Search Legislation

Rheoliadau Casglu a Rheoli Trethi (Gweinyddu) (Cymru) 2017

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

RHAN 4Datrys anghydfodau o ran a yw dogfen yn ddarostyngedig i fraint broffesiynol gyfreithiol

Cymhwyso’r Rhan hon

8.  Mae’r Rhan hon yn gymwys—

(a)pan fo ACC wedi dyroddi hysbysiad gwybodaeth i berson ddarparu gwybodaeth neu gyflwyno dogfen—

(i)yn ystod gohebiaeth; neu

(ii)yn ystod archwiliad o dan Ran 4 o’r Ddeddf CRhT, a

(b)pan fo anghydfod rhwng ACC a derbynnydd yr hysbysiad o ran a yw dogfen y gofynnwyd amdani yn ddarostyngedig i fraint broffesiynol gyfreithiol.

Gofyniad i ddarparu gwybodaeth a chyflwyno dogfennau nad oes anghydfod yn eu cylch

9.  Nid oes dim yn y Rhan hon yn effeithio ar—

(a)unrhyw ofyniad o dan hysbysiad gwybodaeth i ddarparu gwybodaeth neu gyflwyno dogfen nad oes anghydfod yn ei chylch; na

(b)y pwerau o dan Ran 4 o’r Ddeddf CRhT i archwilio mangreoedd ac eiddo arall.

Gweithdrefn pa fo anghydfod ynghylch hysbysiad gwybodaeth a roddir mewn gohebiaeth

10.—(1Mae’r weithdrefn a ganlyn yn gymwys pan fo anghydfod yn dod o fewn rheoliad 8(a)(i).

(2Ar ôl cael hysbysiad gwybodaeth, rhaid i dderbynnydd yr hysbysiad—

(a)pennu mewn rhestr bob dogfen sy’n ofynnol o dan yr hysbysiad gwybodaeth y mae anghydfod yn ei chylch, ynghyd â disgrifiad o natur a chynnwys y ddogfen honno; a

(b)cyflwyno’r rhestr honno i ACC erbyn y dyddiad a roddir yn yr hysbysiad gwybodaeth ar gyfer cyflwyno’r ddogfen.

(3Ond nid yw disgrifiad o’r ddogfen yn ofynnol pan fyddai disgrifiad o’r fath yn arwain at anghydfod dros fraint.

(4O fewn 20 diwrnod gwaith i gael y rhestr y cyfeirir ati ym mharagraff (2), rhaid i ACC hysbysu derbynnydd yr hysbysiad am unrhyw ddogfen ar y rhestr y mae’n ei gwneud yn ofynnol ei chyflwyno ac y mae’n ystyried ei bod yn anfreintiedig.

(5Ar ôl cael yr hysbysiad o dan baragraff (4), rhaid i dderbynnydd yr hysbysiad—

(a)cyflwyno unrhyw ddogfen y mae’n cytuno ei bod yn anfreintiedig; a

(b)i’r graddau bod anghydfod yn parhau ynghylch statws unrhyw ddogfen, gwneud cais i’r tribiwnlys.

(6Rhaid i gais o dan baragraff (5)(b)—

(a)mynd gyda chopi o’r dogfennau y mae anghydfod yn parhau yn eu cylch; a

(b)cael ei wneud o fewn cyfnod rhesymol y mae derbynnydd yr hysbysiad ac ACC i gytuno arno, ond mewn unrhyw achos, yn ddim hwyrach na 20 diwrnod gwaith ar ôl dyddiad yr hysbysiad a roddir gan ACC o dan baragraff (4).

Gweithdrefn pan fo anghydfod ynghylch hysbysiad gwybodaeth a roddir yn ystod archwiliad eiddo

11.—(1Mae’r weithdrefn a ganlyn yn gymwys pan fo anghydfod yn dod o fewn rheoliad 8(a)(ii).

(2Ar ôl cael yr hysbysiad gwybodaeth, rhaid i dderbynnydd yr hysbysiad—

(a)dangos i ACC bob dogfen sy’n ofynnol o dan yr hysbysiad gwybodaeth y mae anghydfod yn ei chylch; a

(b)rhoi unrhyw ddogfen y mae anghydfod yn ei chylch mewn cynhwysydd priodol sy’n rhwystro’r cynnwys rhag bod yn weladwy.

(3Rhaid i’r cynhwysydd—

(a)cael ei selio, ei labelu a’i lofnodi gan dderbynnydd yr hysbysiad;

(b)cael ei gydlofnodi gan ACC; ac

(c)cael ei gadw gan ACC.

(4O fewn 42 diwrnod gwaith i gael y cynhwysydd, rhaid i ACC—

(a)danfon y cynhwysydd i’r tribiwnlys gyda’r sêl yn gyflawn ynghyd â chais i’r tribiwnlys; a

(b)anfon copi o’r cais hwnnw at dderbynnydd yr hysbysiad.

Cydymffurfio â hysbysiad gwybodaeth

12.  Pan fo derbynnydd yr hysbysiad yn cydymffurfio â’r weithdrefn a nodir yn y Rhan hon, mae’r person hwnnw i gael ei drin fel ei fod wedi cydymffurfio â’r hysbysiad gwybodaeth mewn perthynas ag unrhyw ddogfen y mae anghydfod yn ei chylch hyd nes bod y tribiwnlys yn dyfarnu ar statws y ddogfen neu hyd nes y deuir i gytundeb o dan reoliad 14.

Canfyddiad y tribiwnlys

13.—(1Pan wneir cais o dan reoliad 10(5)(b) neu 11(4), rhaid i’r tribiwnlys—

(a)datrys yr anghydfod drwy gadarnhau a yw’r ddogfen yn freintiedig ai peidio, ac i ba raddau; a

(b)cyfarwyddo pa ran neu rannau o ddogfen (os oes rhai) y mae rhaid eu datgelu.

(2Rhaid i’r tribiwnlys sicrhau nad yw unrhyw ddogfen y mae anghydfod yn ei chylch yn cael ei datgelu’n amhriodol i unrhyw berson wrth aros am ddyfarniad y tribiwnlys.

Datrys anghydfodau drwy gytundeb

14.  Caniateir i anghydfod sy’n dod o fewn y Rhan hon gael ei ddatrys ar unrhyw adeg drwy gytundeb rhwng ACC a derbynnydd yr hysbysiad, naill ai yn ysgrifenedig neu fel arall.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources