | Cyfradd tâl isaf fesul awr |
|---|---|
Gweithiwr Gradd 1 o dan oedran ysgol gorfodol | £3.34 |
Gweithiwr Gradd 1 (16-24 oed) | £7.06 |
Gweithiwr Gradd 1 (25+ oed) | £7.51 |
Gweithiwr Gradd 2 | £7.54 |
Gweithiwr Gradd 3 | £8.22 |
Gweithiwr Gradd 4 | £8.82 |
Gweithiwr Gradd 5 | £9.34 |
Gweithiwr Gradd 6 | £10.09 |
Prentis Blwyddyn 1 | £3.78 |
Prentis Blwyddyn 2 (16-17 oed) | £4.05 |
Prentis Blwyddyn 2 (18-20 oed) | £5.60 |
Prentis Blwyddyn 2 (21-24 oed) | £7.05 |
Prentis Blwyddyn 2 (25+ oed) | £7.50 |
ATODLEN 5HAWLIAU GWYLIAU BLYNYDDOL
Nifer y diwrnodau a weithir bob wythnos gan weithiwr amaethyddol | Mwy na 6 | Mwy na 5 ond heb fod yn fwy na 6 | Mwy na 4 ond heb fod yn fwy na 5 | Mwy na 3 ond heb fod yn fwy na 4 | Mwy na 2 ond heb fod yn fwy na 3 | Mwy nag 1 ond heb fod yn fwy na 2 | 1 neu lai |
Hawliau gwyliau blynyddol (diwrnodau) | 38 | 35 | 31 | 25 | 20 | 13 | 7.5 |
ATODLEN 6TALIAD YN LLE GWYLIAU BLYNYDDOL
Uchafswm nifer y diwrnodau gwyliau blynyddol y caniateir taliad yn eu lle | |||||||
|---|---|---|---|---|---|---|---|
Diwrnodau a weithir bob wythnos | Mwy na 6 | Mwy na 5 ond heb fod yn fwy na 6 | Mwy na 4 ond heb fod yn fwy na 5 | Mwy na 3 ond heb fod yn fwy na 4 | Mwy na 2 ond heb fod yn fwy na 3 | Mwy nag 1 ond heb fod yn fwy na 2 | 1 neu lai |
Uchafswm nifer y diwrnodau gwyliau blynyddol o dan y Gorchymyn hwn y caniateir taliad yn eu lle | 10 | 7 | 3 | 2.5 | 2.5 | 1.5 | 1.5 |
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)