2017 Rhif 1041 (Cy. 270)
Dŵr, Cymru

Rheoliadau Cyflenwadau Dŵr Preifat (Cymru) 2017

Gwnaed
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi1 at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 19722 mewn perthynas ag ansawdd dŵr a fwriedir at ddibenion domestig neu ar gyfer ei ddefnyddio mewn menter cynhyrchu bwyd.
Mae Gweinidogion Cymru wedi cynnal yr ymgynghoriad sy’n ofynnol o dan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n nodi egwyddorion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn nodi’r gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd3.
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 ac adrannau 67, 77(3) a (4) a 213(2) o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 19914.

RHAN 1Safonau dŵr

Enwi, cymhwyso a chychwyn1.

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyflenwadau Dŵr Preifat (Cymru) 2017; maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 20 Tachwedd 2017.

Annotations:
Commencement Information

I1Rhl. 1 mewn grym ar 20.11.2017, gweler rhl. 1

Dehongli2.

Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “asesiad risg” (“risk assessment”) yw asesiad risg a gyflawnir o dan reoliad 6;

ystyr “crynodiad neu werth rhagnodedig” (“prescribed concentration or value”) mewn perthynas ag unrhyw baramedr, yw’r crynodiad neu’r gwerth uchaf neu isaf a bennir mewn perthynas â’r paramedr hwnnw yn y Tablau yn Atodlen 1 fel y’u mesurir drwy gyfeirio at yr uned fesur a bennir felly, ac a ddarllenir, pan fo’n briodol, gyda’r nodiadau i’r Atodlen honno a’r Tablau hynny;

ystyr “cyflenwad dŵr preifat” (“private water supply”) yw cyflenwad dŵr ac eithrio cyflenwad a ddarperir yn uniongyrchol gan ymgymerwr dŵr5 neu drwyddedai cyflenwi dŵr6, ac sy’n cynnwys yr holl asedau ffisegol o’r man tynnu dŵr i’r man defnyddio, gan gynnwys yr holl bibellau, ffitiadau a thanciau cysylltiedig;

ystyr “defnyddiwr” (“consumer”) yw person y darperir cyflenwad dŵr preifat iddo at ddibenion yfed y dŵr gan bobl;

ystyr “diheintio” (“disinfection”) yw proses o drin dŵr er mwyn dileu pob micro-organedd pathogenig a phob paraseit pathogenig a fyddai fel arall yn bresennol yn y dŵr, neu eu gwneud yn anniweidiol i iechyd dynol;

ystyr “dos dangosol” (“indicative dose”) yw’r dos effeithiol cyflawnedig ar gyfer 1 flwyddyn o amlyncu o ganlyniad i’r holl radioniwclidau o darddiad naturiol ac artiffisial y canfyddwyd eu bod yn bresennol mewn cyflenwad dŵr a fwriedir i’w yfed gan bobl, ac eithrio tritiwm, potasiwm-40, radon a chynhyrchion dadfeilio radon byrhoedlog;

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf y Diwydiant Dŵr 1991;

mae i “monitro ar gyfer paramedrau Grŵp A” (“monitoring for Group A parameters”) yr ystyr a roddir ym mharagraff 1 o Atodlen 2;

mae i “monitro ar gyfer paramedrau Grŵp B” (“monitoring for Group B parameters”) yr ystyr a roddir ym mharagraff 3 o Atodlen 2;

ystyr “NTU” (“NTU”) yw Uned Cymylogrwydd Neffelomedrig;

ystyr “paramedr” (“parameter”) yw priodoledd, elfen, organedd neu sylwedd a restrir yng ngholofn gyntaf y Tablau yn Atodlen 1 wedi eu darllen, pan fo’n briodol, gyda’r nodiadau i’r Atodlen honno a’r Tablau hynny;

ystyr “person perthnasol” (“relevant person”) yw—

(a)

perchennog a meddiannydd (a gaiff fod yr un person neu’n bersonau gwahanol) mangreoedd y cyflenwir dŵr iddynt drwy gyflenwad dŵr preifat at ddibenion domestig neu ddibenion cynhyrchu bwyd;

(b)

perchennog a meddiannydd (a gaiff fod yr un person neu’n bersonau gwahanol) tir y mae unrhyw ran o’r cyflenwad wedi ei leoli arno;

(c)

unrhyw berson arall sy’n arfer pwerau rheoli neu reolaeth mewn perthynas â’r cyflenwad hwnnw;

ystyr “y Prif Arolygydd Dŵr Yfed” (“the Chief Inspector of Drinking Water”) yw’r person a benodir gan Weinidogion Cymru o dan adran 86(1B) o’r Ddeddf (aseswyr ar gyfer gorfodi ansawdd dŵr)7;
ystyr “Rheoliadau 2010” (“the 2010 Regulations”) yw Rheoliadau Cyflenwadau Dŵr Preifat (Cymru) 20108;
mae i “tenantiaeth ddomestig” (“domestic tenancy”) yr un ystyr ag a roddir yn adran 2 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 (ystyr y prif dermau)9.
Annotations:
Commencement Information

I2Rhl. 2 mewn grym ar 20.11.2017, gweler rhl. 1

Cwmpas3.

(1)

Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â chyflenwadau dŵr preifat a fwriedir i’w yfed gan bobl; ac at y dibenion hyn, ystyr “dŵr a fwriedir i’w yfed gan bobl” yw—

(a)

pob dŵr, naill ai yn ei gyflwr gwreiddiol neu ar ôl ei drin, a fwriedir ar gyfer yfed, coginio, paratoi bwyd neu ddibenion domestig eraill, beth bynnag fo’i darddiad a pha un ai y’i cyflenwir o rwydwaith dosbarthu, neu o dancer neu mewn poteli neu gynwysyddion;

(b)

pob dŵr a ddefnyddir mewn unrhyw fenter cynhyrchu bwyd ar gyfer gweithgynhyrchu, prosesu, cyffeithio neu farchnata cynhyrchion neu sylweddau a fwriedir ar gyfer eu bwyta gan bobl oni bai, yn unol â Rheoliad (EC) Rhif 852/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch hylendid bwyd10, bod yr awdurdod cymwys11 wedi ei fodloni nad yw ansawdd y dŵr yn gallu effeithio ar iachusrwydd y bwyd yn ei ffurf orffenedig.

(2)

Nid yw’r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â—

(a)

dŵr y mae Rheoliadau Dŵr Mwynol Naturiol, Dŵr Ffynnon a Dŵr Yfed wedi’i Botelu (Cymru) 201512 yn gymwys iddo;

(b)

dŵr sy’n gynnyrch meddyginiaethol yn yr ystyr a roddir i “medicinal product” yn Neddf Meddyginiaethau 196813;

(c)

dŵr a ddefnyddir yn unig ar gyfer golchi cnwd ar ôl ei gynaeafu, ac nad yw’n effeithio ar addasrwydd y cnwd, nac unrhyw fwyd neu ddiod sy’n tarddu o’r cnwd, ar gyfer ei fwyta neu ei yfed gan bobl.

Annotations:
Commencement Information

I3Rhl. 3 mewn grym ar 20.11.2017, gweler rhl. 1

Iachusrwydd4.

(1)

Mae cyflenwad dŵr preifat i’w ystyried yn iachus os bodlonir yr holl amodau a ganlyn—

(a)

nad yw’n cynnwys unrhyw ficro-organedd, parasit neu sylwedd mewn crynodiad neu werth a fyddai, ar ei ben ei hun neu ar y cyd ag unrhyw sylwedd arall, yn peri perygl posibl i iechyd dynol;

(b)

ei fod yn cydymffurfio â’r crynodiad neu’r gwerth rhagnodedig ar gyfer pob paramedr; ac

(c)

bod y dŵr yn bodloni’r fformiwla “[nitrad]/50 + [nitraid]/3 ≤ 1”, pan fo’r bachau petryal yn dynodi’r crynodiadau mewn mg/1 ar gyfer nitrad (NO3) a nitraid (NO2).

(2)

Ystyr cyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at ddŵr afiachus yw nad yw’r gofyniadau ym mharagraff (1) wedi eu bodloni.

Annotations:
Commencement Information

I4Rhl. 4 mewn grym ar 20.11.2017, gweler rhl. 1

Defnyddio cynhyrchion neu sylweddau mewn cyflenwadau dŵr preifat a threfniadau diheintio5.

(1)

Ni chaiff unrhyw gynnyrch neu sylwedd a ddefnyddir wrth baratoi neu ddosbarthu cyflenwad dŵr preifat, neu amhurdebau sy’n gysylltiedig â chynhyrchion neu sylweddau o’r fath, fod yn bresennol mewn dŵr yn y man defnyddio ar lefelau a fyddai’n ei wneud yn afiachus neu’n peri perygl posibl i iechyd dynol.

(2)

Pan fo diheintio yn rhan o’r broses o baratoi neu ddosbarthu dŵr, rhaid i’r person perthnasol—

(a)

cynllunio, gweithredu a chynnal y broses ddiheintio er mwyn cadw presenoldeb sgil-gynhyrchion diheintio mor isel â phosibl heb beryglu effeithiolrwydd y broses ddiheintio;

(b)

sicrhau y cynhelir effeithiolrwydd y broses ddiheintio;

(c)

cadw cofnodion o’r gwaith cynnal a monitro a gyflawnir er mwyn gwirhau effeithiolrwydd y broses ddiheintio; a

(d)

cadw copïau o’r cofnodion hynny ar gael i’r awdurdod lleol edrych arnynt, am gyfnod o 5 mlynedd.

Annotations:
Commencement Information

I5Rhl. 5 mewn grym ar 20.11.2017, gweler rhl. 1

Gofyniad i gynnal asesiad risg6.

(1)

Rhaid i awdurdod lleol14 gynnal asesiad risg ar gyfer pob cyflenwad dŵr preifat yn ei ardal, ac adolygu a diweddaru’r asesiad risg hwnnw bob 5 mlynedd (neu’n gynharach os yw o’r farn bod yr asesiad risg presennol yn annigonol).

(2)

Yn achos cyflenwad a ddarperir i annedd sengl, nid yw’r ddyletswydd ym mharagraff (1) yn gymwys ond pan fo’r cyflenwad hwnnw’n cael ei ddarparu fel rhan o weithgarwch masnachol neu gyhoeddus, neu fel rhan o denantiaeth ddomestig.

(3)

Yn achos cyflenwad a ddarperir i annedd sengl nad yw’n dod o fewn paragraff (2), rhaid i awdurdod lleol gynnal asesiad risg os gofynnir iddo wneud hynny gan berchennog neu feddiannydd yr annedd honno.

(4)

Rhaid i asesiad risg—

(a)

cadarnhau a oes risg sylweddol o gyflenwi dŵr a fyddai’n peri perygl posibl i iechyd dynol;

(b)

bodloni gofynion y Canllawiau Diogelwch Cyflenwadau Dŵr Yfed ar gyfer Rheoli Risgiau ac Argyfyngau15; ac

(c)

ystyried canlyniadau’r rhaglenni monitro a sefydlwyd gan ail baragraff Erthygl 7(1) o Gyfarwyddeb 2000/60/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor16.

(5)

Rhaid i awdurdod lleol, o fewn 12 mis o gynnal yr asesiad risg, ddarparu crynodeb o ganlyniadau’r asesiad hwnnw i Weinidogion Cymru.

Annotations:
Commencement Information

I6Rhl. 6 mewn grym ar 20.11.2017, gweler rhl. 1

RHAN 2Monitro

Monitro7.

(1)

Rhaid i awdurdod lleol fonitro’r holl gyflenwadau dŵr preifat yn ei ardal yn unol â’r Rhan hon wrth gyflawni ei ddyletswyddau o dan adran 77(1) o’r Ddeddf (swyddogaethau cyffredinol awdurdodau lleol mewn perthynas ag ansawdd dŵr).

(2)

Rhaid i’r awdurdod lleol gyflawni’r rhwymedigaeth ym mharagraff (1) drwy sefydlu rhaglen fonitro ar ffurf naill ai—

(a)

casglu a dadansoddi samplau dŵr ar wahân;

(b)

mesuriadau a gofnodir drwy broses fonitro barhaus; neu

(c)

cyfuniad o’r dulliau yn is-baragraffau (a) a (b).

(3)

Caiff rhaglenni monitro gynnwys y naill neu’r llall o’r dulliau a ganlyn, neu’r ddau ohonynt—

(a)

edrych ar gofnodion o weithrediad yr offer a’i statws o ran cynnal a chadw;

(b)

arolygu’r dalgylch, a’r seilwaith tynnu, trin, storio a dosbarthu dŵr.

Annotations:
Commencement Information

I7Rhl. 7 mewn grym ar 20.11.2017, gweler rhl. 1

Dosbarthu ymhellach gyflenwadau a geir oddi wrth ymgymerwyr dŵr neu drwyddedeion cyflenwi dŵr8.

Pan fo dŵr yn cael ei gyflenwi gan ymgymerwr dŵr neu drwyddedai cyflenwi dŵr ac yna’n cael ei ddosbarthu ymhellach gan berson ac eithrio ymgymerwr dŵr neu drwyddedai cyflenwi dŵr, rhaid i’r awdurdod lleol gyflawni unrhyw waith monitro y mae’r asesiad risg yn dangos ei fod yn angenrheidiol.

Annotations:
Commencement Information

I8Rhl. 8 mewn grym ar 20.11.2017, gweler rhl. 1

Cyflenwadau mawr a chyflenwadau fel rhan o weithgarwch masnachol neu gyhoeddus9.

(1)

Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i gyflenwad dŵr preifat, ac eithrio fel a bennir yn rheoliad 8—

(a)

sy’n cyflenwi cyfaint dŵr dyddiol cyfartalog o 10m3 neu ragor; neu

(b)

sy’n cyflenwi dŵr fel rhan o weithgarwch masnachol neu gyhoeddus.

(2)

Rhaid i’r awdurdod lleol fonitro cyflenwad dŵr preifat sy’n dod o fewn y rheoliad hwn yn unol ag Atodlen 2 a chyflawni unrhyw waith monitro ychwanegol y mae’r asesiad risg yn dangos ei fod yn angenrheidiol.

Annotations:
Commencement Information

I9Rhl. 9 mewn grym ar 20.11.2017, gweler rhl. 1

Cyflenwadau i anheddau sengl10.

(1)

Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i gyflenwad dŵr preifat i annedd sengl nas defnyddir fel rhan o weithgarwch masnachol neu gyhoeddus (os felly mae rheoliad 9 yn gymwys) neu fel rhan o denantiaeth ddomestig (os felly mae rheoliad 11 yn gymwys).

(2)

Pan fo’r rheoliad hwn yn gymwys—

(a)

caiff yr awdurdod lleol fonitro’r cyflenwad yn unol â’r gofynion yn rheoliad 11(1); a

(b)

rhaid i’r awdurdod lleol wneud hynny os gofynnir iddo wneud hynny gan berchennog neu feddiannydd yr annedd honno.

Annotations:
Commencement Information

I10Rhl. 10 mewn grym ar 20.11.2017, gweler rhl. 1

Cyflenwadau preifat eraill gan gynnwys cyflenwadau fel rhan o denantiaeth ddomestig11.

(1)

Yn achos cyflenwad dŵr preifat nad yw rheoliadau 8, 9 neu 10 yn ei gwmpasu, rhaid i’r awdurdod lleol fonitro ar gyfer—–

(a)

dargludedd;

(b)

enterococi;

(c)

Escherichia coli (E. coli);

(d)

crynodiad ïonau hydrogen;

(e)

cymylogrwydd;

(f)

unrhyw baramedr yn Rhan 1 neu 2 o Atodlen 1 y nodir yn yr asesiad risg bod risg y gallai fethu â chydymffurfio â’r crynodiadau neu’r gwerthoedd yn y Rhannau hynny o’r Atodlen honno; ac

(g)

unrhyw beth arall a nodir yn yr asesiad risg y gallai beri perygl posibl i iechyd dynol.

(2)

Rhaid i’r awdurdod lleol gyflawni’r gwaith monitro sy’n ofynnol gan y rheoliad hwn bob 5 mlynedd o leiaf, ac yn amlach os yw’r asesiad risg yn dangos bod hynny’n angenrheidiol.

Annotations:
Commencement Information

I11Rhl. 11 mewn grym ar 20.11.2017, gweler rhl. 1

Monitro sylweddau ymbelydrol: cyffredinol12.

(1)

Rhaid i awdurdod lleol fonitro pob cyflenwad dŵr preifat yn ei ardal (ac eithrio cyflenwad y mae rheoliad 13 yn gymwys iddo) ar gyfer y paramedrau sydd wedi eu cynnwys yn y tabl paramedrau sylweddau ymbelydrol yn unol â’r rheoliad hwn ac Atodlen 3.

(2)

Yn y rheoliad hwn ac Atodlen 3, ystyr “y tabl paramedrau sylweddau ymbelydrol” yw Tabl D yn Rhan 3 o Atodlen 1.

(3)

Pan fo awdurdod lleol wedi ei fodloni nad yw paramedr yn y tabl paramedrau sylweddau ymbelydrol yn debygol o fod yn bresennol mewn cyflenwad dŵr preifat yn ei ardal mewn crynodiadau a allai fod yn uwch na’r crynodiad neu’r gwerth rhagnodedig ar gyfer y paramedr perthnasol yn y tabl hwnnw, caiff yr awdurdod lleol, am ba gyfnod bynnag ag y gwêl yn briodol, benderfynu eithrio’r paramedr dan sylw o’r ddyletswydd fonitro ym mharagraff (1).

(4)

Rhaid i benderfyniad o dan baragraff (3) gael ei wneud—

(a)

ar sail arolygon cynrychioliadol, data monitro neu wybodaeth ddibynadwy arall (gan gynnwys unrhyw asesiad risg a gyflawnir yn unol â rheoliad 6); a

(b)

gan ystyried unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru.

(5)

Rhaid i’r awdurdod lleol ddarparu i Weinidogion Cymru sail ei benderfyniad o dan baragraff (3) a’r ddogfennaeth angenrheidiol sy’n ategu’r penderfyniad (gan gynnwys canfyddiadau unrhyw arolygon, gwaith monitro neu asesiadau a gyflawnir yn unol â pharagraff (4)(a)).

(6)

Rhaid i Weinidogion Cymru gyfleu i’r Comisiwn Ewropeaidd sail y penderfyniad o dan baragraff (3) ynghyd â’r ddogfennaeth a ddarperir o dan baragraff (5) sy’n ategu’r penderfyniad.

(7)

Pan—

(a)

fo penderfyniad wedi ei wneud yn flaenorol o dan baragraff (3), a

(b)

na fo’r awdurdod lleol yn fodlon mwyach bod sail y penderfyniad yn bodoli,

ni fydd yr eithriad rhag monitro o dan baragraff (3) yn gymwys mwyach a rhaid i’r awdurdod lleol hysbysu Gweinidogion Cymru yn ysgrifenedig yn unol â hynny.

(8)

Yn achos radioniwclidau sy’n digwydd yn naturiol, pan fo canlyniadau blaenorol (gan gynnwys arolygon cynrychioliadol, data monitro neu wybodaeth ddibynadwy arall) yn dangos bod y crynodiad o radioniwclidau mewn cyflenwad yn ardal awdurdod lleol yn sefydlog, mae amlder gofynnol gwaith samplu a dadansoddi i’w benderfynu gan yr awdurdod lleol, a’i gadarnhau drwy hysbysiad ysgrifenedig i Weinidogion Cymru, gan ystyried y risg i iechyd dynol.

Annotations:
Commencement Information

I12Rhl. 12 mewn grym ar 20.11.2017, gweler rhl. 1

Monitro sylweddau ymbelydrol: cyflenwadau i anheddau sengl penodedig13.

(1)

Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i gyflenwad dŵr preifat i annedd sengl nas darperir fel rhan o weithgarwch masnachol neu gyhoeddus neu fel rhan o denantiaeth ddomestig.

(2)

Caiff awdurdod lleol fonitro cyflenwad sy’n dod o fewn paragraff (1) ar gyfer y paramedrau sydd wedi eu cynnwys yn Nhabl D yn Rhan 3 o Atodlen 1 yn unol ag Atodlen 3 a Rhan 3 o Atodlen 4, a rhaid iddo wneud hynny os gofynnir iddo wneud hynny gan y perchennog neu’r meddiannydd.

Annotations:
Commencement Information

I13Rhl. 13 mewn grym ar 20.11.2017, gweler rhl. 1

Samplu a dadansoddi14.

(1)

Pan fo awdurdod lleol yn monitro cyflenwad dŵr preifat, rhaid iddo gymryd sampl—

(a)

os yw’r dŵr wedi ei gyflenwi at ddibenion domestig, o dap a ddefnyddir fel arfer i gyflenwi dŵr i’w yfed gan bobl, ac sydd, os oes mwy nag un tap, yn gynrychioliadol o’r dŵr a gyflenwir i’r fangre;

(b)

os defnyddir y dŵr mewn menter cynhyrchu bwyd, yn y man y’i defnyddir yn y fenter;

(c)

os cyflenwir y dŵr o dancer, yn y man y daw allan o’r tancer;

(d)

mewn man addas yn unrhyw achos arall.

(2)

Rhaid cymryd hapsampl yn ystod y dydd o un litr o gyfaint o dap y defnyddiwr, heb ei lifolchi ymlaen llaw, at ddiben samplu ar gyfer y paramedrau copr, plwm a nicel.

(3)

O ran samplu o dan y rheoliad hwn—

(a)

ar gyfer paramedrau cemegol yn y rhwydwaith dosbarthu, rhaid ei gyflawni yn unol ag ISO 5667-5, ac eithrio pan fo’r sampl yn cael ei chymryd o dap defnyddiwr;

(b)

ar gyfer paramedrau microbiolegol, rhaid ei gyflawni yn unol ag—

(i)

EN ISO 19458 diben samplu A yn y rhwydwaith dosbarthu; a

(ii)

EN ISO 19458 diben samplu B wrth dap y defnyddiwr.

(4)

Rhaid i’r awdurdod lleol sicrhau bod y sampl yn cael ei dadansoddi yn unol ag Atodlen 4.

Annotations:
Commencement Information

I14Rhl. 14 mewn grym ar 20.11.2017, gweler rhl. 1

Cyflenwadau newydd15.

(1)

Pan fo awdurdod lleol yn dod yn ymwybodol o gyflenwad dŵr preifat sydd i’w ddefnyddio am y tro cyntaf (neu am y tro cyntaf ar ôl peidio â chael ei ddefnyddio am gyfnod o 12 mis neu ragor), neu sy’n cael ei ddefnyddio felly, rhaid cydymffurfio â gofynion rheoliadau 6 i 14 ac 16 i 19 cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.

(2)

Ni chaniateir dechrau defnyddio neu ddefnyddio cyflenwad dŵr preifat hyd nes bod yr awdurdod lleol wedi ei fodloni nad yw’r cyflenwad yn peri perygl posibl i iechyd dynol.

Annotations:
Commencement Information

I15Rhl. 15 mewn grym ar 20.11.2017, gweler rhl. 1

Cofnodion16.

(1)

Rhaid i awdurdod lleol wneud a chadw cofnodion mewn cysylltiad â phob cyflenwad dŵr preifat yn ei ardal yn unol ag Atodlen 5.

(2)

Erbyn 31 Ionawr bob blwyddyn, rhaid i awdurdod lleol—

(a)

anfon copi o’r cofnodion y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) at y Prif Arolygydd Dŵr Yfed; a

(b)

anfon copi o’r cofnodion hynny at Weinidogion Cymru os gofynnir amdanynt.

Annotations:
Commencement Information

I16Rhl. 16 mewn grym ar 20.11.2017, gweler rhl. 1

RHAN 3Gweithredu yn dilyn methiant

Darparu gwybodaeth17.

Os yw awdurdod lleol o’r farn bod cyflenwad dŵr preifat yn ei ardal yn peri perygl posibl i iechyd dynol, rhaid iddo gymryd camau priodol yn brydlon i sicrhau bod y bobl sy’n debygol o yfed dŵr ohono—

(a)

yn cael gwybod bod y cyflenwad yn peri perygl posibl i iechyd dynol;

(b)

pan fo modd, yn cael gwybod am natur a graddau’r perygl posibl; ac

(c)

yn cael cyngor i’w caniatáu i leihau unrhyw berygl posibl o’r fath.

Annotations:
Commencement Information

I17Rhl. 17 mewn grym ar 20.11.2017, gweler rhl. 1

Ymchwilio18.

(1)

Pan fo awdurdod lleol yn amau bod cyflenwad dŵr preifat yn methu â chydymffurfio ag—

(a)

gofynion rheoliad 4, neu

(b)

y crynodiadau neu’r gwerthoedd yn Rhan 2 neu Ran 3 o Atodlen 1 ar gyfer paramedr dangosydd,

rhaid iddo gynnal ymchwiliad i gadarnhau’r hyn a achosodd y methiant hwnnw.

(2)

Unwaith y bydd awdurdod lleol wedi cynnal ymchwiliad ac wedi cadarnhau’r hyn a achosodd y methiant, rhaid iddo weithredu yn unol â pharagraffau (3) i (5).

(3)

Os achoswyd y methiant o ganlyniad i’r system ddosbarthu o fewn mangre ddomestig (pa un a yw’r dŵr ar gael i’r cyhoedd yn y fangre honno ai peidio) rhaid i’r awdurdod lleol hysbysu’r bobl sy’n debygol o gael eu heffeithio yn brydlon a chynnig cyngor iddynt ar y mesurau sy’n angenrheidiol er mwyn diogelu iechyd dynol.

(4)

Yn ogystal â’r ddyletswydd ym mharagraff (3) (pan fo’n gymwys), rhaid i’r awdurdod lleol weithredu yn unol â pharagraff (5) os achoswyd y methiant o ganlyniad i—

(a)

y system ddosbarthu mewn mangre ddomestig pan fo’r dŵr ar gael i’r cyhoedd; neu

(b)

system ddosbarthu nad yw mewn mangre ddomestig.

(5)

Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys, rhaid i’r awdurdod lleol—

(a)

os yw’r dŵr yn peri perygl posibl i iechyd dynol a bod yr amodau yn rheoliad 20 wedi eu bodloni, gyflwyno hysbysiad o dan y rheoliad hwnnw; neu

(b)

o fewn 28 o ddiwrnodau o gadarnhau’r hyn a achosodd y methiant, ac os nad yw camau unioni priodol wedi eu cymryd, gyflwyno hysbysiad yn unol ag adran 80 o’r Ddeddf (pwerau unioni awdurdodau lleol mewn perthynas â chyflenwadau preifat) oni bai bod yr awdurdod lleol yn rhoi awdurdodiad yn unol â rheoliad 19(2).

(6)

Pan fo’r rheoliad hwn yn gymwys a bod rhwymedigaethau monitro awdurdod lleol mewn cysylltiad â’r cyflenwad wedi eu lleihau (neu eu hamrywio fel arall) yn flaenorol o dan Atodlen 2 i’r Rheoliadau hyn, rhaid i’r fath amrywiad ddod i ben ar unwaith, a rhaid adfer yr amlderau safonol a amlinellir yn Nhablau 2 a 3 yn Atodlen 2.

Annotations:
Commencement Information

I18Rhl. 18 mewn grym ar 20.11.2017, gweler rhl. 1

Awdurdodi safonau gwahanol19.

(1)

Caiff unrhyw berson perthnasol wneud cais i awdurdod lleol am awdurdodiad o dan y rheoliad hwn.

(2)

Caiff awdurdod lleol roi awdurdodiad ar gyfer safonau gwahanol o dan y rheoliad hwn—

(a)

os yr unig beth sy’n achosi i’r dŵr fod yn afiachus yw na chydymffurfir â pharamedr yn Nhabl B o Ran 1 o Atodlen 1 (paramedrau cemegol);

(b)

os yw’r awdurdod lleol wedi ymgynghori â’r holl ddefnyddwyr dŵr y bydd yr awdurdodiad yn effeithio arnynt a chydag Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Iechyd Cyhoeddus Cymru, ac wedi ystyried eu safbwyntiau;

(c)

os nad yw rhoi’r awdurdodiad yn achosi perygl posibl i iechyd dynol; a

(d)

oni ellir cynnal y cyflenwad dŵr preifat drwy unrhyw ddulliau rhesymol eraill.

(3)

Rhaid i awdurdodiad ei gwneud yn ofynnol i’r ceisydd gymryd camau dros gyfnod o amser i sicrhau y cydymffurfir â’r paramedrau angenrheidiol, a rhaid i’r awdurdodiad bennu—

(a)

y person y rhoddir yr awdurdodiad iddo;

(b)

y cyflenwad dŵr preifat dan sylw;

(c)

y sail ar gyfer rhoi’r awdurdodiad;

(d)

y paramedrau dan sylw, y canlyniadau monitro perthnasol blaenorol, a’r gwerthoedd uchaf a ganiateir o dan yr awdurdodiad;

(e)

yr ardal ddaearyddol, amcangyfrif o faint o ddŵr a gyflenwir bob diwrnod, nifer y personau y cyflenwir dŵr iddynt, a pha un a effeithir ai peidio ar unrhyw fenter cynhyrchu bwyd;

(f)

cynllun monitro priodol, gan fonitro’n amlach pan fo angen;

(g)

crynodeb o’r cynllun i weithredu’r mesurau unioni angenrheidiol, gan gynnwys amserlen ar gyfer cyflawni’r gwaith, ac amcangyfrif o’r gost, a darpariaethau ar gyfer adolygu cynnydd; a

(h)

hyd yr awdurdodiad.

(4)

Os yw awdurdod lleol yn rhoi awdurdodiad, ac os yw’r person y’i rhoddir iddo yn gweithredu yn unol â’r amserlen a bennir yn yr awdurdodiad, ni chaiff yr awdurdod lleol gyflwyno hysbysiad o dan adran 80 o’r Ddeddf ynghylch y materion a bennir yn yr awdurdodiad heb yn gyntaf ddiwygio neu ddirymu’r awdurdodiad.

(5)

Rhaid i hyd yr awdurdodiad fod mor fyr â phosibl, a pha un bynnag ni chaiff fod yn hwy na 3 blynedd.

(6)

Rhaid i’r awdurdod lleol sicrhau bod y bobl a gyflenwir yn cael gwybod yn brydlon am yr awdurdodiad a’i amodau a sicrhau, pan fo’n angenrheidiol, y rhoddir cyngor i grwpiau penodol y gallai’r awdurdodiad beri risg arbennig iddynt.

(7)

Os yw’r cyflenwad dŵr preifat yn fwy na 1,000 m3 y diwrnod ar gyfartaledd neu os yw’n gwasanaethu mwy na 5,000 o bobl rhaid i’r awdurdod lleol anfon copi o’r awdurdodiad at y Prif Arolygydd Dŵr Yfed a Gweinidogion Cymru o fewn 1 mis.

(8)

Rhaid i’r awdurdod lleol adolygu cynnydd y camau unioni yn barhaus.

(9)

Os oes angen, gyda chydsyniad ymlaen llaw gan Weinidogion Cymru, caiff yr awdurdod lleol roi ail awdurdodiad am hyd at 3 blynedd ychwanegol, ond os yw’n gwneud hynny rhaid iddo, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, anfon copi o’r awdurdodiad ynghyd â sail ei benderfyniad at y Prif Arolygydd Dŵr Yfed a Gweinidogion Cymru.

(10)

Caiff yr awdurdod lleol ddirymu neu ddiwygio’r awdurdodiad ar unrhyw adeg, ac yn benodol, caiff ei ddiddymu neu ei ddiwygio os na chedwir at yr amserlen ar gyfer y gwaith unioni.

Annotations:
Commencement Information

I19Rhl. 19 mewn grym ar 20.11.2017, gweler rhl. 1

RHAN 4Gweithdrefn hysbysu

Hysbysiadau20.

(1)

Os yw cyflenwad dŵr preifat yn peri perygl posibl i iechyd dynol, rhaid i awdurdod lleol gyflwyno hysbysiad o dan y rheoliad hwn i’r person perthnasol yn hytrach na chyflwyno hysbysiad o dan adran 80 o’r Ddeddf.

(2)

Rhaid i’r hysbysiad—

(a)

nodi’r cyflenwad dŵr preifat y mae’n ymwneud ag ef;

(b)

pennu’r sail dros gyflwyno’r hysbysiad;

(c)

gwahardd defnyddio’r cyflenwad hwnnw neu gyfyngu ar y defnydd ohono;

(d)

pennu pa gamau eraill sy’n angenrheidiol er mwyn—

(i)

diogelu iechyd dynol;

(ii)

adfer iachusrwydd y cyflenwad dŵr preifat;

(iii)

cynnal iachusrwydd parhaus y cyflenwad dŵr preifat ar ôl ei adfer; ac

(e)

pennu’r dyddiad erbyn pryd y mae’n rhaid cymryd y camau sy’n ofynnol.

(3)

Rhaid i’r awdurdod lleol hysbysu defnyddwyr y cyflenwad dŵr preifat y mae’r hysbysiad yn ymwneud ag ef yn brydlon, a darparu unrhyw gyngor sydd ei angen.

(4)

Caiff yr hysbysiad fod yn ddarostyngedig i amodau, a chaniateir ei ddiwygio drwy hysbysiad pellach ar unrhyw adeg.

(5)

Rhaid i’r awdurdod lleol ddirymu’r hysbysiad cyn gynted ag y bydd yn dod yn ymwybodol nad oes perygl posibl i iechyd dynol mwyach.

(6)

Mae’n drosedd i berson perthnasol y cyflwynir hysbysiad iddo o dan y rheoliad hwn fethu â chydymffurfio â’r hysbysiad hwnnw.

(7)

Pan fo person perthnasol (“P”) yn methu â chymryd y camau sy’n ofynnol erbyn y dyddiad a bennir mewn hysbysiad a gyflwynir o dan baragraff (1), caiff yr awdurdod lleol a gyflwynodd yr hysbysiad gymryd y fath gamau ei hun.

(8)

Pan fo unrhyw gamau yn cael eu cymryd gan awdurdod lleol o dan baragraff (7) mewn perthynas ag unrhyw fangre—

(a)

caiff yr awdurdod lleol adennill oddi wrth P unrhyw dreuliau yr eir iddynt yn rhesymol ganddo wrth gymryd y camau hynny; a

(b)

pan fo person, ac eithrio’r awdurdod lleol, yn atebol i wneud taliadau i P, bernir bod symiau a delir yn rhinwedd is-baragraff (a) yn dreuliau yr eir iddynt wrth gymryd y camau gan P.

Annotations:
Commencement Information

I20Rhl. 20 mewn grym ar 20.11.2017, gweler rhl. 1

Apelau21.

(1)

Caiff unrhyw berson a dramgwyddir gan hysbysiad a gyflwynir o dan reoliad 20 apelio i lys ynadon o fewn 28 diwrnod ar ôl cyflwyno’r hysbysiad.

(2)

Mae’r weithdrefn apelio a ddilynir mewn llys ynadon o dan baragraff (1) ar ffurf achwyniad, ac mae Deddf Llysoedd Ynadon 198017 yn gymwys i’r achosion.

(3)

Bydd hysbysiad yn parhau mewn grym oni chaiff ei atal gan y llys.

(4)

Mewn apêl, caiff y llys naill ai ddileu’r hysbysiad neu ei gadarnhau, gydag addasiadau neu heb addasiadau.

Annotations:
Commencement Information

I21Rhl. 21 mewn grym ar 20.11.2017, gweler rhl. 1

Cosbau22.

(1)

Mae person sy’n cyflawni trosedd o dan reoliad 20 yn atebol—

(a)

o’i euogfarnu’n ddiannod, i ddirwy nad yw’n fwy na’r uchafswm statudol neu gyfnod o garchar na fydd yn hwy na 3 mis, neu’r ddau; neu

(b)

o’i euogfarnu ar dditiad, i ddirwy neu gyfnod o garchar na fydd yn hwy na 2 flynedd, neu’r ddau.

(2)

Pan fo corff corfforaethol yn euog o drosedd o dan y Rheoliadau hyn, ac os profir bod y drosedd wedi ei chyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad, neu wedi ei phriodoli i unrhyw esgeulustod ar ran—

(a)

unrhyw gyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu berson arall tebyg yn y corff corfforaethol, neu

(b)

unrhyw berson a oedd cymryd arno ei fod yn gweithredu yn rhinwedd unrhyw swydd o’r fath,

mae’r person hwnnw yn euog o’r drosedd yn ogystal â’r corff corfforaethol.

(3)

Ym mharagraff (2), ystyr “cyfarwyddwr” mewn perthynas â chorff corfforaethol y mae ei fusnes yn cael ei reoli gan ei aelodau, yw aelod o’r corff corfforaethol.

Annotations:
Commencement Information

I22Rhl. 22 mewn grym ar 20.11.2017, gweler rhl. 1

RHAN 5Amrywiol

Ffioedd23.

Mae Atodlen 6 yn gwneud darpariaeth ar gyfer ffioedd.

Annotations:
Commencement Information

I23Rhl. 23 mewn grym ar 20.11.2017, gweler rhl. 1

Dirymiadau24.

(1)

Mae’r offerynnau a ganlyn wedi eu dirymu—

(a)

Rheoliadau 2010;

(b)

Rheoliadau Cyflenwadau Dŵr Preifat (Cymru) (Diwygio) 201018;

(c)

Rheoliadau Cyflenwadau Dŵr Preifat (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 201019; a

(d)

Rheoliadau Cyflenwadau Dŵr Preifat (Cymru) (Diwygio) 201620.

(2)

Mae paragraff 142 o Atodlen 2 i Orchymyn yr Asiantaeth Genedlaethol ar gyfer Triniaethau (Dileu) a Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2012 (Darpariaethau Canlyniadol a Throsiannol a Darpariaethau Arbed) 201321 wedi ei ddirymu.
Annotations:
Commencement Information

I24Rhl. 24 mewn grym ar 20.11.2017, gweler rhl. 1

Diwygiad canlyniadol25.

Yn rheoliad 21(7)(b) o Reoliadau Cyflenwi Dŵr (Ansawdd Dŵr) 201022, yn lle “regulation 15 or 16 of the Private Water Supplies (Wales) Regulations 2010” rhodder “regulation 18 of the Private Water Supplies (Wales) Regulations 2017”.
Annotations:
Commencement Information

I25Rhl. 25 mewn grym ar 20.11.2017, gweler rhl. 1

Darpariaethau trosiannol26.

(1)

Pan ddaw’r Rheoliadau hyn i rym—

(a)

mae awdurdodiad a roddir o dan reoliad 17(2) o Reoliadau 2010 sydd mewn grym yn union cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym i’w gymryd i fod yn awdurdodiad a roddir o dan reoliad 19(2) o’r Rheoliadau hyn;

(b)

mae ail awdurdodiad a roddir o dan reoliad 17(9) o Reoliadau 2010 sydd mewn grym yn union cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym i’w gymryd i fod yn ail awdurdodiad a roddir o dan reoliad 19(9) o’r Rheoliadau hyn;

(c)

mae hysbysiad a gyflwynir o dan reoliad 18 o Reoliadau 2010 sydd mewn grym yn union cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym (“hysbysiad presennol”) i’w gymryd i fod yn hysbysiad a gyflwynir o dan reoliad 20 o’r Rheoliadau hyn.

(2)

Caniateir gwneud apêl o dan reoliad 21(1) o’r Rheoliadau hyn yn erbyn hysbysiad presennol os nad yw’r cyfnod o amser ar gyfer gwneud apêl o dan reoliad 19(1) o Reoliadau 2010 wedi dod i ben ar y dyddiad y daw’r Rheoliadau hyn i rym.

(3)

O ran awdurdod lleol sydd wedi—

(a)

lleihau amlder samplu ar gyfer paramedr o dan baragraff 2(2) yn Rhan 1 o Atodlen 2 (monitro) i Reoliadau 2010, neu

(b)

eithrio paramedr o waith monitro archwilio o dan baragraff 3(3) yn Rhan 2 o Atodlen 2 i Reoliadau 2010,

rhaid iddo, pan ddaw’r Rheoliadau hyn i rym, ddod ag unrhyw leihad neu eithriad o’r fath i ben, ac yn lle hynny rhaid iddo ddechrau monitro yn unol â’r ddarpariaeth a wneir yn Atodlen 2 i’r Rheoliadau hyn.

(4)

Caiff awdurdod lleol ddibynnu ar unrhyw ddata a gesglir yn ystod y cyfnod o 36 mis sy’n dod i ben â’r diwrnod y daw’r Rheoliadau hyn i rym i gyfiawnhau unrhyw amrywiad o ran monitro o dan Ran 4 o Atodlen 2.

(5)

Mae Tabl 2 (nodweddion perfformiad rhagnodedig ar gyfer dulliau dadansoddi) yn Atodlen 4 yn parhau mewn grym hyd 23:59 ar 31 Rhagfyr 2019, a chaiff ei ddirymu at bob diben ar ôl hynny.

Annotations:
Commencement Information

I26Rhl. 26 mewn grym ar 20.11.2017, gweler rhl. 1

Lesley Griffiths
Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru

ATODLEN 1Crynodiadau neu Werthoedd

Rheoliadau 2, 11, 12, 13, 18 a 19

RHAN 1Iachusrwydd

Annotations:
Commencement Information

I27Atod. 1 Rhn. 1 mewn grym ar 20.11.2017, gweler rhl. 1

TABL A:PARAMEDRAU MICROBIOLEGOL

Paramedrau crynodiadau neu werthoedd rhagnodedig

Crynodiad neu werth uchaf

Unedau Mesur

Escherichia coli (E. coli)

0

Nifer/100ml

Enterococi

0

Nifer/100ml

Yn achos dŵr mewn poteli neu gynwysyddion:

Escherichia coli (E.coli)

0

Nifer/250ml

Enterococi

Nifer/250ml

Pseudomonas aeruginosa

0

Nifer/250ml

Cyfrifiad cytrefi 22ºC

100

Nifer/ml

TABL B:PARAMEDRAU CEMEGOL

Paramedrau crynodiadau neu werthoedd rhagnodedig

Crynodiad neu werth uchaf

Unedau Mesur

Acrylamid (1)

0.10

µg/1

Antimoni

5.0

µg/1

Arsenig

10

µg/1

Bensen

1.0

µg/1

Benso(a)pyren

0.010

µg/1

Boron

1.0

mg/1

Bromad

10

µg/1

Cadmiwm

5.0

µg/1

Cromiwm

50

µg/1

Copr

2.0

mg/1

Cyanid

50

µg/1

1.2 dicloroethan

3.0

µg/1

Epichlorohydrin(1)

0.10

µg/1

Fflworid

1.5

mg/1

Plwm

10

µg/1

µg/1

Mercwri

1.0

µg/1

Nicel

20

µg/1

Nitrad (2)

50

mg/l

Nitraid (2)

0.5 (neu 0.1 yn achos gweithfeydd trin)

mg/l

Plaleiddiaid (3)

Aldrin

0.030

µg/1

Dieldrin

0.030

µg/1

Heptaclor

0.030

µg/1

Heptaclor epocsid

0.030

µg/1

Plaleiddiaid eraill

0.10

µg/1

Cyfanswm plaleiddiaid (4)

0.50

µg/1

Hydrocarbonau polysyclig aromatig (5)

0.10

µg/1

Seleniwm

10

µg/1

Tetracloroethen a Thricloroethen(6)

10

µg/1

Trihalomethanau: Cyfanswm(7)

100

µg/1

Finyl clorid(1)

0.50

µg/1

Mae’r gwerth paramedrig yn gymwys i swm y crynodiadau o’r cyfansoddion unigol a ganfyddir ac a feintiolir yn y broses fonitro.

Mae’r gwerth paramedrig yn gymwys i swm y crynodiadau o’r cyfansoddion unigol a ganfyddir ac a feintiolir yn y broses fonitro.

(1)

Mae’r gwerth paramedrig yn cyfeirio at y crynodiad monomerau gweddillol yn y dŵr fel y’i cyfrifir yn ôl manylebau uchafswm y gollyngiad o’r polymer cyfatebol mewn cyffyrddiad â’r dŵr. Rheolir hyn drwy fanylebau cynnyrch.

(2)

Gweler hefyd y fformiwla nitrad-nitraid yn rheoliad 4(1)(c).

(3)

At y dibenion hyn, ystyr “plaleiddiaid” yw:

  • pryfleiddiaid organig

  • chwynleiddiaid organig

  • ffyngleiddiaid organig

  • nematoleiddiaid organig

  • gwiddonleiddiaid organig

  • algaleiddiaid organig

  • llygodleiddiaid organig

  • llysnafeddleiddiaid organig

  • cynhyrchion cysylltiedig (ymhlith eraill, rheoleiddwyr tyfiant) a’u metabolion a’u cynhyrchion diraddio ac adweithio perthnasol. Dim ond y plaleiddiaid hynny sy’n debygol o fod yn bresennol mewn cyflenwad penodol sydd angen eu monitro.

(4)

Ystyr “cyfanswm plaleiddiaid” yw swm y crynodiadau o’r plaleiddiaid unigol a ganfyddir ac a feintiolir yn y broses fonitro.

(5)

Y cyfansoddion penodedig yw:

  • benso(b)fflworanthen

  • benso(k)fflworanthen

  • benso(ghi)perylen

  • indeno(1,2,3-cd)pyren.

Mae’r gwerth paramedrig yn gymwys i swm y crynodiadau o’r cyfansoddion unigol a ganfyddir ac a feintiolir yn y broses fonitro.

(6)

Mae’r gwerth paramedrig yn gymwys i swm y crynodiadau o’r cyfansoddion unigol a ganfyddir ac a feintiolir yn y broses fonitro.

(7)

Y cyfansoddion penodedig yw:

  • clorofform

  • bromofform

  • dibromocloromethan

  • bromodicloromethan.

Mae’r gwerth paramedrig yn gymwys i swm y crynodiadau o’r cyfansoddion unigol a ganfyddir ac a feintiolir yn y broses fonitro.

Gofynion cenedlaethol - Crynodiadau neu werthoedd rhagnodedig

Paramedrau

Crynodiad neu werth uchaf

Unedau Mesur

Alwminiwm

200

µg/1

Lliw

20

mg/l Pt/Co

Haearn

200

µg/1

Manganîs

50

µg/1

Arogl

Derbyniol i ddefnyddwyr a dim newid annormal

Sodiwm

200

mg/l

Blas

Derbyniol i ddefnyddwyr a dim newid annormal

Tetracloromethan

3

µg/1

Cymylogrwydd

4

NTU

RHAN 2Paramedrau Dangosyddion

Annotations:
Commencement Information

I28Atod. 1 Rhn. 2 mewn grym ar 20.11.2017, gweler rhl. 1

TABL C:Crynodiadau, gwerthoedd neu gyflyrau rhagnodedig

Paramedrau

Crynodiad neu werth uchaf

Unedau Mesur

Amoniwm

0.50

mg/l

Clorid(1)

250

mg/l

Clostridium perfringens (gan gynnwys sborau)

0

Nifer/100ml

Bacteria colifform

0

Nifer/100ml (Nifer/250ml yn achos dŵr a roddir mewn poteli neu gynwysyddion)

Cyfrifau cytrefi

Dim newid annormal

Nifer/ml ar 22°C

Dargludedd(1)

2500

µS/cm ar 20ºC

Ïonau hydrogen

9.5 (gwerth uchaf)

Gwerth pH

6.5 (gwerth isaf) (yn achos

dŵr llonydd a roddir mewn poteli neu gynwysyddion y gwerth isaf yw 4.5)

Gwerth pH

Sylffad(1)

250

mg/l

Cyfanswm carbon organig (CCO)

Dim newid annormal

mgC/l

Cymylogrwydd(2)

1

NTU

(1)

Ni ddylai’r dŵr fod yn ymosodol.

(2)

Yn achos dŵr wyneb neu ddŵr daear y dylanwadwyd arno gan ddŵr wyneb yn unig.

RHAN 3Paramedrau sylweddau ymbelydrol

Annotations:
Commencement Information

I29Atod. 1 Rhn. 3 mewn grym ar 20.11.2017, gweler rhl. 1

TABL D:Gwerthoedd rhagnodedig ar gyfer radon, tritiwm a dos dangosol dŵr a fwriedir i’w yfed gan bobl

Paramedrau

Crynodiad neu werth uchaf

Unedau Mesur

Dos dangosol (ar gyfer ymbelydredd)

0.10

mSv

Radon(1)

100

Bq/l

Tritiwm (ar gyfer ymbelydredd)(2)

100

Bq/l

(1)

Bernir bod camau gorfodi gan yr awdurdod lleol wedi eu cyfiawnhau ar sail diogelwch radiolegol heb unrhyw ystyriaeth bellach pan fo’r crynodiadau radon yn uwch na 1,000 Bq/1.

(2)

Os yw’r crynodiad o dritiwm yn uwch na’i werth paramedrig, rhaid cynnal ymchwiliad (a gaiff gynnwys dadansoddiad) i bresenoldeb radioniwclidau artiffisial.

ATODLEN 2Monitro

Rheoliadau 2 , 9, 18 a 26

RHAN 1Monitro ar gyfer paramedrau Grŵp A

Samplu

1.

(1)

Rhaid i awdurdod lleol fonitro ar gyfer paramedrau Grŵp A yn unol â’r Rhan hon.

(2)

Ystyr “monitro ar gyfer paramedrau Grŵp A” yw samplu ar gyfer pob paramedr a restrir yng ngholofn 1 o Dabl 1 o dan yr amgylchiadau a restrir yn y cofnod cyfatebol ar gyfer y paramedr hwnnw yng ngholofn 2 o’r Tabl hwnnw er mwyn—

(a)

canfod pa un a yw’r dŵr yn cydymffurfio â’r crynodiadau neu’r gwerthoedd yn Atodlen 1 ai peidio;

(b)

darparu gwybodaeth am ansawdd organoleptig a microbiolegol y dŵr; ac

(c)

cadarnhau pa mor effeithiol fu’r driniaeth a roddwyd i’r dŵr, gan gynnwys y diheintio.

Tabl 1Paramedrau Grŵp A

Paramedrau

Amgylchiadau

Alwminiwm

Os y’i defnyddir fel cemegyn trin dŵr

Amoniwm

Os defnyddir cloramineiddio

Clostridium perfringens (gan gynnwys sborau)

Pan fo’r dŵr yn tarddu o ddyfroedd wyneb, neu y dylanwedir arno gan ddyfroedd wyneb

Bacteria colifform

Ym mhob cyflenwad

Cyfrifau cytrefi

Ym mhob cyflenwad

Lliw

Ym mhob cyflenwad

Dargludedd

Ym mhob cyflenwad

Escherichia coli (E. coli)

Ym mhob cyflenwad

Crynodiad ïonau hydrogen

Ym mhob cyflenwad

Haearn

Os y’i defnyddir fel cemegyn trin dŵr

Manganîs

Pan fo’r dŵr yn tarddu o ddyfroedd wyneb, neu y dylanwedir arno gan ddyfroedd wyneb

Nitrad

Os defnyddir cloramineiddio

Nitraid

Os defnyddir cloramineiddio

Arogl

Ym mhob cyflenwad

Pseudomonas aeruginosa

Yn achos dŵr mewn poteli neu gynwysyddion yn unig

Blas

Ym mhob cyflenwad

Cymylogrwydd

Ym mhob cyflenwad

Annotations:
Commencement Information

I30Atod. 2 para. 1 mewn grym ar 20.11.2017, gweler rhl. 1

Amlder samplu

2.

Rhaid cyflawni gwaith samplu ar gyfer paramedrau Grŵp A mor aml ag a bennir yn Nhabl 2.

Tabl 2Amlder samplu ar gyfer paramedrau Grŵp A

Cyfaint m3/diwrnod

Amlder samplu fesul blwyddyn

≤ 10

1

˃ 10 ≤ 100

2

˃ 100 ≤ 1,000

4

˃ 1,000 ≤ 2,000

10

˃ 2,000 ≤ 3,000

13

˃ 3,000 ≤ 4,000

16

˃ 4,000 ≤ 5,000

19

˃ 5,000 ≤ 6,000

22

˃ 6,000 ≤ 7,000

25

˃ 7,000 ≤ 8,000

28

˃ 8,000 ≤ 9,000

31

˃ 9,000 ≤ 10,000

34

˃ 10,000

4 + 3 am bob 1,000 m3/diwrnod o gyfanswm y cyfaint (gan dalgrynnu i fyny i’r lluosrif agosaf o 1,000 m3/diwrnod)

Annotations:
Commencement Information

I31Atod. 2 para. 2 mewn grym ar 20.11.2017, gweler rhl. 1

RHAN 2Monitro ar gyfer paramedrau Grŵp B

Samplu

3.

(1)

Rhaid i awdurdod lleol fonitro ar gyfer paramedrau Grŵp B yn unol â’r Rhan hon.

(2)

Ystyr “monitro ar gyfer paramedrau Grŵp B” yw samplu ar gyfer pob paramedr a restrir yn Rhan 1 neu 2 o Atodlen 1 (ac eithrio paramedrau Grŵp A sydd eisoes yn cael eu samplu o dan Ran 1 o’r Atodlen hon)—

(a)

er mwyn darparu’r wybodaeth sy’n angenrheidiol i ganfod pa un a yw’r cyflenwad dŵr preifat yn bodloni pob crynodiad, gwerth neu gyflwr a bennir yn y naill neu’r llall o’r Rhannau hynny o’r Atodlen honno ai peidio; a

(b)

os defnyddir diheintio, rhaid gwirio bod cyn lleied o sgil-gynhyrchion diheintio â phosibl heb beryglu effeithiolrwydd y diheintio.

Annotations:
Commencement Information

I32Atod. 2 para. 3 mewn grym ar 20.11.2017, gweler rhl. 1

Amlder samplu

4.

Rhaid cyflawni gwaith samplu ar gyfer paramedrau Grŵp B mor aml ag a bennir yn Nhabl 3.

Tabl 3Amlder samplu ar gyfer paramedrau Grŵp B

Cyfaint m3/diwrnod

Amlder samplu fesul blwyddyn

≤ 10

1

˃ 10 ≤ 3,300

2

˃ 3,300 ≤ 6,600

3

˃ 6,600 ≤ 100,000

4

˃ 10,000 ≤ 100,000

3 + 1 am bob 10,000 m3/diwrnod o gyfanswm y cyfaint (gan dalgrynnu i fyny i’r lluosrif agosaf o 10,000 m3/diwrnod)

˃ 100,000

10 + 1 am bob 25,000 m3/diwrnod o gyfanswm y cyfaint (gan dalgrynnu i fyny i’r

lluosrif agosaf o 25,000 m3/diwrnod)

Annotations:
Commencement Information

I33Atod. 2 para. 4 mewn grym ar 20.11.2017, gweler rhl. 1

RHAN 3Amlderau lleiaf monitro ar gyfer paramedrau Grŵp A a monitro ar gyfer paramedrau Grŵp B ar gyfer dŵr a roddir mewn poteli neu gynwysyddion

Annotations:
Commencement Information

I34Atod. 2 Rhn. 3 mewn grym ar 20.11.2017, gweler rhl. 1

Cyfainta y dŵr a gynhyrchir mewn poteli neu gynwysyddion bob dydd (m3)

Monitro ar gyfer paramedrau Grŵp A: nifer y samplau fesul blwyddyn

Monitro ar gyfer paramedrau Grŵp B: nifer y samplau fesul blwyddyn

≤ 10

1

1

˃ 10 ≤ 60

12

1

˃ 60

1 am bob 5 m3/diwrnod o gyfanswm y cyfaint (gan dalgrynnu i fyny i’r lluosydd agosaf o 5 m3/diwrnod)

1 am bob 100 m3/diwrnod o gyfanswm y cyfaint (gan dalgrynnu i fyny i’r lluosydd agosaf o 100 m3/diwrnod)

a Cyfrifir y cyfeintiau fel cyfartaleddau dros flwyddyn galendr.

RHAN 4Amrywio gofynion monitro ar gyfer paramedrau Grŵp A a Grŵp B

Amrywio amlder samplu

5.

(1)

Caiff awdurdod lleol leihau’r amlderau samplu sy’n ofynnol ar gyfer paramedr (ac eithrio ar gyfer Escheria coli (E. coli)) o dan Ran 1 neu 2 o’r Atodlen hon ar yr amod—

(a)

bod y canlyniadau o samplau a gymerwyd mewn cysylltiad â’r paramedr hwnnw a gasglwyd ar adegau rheolaidd dros y 3 blynedd flaenorol oll yn is na 60% o’r gwerth paramedrig;

(b)

bod canlyniadau asesiad risg yn cael eu hystyried, a bod yr asesiad risg hwnnw yn dangos na ellir yn rhesymol ragweld bod unrhyw ffactor yn debygol o achosi dirywiad yn ansawdd y dŵr sydd i’w yfed gan bobl;

(c)

bod data a gesglir wrth gyflawni ei rwymedigaethau monitro o dan y Rhan hon yn cael eu hystyried; a

(d)

bod o leiaf un sampl yn cael ei chymryd fesul blwyddyn.

(2)

Caiff awdurdod lleol bennu amlder samplu uwch ar gyfer unrhyw baramedr os yw’n ystyried bod hynny’n briodol gan ystyried canfyddiadau unrhyw asesiad risg.

Annotations:
Commencement Information

I35Atod. 2 para. 5 mewn grym ar 20.11.2017, gweler rhl. 1

Amrywio paramedrau

6.

(1)

Caiff awdurdod lleol beidio â monitro paramedr (ac eithrio Escheria coli (E. coli)) y mae fel arall yn ofynnol ei fonitro o dan Ran 1 neu 2 o’r Atodlen hon ar yr amod—

(a)

bod y canlyniadau o samplau a gymerwyd mewn cysylltiad â’r paramedr hwnnw a gasglwyd ar adegau rheolaidd dros y 3 blynedd flaenorol oll yn is na 30% o’r gwerth paramedrig;

(b)

bod canlyniadau asesiad risg yn cael eu hystyried, a bod yr asesiad risg hwnnw yn dangos na ellir yn rhesymol ragweld bod unrhyw ffactor yn debygol o achosi dirywiad yn ansawdd y dŵr sydd i’w yfed gan bobl; ac

(c)

bod data a gesglir wrth gyflawni ei rwymedigaethau monitro o dan y Rhan hon yn cael eu hystyried.

(2)

Caiff awdurdod lleol fonitro ar gyfer priodoleddau, elfennau, organebau neu sylweddau eraill nad ydynt wedi eu cynnwys fel paramedr os yw’n ystyried bod hynny’n briodol gan ystyried canfyddiadau unrhyw asesiad risg.

Annotations:
Commencement Information

I36Atod. 2 para. 6 mewn grym ar 20.11.2017, gweler rhl. 1

ATODLEN 3Monitro sylweddau ymbelydrol

Rheoliadau 12 a 13

Radon

1.

(1)

Mewn perthynas â’r paramedr radon yn y tabl paramedrau sylweddau ymbelydrol, rhaid i awdurdod lleol—

(a)

sicrhau y cynhelir arolwg cynrychioliadol yn unol ag is-baragraff (2) i ganfod pa mor debygol ydyw y bydd cyflenwad dŵr preifat yn methu â chydymffurfio â’r crynodiad neu’r gwerth paramedrig perthnasol a bennir yn y tabl paramedrau sylweddau ymbelydrol; a

(b)

cynnal gwaith monitro pan fo rheswm i gredu, ar sail canlyniadau’r arolygon cynrychioliadol neu wybodaeth ddibynadwy arall, gan gynnwys unrhyw asesiad risg a gyflawnir yn unol â rheoliad 6, y gall y gwerth paramedrig ar gyfer y paramedr radon fod yn uwch na’r hyn a nodir yn y tabl paramedrau sylweddau ymbelydrol.

(2)

Rhaid llunio arolwg cynrychioliadol yn y fath fodd—

(a)

er mwyn gallu canfod maint a natur y tebygolrwydd o ddod i gysylltiad â radon mewn dŵr a fwriedir i’w yfed gan bobl sy’n dod o fathau gwahanol o ffynonellau dŵr daear a ffynhonnau mewn ardaloedd daearegol gwahanol; a

(b)

y gellir nodi’r paramedrau sylfaenol, yn enwedig daeareg a hydroleg yr ardal, ymbelydredd y creigiau neu’r pridd, a’r math o ffynnon, a defnyddio’r wybodaeth honno i gyfeirio camau gweithredu pellach i ardaloedd sy’n debygol o ddod i gysylltiad â lefel uchel o radon.

Annotations:
Commencement Information

I37Atod. 3 para. 1 mewn grym ar 20.11.2017, gweler rhl. 1

Tritiwm

2.

(1)

Mewn perthynas â’r paramedr tritiwm yn y tabl paramedrau sylweddau ymbelydrol, rhaid i awdurdod lleol—

(a)

cyflawni gwaith monitro pan fo ffynhonnell anthropogenig o dritiwm neu radioniwclidau artiffisial eraill yn bresennol yn y dalgylch, ac ni ellir dangos ar sail rhaglenni gwyliadwriaeth neu ymchwiliadau eraill, gan gynnwys unrhyw asesiad risg a gyflawnir yn unol â rheoliad 6, fod lefel y tritiwm yn is na’r gwerth paramedrig a restrir yn y tabl paramedrau sylweddau ymbelydrol; a

(b)

cynnal ymchwiliad mewn perthynas â phresenoldeb radioniwclidau artiffisial eraill os yw’r crynodiad o dritiwm yn uwch na’r gwerth paramedrig a restrir yn y tabl paramedrau sylweddau ymbelydrol.

(2)

Pan fo monitro yn ofynnol o dan is-baragraff (1)—

(a)

rhaid cynnal y gwaith monitro mor aml ag a nodir ar gyfer monitro’r paramedrau Grŵp B yn Nhabl 3 yn Rhan 2 o Atodlen 2; neu

(b)

rhaid cynnal y gwaith monitro (yn achos cyflenwad dŵr preifat sy’n dod o fewn cwmpas rheoliad 11(1)) o leiaf bob 5 mlynedd neu’n amlach os yw’r asesiad risg y cyfeirir ato o dan is-baragraff (1)(a) yn dangos bod hynny’n angenrheidiol.

Annotations:
Commencement Information

I38Atod. 3 para. 2 mewn grym ar 20.11.2017, gweler rhl. 1

Dos Dangosol

3.

(1)

Mewn perthynas â’r paramedr dos dangosol yn y tabl paramedrau sylweddau ymbelydrol, rhaid i awdurdod lleol gyflawni gwaith monitro pan fo ffynhonnell ymbelydredd artiffisial neu lefel uwch o ymbelydredd naturiol yn bresennol ac ni ellir dangos, ar sail rhaglenni gwyliadwriaeth neu ymchwiliadau eraill, gan gynnwys unrhyw asesiad risg a gyflawnir yn unol â rheoliad 6, fod lefel y dos dangosol yn is na’r gwerth paramedrig a restrir yn y tabl paramedrau sylweddau ymbelydrol.

(2)

Pan fo monitro yn ofynnol gan is-baragraff (1) mewn perthynas â radioniwclidau artiffisial—

(a)

rhaid cynnal y gwaith monitro mor aml ag a nodir ar gyfer monitro’r paramedrau Grŵp B yn Nhabl 3 yn Rhan 2 o Atodlen 2; neu

(b)

rhaid cynnal y gwaith monitro (yn achos cyflenwad dŵr preifat sy’n dod o fewn cwmpas rheoliad 11(1)) o leiaf bob 5 mlynedd neu’n amlach os yw’r asesiad risg yn dangos bod hynny’n angenrheidiol.

(3)

Pan fo monitro yn ofynnol gan is-baragraff (1) mewn perthynas â ffynhonnell lefel uwch o ymbelydredd naturiol—

(a)

o ran yr awdurdod lleol—

(i)

caiff benderfynu pa mor aml y dylid monitro yn ei ardal yn dibynnu ar y strategaeth sgrinio a fabwysiedir gan yr awdurdod; a

(ii)

rhaid iddo hysbysu Gweinidogion Cymru yn ysgrifenedig am ei benderfyniad o dan is-baragraff (i); a

(b)

caniateir i’r amlder monitro a benderfynir o dan baragraff (a)(i) amrywio o un mesuriad gwirio i’r amlderau a nodir ar gyfer monitro’r paramedrau Grŵp B yn Nhabl 3 yn Rhan 2 o Atodlen 2.

(4)

Pan fo awdurdod lleol yn penderfynu o dan is-baragraff (3) bod un mesuriad gwirio ar gyfer ymbelydredd naturiol yn briodol, rhaid i’r awdurdod lleol gynnal gwiriad pellach os oes unrhyw newid yn digwydd mewn perthynas â’r cyflenwad dŵr preifat sy’n debygol o ddylanwadu ar y crynodiadau o radioniwclidau yn y cyflenwad.

Annotations:
Commencement Information

I39Atod. 3 para. 3 mewn grym ar 20.11.2017, gweler rhl. 1

Trin dŵr

4.

Pan fo cyflenwad dŵr preifat wedi ei drin i leihau lefel y radioniwclidau, rhaid i’r awdurdod lleol fonitro’r cyflenwad ar gyfer cyfanswm y dos dangosol, radon a thritiwm yn unol â darpariaethau’r Rhan hon ac mor aml ag a nodir ar gyfer monitro paramedrau Grŵp B yn Nhabl 3 yn Rhan 2 o Atodlen 2 i wirhau effeithiolrwydd parhaus y driniaeth honno.

Annotations:
Commencement Information

I40Atod. 3 para. 4 mewn grym ar 20.11.2017, gweler rhl. 1

Gwerthoedd cyfartalog

5.

Pan fo gwerth sampl benodol a gymerir gan awdurdod lleol yn uwch na’r gwerth paramedrig yn y tabl paramedrau sylweddau ymbelydrol, rhaid i Weinidogion Cymru bennu, drwy hysbysiad ysgrifenedig i’r awdurdod lleol, raddau’r gwaith ailsamplu sy’n angenrheidiol i sicrhau bod y gwerthoedd a fesurir yn gynrychioliadol o grynodiad gweithgarwch cyfartalog ar gyfer blwyddyn lawn.

Annotations:
Commencement Information

I41Atod. 3 para. 5 mewn grym ar 20.11.2017, gweler rhl. 1

ATODLEN 4Samplu a dadansoddi

Rheoliadau 13 a 14

RHAN 1Cyffredinol

Samplau: cyffredinol

1.

(1)

Rhaid i’r awdurdod lleol sicrhau, i’r graddau y bo’n rhesymol ymarferol, fod y gofynion priodol wedi eu bodloni wrth—

(a)

cymryd, trin, cludo a storio sampl y mae’n ofynnol ei chymryd yn unol â’r Atodlen hon;

(b)

dadansoddi sampl o’r fath; neu

(c)

achosi i unrhyw sampl o’r fath gael ei chymryd, ei thrin, ei chludo, ei storio neu ei dadansoddi.

(2)

Yn y paragraff hwn, ystyr “y gofynion priodol” yw unrhyw rai o’r canlynol sy’n gymwys—

(a)

bod y sampl yn gynrychioliadol o ansawdd y dŵr ar yr adeg y cymerir y sampl;

(b)

bod y person sy’n cymryd y sampl yn ddarostyngedig i system reoli ansawdd i safon briodol sy’n cael ei gwirio o bryd i’w gilydd gan gorff achrededig addas;

(c)

nad yw’r sampl yn cael ei halogi wrth ei chymryd;

(d)

bod y sampl yn cael ei chadw ar y fath dymheredd ac o dan y fath amodau sy’n sicrhau nad oes unrhyw newid perthnasol o ran y crynodiad neu’r gwerth ar gyfer y mesur neu’r arsylwi y mae’r sampl wedi ei bwriadu ar ei gyfer;

(e)

bod y sampl yn cael ei dadansoddi cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl ei chymryd—

(i)

gan berson sy’n gymwys i wneud hynny, neu o dan oruchwyliaeth person o’r fath; a

(ii)

gan ddefnyddio unrhyw gyfarpar sy’n addas ar gyfer y diben;

(f)

rhaid i’r broses o gasglu a chludo samplau, neu fesuriadau a gofnodir drwy fonitro parhaus, fod yn ddarostyngedig i system reoli ansawdd i safon briodol sy’n cael ei gwirio o bryd i’w gilydd gan gorff achrededig addas.

(3)

Wrth ymgymryd â’r gweithgarwch a ddisgrifir yn—

(a)

is-baragraff (1)(a), rhaid i’r awdurdod lleol ddangos cydymffurfedd ag unrhyw un neu ragor o EN ISO/IEC 17024, EN ISO/EIC 17025, neu safon gyfatebol arall sy’n cael ei derbyn yn rhyngwladol;

(b)

is-baragraff (1)(b), rhaid i’r awdurdod lleol ddangos cydymffurfedd ag EN ISO/EIC 17025, neu safon gyfatebol arall sy’n cael ei derbyn yn rhyngwladol.

(4)

Caniateir gohirio gweithredu’r gofyniad yn is-baragraff (3)(a) am gyfnod o ddim mwy na 24 mis gan ddechrau ar y diwrnod y daw’r Rheoliadau hyn i rym.

(5)

Yn y paragraff hwn, ystyr “corff achrededig addas” yw unrhyw berson sydd wedi ei achredu gan Wasanaeth Achredu’r Deyrnas Unedig23.
Annotations:
Commencement Information

I42Atod. 4 para. 1 mewn grym ar 20.11.2017, gweler rhl. 1

Dadansoddi samplau: paramedrau microbiolegol

2.

Ar gyfer pob paramedr a bennir yng ngholofn gyntaf Tabl 1 yn Rhan 2 o’r Atodlen hon, mae’r dull dadansoddi wedi ei bennu yn ail golofn y tabl hwnnw.

Annotations:
Commencement Information

I43Atod. 4 para. 2 mewn grym ar 20.11.2017, gweler rhl. 1

Dadansoddi samplau: paramedrau cemegol a dangosyddion

3.

(1)

Ar 31 Rhagfyr 2019 neu cyn hynny, caiff yr awdurdod lleol gymhwyso’r dull o ddadansoddi ar gyfer paramedrau cemegol a dangosyddion yn naill ai is-baragraff (3) neu is-baragraff (4).

(2)

Ar ôl 31 Rhagfyr 2019, rhaid i’r awdurdod lleol gymhwyso’r dull o ddadansoddi ar gyfer paramedrau cemegol a dangosyddion yn is-baragraff (4).

(3)

Ar gyfer pob paramedr a bennir yng ngholofn gyntaf Tabl 2 yn Rhan 2 o’r Atodlen hon, mae’r dull yn un sy’n gallu—

(a)

mesur crynodiadau a gwerthoedd gyda’r gwiredd a’r trachywiredd a bennir yn ail golofn a thrydedd golofn y tabl hwnnw, a

(b)

canfod y paramedr ar y terfyn canfod a bennir ym mhedwaredd golofn y tabl hwnnw.

(4)

Ar gyfer pob paramedr a bennir yng ngholofn gyntaf Tabl 3 yn Rhan 2 o’r Atodlen hon, mae’r dull yn un sy’n gallu mesur crynodiadau sy’n hafal â’r—

(a)

gwerth paramedrig gyda therfyn meintioliad o 30% neu lai o’r gwerth paramedrig perthnasol (fel sydd wedi ei gynnwys yn Atodlen 1), a

(b)

yr ansicrwydd mesuriadau yn ail golofn y tabl hwnnw.

(5)

Rhaid i’r dull dadansoddi a ddefnyddir ar gyfer y paramedrau arogl a blas allu mesur gwerthoedd sy’n hafal â’r gwerth paramedrig gyda thrachywiredd o 1 rhif gwanediad ar 25°C.

(6)

At y dibenion hyn—

(a)

y “terfyn canfod” yw—

(i)

tair gwaith y gwyriad safonol perthynol o fewn swp, o sampl naturiol sy’n cynnwys crynodiad isel o’r paramedr; neu

(ii)

pum gwaith y gwyriad safonol perthynol o fewn swp, o sampl wag;

(b)

“trachywiredd” (sef yr hapgyfeiliornad) yw dwywaith y gwyriad safonol (o fewn swp a rhwng sypiau) gwasgariad y canlyniadau o amgylch y cymedr. Trachywiredd derbyniol yw dwywaith y gwyriad safonol cymharol. Mae manylebau pellach wedi eu nodi yn ISO 17025;

(c)

“gwiredd” (y cyfeiliornad systematig) yw’r gwahaniaeth rhwng gwerth cymedrig y nifer fawr o fesuriadau mynych a’r gwir werth. Mae manylebau pellach wedi eu nodi yn ISO 17025;

(d)

mae “ansicrwydd mesuriadau” yn baramedr annegyddol sy’n nodweddu gwasgariad y gwerthoedd nifer sy’n cael eu mesur, ar sail yr wybodaeth a ddefnyddir.

Annotations:
Commencement Information

I44Atod. 4 para. 3 mewn grym ar 20.11.2017, gweler rhl. 1

Awdurdodi dulliau dadansoddi eraill

4.

(1)

Caiff Gweinidogion Cymru awdurdodi dull sy’n wahanol i’r rheini a nodir ym mharagraff 3(2) neu 3(3) os ydynt yn fodlon ei fod o leiaf yr un mor ddibynadwy.

(2)

Caiff awdurdodiad fod am gyfnod cyfyngedig, a chaniateir ei ddirymu ar unrhyw adeg.

Annotations:
Commencement Information

I45Atod. 4 para. 4 mewn grym ar 20.11.2017, gweler rhl. 1

Samplu a dadansoddi gan bersonau ac eithrio awdurdodau lleol

5.

(1)

Caiff awdurdod lleol ymrwymo i drefniant i unrhyw berson gymryd samplau a’u dadansoddi ar ran yr awdurdod lleol.

(2)

Rhaid i awdurdod lleol beidio ag ymrwymo i drefniant o dan is-baragraff (1) oni fydd—

(a)

yn fodlon y cyflawnir y dasg yn brydlon gan berson sy’n gymwys i’w chyflawni, a

(b)

wedi gwneud trefniadau i sicrhau y caiff yr awdurdod lleol ei hysbysu ar unwaith am unrhyw doriad o’r Rheoliadau hyn, ac am unrhyw ganlyniad arall o fewn 28 diwrnod.

Annotations:
Commencement Information

I46Atod. 4 para. 5 mewn grym ar 20.11.2017, gweler rhl. 1

RHAN 2Dulliau dadansoddi

Annotations:
Commencement Information

I47Atod. 4 Rhn. 2 mewn grym ar 20.11.2017, gweler rhl. 1

Tabl 1Dulliau dadansoddi rhagnodedig ar gyfer paramedrau microbiolegol

Paramedr

Dull

Escherichia coli (E. coli)

EN ISO 9308-1 neu EN ISO 9308-2

Enterococi

EN ISO 7899-2

Pseudomonas aeruginosa

EN-ISO 16266

Cyfrifiad cytrefi 22ºC - cyfrif micro-organebau meithrinadwy

EN ISO 6222

Cyfrifiad cytrefi 36ºC - cyfrif micro-organebau meithrinadwy

EN ISO 6222

Clostridium perfringens (gan gynnwys sborau)

EN ISO 14189

Tabl 2Nodweddion perfformiad rhagnodedig dulliau dadansoddi ar gyfer paramedrau cemegol a dangosyddion: gwiredd, trachywiredd a therfyn canfod (ar 31 Rhagfyr 2019 neu cyn hynny)

Paramedr

Gwiredd fel % o’r crynodiad

neu werth neu fanyleb ragnodedig

(ac eithrio pH)

Trachywiredd fel % o’r crynodiad

neu werth neu fanyleb ragnodedig

(ac eithrio pH)

Terfyn canfod fel %

o’r crynodiad neu

werth neu

fanyleb ragnodedig

(ac eithrio pH)

Alwminiwm

10

10

10

Amoniwm

10

10

10

Antimoni

25

25

25

Arsenig

10

10

10

Bensen

25

25

25

Benso(a)pyren

25

25

25

Boron

10

10

10

Bromad

25

25

25

Cadmiwm

10

10

10

Clorid

10

10

10

Cromiwm

10

10

10

Lliw

10

10

10

Dargludedd

10

10

10

Copr

10

10

10

Cyanid(1)

10

10

10

1.2-dicloroethan

25

25

10

Fflworid

10

10

10

pH crynodiad ïonau hydrogen (wedi ei fynegi mewn unedau pH)

0.2

0.2

Haearn

10

10

10

Plwm

10

10

10

Manganîs

10

10

10

Mercwri

20

10

20

Nicel

10

10

10

Nitrad

10

10

10

Nitraid

10

10

10

Ocsideiddrwydd(2)
Plaleiddiaid a chynhyrchion perthynol(3)

25

25

25

Hydrocarbonau polysyclig aromatig(4)

25

25

25

Seleniwm

10

10

10

Sodiwm

10

10

10

Sylffad

10

10

10

Tetracloroethen(5)

25

25

10

Tetracloromethan

20

20

20

Tricloroethen(5)

25

25

10

Trihalomethanau:

Cyfanswm(4)

25

25

10

Cymylogrwydd(6)

10

10

10

Cymylogrwydd(7)

25

25

25

(1)

Dylai’r dull dadansoddi ganfod cyfanswm y cyanid ym mhob ffurf.

(2)

EN ISO 8476.

(3)

Mae’r nodweddion perfformiad yn gymwys i bob plaleiddiad unigol a byddant yn dibynnu ar y plaleiddiad dan sylw. Gellir cyflawni gwerthoedd ar gyfer ansicrwydd mesuriadau mor isel â 30% ar gyfer nifer o blaleiddiaid, a chaniateir gwerthoedd uwch hyd at 80% ar gyfer nifer o blaleiddiaid.

(4)

Mae’r nodweddion perfformiad yn gymwys i’r sylweddau unigol a bennir yn ôl 25% o’r gwerth paramedrig yn Nhabl B o Ran 1 o Atodlen 1.

(5)

Mae’r nodweddion perfformiad yn gymwys i’r sylweddau unigol a bennir yn ôl 50% o’r gwerth paramedrig yn Nhabl B o Ran 1 o Atodlen 1.

(6)

Mae’r nodweddion perfformiad yn gymwys i’r gwerth rhagnodedig o 4 NTU.

(7)

Mae’r nodweddion perfformiad yn gymwys i’r fanyleb o 1 NTU ar gyfer dŵr wyneb neu ddŵr daear y dylanwedir arno gan ddŵr wyneb.

Tabl 3Dull dadansoddi ar gyfer paramedrau cemegol a dangosyddion: ansicrwydd mesuriadau(1)

Paramedr

Ansicrwydd mesuriadau fel

% o’r gwerth paramedrig

(ac eithrio pH)

Alwminiwm

25

Amoniwm

40

Antimoni

40

Arsenig

30

Bensen

40

Benso(a)pyren(2)

50

Boron

25

Bromad

40

Cadmiwm

25

Clorid

15

Cromiwm

30

Dargludedd

20

Copr

25

Cyanid(3)

30

1,2-dicloroethan

40

Fflworid

20

pH crynodiad ïonau hydrogen (wedi ei fynegi mewn unedau pH)

0.2

Haearn

30

Plwm

25

Manganîs

30

Mercwri

30

Nicel

25

Nitrad

15

Nitraid

20

Ocsideiddrwydd(4)

50

Plaleiddiaid(5)

30

Hydrocarbonau polysyclig aromatig(6)

50

Seleniwm

40

Sodiwm

15

Sylffad

15

Tetracloroethen(7)

30

Tricloroethen(7)

40

Trihalomethanau: cyfanswm(6)

40

Cyfanswm carbon organig (CCO)(8)

30

Cymylogrwydd(9)

30

(2)

Os na ellir cyflawni gwerth yr ansicrwydd mesuriadau, dylid dewis y dechneg orau sydd ar gael (hyd at 60%).

(3)

Dylai’r dull dadansoddi ganfod cyfanswm y cyanid ym mhob ffurf.

(4)

EN ISO 8476.

(5)

Mae’r nodweddion perfformiad yn gymwys i bob plaleiddiad unigol a byddant yn dibynnu ar y plaleiddiad dan sylw. Gellir cyflawni gwerthoedd ar gyfer ansicrwydd mesuriadau mor isel â 30% ar gyfer nifer o blaleiddiaid, a chaniateir gwerthoedd uwch hyd at 80% ar gyfer nifer o blaleiddiaid.

(6)

Mae’r nodweddion perfformiad yn gymwys i’r sylweddau unigol a bennir yn ôl 25% o’r gwerth paramedrig yn Nhabl B o Ran 1 o Atodlen 1.

(7)

Mae’r nodweddion perfformiad yn gymwys i’r sylweddau unigol a bennir yn ôl 50% o’r gwerth paramedrig yn Nhabl B o Ran 1 o Atodlen 1.

(8)

Rhaid amcangyfrif yr ansicrwydd mesuriadau ar lefel 3mg/l o’r CCO. Rhaid defnyddio’r Canllawiau CEN 1484 ar gyfer canfod CCO a charbon organig tawdd.

(9)

Rhaid amcangyfrif yr ansicrwydd mesuriadau ar lefel 1,0 NTU yn unol ag EN ISO 7027.

RHAN 3Monitro ar gyfer y dos dangosol a nodweddion perfformiad dadansoddol

6.

Caiff awdurdod lleol ddefnyddio strategaethau sgrinio dibynadwy i ddangos bod ymbelydredd yn bresennol mewn dŵr a fwriedir i’w yfed gan bobl.

Annotations:
Commencement Information

I48Atod. 4 para. 6 mewn grym ar 20.11.2017, gweler rhl. 1

7.

Caiff y strategaethau y cyfeirir atynt ym mharagraff 6 gynnwys sgrinio ar gyfer—

(a)

radioniwclidau penodol neu radioniwclid unigol; neu

(b)

gweithgarwch alffa gros neu weithgarwch beta gros (pan fo’n briodol caniateir disodli gweithgarwch beta gros gan weithgarwch beta gweddilliol ar ôl didynnu’r crynodiad gweithgarwch K-40).

Annotations:
Commencement Information

I49Atod. 4 para. 7 mewn grym ar 20.11.2017, gweler rhl. 1

Sgrinio ar gyfer radioniwclidau penodol neu sgrinio ar gyfer radioniwclid unigol

8.

Os yw un o’r crynodiadau gweithgarwch yn uwch nag 20% o’r gwerth deilliedig cyfatebol neu os yw’r crynodiad tritiwm yn uwch na’i werth paramedrig a restrir yn Rhan 3 o Atodlen 1, mae’n ofynnol dadansoddi’r radioniwclidau ychwanegol.

Annotations:
Commencement Information

I50Atod. 4 para. 8 mewn grym ar 20.11.2017, gweler rhl. 1

9.

Rhaid i awdurdod lleol, wrth benderfynu pa radioniwclidau y mae’n ofynnol eu mesur ar gyfer pob cyflenwad, ystyried yr holl wybodaeth berthnasol am ffynonellau tebygol o ymbelydredd.

Annotations:
Commencement Information

I51Atod. 4 para. 9 mewn grym ar 20.11.2017, gweler rhl. 1

Strategaethau sgrinio ar gyfer gweithgarwch alffa gros a gweithgarwch beta gros

10.

Yn ddarostyngedig i baragraff 11 y lefelau sgrinio a argymhellir yw—

(a)

0,1Bq/l ar gyfer gweithgarwch alffa gros; a

(b)

1,0Bq/l ar gyfer gweithgarwch beta gros.

Annotations:
Commencement Information

I52Atod. 4 para. 10 mewn grym ar 20.11.2017, gweler rhl. 1

11.

Os yw’r gweithgarwch alffa gros yn uwch na 0,1Bq/l neu os yw’r gweithgarwch beta gros yn uwch na 1,0Bq/l, mae’n ofynnol dadansoddi ar gyfer radioniwclidau penodol.

Annotations:
Commencement Information

I53Atod. 4 para. 11 mewn grym ar 20.11.2017, gweler rhl. 1

12.

Caiff Gweinidogion Cymru bennu lefelau sgrinio gwahanol ar gyfer gweithgarwch alffa gros a gweithgarwch beta gros pan fo’r awdurdod lleol yn gallu dangos bod y lefelau gwahanol yn cydymffurfio â dos dangosol o 0,1 mSv.

Annotations:
Commencement Information

I54Atod. 4 para. 12 mewn grym ar 20.11.2017, gweler rhl. 1

Cyfrifo’r dos dangosol

13.

Rhaid cyfrifo’r dos dangosol o—

(a)

y crynodiadau radioniwclid a fesurwyd a’r cyfernodau dos a nodwyd yn Atodiad III, Tabl A o Gyfarwyddeb 96/29/Euratom24 ; neu

(b)

gwybodaeth ddiweddarach a gydnabyddir gan Weinidogion Cymru, ar sail y cymeriant dŵr blynyddol (730 l ar gyfer oedolion).

Annotations:
Commencement Information

I55Atod. 4 para. 13 mewn grym ar 20.11.2017, gweler rhl. 1

14.

Pan fo’r fformiwla a ganlyn wedi ei bodloni, gellir tybio bod y dos dangosol yn is na’r gwerth paramedrig o 0,1mSv ac nid yw’n ofynnol cynnal unrhyw ymchwiliadau pellach—

Crynodiadau deilliedig ar gyfer ymbelydredd mewn dŵr a fwriedir i’w yfed gan bobl(1)

Tarddiad

Niwclid

Crynodiad deilliedig

Naturiol

U-2383

3,0 Bq/l

U-2343

2,8 Bq/l

Ra-226

0,5 Bq/l

Ra-228

0,2 Bq/l

Pb-210

0,2 Bq/l

Po-210

0,1 Bq/l

Artiffisial

C-14

240 Bq/l

Sr-90

4,9 Bq/l

Pu-239/Pu-240

0,6 Bq/l

Am-241

0,7 Bq/l

Co-60

40 Bq/l

Cs-134

7,2 Bq/l

Cs-137

11 Bq/l

1-131

6,2 Bq/l

Annotations:
Commencement Information

I56Atod. 4 para. 14 mewn grym ar 20.11.2017, gweler rhl. 1

Nodweddion perfformiad a dulliau dadansoddi

15.

Ar gyfer y paramedrau a’r radioniwclidau a ganlyn, rhaid i’r dull dadansoddi a ddefnyddir, o leiaf, allu mesur crynodiadau gweithgarwch gyda’r terfyn canfod a bennir isod:

Paramedrau a radioniwclidau

Terfyn canfod (Nodiadau 1,2)

Nodiadau

Tritiwm

10 Bq/l

Nodyn 3

Radon

10 Bq/l

Nodyn 3

alffa gros

0,04 Bq/l

Nodyn 4

beta gros

0,4 Bq/l

Nodyn 4

U-238

0,02 Bq/l

U-234

0,02 Bq/l

Ra-226

0,04 Bq/l

Ra-228

0,02 Bq/l

Nodyn 5

Pb-210

0,02 Bq/l

Po-210

0,01 Bq/l

C-14

20 Bq/l

Sr-90

0,4 Bq/l

Pu-239/Pu-240

0,04 Bq/1

Am-241

0,06 Bq/l

Co-60

0,5 Bq/1

Cs-134

0,5 Bq/l

C2-137

0,5 Bq/l

1-131

0,5 Bq/1

Nodyn 1: Rhaid cyfrifo’r terfyn canfod yn unol â safon ISO 11929: Pennu terfynau nodweddion (trothwy penderfyniad, terfyn canfod a therfynau’r cyfwng hyder) ar gyfer mesur ymbelydredd ïoneiddio — Hanfodion a chymhwyso, gyda thebygolrwydd gwallau o’r math cyntaf a’r ail fath o 0,05 yr un.

Nodyn 2: Rhaid cyfrifo ansicrwydd mesuriadau, a chyflwyno adroddiadau arnynt, fel ansicrwydd safonol cyflawn, neu fel ansicrwydd estynedig gyda ffactor ehangu o 1,96 yn unol â Chanllaw yr ISO sef ‘Guide for the Expression of Uncertainty in Measurement’.

Nodyn 3: Y terfyn canfod ar gyfer tritiwm a radon yw 10% o’i werth paramedrig o 100 Bq/1.

Nodyn 4: Y terfyn canfod ar gyfer gweithgarwch alffa gros a gweithgarwch beta gros yw 40% o’r gwerthoedd sgrinio o 0,1 a 1,0 Bq/1 yn y drefn honno.

Nodyn 5: Nid yw’r terfyn canfod ond yn gymwys i’r sgrinio cychwynnol ar gyfer dos dangosol ar gyfer ffynhonnell ddŵr newydd; os yw’r gwirio cychwynnol yn dangos nad yw’n debygol bod lefel yr Ra-228 yn uwch nag 20% o’r crynodiad deilliedig, caniateir cynyddu’r terfyn canfod i 0,08 Bq/1 ar gyfer mesuriadau penodol arferol ar gyfer niwclidau Ra-228, nes y bydd yn ofynnol cynnal ail-wiriad dilynol.

Annotations:
Commencement Information

I57Atod. 4 para. 15 mewn grym ar 20.11.2017, gweler rhl. 1

ATODLEN 5Cofnodion

Rheoliad 16

Cofnodion cychwynnol

1.

(1)

Rhaid i awdurdod lleol gofnodi nifer y cyflenwadau dŵr preifat yn ei ardal, ac ar gyfer pob cyflenwad rhaid iddo gofnodi—

(a)

enw’r cyflenwad, ynghyd â nod adnabod unigryw;

(b)

y math o ffynhonnell;

(c)

y lleoliad daearyddol gan ddefnyddio cyfeirnod grid;

(d)

amcangyfrif o nifer y bobl a gyflenwir;

(e)

amcangyfrif o’r cyfaint cyfartalog dyddiol o ddŵr a gyflenwir mewn metrau ciwbig;

(f)

y math o fangreoedd a gyflenwir;

(g)

manylion unrhyw broses drin, ynghyd â’r lleoliad.

(2)

Rhaid iddo adolygu a diweddaru’r cofnodion o leiaf unwaith y flwyddyn.

(3)

Rhaid iddo gadw’r cofnod am o leiaf 30 mlynedd.

Annotations:
Commencement Information

I58Atod. 5 para. 1 mewn grym ar 20.11.2017, gweler rhl. 1

Cofnodion ychwanegol

2.

(1)

Ar gyfer pob cyflenwad y cyfeirir ato ym mharagraff 1(1), rhaid i’r awdurdod lleol gofnodi pob un o’r canlynol o fewn 28 diwrnod ar ôl iddynt ddigwydd—

(a)

plan a disgrifiad o’r cyflenwad;

(b)

rhaglen fonitro’r cyflenwad;

(c)

yr asesiad risg;

(d)

crynodeb o ganlyniadau’r asesiad risg;

(e)

crynodeb o’r rhesymau dros wneud penderfyniad i leihau monitro paramedr penodol o dan Ran 4 o Atodlen 2, neu ei eithrio yn llwyr;

(f)

dyddiad, canlyniadau a lleoliad unrhyw samplu a dadansoddi mewn perthynas â’r cyflenwad hwnnw, a’r rheswm dros gymryd y sampl;

(g)

canlyniadau unrhyw ymchwiliad a gynhelir yn unol â’r Rheoliadau hyn;

(h)

unrhyw awdurdodiad;

(i)

unrhyw hysbysiadau a gyflwynir o dan adran 80 o’r Ddeddf, neu reoliad 20;

(j)

unrhyw gamau gweithredu y cytunir sydd i’w cymryd gan unrhyw berson o dan y Rheoliadau hyn;

(k)

unrhyw gais a wneir i’r awdurdod lleol i gyflawni gwaith samplu a dadansoddi, cynnal asesiad risg neu roi cyngor;

(l)

crynodeb o unrhyw gyngor a roddir mewn perthynas â’r cyflenwad.

(2)

Rhaid iddo gadw’r asesiad risg a’r cofnodion samplu a dadansoddi am o leiaf 30 mlynedd, a chadw pob cofnod arall o dan y paragraff hwn am o leiaf 5 mlynedd.

Annotations:
Commencement Information

I59Atod. 5 para. 2 mewn grym ar 20.11.2017, gweler rhl. 1

ATODLEN 6Ffioedd

Rheoliad 23

Ffi

1.

Caiff yr awdurdod lleol godi ffi, sy’n daladwy pan geir anfoneb ar ei chyfer, am y gweithgarwch a nodir yn y tabl a ganlyn, a swm y ffi fydd cost resymol darparu’r gwasanaeth, yn ddarostyngedig i’r uchafsymiau a ganlyn.

Gwasanaeth

Uchafswm y ffi (£)

Asesiad risg (pob asesiad):

cyflenwad rheoliad 9

700

cyflenwadau rheoliadau 10 ac 11

300

Samplu (am bob ymweliad) (1):

100

Ymchwiliad (am bob ymchwiliad):

250

Rhoi awdurdodiad (am bob awdurdodiad):

100

Dadansoddi sampl—

a gymerir o dan reoliad 10 neu 11:

25

a gymerir yn ystod monitro ar gyfer paramedrau Grŵp A:

110

a gymerir yn ystod monitro ar gyfer paramedrau Grŵp B:

600

(1)

Nid oes ffi’n daladwy pan gymerir ac y dadansoddir sampl dim ond er mwyn cadarnhau canlyniadau dadansoddi sampl flaenorol neu eu hegluro.

Annotations:
Commencement Information

I60Atod. 6 para. 1 mewn grym ar 20.11.2017, gweler rhl. 1

Y personau sy’n atebol i dalu

2.

(1)

Mae unrhyw berson sy’n gofyn am unrhyw beth o dan y Rheoliadau hyn yn atebol am y gost.

(2)

Ac eithrio pan fo is-baragraff (1) yn gymwys, mae ffioedd yn daladwy, fel a bennir yn yr anfoneb, gan y person perthnasol.

(3)

Pan fo mwy nag un person yn atebol, wrth benderfynu pwy ddylai wneud taliad i’r awdurdod lleol—

(a)

caiff yr awdurdod lleol rannu’r tâl rhyngddynt; a

(b)

rhaid i’r awdurdod lleol roi sylw i unrhyw gytundeb neu ddogfen arall a ddangosir iddo ynglŷn â’r telerau y cyflenwir y dŵr oddi tanynt.

Annotations:
Commencement Information

I61Atod. 6 para. 2 mewn grym ar 20.11.2017, gweler rhl. 1

NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn gweithredu Cyfarwyddeb y Cyngor 98/83/EC ar ansawdd dŵr a fwriedir i’w yfed gan bobl, (OJ Rhif L 330, 5.12.1998, t. 32) mewn perthynas â chyflenwadau dŵr preifat a Chyfarwyddeb y Cyngor 2013/51/Euratom sy’n nodi’r gofynion ar gyfer diogelu iechyd y cyhoedd o ran sylweddau ymbelydrol mewn dŵr a fwriedir i’w yfed gan bobl (OJ Rhif L 296, 7.11.2013, t. 12). Mae’r Rheoliadau hyn yn dirymu ac yn disodli Rheoliadau Cyflenwadau Dŵr Preifat (Cymru) 2010 (O.S. 2010/66 (Cy. 16)).

Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys i gyflenwadau dŵr preifat (fel y’u diffinnir yn rheoliad 2) a fwriedir i’w yfed gan bobl. Mae Rhan 1 o’r Rheoliadau yn gwneud darpariaethau amrywiol mewn perthynas â safonau dŵr ar gyfer cyflenwadau dŵr preifat. Mae’n diffinio o dan ba amgylchiadau y mae dŵr i’w ystyried yn “iachus” (rheoliad 4 a Rhan 1 o Atodlen 1). Mae hefyd yn nodi’r gofynion sy’n gymwys pan ddiheintir dŵr (rheoliad 5) ac yn gosod dyletswydd ar bob awdurdod lleol i gynnal asesiad risg ar gyfer pob cyflenwad dŵr preifat yn ei ardal (rheoliad 6).

Mae Rhan 2 o’r Rheoliadau yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i fonitro cyflenwadau dŵr preifat (rheoliadau 7 i 13 ac Atodlen 2) ac i sicrhau bod pob sampl a gymerir yn cael ei dadansoddi yn y ffyrdd a nodir yn Atodlen 4 (rheoliad 14). Mae’n nodi’r gofynion monitro penodol ar gyfer sylweddau ymbelydrol (dos dynodol, radon a thritiwm) (rheoliadau 12 a 13 ac Atodlen 3). Nodir y paramedrau dangosyddion ar gyfer sylweddau ymbelydrol yn Nhabl D yn Rhan 3 o Atodlen 1. Mae hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod lleol wneud a chadw cofnodion ar gyfer pob cyflenwad dŵr preifat yn ei ardal (rheoliad 16 ac Atodlen 5) ac i anfon copi o’r cofnodion i’r Arolygiaeth Dŵr Yfed ac, ar gais, at Weinidogion Cymru (rheoliad 16).

Mae Rhan 3 o’r Rheoliadau yn nodi’r gweithdrefnau sydd i’w dilyn os nad yw’r dŵr yn iachus neu os yw’n peri perygl posibl i iechyd dynol. Mae’n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol ddarparu gwybodaeth i’r bobl hynny sy’n debygol o yfed y dŵr (rheoliad 17) ac i gynnal ymchwiliad (rheoliad 18). Os yw’r dŵr yn afiachus oherwydd y pibwaith o fewn mangre ddomestig, rhaid i awdurdodau lleol gynnig cyngor ar y mesurau sy’n angenrheidiol er mwyn diogelu iechyd dynol. Caiff awdurdodau lleol, o dan amgylchiadau diffiniedig, awdurdodi safonau gwahanol am gyfnod cyfyngedig (rheoliad 19).

Mae Rhan 4 o’r Rheoliadau yn ei gwneud yn ofynnol i gyflwyno hysbysiad i’r “person perthnasol” (fel y’i diffinnir yn rheoliad 2) os yw unrhyw gyflenwad yn peri perygl posibl i iechyd dynol (rheoliad 20) ac yn gwneud darpariaeth ar gyfer apelau a chosbau mewn cysylltiad â hysbysiadau o’r fath (rheoliadau 21 a 22).

Mae Rhan 5 o’r Rheoliadau yn gwneud darpariaeth ar gyfer talu ffioedd (rheoliad 23 ac Atodlen 6), dirymiadau (rheoliad 24) a diwygiadau canlyniadol (rheoliad 25). Mae hefyd yn cynnwys darpariaethau trosiannol (rheoliad 26).

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.