Gorchymyn Adnoddau Dŵr (Dirymiadau Amrywiol) (Cymru) 2017
Enwi a chymhwyso1.
Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Adnoddau Dŵr (Dirymiadau Amrywiol) (Cymru) 2017 a daw i rym ar 1 Ionawr 2018.
Dirymu Gorchmynion2.
(1)
(2)
Mae’r Gorchmynion yn Rhan 2 o’r Atodlen wedi eu dirymu i’r graddau y maent yn ymwneud â dyfroedd mewndirol neu strata tanddaearol yng Nghymru.
YR ATODLEN
RHAN 1
RHAN 2
Mae’r Gorchymyn hwn yn dirymu Gorchmynion y bernir iddynt gael eu gwneud o dan adran 33 o Ddeddf Adnoddau Dŵr 1991 (p. 57). Mae’r Gorchmynion hynny yn darparu esemptiadau i’r cyfyngiadau ar dynnu dŵr yn adran 24 o’r Ddeddf honno.
Lluniwyd Asesiad Effaith Rheoleiddiol mewn cysylltiad â Deddf Dŵr 2003 (p. 37). Mae’r Asesiad Effaith Rheoleiddiol hwn yn nodi effeithiau’r dileu esemptiadau i’r cyfyngiad ar dynnu dŵr y mae’r Gorchymyn hwn yn ymwneud ag ef. Lluniwyd asesiad effaith pellach mewn cysylltiad ag awdurdodiadau newydd i dynnu dŵr ym mis Mehefin 2017. Gellir cael copïau o’r Asesiad Effaith Rheoleiddiol a’r asesiad effaith oddi wrth: Y Gangen Polisi Dŵr, Yr Is-adran Dŵr, Gwastraff, Effeithlonrwydd Adnoddau a Llifogydd, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.