Gorchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Achredu Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon) (Swyddogaethau Ychwanegol) (Cymru) (Diwygio) 2017
Yn unol ag adran 47(2) o Ddeddf Addysg (Cymru) 2014, gosodwyd drafft o’r Gorchymyn hwn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddo drwy benderfyniad.
Enwi, cychwyn a chymhwyso1.
(1)
Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Achredu Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon) (Swyddogaethau Ychwanegol) (Cymru) (Diwygio) 2017.
(2)
Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Tachwedd 2017.
(3)
Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
Diwygio2.
“(3)
Wrth arfer y swyddogaethau ym mharagraff (1), mae’r Cyngor i roi sylw i unrhyw ragolwg o’r galw am athrawon newydd gymhwyso yr hysbysir y Cyngor amdano yn ysgrifenedig gan Weinidogion Cymru.”
Parhawyd â bodolaeth Cyngor y Gweithlu Addysg (“y Cyngor”) gan adran 2 o Ddeddf Addysg (Cymru) 2014 (“Deddf 2014”). Mae adran 4 o Ddeddf 2014 yn nodi prif swyddogaethau’r Cyngor. Mae adran 5 o Ddeddf 2014 yn caniatáu i Weinidogion Cymru wneud Gorchymyn sy’n rhoi swyddogaethau ychwanegol i’r Cyngor neu’n gosod swyddogaethau ychwanegol arno.
Rhoddodd Gorchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Achredu Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon) (Swyddogaethau Ychwanegol) (Cymru) 2017 (“Gorchymyn 2017”) swyddogaethau ychwanegol i’r Cyngor sy’n ymwneud ag achredu cyrsiau neu raglenni astudio hyfforddiant cychwynnol athrawon ysgol ac â thynnu achrediad yn ôl (“Swyddogaeth Achredu”).
Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn 2017 er mwyn rhoi swyddogaeth bellach i’r Cyngor sy’n ei gwneud yn ofynnol iddo roi sylw i ragolwg Gweinidogion Cymru o’r galw am athrawon newydd gymhwyso pan fydd yn arfer ei Swyddogaeth Achredu (erthygl 2).
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.