NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn gweithredu Cyfarwyddeb y Cyngor 98/83/EC ar ansawdd dŵr a fwriedir i’w yfed gan bobl, (OJ Rhif L 330, 5.12.1998, t. 32) mewn perthynas â chyflenwadau dŵr preifat a Chyfarwyddeb y Cyngor 2013/51/Euratom sy’n nodi’r gofynion ar gyfer diogelu iechyd y cyhoedd o ran sylweddau ymbelydrol mewn dŵr a fwriedir i’w yfed gan bobl (OJ Rhif L 296, 7.11.2013, t. 12). Mae’r Rheoliadau hyn yn dirymu ac yn disodli Rheoliadau Cyflenwadau Dŵr Preifat (Cymru) 2010 (O.S. 2010/66 (Cy. 16)).

Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys i gyflenwadau dŵr preifat (fel y’u diffinnir yn rheoliad 2) a fwriedir i’w yfed gan bobl. Mae Rhan 1 o’r Rheoliadau yn gwneud darpariaethau amrywiol mewn perthynas â safonau dŵr ar gyfer cyflenwadau dŵr preifat. Mae’n diffinio o dan ba amgylchiadau y mae dŵr i’w ystyried yn “iachus” (rheoliad 4 a Rhan 1 o Atodlen 1). Mae hefyd yn nodi’r gofynion sy’n gymwys pan ddiheintir dŵr (rheoliad 5) ac yn gosod dyletswydd ar bob awdurdod lleol i gynnal asesiad risg ar gyfer pob cyflenwad dŵr preifat yn ei ardal (rheoliad 6).

Mae Rhan 2 o’r Rheoliadau yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i fonitro cyflenwadau dŵr preifat (rheoliadau 7 i 13 ac Atodlen 2) ac i sicrhau bod pob sampl a gymerir yn cael ei dadansoddi yn y ffyrdd a nodir yn Atodlen 4 (rheoliad 14). Mae’n nodi’r gofynion monitro penodol ar gyfer sylweddau ymbelydrol (dos dynodol, radon a thritiwm) (rheoliadau 12 a 13 ac Atodlen 3). Nodir y paramedrau dangosyddion ar gyfer sylweddau ymbelydrol yn Nhabl D yn Rhan 3 o Atodlen 1. Mae hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod lleol wneud a chadw cofnodion ar gyfer pob cyflenwad dŵr preifat yn ei ardal (rheoliad 16 ac Atodlen 5) ac i anfon copi o’r cofnodion i’r Arolygiaeth Dŵr Yfed ac, ar gais, at Weinidogion Cymru (rheoliad 16).

Mae Rhan 3 o’r Rheoliadau yn nodi’r gweithdrefnau sydd i’w dilyn os nad yw’r dŵr yn iachus neu os yw’n peri perygl posibl i iechyd dynol. Mae’n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol ddarparu gwybodaeth i’r bobl hynny sy’n debygol o yfed y dŵr (rheoliad 17) ac i gynnal ymchwiliad (rheoliad 18). Os yw’r dŵr yn afiachus oherwydd y pibwaith o fewn mangre ddomestig, rhaid i awdurdodau lleol gynnig cyngor ar y mesurau sy’n angenrheidiol er mwyn diogelu iechyd dynol. Caiff awdurdodau lleol, o dan amgylchiadau diffiniedig, awdurdodi safonau gwahanol am gyfnod cyfyngedig (rheoliad 19).

Mae Rhan 4 o’r Rheoliadau yn ei gwneud yn ofynnol i gyflwyno hysbysiad i’r “person perthnasol” (fel y’i diffinnir yn rheoliad 2) os yw unrhyw gyflenwad yn peri perygl posibl i iechyd dynol (rheoliad 20) ac yn gwneud darpariaeth ar gyfer apelau a chosbau mewn cysylltiad â hysbysiadau o’r fath (rheoliadau 21 a 22).

Mae Rhan 5 o’r Rheoliadau yn gwneud darpariaeth ar gyfer talu ffioedd (rheoliad 23 ac Atodlen 6), dirymiadau (rheoliad 24) a diwygiadau canlyniadol (rheoliad 25). Mae hefyd yn cynnwys darpariaethau trosiannol (rheoliad 26).

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.