xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
Gofal Cymdeithasol, Cymru A Lloegr
Gwnaed
25 Hydref 2017
Yn dod i rym
1 Rhagfyr 2017
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 198 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014(1).
Gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 196(6) o’r Ddeddf honno ac fe’i cymeradwywyd ganddo drwy benderfyniad.
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Diwygiadau Canlyniadol) 2017.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Rhagfyr 2017.
2.—(1) Mae Deddf Plant 1989(2) wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Hepgorer adran 25C(2)(3) (achosion a atgyfeirir, rheoliadau mewn cysylltiad â Chymru).
3.—(1) Mae Deddf Llywodraeth Leol a Thai 1989(4) wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn adran 2(6)(c) yn lle “section 6 of the Local Authority Social Services Act 1970” rhodder “section 144 of the Social Services and Well-being (Wales) Act 2014”.
4.—(1) Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn adrannau 76 ac 81, yn lle “gorchymyn preswylio”, ble bynnag y mae’r geiriau yn digwydd, rhodder “gorchymyn trefniadau plentyn”.
Rebecca Evans
Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol, o dan awdurdod Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon, un o Weinidogion Cymru
25 Hydref 2017
(Nid ywʼr nodyn hwn yn rhan oʼr Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud o dan adran 198 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (“Deddf 2014”). Maent yn gwneud diwygiadau canlyniadol i ddeddfwriaeth sylfaenol sy’n ychwanegol at ddiwygiadau a wnaed yn Rheoliadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Diwygiadau Canlyniadol) 2016.
Mae rheoliad 2 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio Deddf Plant 1989 drwy ddatgymhwyso adran 25C(2) o ran Cymru.
Mae rheoliad 3 yn diwygio adran 2(6)(c) o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 drwy roi “section 144 of the Social Services and Well-being (Wales) Act 2014” yn lle’r cyfeiriad at “section 6 of the Local Authority Social Services Act 1970”.
Cyflwynodd Deddf Plant a Theuluoedd 2014 “child arangements order”, yn lle’r gorchymyn preswylio a’r gorchymyn cyswllt. Mae rheoliad 4 yn diwygio Deddf 2014 drwy roi “gorchymyn trefniadau plentyn” yn lle’r cyfeiriadau at “gorchymyn preswylio” yn adrannau 76 ac 81 i adlewyrchu’r newid hwn.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.