- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Addysg, Cymru
Gwnaed
25 Hydref 2017
Yn dod i rym
1 Tachwedd 2017
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 5 a 47(1) o Ddeddf Addysg (Cymru) 2014(1), ar ôl ymgynghori â’r personau hynny y maent yn ystyried eu bod yn briodol, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.
Yn unol ag adran 47(2) o Ddeddf Addysg (Cymru) 2014, gosodwyd drafft o’r Gorchymyn hwn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddo drwy benderfyniad.
1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Achredu Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon) (Swyddogaethau Ychwanegol) (Cymru) (Diwygio) 2017.
(2) Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Tachwedd 2017.
(3) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
2. Yn erthygl 3 o Orchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Achredu Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon) (Swyddogaethau Ychwanegol) (Cymru) 2017(2), ar ôl paragraff (2) mewnosoder—
“(3) Wrth arfer y swyddogaethau ym mharagraff (1), mae’r Cyngor i roi sylw i unrhyw ragolwg o’r galw am athrawon newydd gymhwyso yr hysbysir y Cyngor amdano yn ysgrifenedig gan Weinidogion Cymru.”
Kirsty Williams
Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, un o Weinidogion Cymru
25 Hydref 2017
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Parhawyd â bodolaeth Cyngor y Gweithlu Addysg (“y Cyngor”) gan adran 2 o Ddeddf Addysg (Cymru) 2014 (“Deddf 2014”). Mae adran 4 o Ddeddf 2014 yn nodi prif swyddogaethau’r Cyngor. Mae adran 5 o Ddeddf 2014 yn caniatáu i Weinidogion Cymru wneud Gorchymyn sy’n rhoi swyddogaethau ychwanegol i’r Cyngor neu’n gosod swyddogaethau ychwanegol arno.
Rhoddodd Gorchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Achredu Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon) (Swyddogaethau Ychwanegol) (Cymru) 2017 (“Gorchymyn 2017”) swyddogaethau ychwanegol i’r Cyngor sy’n ymwneud ag achredu cyrsiau neu raglenni astudio hyfforddiant cychwynnol athrawon ysgol ac â thynnu achrediad yn ôl (“Swyddogaeth Achredu”).
Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn 2017 er mwyn rhoi swyddogaeth bellach i’r Cyngor sy’n ei gwneud yn ofynnol iddo roi sylw i ragolwg Gweinidogion Cymru o’r galw am athrawon newydd gymhwyso pan fydd yn arfer ei Swyddogaeth Achredu (erthygl 2).
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: