NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn mewnosod adran newydd 33ZB yn Rhan II (Gwastraff ar Dir) o Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990 (p. 43) (“y Ddeddf”) er mwyn galluogi swyddog awdurdodedig o awdurdod casglu gwastraff yng Nghymru i ddyroddi hysbysiad cosb benodedig am fynd yn groes i adran 33(1)(a) o’r Ddeddf yn ardal yr awdurdod.

Mae adran 33(1)(a), yn ddarostyngedig i esemptiadau penodol, yn gwahardd dyddodi gwastraff a reolir neu wastraff echdynnol yn neu ar unrhyw dir ac eithrio yn unol â thrwydded amgylcheddol. Mae mynd yn groes i’r adran honno yn drosedd.

Mae adran 33ZB yn caniatáu i awdurdod casglu gwastraff yng Nghymru bennu cosb benodedig heb fod yn llai na £150 a heb fod yn fwy na £400. Os na fydd yr awdurdod casglu gwastraff yn pennu swm, swm y gosb benodedig fydd £200. Caiff awdurdod casglu gwastraff yng Nghymru hefyd wneud darpariaeth ar gyfer gostyngiad am dalu cosb benodedig yn gynnar.

Lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol, o ran Cymru, o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth Lywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ ac mae wedi ei gyhoeddi ar www.llyw.cymru.