2017Rhif 1040 (Cy. 269)

Y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, Cymru

Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol a Chytundebau Gwasanaethau Deintyddol Personol) (Cymru) (Diwygio) 2017

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 61, 66 a 203(9) a (10) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 20061.

Enwi, cychwyn a chymhwyso1

1

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol a Chytundebau Gwasanaethau Deintyddol Personol) (Cymru) (Diwygio) 2017.

2

Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Rhagfyr 2017.

3

Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli2

Yn y Rheoliadau hyn—

  • ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006;

  • ystyr “y Rheoliadau GDS” (“the GDS Regulations”) yw Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol) (Cymru) 20062; ac

  • ystyr “y Rheoliadau PDS” (“the PDS Regulations”) yw Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cytundebau Gwasanaethau Deintyddol Personol) (Cymru) 20063.

Diwygio’r Rheoliadau GDS3

1

Mae paragraff 38 o Atodlen 3 i’r Rheoliadau GDS (hysbysu am gwrs o driniaeth, cwrs o driniaeth orthodontig etc.) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

2

Yn is-baragraff (1)—

a

ym mharagraff (e), yn lle “being” rhodder “is”; a

b

ar ôl paragraff (f), hepgorer “, on a form supplied by that Board,”.

3

Yn lle is-baragraff (2)(d), rhodder—

d

in the case of a patient who is exempt from NHS charges, such details of that exemption and the basis of that exemption as the Local Health Board may reasonably request.

4

Ar ôl is-baragraff (2) mewnosoder yr is-baragraffau a ganlyn—

3

In the case of a patient to whom sub-paragraph (2)(d) applies, the contractor must also provide the Local Health Board (or a person authorised on the Local Health Board’s behalf) with the written declaration form.

4

Before 1 May 2019 the contractor may send the information required in sub-paragraph (2) to the Local Health Board either in paper form or by means of electronic submission.

5

On or after 1 May 2019 the contractor must send the information required in sub-paragraph (2) to the Local Health Board by means of electronic submission, but the Local Health Board may accept submission of that information in paper form—

a

in such exceptional circumstances as the Local Health Board may reasonably determine; and

b

in respect of courses of treatment ending on or before 30 April 2019, for a period ending with 30 June 2019.

6

In this paragraph, “electronic submission” means information submitted electronically via a computer system approved by the Local Health Board.

Diwygio’r Rheoliadau PDS4

1

Mae paragraff 39 o Atodlen 3 i’r Rheoliadau PDS (hysbysu am gwrs o driniaeth, cwrs o driniaeth orthodontig etc.) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

2

Yn is-baragraff (1)—

a

ym mharagraff (e), hepgorer y geiriau “it completes”; a

b

ar ôl paragraff (f), hepgorer “, on a form supplied by the Local Health Board,”.

3

Yn lle is-baragraff (3)(d), rhodder—

d

in the case of a patient who is exempt from NHS charges, such details of that exemption and the basis of that exemption as the Relevant Body may reasonably request.

4

Ar ôl is-baragraff (3), mewnosoder yr is-baragraffau a ganlyn—

4

In the case of a patient to whom sub-paragraph (3)(d) applies, the contractor must also provide the Relevant Body (or a person authorised on the Relevant Body’s behalf) with the written declaration form.

5

Before 1 May 2019 the contractor may send the information required in sub-paragraph (3) to the Relevant Body either in paper form or by means of electronic submission.

6

On or after 1 May 2019 the contractor must send the information required in sub-paragraph (3) to the Relevant Body by means of electronic submission, but the Relevant Body may accept submission of that information in paper form—

a

in such exceptional circumstances as the Relevant Body may reasonably determine; and

b

in respect of courses of treatment ending on or before 30 April 2019, for a period ending with 30 June 2019.

7

In this paragraph, “electronic submission” means information submitted electronically via a computer system approved by the Relevant Body.

Vaughan GethingYsgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol) (Cymru) 2006 (“y Rheoliadau GDS”) a Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cytundebau Gwasanaethau Deintyddol Personol) (Cymru) 2006 (“y Rheoliadau PDS”).

Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Rhagfyr 2017.

Mae’r Rheoliadau GDS yn nodi fframwaith i Gymru ar gyfer contractau gwasanaethau deintyddol cyffredinol.

Mae rheoliad 3 yn diwygio paragraff 38 o Atodlen 3 i’r Rheoliadau GDS i ganiatáu cyflwyno’r wybodaeth a bennir ym mharagraff 38(2) o Atodlen 3 i’r Bwrdd Iechyd Lleol (“BILl”) yn electronig. Mae’n ofynnol cyflwyno’r wybodaeth honno yn electronig o 1 Mai 2019, er bod pŵer disgresiynol wedi ei roi i’r BILl iddo barhau i dderbyn ffurflenni papur ar ôl y dyddiad hwnnw o dan amgylchiadau eithriadol. Mae darpariaeth drosiannol i ganiatáu cyflwyno ffurflenni papur hyd at 30 Mehefin 2019 mewn cysylltiad â chyrsiau o driniaeth sy’n dod i ben ar 30 Ebrill 2019 neu cyn hynny.

Mae’r Rheoliadau PDS yn nodi fframwaith i Gymru ar gyfer cytundebau gwasanaethau deintyddol personol.

Mae rheoliad 4 yn diwygio paragraff 39 o Atodlen 3 i’r Rheoliadau PDS i ganiatáu cyflwyno’r wybodaeth a bennir ym mharagraff 39(3) o Atodlen 3 i’r BILl (fel y “Relevant Body”) yn electronig. Mae’n ofynnol cyflwyno’r wybodaeth honno yn electronig o 1 Mai 2019, er bod pŵer disgresiynol wedi ei roi i’r BILl iddo barhau i dderbyn ffurflenni papur ar ôl y dyddiad hwnnw o dan amgylchiadau eithriadol. Mae darpariaeth drosiannol i ganiatáu cyflwyno ffurflenni papur hyd at 30 Mehefin 2019 mewn cysylltiad â chyrsiau o driniaeth sy’n dod i ben ar 30 Ebrill 2019 neu cyn hynny.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd Asesiad Effaith Rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, Cymru CF10 3NQ.