NODYN ESBONIADOL
(Nid ywʼr nodyn hwn yn rhan oʼr Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud o dan adran 198 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (“Deddf 2014”). Maent yn gwneud diwygiadau canlyniadol i ddeddfwriaeth sylfaenol sy’n ychwanegol at ddiwygiadau a wnaed yn Rheoliadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Diwygiadau Canlyniadol) 2016.

Mae rheoliad 2 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio Deddf Plant 1989 drwy ddatgymhwyso adran 25C(2) o ran Cymru.

Mae rheoliad 3 yn diwygio adran 2(6)(c) o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 drwy roi “section 144 of the Social Services and Well-being (Wales) Act 2014” yn lle’r cyfeiriad at “section 6 of the Local Authority Social Services Act 1970”.

Cyflwynodd Deddf Plant a Theuluoedd 2014 “child arangements order”, yn lle’r gorchymyn preswylio a’r gorchymyn cyswllt. Mae rheoliad 4 yn diwygio Deddf 2014 drwy roi “gorchymyn trefniadau plentyn” yn lle’r cyfeiriadau at “gorchymyn preswylio” yn adrannau 76 ac 81 i adlewyrchu’r newid hwn.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.