RHAN 4Datrys anghydfodau o ran a yw dogfen yn ddarostyngedig i fraint broffesiynol gyfreithiol

Cymhwyso’r Rhan hon8

Mae’r Rhan hon yn gymwys—

a

pan fo ACC wedi dyroddi hysbysiad gwybodaeth i berson ddarparu gwybodaeth neu gyflwyno dogfen—

i

yn ystod gohebiaeth; neu

ii

yn ystod archwiliad o dan Ran 4 o’r Ddeddf CRhT, a

b

pan fo anghydfod rhwng ACC a derbynnydd yr hysbysiad o ran a yw dogfen y gofynnwyd amdani yn ddarostyngedig i fraint broffesiynol gyfreithiol.

Gofyniad i ddarparu gwybodaeth a chyflwyno dogfennau nad oes anghydfod yn eu cylch9

Nid oes dim yn y Rhan hon yn effeithio ar—

a

unrhyw ofyniad o dan hysbysiad gwybodaeth i ddarparu gwybodaeth neu gyflwyno dogfen nad oes anghydfod yn ei chylch; na

b

y pwerau o dan Ran 4 o’r Ddeddf CRhT i archwilio mangreoedd ac eiddo arall.

Gweithdrefn pa fo anghydfod ynghylch hysbysiad gwybodaeth a roddir mewn gohebiaeth10

1

Mae’r weithdrefn a ganlyn yn gymwys pan fo anghydfod yn dod o fewn rheoliad 8(a)(i).

2

Ar ôl cael hysbysiad gwybodaeth, rhaid i dderbynnydd yr hysbysiad—

a

pennu mewn rhestr bob dogfen sy’n ofynnol o dan yr hysbysiad gwybodaeth y mae anghydfod yn ei chylch, ynghyd â disgrifiad o natur a chynnwys y ddogfen honno; a

b

cyflwyno’r rhestr honno i ACC erbyn y dyddiad a roddir yn yr hysbysiad gwybodaeth ar gyfer cyflwyno’r ddogfen.

3

Ond nid yw disgrifiad o’r ddogfen yn ofynnol pan fyddai disgrifiad o’r fath yn arwain at anghydfod dros fraint.

4

O fewn 20 diwrnod gwaith i gael y rhestr y cyfeirir ati ym mharagraff (2), rhaid i ACC hysbysu derbynnydd yr hysbysiad am unrhyw ddogfen ar y rhestr y mae’n ei gwneud yn ofynnol ei chyflwyno ac y mae’n ystyried ei bod yn anfreintiedig.

5

Ar ôl cael yr hysbysiad o dan baragraff (4), rhaid i dderbynnydd yr hysbysiad—

a

cyflwyno unrhyw ddogfen y mae’n cytuno ei bod yn anfreintiedig; a

b

i’r graddau bod anghydfod yn parhau ynghylch statws unrhyw ddogfen, gwneud cais i’r tribiwnlys.

6

Rhaid i gais o dan baragraff (5)(b)—

a

mynd gyda chopi o’r dogfennau y mae anghydfod yn parhau yn eu cylch; a

b

cael ei wneud o fewn cyfnod rhesymol y mae derbynnydd yr hysbysiad ac ACC i gytuno arno, ond mewn unrhyw achos, yn ddim hwyrach na 20 diwrnod gwaith ar ôl dyddiad yr hysbysiad a roddir gan ACC o dan baragraff (4).

Gweithdrefn pan fo anghydfod ynghylch hysbysiad gwybodaeth a roddir yn ystod archwiliad eiddo11

1

Mae’r weithdrefn a ganlyn yn gymwys pan fo anghydfod yn dod o fewn rheoliad 8(a)(ii).

2

Ar ôl cael yr hysbysiad gwybodaeth, rhaid i dderbynnydd yr hysbysiad—

a

dangos i ACC bob dogfen sy’n ofynnol o dan yr hysbysiad gwybodaeth y mae anghydfod yn ei chylch; a

b

rhoi unrhyw ddogfen y mae anghydfod yn ei chylch mewn cynhwysydd priodol sy’n rhwystro’r cynnwys rhag bod yn weladwy.

3

Rhaid i’r cynhwysydd—

a

cael ei selio, ei labelu a’i lofnodi gan dderbynnydd yr hysbysiad;

b

cael ei gydlofnodi gan ACC; ac

c

cael ei gadw gan ACC.

4

O fewn 42 diwrnod gwaith i gael y cynhwysydd, rhaid i ACC—

a

danfon y cynhwysydd i’r tribiwnlys gyda’r sêl yn gyflawn ynghyd â chais i’r tribiwnlys; a

b

anfon copi o’r cais hwnnw at dderbynnydd yr hysbysiad.

Cydymffurfio â hysbysiad gwybodaeth12

Pan fo derbynnydd yr hysbysiad yn cydymffurfio â’r weithdrefn a nodir yn y Rhan hon, mae’r person hwnnw i gael ei drin fel ei fod wedi cydymffurfio â’r hysbysiad gwybodaeth mewn perthynas ag unrhyw ddogfen y mae anghydfod yn ei chylch hyd nes bod y tribiwnlys yn dyfarnu ar statws y ddogfen neu hyd nes y deuir i gytundeb o dan reoliad 14.

Canfyddiad y tribiwnlys13

1

Pan wneir cais o dan reoliad 10(5)(b) neu 11(4), rhaid i’r tribiwnlys—

a

datrys yr anghydfod drwy gadarnhau a yw’r ddogfen yn freintiedig ai peidio, ac i ba raddau; a

b

cyfarwyddo pa ran neu rannau o ddogfen (os oes rhai) y mae rhaid eu datgelu.

2

Rhaid i’r tribiwnlys sicrhau nad yw unrhyw ddogfen y mae anghydfod yn ei chylch yn cael ei datgelu’n amhriodol i unrhyw berson wrth aros am ddyfarniad y tribiwnlys.

Datrys anghydfodau drwy gytundeb14

Caniateir i anghydfod sy’n dod o fewn y Rhan hon gael ei ddatrys ar unrhyw adeg drwy gytundeb rhwng ACC a derbynnydd yr hysbysiad, naill ai yn ysgrifenedig neu fel arall.