Offerynnau Statudol Cymru
2017 Rhif 1026 (Cy. 264)
Dŵr, Cymru
Adnoddau Dŵr, Cymru
Gorchymyn Adnoddau Dŵr (Dirymiadau Amrywiol) (Cymru) 2017
Gwnaed
24 Hydref 2017
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
31 Hydref 2017
Yn dod i rym
1 Ionawr 2018
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 10(1) o Ddeddf Dŵr 2003(1).
Enwi a chymhwyso
1. Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Adnoddau Dŵr (Dirymiadau Amrywiol) (Cymru) 2017 a daw i rym ar 1 Ionawr 2018.
Dirymu Gorchmynion
2.—(1) Mae’r Gorchmynion yn Rhan 1 o’r Atodlen(2) wedi eu dirymu.
(2) Mae’r Gorchmynion yn Rhan 2 o’r Atodlen wedi eu dirymu i’r graddau y maent yn ymwneud â dyfroedd mewndirol neu strata tanddaearol yng Nghymru.
Lesley Griffiths
Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
24 Hydref 2017
Erthygl 2
YR ATODLEN
RHAN 1
Gorchymyn Awdurdod Afonydd Gwynedd (Eithriadau i Reoli) 1965(3)
Gorchymyn De-orllewin Cymru (Eithriadau i Reoli) 1965(4)
Gorchymyn Awdurdod Afonydd Morgannwg (Eithriadau i Reoli) 1966(5)
Gorchymyn Awdurdod Afon Wysg (Eithriadau i Reoli) 1973(6)
RHAN 2
Gorchymyn Awdurdod Afonydd Dyfrdwy a Chlwyd (Eithriadau i Reoli) 1966(7)
Gorchymyn Awdurdod Afon Hafren (Eithriadau i Reoli) 1967(8)
Gorchymyn Awdurdod Afonydd Mersi a Weaver (Eithriadau i Reoli) 1968(9).
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r Gorchymyn hwn yn dirymu Gorchmynion y bernir iddynt gael eu gwneud o dan adran 33 o Ddeddf Adnoddau Dŵr 1991 (p. 57). Mae’r Gorchmynion hynny yn darparu esemptiadau i’r cyfyngiadau ar dynnu dŵr yn adran 24 o’r Ddeddf honno.
Lluniwyd Asesiad Effaith Rheoleiddiol mewn cysylltiad â Deddf Dŵr 2003 (p. 37). Mae’r Asesiad Effaith Rheoleiddiol hwn yn nodi effeithiau’r dileu esemptiadau i’r cyfyngiad ar dynnu dŵr y mae’r Gorchymyn hwn yn ymwneud ag ef. Lluniwyd asesiad effaith pellach mewn cysylltiad ag awdurdodiadau newydd i dynnu dŵr ym mis Mehefin 2017. Gellir cael copïau o’r Asesiad Effaith Rheoleiddiol a’r asesiad effaith oddi wrth: Y Gangen Polisi Dŵr, Yr Is-adran Dŵr, Gwastraff, Effeithlonrwydd Adnoddau a Llifogydd, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
2003 p. 37. Mae adran 10(3) yn darparu mai’r Cynulliad yw’r awdurdod priodol mewn perthynas â dirymu Gorchymyn sy’n ymwneud â dyfroedd mewndirol neu strata tanddaearol sy’n gyfan gwbl yng Nghymru, ac mewn perthynas â’r rhan Gymreig o ddyfroedd mewndirol neu strata tanddaearol sy’n rhannol yn Lloegr ac yn rhannol yng Nghymru. Trosglwyddwyd y swyddogaethau hynny i Weinidogion Cymru gan adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32), a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.
Gwnaed y Gorchmynion yn yr Atodlen o dan adran 25 o Ddeddf Adnoddau Dŵr 1963 (p. 38) (“Deddf 1963”). Diddymwyd yr adran hon gan adran 3(1) o Ddeddf Cydgrynhoi Dŵr (Darpariaethau Canlyniadol) 1991 (p. 60) (“Deddf 1991”), a Rhan 1 o Atodlen 3 iddi. Mae adran 2(2) o Ddeddf 1991, a pharagraff 1 o Atodlen 2 iddi, yn darparu bod unrhyw is-ddeddfwriaeth a wneir o dan Ddeddf 1963 i gael effaith fel pe bai wedi ei gwneud o dan adran 33 o Ddeddf Adnoddau Dŵr 1991 (p. 57).
