xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol) (Cymru) 2006 (“y Rheoliadau GDS”) a Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cytundebau Gwasanaethau Deintyddol Personol) (Cymru) 2006 (“y Rheoliadau PDS”).
Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Rhagfyr 2017.
Mae’r Rheoliadau GDS yn nodi fframwaith i Gymru ar gyfer contractau gwasanaethau deintyddol cyffredinol.
Mae rheoliad 3 yn diwygio paragraff 38 o Atodlen 3 i’r Rheoliadau GDS i ganiatáu cyflwyno’r wybodaeth a bennir ym mharagraff 38(2) o Atodlen 3 i’r Bwrdd Iechyd Lleol (“BILl”) yn electronig. Mae’n ofynnol cyflwyno’r wybodaeth honno yn electronig o 1 Mai 2019, er bod pŵer disgresiynol wedi ei roi i’r BILl iddo barhau i dderbyn ffurflenni papur ar ôl y dyddiad hwnnw o dan amgylchiadau eithriadol. Mae darpariaeth drosiannol i ganiatáu cyflwyno ffurflenni papur hyd at 30 Mehefin 2019 mewn cysylltiad â chyrsiau o driniaeth sy’n dod i ben ar 30 Ebrill 2019 neu cyn hynny.
Mae’r Rheoliadau PDS yn nodi fframwaith i Gymru ar gyfer cytundebau gwasanaethau deintyddol personol.
Mae rheoliad 4 yn diwygio paragraff 39 o Atodlen 3 i’r Rheoliadau PDS i ganiatáu cyflwyno’r wybodaeth a bennir ym mharagraff 39(3) o Atodlen 3 i’r BILl (fel y “Relevant Body”) yn electronig. Mae’n ofynnol cyflwyno’r wybodaeth honno yn electronig o 1 Mai 2019, er bod pŵer disgresiynol wedi ei roi i’r BILl iddo barhau i dderbyn ffurflenni papur ar ôl y dyddiad hwnnw o dan amgylchiadau eithriadol. Mae darpariaeth drosiannol i ganiatáu cyflwyno ffurflenni papur hyd at 30 Mehefin 2019 mewn cysylltiad â chyrsiau o driniaeth sy’n dod i ben ar 30 Ebrill 2019 neu cyn hynny.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd Asesiad Effaith Rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, Cymru CF10 3NQ.