RHAN 1Cyffredinol

Dehongli2

Yn y Rheoliadau hyn—

  • ystyr “y Ddeddf CRhT” (“the TCM Act”) yw Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016;

  • ystyr “derbynnydd yr hysbysiad” (“notice recipient”) yw’r trethdalwr y rhoddir hysbysiad iddo o dan adran 86 o’r Ddeddf CRhT neu drydydd parti y rhoddir hysbysiad iddo o dan adran 87 neu 89 o’r Ddeddf CRhT, neu berson a awdurdodir i weithredu ar ei ran;

  • ystyr “diwrnod gwaith” (“working day”) yw unrhyw ddiwrnod heblaw diwrnod nad yw’n ddiwrnod busnes o fewn yr ystyr a roddir i “non-business days” yn adran 92 o Ddeddf Biliau Cyfnewid 18822;

  • ystyr “dogfen” (“document”) yw gwybodaeth, dogfen neu ran o ddogfen; ac

  • ystyr “dogfen y mae anghydfod yn ei chylch” (“document in dispute”) yw dogfen y mae anghydfod yn ei chylch rhwng ACC a pherson sydd wedi cael hysbysiad gwybodaeth, o ran a yw’r ddogfen yn ddarostyngedig i fraint broffesiynol gyfreithiol.